Hacio'r Iaith: prif dudalen
Oddi ar Hedyn
Croeso i'r tudalen Hacio'r Iaith ar Hedyn! Mae'r trefniadau am Hacio'r Iaith 2011 yn Aberystwyth yn digwydd yma. |
Manylion y digwyddiad
Beth?
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.
Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.
Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor côd agored. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae esboniad That Canadian Girl yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.
Bydd hefyd yn cynnwys sesiynau rhaglennu lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, app, neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau Open Hack Day. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma hanes Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008.
Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.
Pryd?
Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2011
Hen digwyddiadau Hacio'r Iaith
Hacio'r Iaith 2011
Aberystwyth. Hacio'r Iaith - Ionawr 2011
Hacio'r Iaith - Eisteddfod Genedlaethol 2010
Nos Fawrth, 3 Awst, 5:00PM
The Picture House, Market Street, Glyn Ebwy, NP23 6HP
Di-wifr ar gael
Hacio'r Iaith Bach - Caernarfon, 24 Gorffennaf 2010
Lle? Tafarn/Bwyty y Castell (map)
Pryd? 3-5pm
Pwy? Unrhywun sydd efo diddordeb mewn technoleg, gwe a iaith. Ddim o reidrwydd yn y drefn yna.
Beth? Mae'n rhan o Gwyl Arall. Mmm, neis.
Sut? Efo peint a Wifi.
24 Gorffennaf 2010
Hacio'r Iaith Bach - Gwyl Arall, Caernarfon
19 Mai 2010
Hacio'r Iaith Bach - Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth (ar ddiwedd Cynhadledd Ryngwladol Rhwydwaith Mercator)
Croeso i unrhywun ddod i gael sgwrs am y rhyngrwyd a ieithoedd lleiafrifol. Bydd tipyn o bobol yno o dramor fydd wedi dod i gynhadledd Mercator felly bydd yn gyfle i gyfarfod â chriw diddorol. Fydd dim strwythr pendant ar wahan i gyflwyniad byr gen i am y digwyddiad Hacio'r Iaith cyntaf er mwyn gosod y cyd destun.
Bydd y gynhadledd yn darparu cwrw a swper i'r rhai sy'n dod. Diolch yn fawr Sefydliad Mercator!
26 Ebrill 2010
Hacio'r Iaith Bach, Chapter, Treganna, Caerdydd.
Adroddiad/sgyrsiau / Cofnod wreiddiol
30 Ionawr 2010
Hacio'r Iaith 1, Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
Dyfodol
gobeithio mwy ar y ffordd!
Digwyddiadau eraill
am ddigwyddiadau eraill, ewch i'r tudalen Hedyn
English translation
Google Translate has a very rough English translation of this page. Don't rely on it though, it's merely the gist.