Gweithrediadau

Sgwrs

Hafan

Oddi ar Hedyn

Dyfodol Hedyn

Unrhyw syniadau ar nodweddion / adrannau newydd i Hedyn? Mae tipyn wedi digwydd ers y tro diwethaf i ni ofyn y cwestiwn. Heblaw am ddiweddaru'r Rhestr gyda blogiau a phodlediadau dw i wedi bod yn meddwl am argaeledd hen gynnwys fel y pethau sydd ar Wicidestun, am un peth. Hefyd adnoddau Wikidata fel cod ar gyfer ceisiadau. --Carlmorris (sgwrs) 14:16, 1 Rhagfyr 2021 (UTC)

Diweddariadau Rhagfyr 2021

Wedi diweddaru MediaWiki a'r croen, ac wedi adfer delweddau! Dwedwch os ydych chi'n sylwi ar unrhyw broblemau. --Carlmorris (sgwrs) 14:16, 1 Rhagfyr 2021 (UTC)

Sbam

Mae lot o sbam wedi bod ar Hedyn yn ddiweddar. Mae'n flin gyda fi. Mae cathod bach yn warchod y lle felly rydyn ni'n ennill y rhyfel ar hyn o bryd. --Carlmorris (sgwrs) 23:03, 14 Mai 2012 (BST)

Shhh! Wedi newid enwau'r ffeiliau achos mae sbamwyr yn rhy glyfar bellach. --Carlmorris (sgwrs) 20:58, 12 Ionawr 2013 (UTC)
Mae dal problem gyda sbam. Dw i ddim yn siwr os yw KittenAuth yn effeithiol. Efallai bydd angen mynd yn niwclear. --Carlmorris (sgwrs) 13:32, 23 Ionawr 2013 (UTC)
Dal i dderbyn sbam. Angen cryfhau'r system. --Carlmorris (sgwrs) 16:15, 12 Chwefror 2013 (UTC)
Pan na wnawn jsyt ff**cio i ffwrdd. Sori all i ddim cynnig gyngor i ti. Er mai enw un sbamiwr oedd RhysReddi(!), sylwaf bod mwyafrif y cyfrifon sban yn diweddu gyda thri rhif - ydy'r awgrym yma'n werth y drafferth ti'n meddwl? Yn amlwg tros fy mhen i, ond dyma un arall sy'n swnio fel iddo sortio pethau. Pob hwyl arni ta beth, mae'n rhaid ei fo dyn dy yrru fyny'r wal. UN awgrym oedd gynna i oedd mai mond enwau Cymraeg dethol (o ryw restr enwau Cymraeg ar wefan annibynol) fyddai rhywun yn cael eu denfyddio wrth gofrestru, ond tydy hynny ddim o help os ydych eisiau defnyddio eich enw iawn ac nid Elfed ap Piwbsgoch ydy eich henw. --Rhyswynne (sgwrs) 17:01, 12 Chwefror 2013 (UTC)
Dw i wedi ychwanegu mwy o ddelweddau i KittenAuth. Mae'n anoddach i sbambotiau ond os ydyn nhw yn sbamwyr dynol fydd ddim her. Efallai dylwn i newid y system i brawf Cymraeg o ryw fath! Gawn ni weld. --Carlmorris (sgwrs) 22:58, 12 Chwefror 2013 (UTC)
Reit! Angen captcha Cymraeg o ryw fath! Cyffrous. Gobeithio bydd pawb yn gallu ei gyflawni! Yn y cyfamser mae sbamwyr yn gelyn i'r iaith achos dw i gorfod treulio 5 munud pob dydd arnyn nhw. --Carlmorris (sgwrs) 12:50, 22 Chwefror 2013 (UTC)
Blydi reit. Ti am ofyn am gymorth techies drwy Twitter/haciaith.com. Hefyd gofyn am awgrymiadau ar gyfer prawf - treiglo, teitl cerdd Bardd X am y Rhyfel, sawl llythyren sydd yn y gair Cymraeg am dog, ble lladdwyd Llywelyn (dod ag elfen hane si'r peth!), ble oedd Eisteddfod Gen 2011, ayyb. Dyma ble dylem ddenfnyddio ein iaith fel arf!--Rhyswynne (sgwrs) 14:08, 22 Chwefror 2013 (UTC)
Jyst eisiau bod yn hygyrch i ddysgwyr Cymraeg a phobl Patagonia ayyb --Carlmorris (sgwrs) 16:10, 22 Chwefror 2013 (UTC)

