Gweithredoedd

Iaith Byw Iaith Fyw

Oddi ar Hedyn

Cer i'r hanes y dogfen hon

Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dogfen Ymgynghori
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2010
Ymatebion erbyn: 4 Chwefror 2011
Rhif: WAG10-10631
Iaith fyw: iaith byw
Strategaeth ar gyfer y Gymraeg
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i
sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu. Bydd ein strategaeth
yn nodi gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer yr
iaith a’r hyn y bwriadwn ei wneud, ar y cyd â’n partneriaid,
i gynyddu’r niferoedd sy’n medru siarad a defnyddio’r
iaith. Rydym am sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n rhan
annatod o’n diwylliant a’n cymdeithas a’i bod yn ffynnu fel
cyfrwng iaith bob dydd.
Bydd ein strategaeth yn adeiladu ar lwyddiannau Deddf
yr Iaith Gymraeg 1993, gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg
a’i bartneriaid ac Iaith Pawb, sef Cynllun Gweithredu’r
Llywodraeth ar gyfer Cymru ddwyieithog a gyhoeddwyd
yn 2002. Mae hefyd yn adlewyrchu ymrwymiadau
Cymru’n Un, sy’n cynnwys rhoi cymhwysedd
deddfwriaethol ynghylch y Gymraeg i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru, cyflwyno Mesur arfaethedig y
Gymraeg (Cymru) a chyhoeddi ein Strategaeth Addysg
Cyfrwng Cymraeg.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau gan ddefnyddio’r cyfeiriadau
e-bost isod erbyn 4 Chwefror 2011. Gallwchh efyd
anfon eich sylwadau i’r cyfeiriad post a nodir isod.
Rhagor o wybodaeth a
dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn
print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Gallwch weld y ddogfen ymgynghori hon ar wefan
Llywodraeth Cynulliad Cymru:
www.cymru.gov.uk/ygymraeg
Manylion Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth:
Tîm y Strategaeth Iaith
Uned yr Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: strategaethiaith@cymru.gsi.gov.uk
Delwedd gyda charedigrwydd Urdd Gobaith Cymru.
Diogelu Data
Sut y byddwn yn defnyddio’r farn a’r
wybodaeth a roddwch inni
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei
weld yn llawn gan staff Llywodraeth y Cynulliad sy’n
gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn
ymdrin â nhw. Mae’n bosibl y bydd aelodau eraill o staff
Llywodraeth y Cynulliad yn gweld yr ymateb hefyd, er
mwyn eu helpu i gynllunio ymgyngoriadau ar gyfer
y dyfodol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cyhoeddi
crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl
hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn.
Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad)
yr unigolyn neu sefydliad a anfonodd yr ymateb yn
cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Mae hynny’n helpu i
ddangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol.
Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael
eu cyhoeddi, ticiwch y blwch isod. Byddwn wedyn yn
cuddio’ch manylion.
Mae’n bosibl y bydd yr enwau a’r cyfeiriadau y byddwn
wedi’u cuddio yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach,
er nad yw hynny’n debygol o ddigwydd yn aml iawn.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau
Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd
gael gweld gwybodaeth a gedwir gan lawer o gyrff
cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad.
Mae hynny’n cynnwys gwybodaeth sydd heb ei
chyhoeddi. Fodd bynnag, mae’r gyfraith hefyd
yn caniatáu i ni gadw gwybodaeth yn ôl dan rai
amgylchiadau. Os bydd unrhyw un yn gofyn am gael
gweld gwybodaeth a gadwyd yn ôl gennym, bydd rhaid
inni benderfynu a ydym am ei rhyddhau ai peidio.
