Gweithrediadau

Hacio'r Iaith - Ionawr 2011

Oddi ar Hedyn

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr a'r pobol sy'n mynychu ar y cyd gyda Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen. Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2011, cofiwch gofrestru.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

If you can't read Welsh then Google Translate can give you the rough gist of this page. And it is rough.

Manylion y digwyddiad

Beth?

Hacio2011poster-web-300px.jpg

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf a hamddenol.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Dyma esboniad da gan flogiwr o Ganada.

Eleni rydyn ni'n hepgor y pwyslais ar hacio neu raglennu, er bod croeso i unrhywun wneud sesiwn ar hynny, ac yn ceisio cael rhagor o weithdai neu diwtorialau ymarferol. Pwrpas hyn yw rhoi cyfle i ddysgu sgil newydd eich hun tra'n rhoi o'ch sgiliau chi i eraill. Ond dyw hyn ddim yn rheol - dim ond canllaw. Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Y llynedd daeth dros 40 o bobol i drafod, dysgu a rhannu. Dyma rai lluniau, fideos (a mwy), recordiadau sain a blogiau er mwyn rhoi blas gwell i chi o beth i'w ddisgwyl. Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Pryd?

Nos Wener, 28 Ionawr 2011.

Amser: 7.30yh - Pryd bwyd Hacio'r Cyri

Dydd Sadwrn, 29 Ionawr 2011.

Amser: 9yb i tua 7yh (mae'r lle ganddon ni tan 8pm os oes sgwrs yn parhau!)

7yh--> y dafarn

Ble?

Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyma'r map Google

Parcio

Adnoddau eraill cyfagos

Bydd coffi, te a chinio ar gael, ond os oes angen rhywbeth arall arnoch chi, mae'r canlynol gerllaw:

Sut allwch chi helpu?

Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn

Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:

  • roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
  • hyrwyddo'r digwyddiad trwy flogio, ffilmio, siarad amdano...mae hyn yn holl bwysig i gyrraedd at ystod eang o bobol.
  • helpu gyda rhoi sylw i'r digwyddiad yn y wasg
  • helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
  • cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!

Noddwyr

Diolch yn fawr iawn i bob un o'n noddwyr am eu cyfraniad. Mae pob ceiniog yn helpu i wneud y diwrnod yn well.

Dyma nhw ffrindiau Hacio'r Iaith:

  • Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth
  • Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Cube Interactive
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
  • Native HQ
  • Sbellcheck
  • Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth)

Gallwch chi hefyd helpu trwy roi nawdd i'r digwyddiad. Er nad yw arian yn allweddol i'r llwyddiant, mae cael ychdig arian i dalu am bethau fel cinio, argraffu, crysau-t, ac efallai gyfieithu yn help mawr.

Cysylltwch â Rhodri, Carl, neu Rhys os oes diddordeb ganddoch chi mewn noddi un o'r elfennau hyn.

Cymryd rhan ar-lein

  • Wi wedi cofrestru sianel IRC #haciaith ar irc.freenode.net er mwyn inni drafod a threfnu hacio'r iaith arlein a chael siawns i siarad i bobl sy'n mynd i Hacio'r Iaith. Mae IRC yn system IM fel MSN neu Jabber/XMPP ond mae'n bosib bod llawer o bobl yn gallu siarad yn yr un "stafell" yn lle siarad i un berson yn unig felly mae'n mwy o hawdd i siarad fel grwp ar IRC. Ti'n gallu ymuno trwy ddarllen y tudalen hon: https://wiki.ubuntu.com/WelshTeam/IRC . Cofia bod y sianel yn #haciaith, mae #ubuntu-cym yn sianel wahanol! Os hoffet ti ddefnyddio rhyngwyneb gwe, ti'n gallu defnyddio http://webchat.freenode.net/ . Cofia teipio #haciaith yn y bocs "channels". --Christopher Swift 00:15, 25 Ionawr 2011 (UT€C)

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond yn wahanol i Hacio'r Iaith 2010 bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynauyn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.

Rheolau BarCamp

Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):

  • Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
  • Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
  • Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
  • Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc.
  • Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld.
  • Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
  • Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
  • Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen.
  • Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.

Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Y tro hwn rydyn ni eisiau trio rhoi rhai sesiynau yn y rhaglen cyn y diwrnod, neu o leiaf wybod bod nifer o sesiynau'n digwydd rhagblaen. Dwi wedi dechrau drwy roi'r Haclediad byw mewn am hanner dydd.

