Hacio'r Iaith: prif dudalen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Llinell 36: | Llinell 36: | ||
====[[Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012]]==== | ====[[Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012]]==== | ||
====[[Hacio'r Iaith Llundain 2012|Hacio'r Iaith/Hacio'r Iaith Bach, Llundain?]] | Hefyd... i'w drefnu yn 2012... | ||
====[[Hacio'r Iaith Llundain 2012|Hacio'r Iaith/Hacio'r Iaith Bach, Llundain?]] ==== | |||
<br> | <br> | ||
Fersiwn yn ôl 23:21, 3 Gorffennaf 2012
Croeso i dudalen Hacio'r Iaith ar Hedyn! Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012 (digwyddiad nesaf) |
Manylion y digwyddiad
Beth?
Anghynhadledd Hacio'r Iaith
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.
Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.
Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor côd agored. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae esboniad That Canadian Girl yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.
Bydd hefyd yn cynnwys sesiynau rhaglennu lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, app, neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau Open Hack Day. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma hanes Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008.
Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.
Hacio'r Iaith Bach
Cyfarfododd llai (fel arfer mewn tafarn!) ble mae criw llai yn cwrdd am drafodaethau rownd y bwrdd.
Pryd mae'r Hacio'r Iaith nesaf?
Mae Hacio'r Iaith yn cyflwyno'r...
Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012
Hefyd... i'w drefnu yn 2012...
Hacio'r Iaith/Hacio'r Iaith Bach, Llundain?
Hen ddigwyddiadau Hacio'r Iaith
Hacio’r Iaith Bach, Caerdydd: Newyddion lleol yn y ddinas 28 Mai 2012
Hacio'r Iaith 2012, 27 Ionawr 2012
Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth. Loto fideos o'r digwyddiad yma.
Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2011
Bu dau ddigwyddiad - un ar y Maes ac un fin nos mewn tafarn
Hacio'r Iaith Bach, Caerdydd, 18 Gorffennaf 2011
City Arms
Hacio'r Iaith Bach, Caernarfon, 16 Gorffennaf 2011
Caffi Cegin, Neaudd y Farchnad, Caernarfon . Fel rhan o Gwyl Arall 2011. Efo paned, a [1] Llion Jones - prifardd a chyfarwyddwr Canolfan Bedwyr.
Hacio'r Iaith Bach, Caerdydd, 17 Mehefin 2011
Bar Gwdihŵ
Hacio'r Iaith 2011, 29 Ionawr 2011
Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
Hacio'r Iaith Bach, Eisteddfod Genedlaethol 2010
Nos Fawrth, 3 Awst, 5:00PM, yn The Picture House, Market Street, Glyn Ebwy, NP23 6HP. Di-wifr ar gael
Hacio'r Iaith Bach, Caernarfon, 24 Gorffennaf 2010
Tafarn/Bwyty y Castell (map). Fel rhan o Gwyl Arall 2010. Mmm, neis. Efo peint a Wifi.
Hacio'r Iaith Bach, Aberystwyth 19 Mai 2010
Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth (ar ddiwedd Cynhadledd Ryngwladol Rhwydwaith Mercator)
Hacio'r Iaith Bach, Caerdydd 26 Ebrill 2010
Chapter, Treganna, Caerdydd. Cofnod gwreiddiol / Adroddiad/sgyrsiau
Hacio'r Iaith 2010 - 30 Ionawr 2010
Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
Digwyddiadau eraill
am ddigwyddiadau eraill, ewch i'r tudalen Hedyn
English translation
Google Translate has a very rough English translation of this page. Don't rely on it though, it's merely the gist.