Os bydd rhywun wedi gofyn inni beidio â chyhoeddi
ei enw a’i gyfeiriad, bydd hynny’n ffaith bwysig i ni ei
chadw mewn cof. Fodd bynnag, fe allai fod rheswm
pwysig dros orfod datgelu enw a chyfeiriad unigolyn, er
ei fod wedi gofyn i ni beidio â’u cyhoeddi. Byddem yn
cysylltu â’r unigolyn ac yn gofyn am ei farn cyn gwneud
unrhyw benderfyniad terfynol i ddatgelu’r wybodaeth.
F479 © Hawlfraint Y Goron 2010
Rhagair
Iaith Fyw: Iaith Byw
Strategaeth ar gyfer y Gymraeg
Mae'r Gymraeg yn rhan allweddol o hunaniaeth ddiwylliannol a chymeriad Cymru.
Mae'n helpu i'n diffinio ni fel cenedl - yn ein cymunedau, yn ein perthynas â ffrindiau
a theuluoedd ac fel unigolion. Ar y cyd â llawer o ieithoedd eraill, mae'n ffurfio rhan
o'r amrywiaeth gyfoethog sy'n llywio tirlun cymdeithasol y wlad hon, y DU ac Ewrop.
Dangosodd Cyfrifiad 2001 fod nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg wedi cynyddu, ond
erys sefyllfa'r iaith yn fregus. Mae angen i'r Llywodraeth wneud mwy nag erioed o'r
blaen i sicrhau bod yr iaith yn goroesi. Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau - mae'n rhaid i
ni warchod yn erbyn unrhyw gred fod digon yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddiogelu
ei dyfodol.
Mae bron iawn pawb sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn ei siarad yn feunyddiol,
ond mae angen rhagor o gyfleoedd arnynt i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar
eu bywydau. Mae byw ochr yn ochr ag un o'r ieithoedd cryfaf yn y byd yn her gyson,
ac felly hefyd gyflymder newidiadau technolegol a'u heffaith ar iaith leiafrifol. Yn
ogystal, mae prosesau ymfudo yn parhau i newid cymeriad ieithyddol cymunedau
Cymraeg eu hiaith mewn sawl rhan o Gymru. Mae hanes wedi profi y gall y defnydd
o'r iaith o fewn cymuned leihau'n eithriadol o gyflym, ac mae lleihad o'r fath i’w weld
mewn sawl rhan o Gymru heddiw.
Bydd ein strategaeth yn adlewyrchu gweledigaeth Llywodraeth sy'n benderfynol o
weld y Gymraeg yn ffynnu. Bydd yn adeiladu ar dros hanner can mlynedd o
ddatblygiadau sydd wedi codi statws deddfwriaethol a statws cymdeithasol yr iaith.
Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a llwyddiannau
Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'i bartneriaid. Mae llawer o'r rhain yn gweithio ar lawr gwlad
mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae twf addysg cyfrwng Cymraeg a datblygiad
parhaus cyhoeddi a darlledu cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sefydlu Cyngor Llyfrau
Cymru ac S4C, hefyd wedi chwarae rhan allweddol.