Dyma amserlen ddrafft. Oes unrhyw sylwadau am y slotiau? Ydi'r hyd yn iawn (or ran sesiynau, neu hyd y diwrnod)? Oes angen rhagor o doriadau? Gadwch wybod isod:

Dwi wedi addasu ychydig ar y pennawdau ar y grid. Dyma'r newidiadau a'r rheswm:--Rhodri.apdyfrig 11:58, 26 Ionawr 2011 (UTC)

  • Dynodi Y Stwidio ar gyfer paneli/cyflwyniadau a G38 ar gyfer gweithdai
    • Bydd natur y stwidio yn well ar gyfer paneli ac mae cyfrifiaduron ar gael yn G38. Llawer gwell ar gyfer gweithdai ymarferol.
  • Dwi wedi rhoi toriad mewn yn y pnawn.
    • Oedd y slot 30munud ddim fod ar gyfer sesiynau, ond croeso i chi newid hyn os ydych chi isio.
Llun o amserlen Hacio'r Iaith 2010
Amser Cyflwyniadau/Paneli (Y Stiwdio) Gweithdai (Yst. G38) Trafodaethau Bach (Yr Atriwm) Arall
09.00-10.00 Coffi, croesawu, dechrau trefnu sesiynau
10.00-11.00 Newyddiaduraeth/Cyfryngau Sifig (Sgiv etc. + EHG Jones) WordPress Cymraeg / Llais Synthetig (Gruff Prys) gwag gwag
11.00-12.00 Amlblatfform? Cywain,Cywiro a Chyflwyno Data (Hywel) gwag gwag
12.00-13.00 Haclediad (Byw)
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Chydig ar gof a chadw? Ffotograffiaeth ddigidol? (@lliniau) gwag gwag
15.00-16.00 Blogio Dwyieithog gyda Bryn Cof Bach Cyfieithu i Bawb (Delyth Prys) gwag gwag
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 Ubuntu yng Nghymru Sut all technoleg helpu cynnal iaith fyw a iaith byw (Elin Wyn) gwag gwag
17.30-18.30 Android Cymraeg? gwag gwag gwag
18.30-19.00 Sesiwn gloi

Sesiynau Pendant

Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y seiswn yma.

Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi. Gallwch nodi amser y slot ar y dydd.

O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, panel, ford gron, fideo, cyflwyniad byr. Does dim pwysau i lenwi awr, mae'n ddefnyddiol i glustnodi themâu ar gyfer slots a chael trafodaeth gyffredinol heb unrhyw un penodol yn arwain.

Haclediad Byw

Haclediad Byw - bydd criw yr haclediad yn recordio rhaglen, a'i ffrydio yn fyw.

Teledu Amlblatfform

Teledu amlblatfform Cymraeg - dwi eisiau cynnal panel (3-4 o bobol) ar ddyfodol teledu Cymraeg yng nghyd-destun y rhyngrwyd. --Rhodri.apdyfrig 22:54, 6 Ionawr 2011 (UTC)

Hoffwn i ddod. Dw i wedi bod yn meddwl am amlblatfform yn diweddar. --Carlmorris 22:13, 10 Ionawr 2011 (UTC)
Trafodaeth am deledu a thechnoleg. (Elin HGJ fel cadeirydd?) - hapus i wneud (EHGJ)

--Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC) (wedi ei symud o'r rhestr 'posib' gan --Rhodri.apdyfrig 12:09, 25 Ionawr 2011 (UTC))

Hoffwn weld ddadl ar effaith ddatblygiadau yn nhechnoleg teledu ar yr iaith a’r diwylliant. E.e. yn newid y fodel unffordd ble mae darlledwyr yn gwthio rhaglenni i’r gwylwyr i’r un ble mae’r gwyliwr yn dewis neu’n ‘tynnu’ cynnwys i’w deledu, fel gyda theledu dros y rhyngrwyd (yn cynnwys iPlayer, clic, ayyb), ac yn enwedig a theclyn fel YouView (‘Project Canvas’ fel bu) sy’n cael ei gyflwyno i’r cyhoedd yn hwyrach y flwyddyn yma (Rwy’n sylwi hefyd fod S4C ddim yn y bartneriaeth o gwmnïau darlledu a chyfathrebu sy’n mynd i redeg YouView) Hefyd fod yna eisiau cysylltiad eitha’ cyflym ar y band llydan i dderbyn teledu o unrhyw ansawdd dros y rhyngrwyd, ac felly ydy’r rhan fwya’ ohonom ni sy’n byw yng Nghymru yn barod o dan anfantais pan mae’n dod i ecsbloetio’r dechnoleg yma? Bydd yna unrhyw effaith taro ymlaen ar dyfiant cwmnïau cynhyrchu ac amlgyfrwng Cymraeg? --Owainhughes 11:58, 28 Ionawr 2011 (UTC)
Blogio i Bawb

Mae Bryn wedi nodi draw ar Lanyrd ei fod eisiau sesiwn ar flogio dwyieithog. Dwi'n ei gopio draw ar y wiki er gwybodaeth.

"Sesiwn ar y ffordd orau o flogio'n ddwyieithog, a beth yw'r manteision ac anfanteision o geisio cadw pawb yn hapus." - Bryn Salisbury
WordPress Cymraeg / Technoleg Llais

WordPress

Gruff Prys a Rhos Prys yn trafod:

  • Defnyddio WordPress i greu gwefannau Cymraeg a dwyieithog
  • y broses o gyfieithu a chreu ffeiliau iaith
  • sut i fynd ati i greu gwefan WordPress

Byddwn hefyd yn bwrw golwg:

  • ar rai o'r ategion sydd ar gael i ychwanegu at nodweddion WordPress
  • ar rai o'r gwefannau sy'n defnyddio WordPress Cymraeg ar hyn o bryd

Technolegau Llais

Cyflwyniad ar lais newydd sbon Cymraeg gan gwmni Bitlips, a chyfle i glywed rhai o'r lleisiau eraill sydd eisoes ar gael.

