Gweithrediadau

Sgwrs

Gwefannau Cymraeg colledig

Oddi ar Hedyn

Pa fath o wefannau a chategoreiddio

Dwi wedi canolbwyntio ar wefannau anfasnachol i ddechrau, er fod rhan fwyaf o wefannau Cymraeg yn anfasnachol mewn gwirionedd. Mi fydd yna rai gwefannau masnachol (gwybodaeth am gwmniau a busnesau) e.e. Sebon/Sadwrn. Dwi'n sicr y bydd yna nifer o wefannau coll gan y llywodraeth/cwangos neu ar gyfer prosiectau ariannwyd am gyfnod penodol (e.e. y wefan Cefn Gwlad, Bwrdd yr Iaith). A wedyn mi fydd yna brosiectau academaidd (e.e. Yn Y Ffram). Ac yna gwefannau gwleidyddol sydd yn dueddol o godi a diflannu yn eitha sydyn.

Os oes yna ddigon o bob sector, efallai fod angen rhannu nhw i adrannau ar wahan.

Mae yna lawer o wefannau syml a byr-hoedlog cafodd eu creu gan bobl yn eu llencyndod neu fel ran o brosiect ysgol, weithiau yn flog neu 'dudalen cartref'. Dwi ddim wedi cynnwys rhain eto ond efallai bo nhw werth rhestru ar wahan(er yn embaras falle i'r unigolion erbyn hyn). --DafyddT (sgwrs) 19:26, 13 Gorffennaf 2015 (BST)