Gweithrediadau

Sgwrs

Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012

Oddi ar Hedyn

Efallai rydyn ni'n gallu trio sgwrs yma yn hytrach na rhoi gormod ar y prif dudalen. --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Decor

Stondin-gwyl-dech-2012.jpg

Bydd angen pethau i addurno'r stondin. Dere ag unrhyw beth pert! Sori am y nodyn byr.. --Carlmorris (sgwrs) 16:31, 3 Awst 2012 (BST)

Blogwyr Bro Eisteddfod 2012

Beth sydd angen ei drefnu? Beth ydan ni eisiau ei gyflawni?

  • Ffurflen Gofrestru
  • Bathodyn Blogiwr Bro
  • Ffrwd RSS cyfun o gofnodion / lluniau / fideo
  • Tudalen(nau) gwybodaeth / amcanion
  • Tudalen canllawiau sylwebu / blogio
  • Tudalen teclynnau / offer blogio
  • Offer ar gyfer y maes: camerau Flip / ceblau ar gyfer ffonau symudol / cyfrifiaduron ar gyfer llwytho deunydd.
  • ...beth arall?

Enghraifft o sdwff allen ni efelychu: http://truenorthmediahouse.com/ << canolfan sylwebwyr cymdeithasol gemau olympaidd y gaeaf Vancouver 2010

Cwestiwn gan melynmelyn 2 Awst: ydy erthyglau Blogiwyr Bro yn cael eu cyhoeddi yn y lle cyntaf ar un gwefan/url neu yn cael eu agregeiddio(?) gyda'i gilydd mewn un man? Os agregeiddio, sut?

Ateb, eto gan melynmelyn 2 Awst: gweler http://blogwyrbro.com

melynmelyn, mae cofnodion newydd ac ambell i gofnod trwy agregu dynol (?). Does dim byd awtomatig. --Carlmorris (sgwrs) 14:25, 3 Awst 2012 (BST)

...

Sesiynau bore - sgyrsiau neu syrjeri cyfryngau digidol?

Dwi wedi cynnig ein bod ni ddim yn cynnal sgyrsiau 'ffurfiol' gyda chynulleidfa yn y bore ond yn hytrach yn rhoi amser rhydd ar gyfer galluogi pobol i ddod i drafod blogio, offer, cyfryngau cymdeithasol ac ati. Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw un penodol i arwain ar unrhyw sgyrsiau eto felly efallai byddai'n well i ni gael rhywbeth slot cyson bob bore sydd ar gael ar gyfer drop-in. Beth yw eich barn? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:54, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Sesiwn cyson ar gyfer dropio mewn. Cytuno. Bydd pobl eisiau rhywbeth ysgafn a chyfeillgar yn y bore dw i'n meddwl! Crwydro, trafod a thrio. --Carlmorris (sgwrs) 16:50, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Mae Sioned Mills yn dweud "Credu byddai'r syrjeri cyfryngau yn syniad ffab - 10-12 yn swnio'n iawn, mi allai fod yno am 3 diwrnod yn yr wythnos a'r dydd Sadwrn yn edrych ar ol rhain dwi'n credu, croesi bysedd bydd gwaith yn hapus! Allai edrych ar ol y tech wedyn i bobl sy isie cynnal gweithdai wordpress/blogio/cyfryngau digidol ac ati?" (Gofynnodd hi i mi bostio'r sylw...) --Carlmorris (sgwrs) 16:53, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Hacio’r Iaith – sesiwn agored amlgyfrannol ar dechnoleg, y Gymraeg a phopeth yn y canol

Eisiau trafod fformat y sesiynau yma. Mae Hacio'r Iaith yn Aberystwyth yn anghynhadledd/BarCamp sydd yn wych. Bydd y peth yn Steddfod yn neis os ydyn ni'n gallu cynnig teimlad tebyg. Wrth gwrs mae angen addasu achos mae'r digwyddiad yn wahanol. Ond sut? Ydyn ni'n bwriadu gwneud sesiynau bach o fewn y sesiwn Hacio'r Iaith? e.e. 10 munud i siarad am dy flog neu prosiect neu ymchwil ayyb. Roedd y fformat yn dda yn 2011 (mewn pabell Prifysgol Aber).

