Gweithrediadau

Hacio'r Iaith: prif dudalen

Oddi ar Hedyn

Hacio-iaith-logo.jpg

Croeso i dudalen Hacio'r Iaith ar Hedyn!

haciaith.cymru


Manylion y digwyddiad

Beth?

Anghynhadledd Hacio'r Iaith

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.

Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor côd agored. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae esboniad That Canadian Girl yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.

Bydd hefyd yn cynnwys sesiynau rhaglennu lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, app, neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau Open Hack Day. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma hanes Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Hacio'r Iaith Bach

Cyfarfododd llai (fel arfer mewn tafarn!) ble mae criw llai yn cwrdd am drafodaethau rownd y bwrdd.


Pryd mae'r Hacio'r Iaith nesaf?

Hacio'r Iaith 2020-2021

Dim digwyddiad.


Hen ddigwyddiadau Hacio'r Iaith

Wel, rhai ohonynt...

Hacio'r Iaith 2019

Caerfyrddin. 9 Chwefror 2019

Anturiaethau Mewn Cod

Sgyrsiau achlysurol ar-lein am godio

Hacio'r Iaith 2018

Caerdydd. 27 Ionawr 2018

Hacio'r Iaith 2017

Bangor. 21 Ionawr 2017

Hacio'r Iaith 2016‎

Caerdydd. 16 Ebrill 2016

Hacio'r Iaith 2015

Canolfan Bedwyr / Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Bangor. 7 Mawrth 2015

Hacio'r Iaith 2014

Canolfan Bedwyr / Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Bangor. 15 Chwefror 2014

Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2013

Maes yr Eisteddfod, Dinbych

Hacio'r Iaith 2013

Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Hacio’r Iaith Bach, Rhuthun 8 Tachwedd 2012

Gwesty'r Castell (Wetherspoons), Rhuthun

Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012 Awst 2012

Pabell Cefnlen, ar Faes yr Eisteddfod

Hacio’r Iaith Bach, Caerdydd: Newyddion lleol yn y ddinas 28 Mai 2012

Chapter, Treganna

Hacio'r Iaith 2012, 27 Ionawr 2012

Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth. Loto fideos o'r digwyddiad yma.

Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2011

Bu dau ddigwyddiad - un ar y Maes ac un fin nos mewn tafarn

Hacio'r Iaith Bach, Caerdydd, 18 Gorffennaf 2011

City Arms

Hacio'r Iaith Bach, Caernarfon, 16 Gorffennaf 2011

Caffi Cegin, Neaudd y Farchnad, Caernarfon . Fel rhan o Gwyl Arall 2011. Efo paned, a Llion Jones - prifardd a chyfarwyddwr Canolfan Bedwyr.

Hacio'r Iaith Bach, Caerdydd, 17 Mehefin 2011

Bar Gwdihŵ

Hacio'r Iaith 2011, 29 Ionawr 2011

Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Hacio'r Iaith Bach, Eisteddfod Genedlaethol 2010

Nos Fawrth, 3 Awst, 5:00PM, yn The Picture House, Market Street, Glyn Ebwy, NP23 6HP. Di-wifr ar gael

Hacio'r Iaith Bach, Caernarfon, 24 Gorffennaf 2010

Tafarn/Bwyty y Castell (map). Fel rhan o Gwyl Arall 2010. Mmm, neis. Efo peint a Wifi.

Hacio'r Iaith Bach, Aberystwyth 19 Mai 2010

Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth (ar ddiwedd Cynhadledd Ryngwladol Rhwydwaith Mercator)

Hacio'r Iaith Bach, Caerdydd 26 Ebrill 2010

Chapter, Treganna, Caerdydd. Cofnod gwreiddiol / Adroddiad/sgyrsiau

Hacio'r Iaith 2010 - 30 Ionawr 2010

Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Digwyddiadau eraill

Hacio'r Iaith/Hacio'r Iaith Bach, Llundain?

Mae pobl Llundain yn sôn am gynnal Hacio'r Iaith yna ers blynyddoedd. Hmm.

English translation

Google Translate has a very rough English translation of this page. Don't rely on it though, it's merely the gist.