Cof Bach Cyfieithu i Bawb

Bydd Delyth Prys yn rhoi cyflwyniadau ar dechnoleg cyfieithu, ac yn rhannu cofion bach USB sy'n llawn o offer cyfieithu a phrawfddarllen gyda'r rhai sy'n bresennol. Mae'r cofion bach yn cynnwys rhaglen cof cyfieithu Cymraeg sy'n gallu defnyddio Google Translate a'ch cyfieithiadau blaenorol, cof cyfieithu parod yn seiliedig ar gofnod y Cynulliad, a gwirydd sillafu newydd Hunspell Cymraeg (sy'n addas ar gyfer Firefox, OpenOffice, Thunderbird, ac yn y blaen).

Dwi'n methu dod fory, ond all rhywun godi un o'r rhian i fi plîs? (Carl?) --Rhyswynne 16:10, 28 Ionawr 2011 (UTC)
Android Cymraeg

Hoffwn i ddysgu sut i gyfieithu meddalwedd Google Android - sesiwn ar feddalwedd ffon fallai? --Colinnosworthy 13:48, 6 Ionawr 2011 (UTC)

Syniad da, dylen ni trefnu rhywbeth. Efallai sesiwn bach o gwmpas bwrdd. --Carlmorris 16:25, 7 Ionawr 2011 (UTC)
Byddwn i'n awyddus i'ch helpu trefnu. Byddai rhaid imi ymchwilio mwy o'r technegau cyfieithu sy'n cael eu defnyddio gan Android yn gyntaf. O'n i'n siarad â Carl amdani yn y gorfennol. --Christopher Swift
Gwych Chris, DM fi ar twitter i drafod yn bellach --Colinnosworthy 14:18, 12 Ionawr 2011 (UTC)
Colin, wnes i danysgrifio iti ar Twitter ond byddai rhaid iti dansgrifio imi cyn imi allu anfon DM atat. Roedd Carl wedi sgwennu ataf y dylwn i drafod Android ar y wici yn lle e-bost ac wi'n cytuno efo fe. Mae un broblem fawr gyda ni, wi'n meddwl ein bod ni ddim yn gwybod sut mae proses cyfieithiad Android yn gweithio i fod yn onest. Wi wedi bod yn trio ymchwilio sut mae timau Google yn ei wneud e ond do'n i ddim yn gallu ffeindio mas lot o wybodaeth. Hoffwn i drafod y proses gyda rhywun ond ar hyn o bryd, sa i'n gwybod pwy. --Christopher Swift 17:16, 20 Ionawr 2011 (UTC)

Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn dod i sesiwn fel hyn, edrych mlaen yn fawr i weld beth sydd ar gael! [Sioned Edwards]

Hei pawb. Croeso i'r adran Sesiynau Pendant. Mae 4 o leiaf yn mwy na digon am sesiwn cynhyrchiol. Amcan y sesiwn: setio lan system ar y we a dechrau cyfieithu Android? IE/NA --Carlmorris 02:02, 21 Ionawr 2011 (UTC)

Chris, ar hyn o bryd, sgen i ddim llawer iawn i gyfrannu at y drafodaeth ar y dydd, felly na i geisio ymchwilio'n bellach dros y dyddiau nesaf. Na i danysgrifio i ti ar yr hen drydar nawr --Colinnosworthy 22:51, 23 Ionawr 2011 (UTC)

gweithdy ymarferol 1

Adeiladu WebApp - dysgu HTML, CSS, PHP, MySQL/SQL gyda thamaid o Javascript/jQuery. Ar gyfer pawb! Mwy o wybodaeth ar fy nhudalen i: Meigwilym 11:34, 24 Ionawr 2011 (UTC)

gweithdy ymarferol 2

???

Hoffwn i ddysgu rhywbeth ymarferol. Addysga fi! e.e.

  • rhywbeth am fideo gwell
  • ScraperWiki, Google Refine, Fusion, ManyEyes, OpenHeatMap, Yahoo Pipes, SPARQL, Needlebase... (Hywel- hapus i wneud!)
  • dylunio (Iestyn? Sioned?)
  • rhywbeth hwyl gyda chod (Bryn?)

--Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)

Ffotograffiaeth Ddigidol
  • Oes rhywun eisiau trafod technoleg, neu falle gwneud gweithdy ymarferol ar ffotograffiaeth ddigidol?