  • Prosiect cyfieithu hwn : http://www.internetdeclaration.org/
  • Os ydy'r sesiwn dal heb ei drefnu, byddwn i'n hoffi gwneud slot 10 munud i sôn am yr apiau ffôn symudol dan ni wrthi'n eu datblygu yn Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor. Divec (sgwrs) 13:44, 3 Awst 2012 (BST)
    Divec, wyt ti ar gael Dydd Gwener? Efallai rwyt ti'n gallu gwneud dy sesiwn cyn (neu ar ôl) sesiwn Mei Gwilym am apiau symudol? Fel arall mae'r amserlen yn mynd i fod yn eithaf hyblyg, bydd lot o gyfleoedd i wneud dy gyflwyniad. --Carlmorris (sgwrs) 14:36, 3 Awst 2012 (BST)
    Carlmorris: Byddai bore Gwener yn wych, ac mae gen i ddiddordeb mawr yn sesiwn Mei Gwilym hefyd. Diolch yn fawr. Divec (sgwrs) 15:00, 3 Awst 2012 (BST)

Wicipediwch! – sesiwn ymarferol ar gyfrannu at y gwyddoniadur rhydd

Dw i wedi ail-darganfod Wicipedia, diolch i Rhys Wynne a'r Golygathon. Edrych ymlaen! --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Aeth y Golygathon yn dda a dw i'n credu bydd sawl un o gyfranwyr cyson y Wicipedia yn bresenol. Af i'w atgoffa.--Rhyswynne (sgwrs) 21:50, 5 Gorffennaf 2012 (BST)
Do, gwnaeth pymtheg Defnydiwr gyfrannu o'r llyfrgell ac roedd yn werth chweil o ran cyfarfod yr hen enau - ac ambell un newydd. Cafwyd trafodaeth buddiol iawn ynglyn a chreu Bot Cymraeg i uwchlwytho erthyglau sydd wirioneddol eu hangen arnom yn otomatig. Mae'r bartneriaeth rhwng Wicipedia a Hacio'r Iaith yn un sy'n dechrau ffrwythloni.... Llywelyn2000 (sgwrs) 08:28, 19 Gorffennaf 2012 (BST)

Gwneud pr€$ digido£, y we Gymra€g ma$na¢ho£

Dw i'n meddwl bydd lot o ddiddordeb yn y sesiwn yma. --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

ai sgwrs gyda chynulleidfa fydd hwn ti'n meddwl neu sgwrs rhwng pawb? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:51, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Cawson ni trafodaeth llynedd am gyfieithu swyddogol. Dw i'n licio meic agored gyda rhywun i'w 'gadeirio'. Fel Pawb a'i Farn ond neis. Os fydd ychydig bach o bobl rydyn ni'n gallu anghofio'r cadeirydd. Ie. IE? --Carlmorris (sgwrs) 16:46, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Dw i dal eisiau gwneud y sesiwn yma. Dw i'n meddwl bydd lot o alw. Pwy arall sydd eisiau cymryd rhan? --Carlmorris (sgwrs) 17:43, 16 Gorffennaf 2012 (BST)
Mae na fodelau 'affiliate'yn bodoli y gall gweithio yn Gymraeg. E.e. eBay. Dim ond unwaith dwi (melynmelyn) 'di trio hwn yn Gymraeg: http://twtlol.co.uk/trysorau. Arbrawf yn unig; dwi heb moneteiddio hwn.

e-lyfrau

O'n i'n siarad gyda rhywun amlwg yn y byd cyhoeddu llyfrau dros y penwythnos. Fydd galw am sesiwn ar wahan i drafod e-lyfrau hefyd? Unrhyw un? Beth am ddydd Iau? --Carlmorris (sgwrs) 17:44, 16 Gorffennaf 2012 (BST)

Haclediad – recordiad byw o’r podlediad sy’n trafod technoleg

Wastad yn hwyl! --Carlmorris (sgwrs) 01:21, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

  • Dwi wedi newid yr amser i rhwng 12.00 a 13.30. Do'n i'm yn meddwl bysa chi isio mwy na awr a hannar. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 17:15, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Agor a chau'r stondin

Pwy fydd yn gyfrifol am agor a chau'r stondin bore a nos? Eleri James (sgwrs) 13:45, 17 Gorffennaf 2012 (BST)

Cwestiwn da, dylen ni penodi rhywun pob dydd ar yr amserlen. Dw i ddim 100% yn siwr beth sydd angen i'w wneud o ran gwarchodaeth, offer ayyb, gwnaf i ofyn pobl Eisteddfod. --Carlmorris (sgwrs) 17:53, 19 Gorffennaf 2012 (BST)
Eleri, dw i'n agor y stondin Dydd Sadwrn a Dydd Sul. Rydyn ni'n gallu cynllunio'r gweddill yr wythnos ar y maes. Gwnawn ni diweddaru'r amserlen yma. Diolch! --Carlmorris (sgwrs) 14:31, 3 Awst 2012 (BST)