Delweddau

Wedi torri. Rhaid symud i weinydd arall. --Carlmorris 01:24, 28 Rhagfyr 2011 (UTC)

gyda llaw mae delweddau yn gweithio bellach! --Carlmorris (sgwrs) 23:14, 23 Mehefin 2012 (BST)

Cynnig: newid trwydded Hedyn

Mae Hedyn wedi bod yn dda dan Creative Commons BY-NC-SA ond hoffwn i awgrymu trwydded arall, rhywbeth mwy rhydd, sef Creative Commons BY. Mewn geiriau eraill dw i eisiau colli'r cyfyngiad anfasnachol a'r cyfyngiad 'Share Alike'. Dw i eisiau ymestyn allan i fwy o bobol. Er enghraifft, bydd defnydd masnachol yn wych yn fy marn i. Os mae rhywun yn gallu adeiladu busnes gyda stwff o Hedyn ac hybu defnydd o'r iaith ac ein blogiau, pob bendith iddyn nhw. Ond mae rhaid i mi ofyn y gymuned achos rydyn ni i gyd wedi cyfrannu i Hedyn. Dw i'n meddwl bod e'n deg i gadw y pwnc ar agor tan 21ain mis Awst 2011. Beth yw dy feddyliau am y gynnig? Ti'n hoffi'r gynnig? Wyt ti'n gallu gweld unrhyw problemau? Oes arnom ni angen am dudalen fer gyda chanllawiau rhannu, e.e. 'croeso i ti ail-ddefnyddio'r cynnwys Hedyn am unrhyw pwrpas - plîs defnyddia hedyn.net yn y credit'. Neges croes-postiwyd i haciaith.com ac ebostiwyd i aelodau o Hedyn. --Carlmorris 20:36, 7 Awst 2011 (UTC)

Does dim gwrthwynebiad i'r newid gyda fi. --Rhyswynne 21:02, 7 Awst 2011 (UTC)
Gyda llaw dw i wedi newid i BY-SA. Plis dweda os oes unrhyw broblem gyda'r SA! --Carlmorris 01:12, 28 Rhagfyr 2011 (UTC)

Cyfrifon

Rhaid i ti greu cyfrif i olygu. Wedi cael SPAMATTAK gan bots di-enw! Well i ni barhau gyda chyfrifon. Dw i'n hoffi hollol agored fel Wicipedia ond angen mwy o ddefnyddwyr. Efallai gwnaf i agor eto rhywbryd. --Carlmorris 17:09, 7 Rhagfyr 2010 (UTC)

DokuWiki

Dal yn symud i MediaWiki o DokuWiki. Ti'n gallu ffeindio'r hen wefan ar http://hedyn.net/hen/doku.php - ti'n gallu helpu os ti eisiau. Diolch! --Carlmorris 22:00, 15 Tachwedd 2010 (UTC)

Gyda thudalennau eraill, defnyddia'r fformat
http://hedyn.net/hen/doku.php?id=Trwyddedau
http://hedyn.net/hen/doku.php?id=Meddalwedd
ayyb
--Carlmorris 22:48, 15 Tachwedd 2010 (UTC)
am dudalennau sgwrs http://hedyn.net/hen/doku.php?id=talk:trwyddedau
--Carlmorris 15:05, 16 Tachwedd 2010 (UTC)

301

Newydd ychwanegu 301 i'r RSS, gobeithio mae'r hen gyfeiriad RSS a'r RSS newydd yn gweithio. --Carlmorris 22:37, 15 Tachwedd 2010 (UTC)

cofrestr o flogiau

diweddaru cofrestr o flogiau (gyda llaw Rhys dylen ni creu'r syniad massif - "blogiadur" go iawn gyda phob blog ar tudalen arbennig! Categoriau, templed am dudalen, popeth, dw i'n cyffro nawr. Sa' i'n licio'r enw Cyfeirlyfr. Beth am lliw ac enw arbennig fel Yellow Pages?) --Carlmorris 15:27, 16 Tachwedd 2010 (UTC)