Wel, os na gewch chi rhywun callach, nai helpu os gallai - Llinos @lliniau

Dwi'n edrych mlaen yn fawr am y sesiwn hon Llinos, byddai yna! Sioned --Llefenni 11:54, 25 Ionawr 2011 (UTC)
Apps defnyddiol: PixelPipe, App Postcards ar gyfer iphone, HDR Ptofessional, Autostitch, Picnik, Phoster (app)
Ubuntu

Mae Chris a minnau yn aelodau gweithgar o'r Gymuned Ubuntu. Byddem yn hoffi siarad â cynrychiolwyr am beth yw Ubuntu, sut y gallwn gael y gair allan i bobl Cymraeg am beth yw Ubuntu, a sut i gael mwy o bobl a chwmnïau sy'n ymwneud â chyfrannu at Ubuntu, yn enwedig o ran Cyfieithiadau.

Bydd gen ni gliniaduron yn arddangos Ubuntu, a hefyd yr rhyngwyneb gwe a ddefnyddir yn cyfieithu Ubuntu. Bydd gen Chris a finnau Gyriant USB a CD's gyda Ubuntu os mae rhywyn eisiau ni rhoi Ubuntu ar ei system nhw. --Markgajones 20:01, 23 Ionawr 2011 (UTC)

Bydda i'n dod a CD a gyriannu USB. --Christopher Swift 20:26, 23 Ionawr 2011 (UTC)
Dwi'n gobeithio dod i hwn. Dwi ddim yn arbennigwr ond yn sicr gellai gyfrannu chydig. Meigwilym 22:24, 25 Ionawr 2011 (UTC)
Dwi'n awyddus iawn i ddysgu sut i roi Ubuntu ar system, ac i weld sut mae'r cyfieithiadau yn gweithio ac ati, edrych mlaen yn fawr --Llefenni 11:45, 26 Ionawr 2011 (UTC)
Dwi wedi cael problemau gyda Eebuntu ar yr eepc. Ddoi a fo hefo fi am troublehshoot? --Rhodri.apdyfrig 12:17, 26 Ionawr 2011 (UTC)
Dim problem Rhodri! --Markgajones 23:45, 26 Ionawr 2011 (UTC)
O dan enw seibercofis, 'dw i wedi bod yn trefnu prosiect cymunedol - ailgylchu ac adnewyddu cyfrifiaduron ym Mheblig, Caernarfon, er mwyn rhoi mynediad i'r byd digidol i unigolion a theuluoedd sy'n cael eu diethrio am resymau economaidd a diwylliannol. Mae Ubuntu yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnig hyfforddiant (a rhyngwyneb cyfrifiadurol) i bobl trwy eu hiaith ddewisol. Bydda i'n gofyn am gyngor a chymorth gan bobl sydd â phrofiad o Ubuntu. 'Dw i'n edrych ymlaen at gael sgyrsiau difyr! --Johnfraser 19:46, 28 Ionawr 2011 (GMT)
Newyddion Cymraeg ar-lein/Cyfryngau Sifig

Mae Owain Schiavone o Golwg360 eisoes wedi cytuno i fod yn rhan o sgwrs am hyn. Oes pobol eraill hoffai ymuno â fo (a falle Ifan Morgan Jones) i wneud panel?

fallai bod hyn yn newid pwrpas y sesiwn, ond beth am ehangu'r pwnc neu sesiwn arall am S4C aml-gyfryngol newydd?--Colinnosworthy 20:59, 25 Ionawr 2011 (UTC)
Mae eisoes sesiwn ar deledu amlblatfform. Dwi'n credu bod trafodaeth S4C yn ffitio mewn i hwnnw. --Rhodri.apdyfrig 11:49, 26 Ionawr 2011 (UTC)

Bydd Elin Haf Gruffydd Jones yn rhoi cyflwyniad ar gyfryngau sifig ar-lein mewn ieithoedd lleiafrifol --Rhodri.apdyfrig 13:27, 28 Ionawr 2011 (UTC)

Umap Cymraeg

Lansio gwasanaeth Twitter Cymraeg newydd... --Rhodri.apdyfrig 13:29, 28 Ionawr 2011 (UTC)

Sesiynau Posib

Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.

ymgyrchu/gweithredu

Trafodaeth am weithredaeth/hacktivism --Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)

Wedi ychwanegu 'ymgyrchu' at y teitl gan taw dyna yw 'activism' yn Gymraeg. --Rhodri.apdyfrig 16:49, 15 Ionawr 2011 (UTC)
Efallai trafodaeth am weithredaeth (unrhyw beth: hawliau/gwyrdd/gwleidyddiaeth/cyfiawnder cymdeithasol/ayyb). Beth yw'r amcanion: cyllideb, aelodau, dylanwad? Pa declynnau ydyn ni wedi defnyddio? Beth ydyn ni'n meddwl am safon ymgyrchu/democratiaeth yn Gymraeg ac yng Nghymru? Unrhyw gwersi o WikiLeaks? Angen WikiLeeks yng Nghymru? (Sori.) Sgwenna sylw os ti'n hoffi'r syniad. Sa' i di trefnu unrhyw beth ond bydd sgwrs yn ddiddorol. --Carlmorris 22:28, 10 Ionawr 2011 (UTC)