Mae'r cynigion sydd yn y ddogfen hon yn adlewyrchu'r cyd-destun deddfwriaethol
newydd a ddarperir gan Fesur y Gymraeg (Cymru). Bwriedir iddynt hefyd ategu
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill
2010, ac a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau y gall rhagor o'n
pobl ifanc siarad Cymraeg. Bu'n hymarfer ymgynghori Dweud eich dweud o gymorth
wrth ddatblygu'r ddogfen oherwydd y cafwyd ymatebion oddi wrth ystod eang o
sefydliadau ac unigolion. Rwyf yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am ei
gefnogaeth, ei awgrymiadau a’i gymorth i mi wrth lunio’r ddogfen hon. Bu
gweledigaeth y Bwrdd yn sail i’r gwaith o’i datblygu, ac mae’n cael ei chyhoeddi gyda
chefnogaeth y Bwrdd. Rwyf yn ddiolchgar i’r Bwrdd am rannu’r weledigaeth honno â
mi ac edrychaf ymlaen at drafod y ddogfen gyda chynifer o unigolion a sefydliadau
ag y bo modd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, byddwn yn wynebu ystod o heriau sy'n deillio o’r
ffaith bod llai o arian cyhoeddus ar gael. Bydd hyn yn golygu y bydd gofyn i ni graffu
mewn modd hyd yn fwy trylwyr ar y cymorth ariannol yr ydym yn ei roi i’r iaith. Mae'n
rhaid i ni edrych ar y sefydliadau a'r prosiectau yr ydym yn eu hariannu er mwyn
ceisio sicrhau ein bod yn gwneud defnydd mor effeithlon â phosibl o'n hadnoddau,
gan gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer yr iaith. Byddwn yn rhoi pwys mawr ar
ddefnydd creadigol o gyllid ac ar arloesi. Bydd pwyslais hyd yn oed cryfach ar
gydweithredu ac ar fathau newydd o waith partneriaeth a fydd yn cynnwys yr holl
sefydliadau sydd â rhan i'w chwarae wrth gynllunio gwell dyfodol ar gyfer yr iaith.
Ni ellir rhoi'r gorau i hyrwyddo'r Gymraeg a hwyluso'r defnydd ohoni hyd nes y bydd
sefyllfa'r economi'n gwella. Byddai gwneud hynny'n llesteirio'r momentwm sydd wedi
datblygu dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, gan beri niwed i'r iaith. Bydd sicrhau ffyniant
yr iaith yn parhau i fod yn un o amcanion strategol allweddol y llywodraeth ac o’r
herwydd, bydd yn parhau i gael blaenoriaeth.
Mae cefnogaeth gyhoeddus sylweddol i'r iaith ac mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn
ei hystyried yn gaffaeliad ac yn destun balchder. Mae trafodaethau ynghylch Mesur y
Gymraeg hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod cryn gefnogaeth i'r iaith ar draws
sbectrwm gwleidyddol Cymru. Mae gennym oll ran i'w chwarae wrth hyrwyddo'r iaith,
a gall gweithio mewn partneriaeth ein helpu i wireddu ein gweledigaeth o gynyddu'r
defnydd o'r Gymraeg, a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu parhau i
fwynhau defnyddio'r iaith.
Alun Ffred Jones AC
Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Y Weledigaeth
Gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yw ein gweledigaeth. Bydd y Llywodraeth
yn pennu'r agenda ac yn arwain wrth wireddu’r weledigaeth honno. Byddwn yn
cydweithio ag ystod eang o bartneriaid a fydd yn cyfrannu'n helaeth at sicrhau y caiff
ei gwireddu. I’r perwyl hwn, hoffem weld:
• Cynnydd yn nifer y bobl sy’n gallu siarad yr iaith ac sy’n ei defnyddio.
• Rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ynghyd â mentrau sy’n ceisio
cynyddu hyder pobl a’u rhuglder yn yr iaith.
• Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith pobl o werth y Gymraeg, fel rhan o’n
treftadaeth genedlaethol a hefyd fel sgìl bwysig mewn bywyd modern.
• Mentrau cyfeiriedig ar draws Cymru er mwyn cryfhau’r Gymraeg o fewn
cymunedau.
Bydd ein strategaeth yn adeiladu ar y weledigaeth a amlinellir yn Iaith Pawb: Cynllun
Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog a gyhoeddwyd yn 2003.
Creodd Iaith Pawb y fframwaith strwythurol ar gyfer Cymru gwbl ddwyieithog. Bydd
Iaith Fyw: Iaith Byw yn adeiladu ar y fframwaith hwn er mwyn cynyddu'r defnydd o'r
Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.
Wrth ddatblygu'n strategaeth, byddwn yn canolbwyntio ar gynyddu'r defnydd o'r
Gymraeg yn y gymuned, ymysg plant a phobl ifanc, yn y gweithle ac o fewn
gwasanaethau ar gyfer y dinesydd. Wrth wneud hynny byddwn yn ceisio cryfhau'r
seilwaith sy'n cefnogi defnydd o'r iaith.