prawf! Fideobobdydd.com --Carlmorris 15:39, 16 Tachwedd 2010 (UTC)
Liciwn i helpu gyda hwn, ond mae'n rhwybeth gallawn dipio i mewn iddo fel mae amser yn caniatau. Baswn i'n newid enw'r categoriau i fod yn benodol ar gyfer y cyfeirlyfr/rhestr blogiau (e.g. newid [[Technoleg]] i [[Blog technoleg]]) rhag ofn i rhywun rhoi Technoleg fel categori ar dudalen arall ar hedyn sydd a dim i'w wnedu a'r rhestr blogiau.
Pethau faswn i'n ychwanegu at bod erthygl, unai fel cynnwys neu fel categori,
  • enw perchenog y blog,
  • ei genedl (gwryw, benywaidd, Wil Jil)
  • dyddiad geni'r blog (blwyddyn)
  • dyddiad cau'r
  • meddalwedd sy'n cael ei ddefnyddio (Worpress, Blogger, Nireblog)
  • lleoliad y blog (sir yng Nghymru, enw gwlad tu allan i Gymru)
  • Blog 'ametur' neu broffesiynol
Mwy i ddod. --Rhyswynne 09:37, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)
Diolch Rhys. Dw i'n gweld y gofrestr fel canllaw i flogiau/cynnwys sydd ar gael - "gweler hefyd". Syniadau eraill: rhywbeth am brojectau eraill gyda'r corpws/geiriau ac "archwiliad" o'r blogosphere Cymraeg. Beth wyt ti'n meddwl? Mae popeth yn dibynnu ar y pwrpas. Efallai dyn ni'n gallu colli rhai fel genedl, dyddiad cau (cysgu!) ar y tudalennau - mae categori yn well na cynnwys achos maen nhw yn opsiynol a maen nhw yn casglu blogiau gwahanol. e.e. ni'n gallu cael dolen i dudalen o bob blog WordPress, neu blogiau sydd wedi bod yn cysgu am mwy na blwyddyn. Dw i'n meddwl amdano fe fel Delicious am flogiau Cymraeg. Categoriau yma yw tagiau. Beth wyt ti'n meddwl? Gyda llaw efallai well i ni osgoi unrhyw beth dadleuol fel "amatur" ayyb achos mae'n creu/cadarnhau hierarchaeth. Beth yw'r "mwy i ddod"? --Carlmorris 10:43, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)
Nid ametur faswn i'n ddefnyddio, dw i ddim yn licio'r gair ametur chwaith, ond meddwl basai'n ddiddorol cael categori o flogiau profesiynol (ddim yn air da chwaith), sef rhai sy'n cael eu cadw gan bobl yn rhinewdd eu swydd, fel Vaughan Roderick, acadmwyr yn Mercator a Chanolfan Bedwyr a'r Llyfrgell Gen, blogiau gan gwmniau ac ati. Falle fydd hyn ddim o ddiddordeb i neb, (wel nid neb, mae o ddiddordeb i fi) ond pwy a wyr?
Cytuno mai categoriau = tagiau, doeddwn ddim yn glir. Wedi copio ac addasu fy awgrymaidau:
  • enw perchenog y blog (os yn cael ei ddatgan ar y blog) CYNNWYS YN UNIG
  • ei genedl (gwryw, benyw, Wil Jil, blog ar y cyd) (os yn cael ei ddatgan ar y blog) CYNNWYS + CATEGORI
  • dyddiad geni'r blog (blwyddyn) CYNNWYS + CATEGORI
  • dyddiad cau'r CYNNWYS + CATEGORI
  • meddalwedd sy'n cael ei ddefnyddio (Worpress, Blogger, Nireblog) CYNNWYS + CATEGORI
  • lleoliad y blog (sir yng Nghymru, enw gwlad tu allan i Gymru)(os yn cael ei ddatgan ar y blog) CYNNWYS + CATEGORI
  • Blog 'ametur' neu broffesiynol CYNNWYS + CATEGORI
--Rhyswynne 14:37, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)
Beth yw "cynnwys + categori"? Sa' i'n deall. --Carlmorris 00:48, 21 Rhagfyr 2010 (UTC)
Dw i'n meddwl mai'r peth hawsa fyddai i mi grweu cwpl o dudalennau fy hun a dangos felly. Wedi cael tua 10 blog, gallwn wenud tweaks wedyn a trio cytuno ar arddull safonol? Gwyliwch y gofod. --Rhyswynne 08:31, 5 Ionawr 2011 (UTC)
Diweddariad: Wedi dechrau yma. Cael bach o drafferth cael yr is-gategoriau yn nhrefn y wyddor. --Rhyswynne 09:15, 5 Ionawr 2011 (UTC)