Theatr a thechnoleg

Gan ein bod yn yr adran theatr, ffilm a theledu...--Rhodri.apdyfrig 15:24, 16 Ionawr 2011 (UTC)

un am Matthew Jones? (gweler rhestr) --Carlmorris 02:08, 21 Ionawr 2011 (UTC)
Cerddoriaeth a thechnoleg

Be am sgwrs am ddosbarthu ar-lein yn y Gymraeg? Byddai'n dda clywed profiadau rhyddhau albyms Mr Huw, Y Gwrachod, ac eraill sydd wedi ceisio gwerthu/rhoi cerddoriaeth am ddim ar-lein. --Rhodri.apdyfrig 15:24, 16 Ionawr 2011 (UTC)


Hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg y tu hwnt i'r we

Mae gen i ddiddordeb mewn trafodaeth ar sut gallwn ni ddefnyddio technoleg newydd, rhwydweithiau cymdeithasol ac ati i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd. Mae Strategaeth Iaith Llywodraeth y Cynulliad - Iaith Fyw Iaith Byw - yn cyfeirio mewn sawl man at ddefnyddio technoleg newydd e.e. yng ngyswllt pobl ifanc; mewn dinasoedd a threfi - ond byddai gen i ddiddordeb clywed barn pobl am beth allwn ni ei wneud yn ymarferol. Elin Wyn

Unrhyw syniadau ar sut mae hyn yn cysylltu gyda strategaeth Sicrhau Cynhwysiant Digidol ddaeth allan diwedd 2010? Rhywbeth i'w gysidro efallai gan fod yna lawer iawn o wasanaethau cyhoeddus yn mynd i fod yn symud ar-lein i arbed costau. Os mae rhannau mawr o'r sffer gyhoeddus yn symud ar-lein, sut mae'n bosib rhoi'r hyder i bobl eu defnyddio yn y Gymraeg? Yw hawliau iaith ar y we yn rhai dinesig neu rhai defnyddwyr yn unig? Aelwyn Williams

Chydig ar gof a chadw

Gwilym-deudraeth-135.jpg

"Wedi blino yn stesion Rhosllyn

Ciciwch fi i werthu cocos, - neu hyrddiwch

Fi i'r Werddon i aros;

'Waeth ple, i rywle o'r Rhos -

Put me in Ynys Patmos."

Angen 2 neu 3 person o leiaf am y syniad yma. Pasiodd gwaith Gwilym Deudraeth allan o hawlfraint i'r parth cyhoeddus eleni, woo hoo! Nawr mae pawb yn berchen ar ei gwaith am addasu, ailgyhoeddi, ayyb. Ond pwy oedd Gwilym Deudraeth? "Yr oedd yn un o englynwyr mwyaf gwreiddiol a chywrain Cymru" yn ôl Llyfrgell Gen. "Fe'i cofir yn arbennig am ei englynion ffraeth a'i gyffyrddiadau cynganeddol sydyn a sicr" yn ôl BBC. Uwch - yr unig darn o farddoniaeth ganddo fe ar y we dw i'n meddwl. O'n i'n meddwl bydd e'n hwyl i greu presenoldeb Gwilym Deudraeth ar y we: fideos, cofnodion blog, lluniau, cyfieithu ychydig i ieithoedd eraill os mae pobol yn gallu. Rydyn ni'n gallu dylunio crys-t hefyd am Spreadshirt neu Cafepress a dechrau busnes (pam lai? mae pobol yn rhydd i wneud crysiau-t gyda dyfyniadau Shakespeare ayyb). Bydd hwn yn sesiwn ymarferol - cyfle i ddysgu pethau newydd gobeithio a dangos yr amrywiaeth o bethau creadigol sy'n bosib arlein. Dere ar dy ben dy hun - gyda gliniadur os bosib. Gwnaf i ddod gyda'i llyfrau. Unrhyw adborth pobol? --Carlmorris 14:32, 25 Ionawr 2011 (UTC)

Dw i newydd sganio llyfr llawn o englynion gan Gwilym Deudraeth dros fy amser cinio yn Llyfrgell Canolog Caerdydd. Roedd rhaid i mi archebu'r llyfr o'r archif o flaen llaw wythnos yma. Cer i ddarllen blas o stwff gan Gwilym Deudraeth. --Carlmorris 14:52, 27 Ionawr 2011 (UTC)

Canlyniadau y sesiwn - yn gynnwys fideo, awdio, lluniau a phroffilau o gwmpas y we... Mae mwy o fideos Gwilym Deudraeth ar YouTube yn Gymraeg na fideos Dafydd ap Gwilym yn Gymraeg... Diolch i bawb! --Carlmorris 11:54, 2 Chwefror 2011 (UTC)

Defnyddio cyfieithu peirianyddol i hwyluso isdeitlo

Galla i roi cyflwyniad 15 munud am becyn paratoi isdeitlau sy'n defnyddio cyfieithu peirianyddol. Fyddai gan rywun ddiddordeb mewn rhannu sesiwn gyda mi yn Ystafell Trafodaethau Bach (Yr Atriwm)? Diolch, Llio Humphreys. 13.45, 27 Ionawr 2011

Swnio'n ddiddorol Llio. Rydyn ni wedi bod yn sôn am sesiwn "mic agored", efallai awr o gyfraniadau byr. --Carlmorris 15:01, 27 Ionawr 2011 (UTC)
Sesiwn Mic Agored

Cyfle i unrhywun wneud cyflwyniad byr/cychwyn trafodaeth am unrhyw bwnc/dyfais/meddalwedd. 10 munud a mlaen i'r nesaf!

