Gweithredoedd

Sut i ddechrau gorsaf radio ar y we

Oddi ar Hedyn

Gorsaf radio?

Mae'n hawdd i ddechrau gorsaf radio ar y we. Rydyn ni'n siarad am ddarlledu byw yn hytrach na phodlediad (sydd yn recordiad fel arfer).

Mae sawl ffordd o wneud e. Gwnawn ni ddechrau gyda ustream.tv achos mae'r gwasanaeth am ddim ac mae rhaid dechrau rhywle. Rwyt ti'n gallu dechrau heddiw os wyt ti eisiau. Dyma sut.

Pa fath o orsaf? Unrhyw beth. Siarad. Cerddoriaeth. Ychydig o'r ddau.

Mae'r canllaw yma YN gweithio achos dyna oedd y modus operandi tu ôl i'r orsaf radio arbrofol shwmae.com.

Profiad cyntaf

Gwnaf brawf cyn darlledu er mwyn cadarnhau bod dy offer yn gweithio ac i sicrhau'r ansawdd sain gorau. Bydd dy wrandawyr yn cwyno os fydd y sain ddim yn dda. Dyma sut.

Mae angen:

  • cyfrifiadur ar y we
  • meicroffon gyda plwg 3.5mm - neu os wyt ti ar gliniadur maen nhw gyda meicroffon mewnol dyddiau yma
  • cyfrifiadur arall ar y we
  • ffrind (i redeg y cyfrifiadur arall) - opsiynol

Canllaw:

Gweler hefyd: Recordio a ffrydio sain

  1. Gosod un cyfrifiadur rhywle. Dyma'r cyfrifiadur ti'n defnyddio i ddarlledu.
  2. Plygia'r meicroffon mewn i'r 'mic' neu 'line in'. Paid a defnyddio'r soced clustffonau.
  3. Gosod y cyfrifiadur arall rhywle arall. Dyma'r cyfrifiadur ti'n defnyddio i wrando. Dylai fe fod mewn ystafell ar wahan er mwyn i ti profi'r hud o RADIO BYW. Hefyd dwyt ti ddim eisiau ymyrryd gyda'r un sy'n darlledu. Os oes gyda ti seinyddion, gwych.
  4. Cer i http://ustream.tv
  5. Cer i Sign Up, llenwa'r ffurflen gyda manylion personol (paid a phoeni am enw dy orsaf neu rhaglen eto)
  6. Cer i Create Channel
  7. Llenwa'r ffurflen gyda manylion dy orsaf/sioe/rhaglen/sianel (os wyt ti'n wneud sioe Cymraeg rhoi Cymraeg yn y tagiau er mwyn helpu chwilio)
  8. Jump to channel | Go to channel | Dewisa enw dy sianel
  9. Clicia 'Go Live!'
  10. Ar y sgrin:
  11. Clicia 'Broadcast'
  12. Dweud neu canu rhywbeth...
  13. Dyma sut mae darlledu yn edrych. Mae'r camera yn fyw ond mae'n bosib troi'r peth bant.
  14. Darlledu:
  15. Mae cyfeiriad fel ustream.tv/channel/enw-dy-sianel-yma
  16. Anfona'r cyfeiriad i'r cyfrifiadur yn y stafell arall (trwy ebost neu rhywbeth)
  17. Yn y stafell arall mae modd gwrando - jyst clicia'r cyfeiriad. Gwych!
  18. Dylet ti chwarae gyda'r gosodiadau er mwyn gwella'r sain.

Gwella'r sain

  • Os wyt ti'n clywed atsain efallai bydd angen cau lawr ffenestri ustream di-angen. Gwers: paid ag agor y sioe fel gwrandawr pan ti'n darlledu!
  • Efallai mae angen newid y lefelau ar dy gyfrifiadur neu ustream.
  • Mae ustream yn osod yr ansawdd yn llai na'r uchafswm bosib. Pam? Achos mae ansawdd gwell yn cymryd mwy o ddata i'w drosglwyddo. Os oes gen ti cysylltiad araf mae angen lleihau'r ansawdd. Ond dw i wastad yn ddechrau ar yr ansawdd gorau. Os oes gyda ti band-eang dylai fe fod yn iawn. Cer i http://speedtest.net a checia dy gyflymder lanlwytho (upload).
  • Yn hytrach na'r meicroffon rwyt ti'n gallu plygio mewn ffynhonnell arall o sain fel chwaraewr CD. Dyma pryd mae cymysgwr sain (mixer) yn defnyddiol achos rwyt ti'n gallu chwarae tiwns a llais. Weithiau mae cymysgwyr 4-sianel ar gyfer DJs yn rhad iawn. Mae dau neu tri lefel wedyn - y lefel meistr ar y cymysgwr a'r lefel ar ustream - ac ambell waith y lefel ar y cyfrifiadur. Bydd afluniad os ydy'r allbwn y cyfrifiadur yn rhy uchel.

Pellach

.

. cyn hir

.

Uwch

.

. cyn hir

.