Cyfle cyfartal
Mae cyfle cyfartal yn thema drawsbynciol sy'n allweddol i'r ddogfen hon ac i holl
bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ni ddylai unrhyw un, mewn unrhyw ran o
Gymru, fethu â manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg, nac
ychwaith fethu â manteisio ar gyfleoedd i ddysgu'r Gymraeg oherwydd eu hil,
ethnigrwydd, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd. Dylai
gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i bob cymuned, a dylai cymunedau allu
manteisio arnynt, gan gynnwys cymunedau difreintiedig a’r rheini sy'n cynnwys cryn
amrywiaeth ethnig. Byddwn yn disgwyl i'n partneriaid, ein darparwyr a'n rhanddeiliaid
gydnabod hyn mewn egwyddor a chymryd camau i'w wireddu. Bydd ein Strategaeth
yn cyfrannu at Strategaeth Prif Ffrydio Cydraddoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cynaliadwyedd
Bydd ein Strategaeth yn anelu at sicrhau cynnydd yn nifer y bobl sy’n medru’r
Gymraeg, ac yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn feunyddiol. Bydd hefyd yn
adeiladu ar yr ymdrechion sydd eisoes wedi'u gweld mewn cymunedau ar draws
Cymru er mwyn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith yn lleol, ac yn annog y cymunedau a'r
sefydliadau sy'n eu gwasanaethu i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg, gan hyrwyddo
cynaliadwyedd y Gymraeg fel iaith fyw o fewn y cymunedau hynny. Bydd hefyd yn
ategu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth wrth gynllunio ar gyfer
1
cynaliadwyedd, drwy sicrhau rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y
gweithle. Mae'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi sefydlu mesurau er
mwyn sicrhau bod gan weithlu'r dyfodol sgiliau yn y Gymraeg. Bydd ein Strategaeth
yn anelu at sicrhau bod ystod eang o sefydliadau'n ymateb drwy greu cyfleoedd i
siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r sgiliau hynny yn y gwaith.
Crynodeb o'r Meysydd Allweddol
• Creu Ardaloedd Hybu’r Gymraeg ar draws Cymru mewn partneriaeth ag
awdurdodau lleol, y Mentrau Iaith a sefydliadau eraill.
• Datblygu prosiect Trefi a Dinasoedd Dwyieithog er mwyn hyrwyddo'r
defnydd o'r iaith mewn lleoliadau trefol.
• Archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu Canolfannau Adnoddau Iaith
Rhanbarthol lle byddai llawer o sefydliadau sy'n ceisio hyrwyddo a
hwyluso'r Gymraeg yn cael eu lleoli gyda'i gilydd.
• Datblygu Cynllun Cyflawni'r Gymraeg ar gyfer y grwp oedran 0-5 oed.
• Gweithio gyda’r awdurdodau lleol i nodi ac i hysbysebu rhagor o gyfleoedd
gofal plant cyfrwng Cymraeg gyda'r nod o sicrhau bod y ddarpariaeth yn
bodloni'r galw.
• Datblygu mwy ar y fenter lle mae gweithwyr ieuenctid yr awdurdodau lleol,
ynghyd â gweithwyr ieuenctid a gyflogir gan asiantaethau eraill, yn codi
ymwybyddiaeth am y Gymraeg mewn ysgolion ac mewn lleoliadau
cymunedol.
• Cydweithio â phartneriaid er mwyn sicrhau bod ymwybyddiaeth iaith yn
dod yn rhan annatod o’r hyfforddiant a gynigir i weithwyr ieuenctid.