Twitter a'r Gymraeg

Rhaid cael trafodaeth am Twitter! --Rhodri.apdyfrig 12:09, 25 Ionawr 2011 (UTC)

Hwn yn 100% siwr o ddod fyny yn yr Haclediad byw hefyd, da ni prin yn siarad am ddim byd arall mewn rhai rhifynnau! --Llefenni 11:47, 26 Ionawr 2011 (UTC)


Cofrestru

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod (mae'n hawdd!). Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Mae lle i dros 50 o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

Gallwch chi hefyd gorestru trwy ddefnyddio'r gwasanaethau canlynol:

Pwy Sy'n Dod?

  1. Carl Morris blog Twitter (diddordebau: cod agored, WordPress, cynnwys Cymraeg)
  2. Rhodri ap Dyfrig blog Twitter (diddordebau: fideo amlblatfform, blogio, diwylliant ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol!)
  3. Sioned Edwards Gwefan Twitter (diddordebau: y Gymraeg arlein, rhwydweithiau cymdeithasol, creu cynnwys, rhannu feiral, natur 'ar hap' y we)
  4. Maldwyn Pate Twitter
  5. Bryn Salisbury blog Twitter
  6. Iwan Davies Twitter
  7. Hywel Jones Twitter (diddordebau: crafu data, cyflwyno data (mapio/siartio ayb), data agored)
  8. Elin Wyn Twitter
  9. Colin Nosworthy Twitter (diddordebau: cyfieithu meddalwedd ffon, gwaith PR arlein)
  10. Owain Schiavone Golwg360
  11. Telsa Gwynne gwefan iawn, fe wna i gyfrif Twitter.. cyn hir.. (diddordebau: sut mae pobl yn defnyddio'r iaith ar-lein, cod agored)
  12. Gwydion Lyn Twitter
  13. Gareth Morlais BBC Cymru Twitter
  14. Christopher Swift blog bach Twitter Wi'n mynd i yrru o Gastell-nedd os oes rhywun sy'n angen lifft. (diddorebau: côd agored, Linux, sut mae pobl yn defnyddio'r iaith ar-lein, Android)
  15. Matthew Jones Twitter (diddordebau: Defnydd o 'Social Media' yn y theatr)
  16. Menna Machreth Twitter (diddordebau: creu cynnwys, ymgyrchu)
  17. Sara Weale gwefan Twitter
  18. David John Evans Twitter
  19. Mark Jones Twitter
  20. Rhys Llwyd gwefan Twitter Facebook Tumblr
  21. Nia Brodrick Twitter
  22. Aled Wyn Twitter Facebook Tumblr (diddordebau: cynnwys Cymraeg ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol)
  23. Elis Glynne Gwefan Twitter
  24. Iestyn Lloyd Gwefan Twitter
  25. Mei Gwilym Sicr yn dod! (ond dim hacieithwyr bychan).
  26. Owain Hughes BT Cymru Twitter
  27. Llinos Lanini [1] Twitter (diddordebau: ffotograffiaeth, trydar dwyiaethog, trio deallt
  28. Emrys Wyn Evans Amrwd.com Podcast Jazz Ffync a Gemau Fideo Twitter
  29. Sion Maredudd Owen Podcast Jazz Ffync a Gemau Fideo Twitter
  30. Alan Evans - Tim Gwe Prifysgol Aberystwyth (diddordebau: Rhaglenni Gwe, Medalwedd Agored, Linux)
  31. Aneurin Brown
  32. Rhys Jenkins
  33. Ifan Morgan Jones
  34. Elin Haf Gruffydd Jones Twitter (diddordebau: cyfryngau ieithoedd lleiafrifol)
  35. Carwyn Edwards Lanyrd
  36. Aelwyn Williams
  37. Llio Humphreys
  38. Meinir Jones Twitter
  39. Illtud Daniel (pnawn)
  40. Angharad Watkins
  41. Gruff Prys
  42. Rhos Prys
  43. Delyth Prys
  44. John Fraser Williams Peblig.org Pobol Peblig (diddordebau: cyfryngau, pontio'r bwlch digidol, seibercofis)
  45. Einion Gruffudd

Methu Dod

Os nad ydych yn gallu dod, tynnwch eich enw o'r rhestr mynychwyr a rhowch eich enw yma fel ein bod yn gwybod.

