Gweithrediadau

Sut i olygu tudalen

Oddi ar Hedyn

Seilir y Hedyn ar feddalwedd wici sy’n galluogi un rhywun i olygu erthygl. Ymddengys y newidiadau ar y ddalen yn syth.

Arbrofi

Os ydych am arbrofi byddwch mor garedig a gwneud hynny yn y pwll tywod yn hytrach na fan hyn. Mewn rhai porwyr mae modd agor y bocs tywod mewn tab neu ffenestr arall er mwyn gallu gweld y dudalen hon a’r arbrofion yn y pwll tywod ar unwaith. I wneud hynny cliciwch i’r dde ar y cyswllt i’r pwll tywod a dewiswch ‘Agor mewn ffenestr arall’.

Golygu tudalen

Mae golygu tudalen Wici yn hawdd:

Cliciwch ar y tab ‘golygu’ ar ben y ddalen. O wneud hyn fe gyrhaeddwch y dudalen olygu. Ar y dudalen mae blwch testun ac ynddo yr testun ar ffurf y gellir ei olygu. Mae bar rholio ar ymyl dde'r blwch testun i’ch helpu i ddod o hyd i’r man yn y testun y mae angen ei olygu. Wedi i chi orffen golygu yn y blwch testun symudwch i waelod y dudalen olygu trwy ddefnyddio’r bar rholio ar yr ymyl dde yn deg. Islaw'r blwch testun daw blychau a botymau i’r golwg fel a ganlyn:

  • blwch crynodeb i’ch galluogi i nodi natur y golygiad, e.e. ychwanegu cyswllt, cam-sillafiad. Bydd hyn yn hwyluso gwaith defnyddwyr eraill.
  • blwch ticio Mae hwn yn olygiad bychan. Gallwch dicio’r blwch os mai cywiro iaith neu gamdeipio oedd natur y golygiad. Ni ddylid ticio’r blwch os oes rhyw newid yn y ffeithiau yn yr erthygl. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
  • botwm Gweler rhagolwg. Cliciwch ar hwn ac mewn ychydig eiliadau bydd rhagolwg o’r dudalen orffenedig yn ymddangos ar ben uchaf y dudalen olygu, uwchben y blwch testun. Defnyddiwch y bar rholio ar yr ymyl dde yn deg i symud am lawr ar hyd y dudalen nes y dewch at y blwch testun eto, lle y gallwch barhau i olygu, ac islaw hwnnw at y botymau. Noder bod modd gosod dewisiadau defnyddiwr fel bod y rhagolwg yn ymddangos islaw'r blwch testun yn hytrach nag uwch ei ben.
  • blwch ticio Gwylier y dudalen hon. Ticiwch y blwch os am ychwanegu’r dudalen at eich rhestr gwylio. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
  • botwm dangos newidiadau. O wasgu hwn fe welwch pa newidiadau yr ydych ar fin eu gwneud i’r fersiwn gynt.
  • botwm cadw’r dudalen. Cliciwch y botwm pan yn fodlon ar y golygiad ac fe weithredir y newidiadau i’r erthygl o fewn eiliadau. Nid oes angen arwyddo’r golygiad i erthyglau arferol gan fod y meddalwedd yn cadw cofnod o bob newid yn awtomatig. Os symudwch o’r dudalen olygu i dudalen arall cyn gwasgu cadw’r dudalen fe gollwch y gwaith teipio a wnaethoch.

Mae tudalen sgwrs i bob erthygl ar gyfer sylwadau gan ddefnyddwyr eraill Hedyn. Gallwch ymhelaethu ar y rheswm am eich golygiad ar y dudalen sgwrs trwy naill ai glicio ar y tab + neu ar y tab ‘golygwch’ uwchben y dudalen. Os y byddwch yn ychwanegu at y dudalen sgwrs, llofnodwch y darn os gwelwch yn dda, trwy ychwanegu 4 tilda ~~~~.

Awgrymiadau ar olygu erthyglau ar Hedyn

Mae rhai yn ei gweld yn gyfleus i gopïo testun i'w olygu o Hedyn i raglen trin testun ar eich cyfrifiadur, golygu a gwirio'r sillafu yno ac yna copïo'r testun terfynol nôl i Hedyn. Trwy wneud hyn, gallwch gadw copi o'r tudalennau y buoch yn gweithio arnynt ar eich cyfrifiadur.

Ar ôl cwblhau tudalen newydd, argymhellir i chwi:

  • bwyso ar y botwm Beth sy'n cysylltu yma yn y blwch offer er mwyn dilyn trywydd y cysylltiadau i'r erthygl newydd sydd eisoes yn bodoli. Gellir cadarnhau bod pwnc yr erthygl yn cyfateb i ystyr y gair sy'n cysylltu;
  • ddefnyddio'r botwm Chwilio i ddarganfod erthyglau eraill sy'n cynnwys teitl yr erthygl newydd, neu amrywiadau arno. Gellir creu cysylltiadau o'r erthyglau hyn at yr erthygl newydd; a
  • chreu tudalennau ailgyfeirio o amrywiadau ar deitl yr erthygl, gan gynnwys camsillafiadau, amrywiaethau ar atalnodi neu sillafu, a thermau amgen.