  • Anwen Roberts S4C Facebook Twitter Twitter
  • Jeremy Evas (Bwrdd yr Iaith Gymraeg) [2] Facebook [3] Twitter [4]. Efallai y bydd y ddogfen hon o ddiddordeb i rai sy'n mynychu (ymgynghoriad ar dechnoleg iaith i sefydliadau cyhoeddus): [5]
Diolch am rannu'r ddogfen Jer. --Rhodri.apdyfrig 11:42, 21 Ionawr 2011 (UTC)
Diddorol Jeremy, unrhyw siawns y gallwch chi anfon y ddogfen hon ymlaen at reolwyr Bws Caerdydd? Maen nhw i fod i fod wrthi'n creu gwefan ddwyieithog, mae'r un presennol yn uniaith Saesneg [6]. Maen nhw'n dadlau mai cynnwys statig yn unig fydd ar gael yn y Gymraeg ar y wefan newydd (sydd 6 mis yn hwyr) achos dyna beth sydd yn ymarferol bosib. --Colinnosworthy 23:34, 23 Ionawr 2011 (UTC)
  • Steffan Harries Lanyrd
  • Anwen James Twitter
  • Rhys Wynne Twitter Blog 98.9% yn sicr na fyddai'n gallu dod. Flwyddyn nesaf gobeithio.
  • Huw Waters Twitter Gwefan Dwi'n meddwl dwi'n gwybod sut i gyfieithu Android yn iawn.
Hei Huw, croeso i ti esbonio mwy ar y tudalen Symudol yma neu dy flog dy hun! --Carlmorris 13:40, 26 Ionawr 2011 (UTC
  • Kevin Egan (Bwrdd yr Iaith Gymraeg) [7] [8]
  • Huw Marshall (Tinopolis) [9]
  • Rhun Llwyd

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Gwirfoddolwyr: Rhestr tasgau

Angenrheidiol

  • Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru - pwy sydd am wirfoddoli?
--- Allai helpu i gofrestru yn y bore, dim probs --Llefenni 17:08, 17 Ionawr 2011 (UTC)
Dwi wedi creu tri poster ar gyfer Haciaith 2011. Rhydd i chi eu defnyddio
Gareth, diolch am gyfrannu'r posteri, nawr mae gyda ni pedwar. Dim problem. Braf i weld creadigrwydd yn yr iaith arlein. --Carlmorris 21:56, 10 Ionawr 2011 (UTC)
  • Wifi (dim problem gyda hyn - roedd y cyswllt di-wifr llynedd yn gret. --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC))
  • Taflunydd (dim problem gyda hyn - gallwn fenthyg offer yr adran --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC)
    • Mae technegydd yr adran wedi cynnig i ni ddefnyddio rhai o pico projectors Samsung yr adran. Handi ar gyfer sesiynau bach anffurfiol efallai?
  • Ffotograffydd?
  • PA Bach gyda meics
yr adran am ddarparu hyn --Rhodri.apdyfrig 15:49, 5 Ionawr 2011 (UTC))
  • Recordydd awdio
yr adran am ddarparu recordydd mp3 disggaled Marantz
  • Gosod byrddau a chadeiriau
Pwy sy'n gwirfoddoli i wneud hyn bnawn Gwener?

Dymunol

  • Fideo (dwi wedi archebu camera HD i recordio un ystafell --Rhodri.apdyfrig 15:52, 5 Ionawr 2011 (UTC))
    • Rhywun i ffilmio sesiynau cyfan? Unrhywun eisiau gwirfoddoli i reoli camera?
Mae Aneurin Brown a Rhys Jenkins o Goleg y Drindod Dewi Sant wedi cynnig helpu gyda'r ffilmio ar y dydd--Rhodri.apdyfrig 12:21, 26 Ionawr 2011 (UTC)
    • Rhywun i ffilmio eitemau byr/cyfweliadau o amgylch y digwyddiad? [Cafodd Bryn a finne hwyl go dda ar hwn llynedd - hapus i'w wneud eto - Sioned]
  • Oes angen camera fideo yn yr ail ystafell?
  • Beth am ffrydio byw?
Rhys Llwyd yn cynnig bod yng ngofal ffrydio'r digwyddiad yn fyw ar y we os nad ydy Gwion Llwyd yn gallu dod eleni.
  • Oes unrhyw wirfoddolwyr i dorri fideo o'r sesiynau ar ôl y digweyddiad?
Dwi'n fodlon gwneud hyn --Garethvjones 15:55, 27 Ionawr 2011 (UTC)
  • Oes rhywun eisiau gwneud sting bach ar gyfer rhoi ar y fideos?
Dwi'n fodlon gwneud hyn --Garethvjones 15:55, 27 Ionawr 2011 (UTC)

--Garethvjones 05:09, 30 Ionawr 2011 (UTC)

Hoffi'r pigiadau boi --Carlmorris 17:18, 4 Chwefror 2011 (UTC)
  • Cyfieithu ar y pryd? - os oes rhywun yn dod sydd yn ddi-Gymraeg yna dylent nodi hyn a gallwn drio cael nawdd ar gyfer cyfieithydd
  • Cinio/Te/Coffi
Dwi wedi gofyn am bris ar gyfer coffi a the am 8.30am a 12.30pm a chinio o frechdanau i gyrraedd am 12.30pm hefyd. All pobol ddod a bag o ffrwythau / pecyn o fisgedi efo nhw i arbed arian?--Rhodri.apdyfrig 11:17, 25 Ionawr 2011 (UTC)
Cost te,coffi, bisgets, brechdanau, pethau hwmwslyd ac Indiaidd ar gyfer 40 o bobol = £316.00

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.


Pecyn Papur Wal

Mae pecyn papur wal ar gyfer yr iPhone ac iPad ar gael Papur Wal Haciaith --Garethvjones 14:47, 27 Ionawr 2011 (UTC)

App Haciaith

Mae App ar gael ar gyfer yr iPhone App i'r iPhone

Qr-happiaith.png --Garethvjones 15:32, 4 Chwefror 2011 (UTC)

Pwy sy'n blogio?

Rhowch gofnod o bob blog sy'n sôn am y digwyddiad yn y rhestr hon:

Sylw yn y Wasg

  • mae Click On Wales wedi gofyn fi i sgwennu erthygl am y digwyddiad (bydd e'n ddwyieithog) --Carlmorris 18:31, 18 Ionawr 2011 (UTC)
fersiwn Cymraeg o'r erthygl ar blog Carl Morris
fersiwn Saesneg o'r erthygl Click On Wales
ydw i? Heb wneud dim byd eto! --Colinnosworthy 23:37, 23 Ionawr 2011 (UTC)
Wedi hala datganiad mas - dim llawer o amser i wneud llawer iawn yn anffodus --Colinnosworthy 11:35, 28 Ionawr 2011 (UTC)
job da, diolch Colin: Golwg360, Newyddion BBC

Ble i aros?

Gwesty/hostel

  • Llynedd, dyma fi'n aros yn Bodalwyn. Ddim y rhataf yn Aber falle, ond G&B arbennig, brecwast hyfryd, gwraig y lle'n siarad Cymraeg a hyd yn oed top tapiau 'Oer'/'Poeth' yn y stafell molchi. --Rhyswynne 09:02, 11 Ionawr 2011 (UTC)

Cynnig llety

(oes lle yn sied eich gardd?)

Swper Nos Wener

Roedd sawl un yn aros dros nos yn Aberystwyth y llynedd felly aethon ni allan am gyri. Roedd yn ddechrau gwych i'r diwrnod canlynol. Felly pam lai gwneuyd yr un peth eto. Hacio'r Cyri.

Bydd bwrdd wedi ei archebu ym Mwyty Shilam (ger yr orsaf) am 7.30pm. Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle. Dwi wedi archebu bwrdd i 10 ar hyn o bryd. Plis gadwch i fi wybod os mae angen mwy o seddi!

  1. Bryn Salisbury - Hwre! Cyri! :D
  2. Rhodri ap Dyfrig - Saag Aloo a Handi Special i fi plis.
  3. Iwan Davies - Cwrw dryd plis!
  4. Sioned Edwards - Phaal efo extra chilli sprinkles plis.
  5. Telsa Gwynne
  6. Carl Morris - gafr daloo daloo daloo, i-e, fin-daloo, fin-daloo, fin-daloo
  7. Maldwyn Pate
  8. Gareth Morlais

Teithio

Yn gyrru?

Allwch chi gynnig lifft i rywun arall o'ch ardal chi? Gadwch wybod yma.


  • Colin yn mynd o Landrindod i Aberystwyth Dydd Gwener, Ionawr 28ain.--Colinnosworthy 15:30, 12 Ionawr 2011 (UTC)
hoffwn i ymuno Colin plîs, hapus i gyfrannu i'r cyllid tanwydd. Diolch! --Carlmorris 04:45, 24 Ionawr 2011 (UTC)
sori Carl, rwy'n mynd lan o Landrindod bore dydd Gwener nawr, mae'n flin da fi, be am gofyn i Christopher Swift?--Colinnosworthy 11:23, 24 Ionawr 2011 (UTC)
Wi'n gallu d'helpu di os yt ti'n moyn. Teimla yn rhydd i sgwennu ataf (trafod @ gmail dot com). --Christopher Swift 12:36, 24 Ionawr 2011 (UTC)
  • Wi'n mynd o Gastell-nedd i Aberystwyth Dydd Gwener, Ionawr 28ain.--Christopher Swift 18:27, 23 Ionawr 2011 (UTC)
  • Maldwyn Pate: Gadael ardal Llantrisant/Pontypridd pnawn Gwener i gyrraedd Aber tua 6ish. Gyrru nôl nos Sadwrn. Cysylltwch drwy Twitter os dych chi eisiau lifft
  • Gareth Morlais a Carl Morris yn gadael Llandaf 9am. Lle yn y car i ddau arall. Dychwelyd pnawn Sad.

Angen lifft?

Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...

Parcio

Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Dyma fap gyda manylion y maes parcio.

I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.

Ar antur / random

Dw i wedi dechrau arolwg barn i ymchwilio galw am fy syniadau. Plîs, plîs, defnyddia dy bleidlais eleni. Diolch. --Carlmorris 01:50, 20 Ionawr 2011 (UTC)

English translation

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.