Cystrawen Wici

Isod ceir enghreifftiau o'r 6 cystrawen Wici amlaf eu defnydd.

Yng ngholofn chwith y tabl isod gwelir pa waith dylunio sydd yn bosib ei wneud ar Hedyn. Yn y golofn dde disgrifir sut y crëir yr effeithiau hyn, h.y. beth sydd angen ei deipio i greu'r ffurf ar y testun a ddangosir ar y chwith.

Os ydych am gadw'r dudalen hon wrth law gallwch gadw'r dudalen ar agor mewn ffenestr arall.

I ymddangos fel hyn teipiwch hyn

Gallwch italeiddio'r testun drwy osod 2 gollnod ar bob ochr iddo.


Bydd 3 collnod naill ochr yn creu testun teip trwm.

Bydd 5 collnod naill ochr yn creu testun trwm wedi italeiddio.


(Nid yw 4 collnod yn creu dim amgen na thestun trwm ag 'un collnod dros ben'.)

Gallwch ''italeiddio'r testun'' drwy 
osod 2 gollnod ar bob ochr iddo. 

Bydd 3 collnod naill ochr yn creu 
'''testun''' teip trwm. 

Bydd 5 collnod naill ochr yn creu 
'''''testun''''' trwm wedi italeiddio.

(Nid yw 4 collnod yn creu dim amgen na 
thestun trwm ag ''''un collnod dros 
ben''''.)

Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar dudalennau sgwrs gyda:
- 3 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr: Carlmorris
- 4 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr, yr amser a'r dyddiad: Carlmorris 07:46, 27 Tach 2005 (UTC)
- 5 tilde ar gyfer yr amser a'r dyddiad yn unig: 07:46, 27 Tach 2005 (UTC)

Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar 
dudalennau sgwrs gyda: <br>
- 3 tilde ar gyfer eich enw 
defnyddiwr: ~~~ <br>
- 4 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr, 
yr amser a'r dyddiad: ~~~~ <br>
- 5 tilde ar gyfer yr amser 
a'r dyddiad yn unig: ~~~~~ <br>
Penawdau adrannau

Gallwch ddefnyddio penawdau i drefnu erthygl yn adrannau. Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau.

Isadran

Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i greu isadrannau.


Isadran llai

Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt.

Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau H1 ar gyfer teitlau erthyglau.

== Penawdau adrannau ==

Gallwch ddefnyddio ''penawdau'' i drefnu 
erthygl yn adrannau.
Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu
taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau.

=== Isadran ===

Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i
greu isadrannau.

==== Isadran llai ====

Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 
4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt. 

Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach 
nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau 
H1 ar gyfer teitlau erthyglau.
  • I greu rhestr heb ei threfnu:
    • Dechreuwch pob llinell â seren.
      • Mae rhagor o sêr yn ychwanegu is-lefelau.
    Mae'r eitem gynt yn parhau.
    • Mae llinell newydd
  • yn y rhestr

yn nodi diwedd y rhestr.

  • Gallwch ddechrau rhestr arall o'r newydd.
* I greu ''rhestr heb ei threfnu'':
** Dechreuwch pob llinell â seren.
*** Mae rhagor o sêr yn creu is-lefelau.
*: Mae'r eitem gynt yn parhau.
** Mae llinell newydd
* yn y rhestr  
yn nodi diwedd y rhestr.
* Gallwch ddechrau rhestr arall o'r newydd.
  1. Mae rhestri wedi'i rhifo yn:
    1. drefnus iawn
    2. hawdd i'w dilyn.

Noda linell newydd ddiwedd y rhestr.

  1. Dechreua rhestr newydd â'r rhif 1.
# Mae ''rhestri wedi'i rhifo'' yn:
## drefnus iawn
## hawdd i'w dilyn.
Noda linell newydd ddiwedd y rhestr.
# Dechreua rhestr newydd â'r rhif 1.

Dyma gyswllt i'r dudalen crefydd. Gallwch ysgrifennu crefyddau ac fe ymddengys y cyswllt yn gywir.

Dyma gyswllt i'r dudalen
 [[crefydd]].
Gallwch ysgrifennu 
[[crefydd]]au
ac fe ymddengys y cyswllt 
yn gywir.

Nid yw'r dudalen Tywydd Moscow yn bod eto. Gallwch ei greu drwy bwyso ar y cyswllt.

Nid yw'r dudalen
[[Tywydd Moscow]] yn  
bod eto. Gallwch ei greu drwy 
bwyso ar y cyswllt.

Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl:


Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl:


*[[Hacio'r_Iaith_-_Ionawr_2011#Sesiynau_Posib]].

Cydnabyddiaeth: diolch Wicipedia am y testun gwreiddiol yma dan Creative Commons.