• Cyflwyno prosiect Bwrdd yr Iaith Gymraeg Cefnogi Arferion Iaith Pobl Ifanc
mewn rhagor o ysgolion a lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
• Datblygu ar y cyd â phartneriaid gynllun sy'n cynnig gweithgareddau
amrywiol yn y gymuned ar gyfer plant 9-13 oed.
• Cyhoeddi Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a
fydd yn anelu at gryfhau gwasanaethau dwyieithog yn y sector.
• Bod cyfarwyddiaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru a phob Corff a Noddir
gan Lywodraeth y Cynulliad yn prif ffrydio'r Gymraeg i’w gwaith datblygu
polisi a gwasanaethau.
• Wrth ddyfarnu grantiau a chontractau, byddwn yn cynnwys amodau, fel y
bo'n briodol, mewn perthynas â defnyddio'r Gymraeg. Wrth wneud hyn,
byddwn yn dilyn yr arweiniad yng nghanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar
ddyfarnu grantiau, Dyfarnu Grantiau, Benthyciadau a Nawdd, a'r
egwyddorion a nodir yn ei ganllawiau arfaethedig ar ddyfarnu contractau.
• Adolygu ac ailgyhoeddi TAN 20 gyda golwg ar ganiatáu i’r awdurdodau
lleol ddefnyddio Asesiadau Effaith Iaith at ddibenion cynllunio mewn
ardaloedd sydd dan bwysau oherwydd prinder tai.
2
• Ar y cyd â’r awdurdodau lleol ac eraill, ystyried ymateb i’r cysylltiadau
rhwng yr economi leol, cyflogaeth, tai, ymfudo a'r Gymraeg.
• Bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn y tymor byr, yn dechrau gweithio i sicrhau
y bydd gan 1,500 o fusnesau bolisïau gwirfoddol ynghylch y Gymraeg
erbyn mis Mawrth 2015*.
• Bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystyried datblygu nod siarter er mwyn
cydnabod llwyddiant o ran defnyddio'r Gymraeg mewn busnes.
• Sefydlu Gweithgor Rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith strategol
cyffredinol er mwyn gweithredu’r cynigion sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn y
gweithle.
• Hyrwyddo datblygiad rhaglenni Cymraeg i Oedolion a fydd yn cael eu
targedu at weithleoedd er mwyn cynnig cymorth i bobl ddefnyddio’r iaith ac
er mwyn iddynt fagu hyder ynddi.
• Erbyn 2016, rhoi cynlluniau gweithredu y Gymraeg yn y Gweithle ar waith
ar draws ein holl swyddfeydd, gan wneud hynny ar sail yr arferion gorau a
gaiff eu mabwysiadu yn ein swyddfeydd yn Llandudno ac Aberystwyth.
• Archwilio potensial llyfrau electronig yn y Gymraeg.

Mae'r potensial yn bodoli yn bendant! Dylai'r cwmniau cyhoeddi jyst mynd ymlaen. Does dim rhaid i'r Llywodraeth wneud dim byd heblaw hyrwydddo'r ffaith bod y cyfle yn bodoli. --Carlmorris 10:41, 29 Ionawr 2011 (UTC)

• Ystyried datblygu adnoddau ychwanegol yn y Gymraeg ym maes
cyfryngau digidol rhyngweithiol, gan ganolbwyntio ar anghenion plant a
phobl ifanc.
• Rhoi cymorth i ddatblygu darllediadau Cymraeg ar bob platfform a
chydweithio â darlledwyr i sicrhau y gall eu cynnwys gyfrannu at roi'n
strategaeth ar waith.
• Archwilio ar y cyd ag S4C a'r sector Cymraeg i Oedolion y posibilrwydd o
ddatblygu adnoddau i ddysgwyr Cymraeg.
• Ystyried y posibilrwydd o gynyddu nifer y rhaglenni Cymraeg ar orsafoedd
radio masnachol ar draws Cymru.
• Sefydlu Corff Safoni Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg.
• Archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno strwythur achredu a rheoleiddio, gan
gynnwys nod siarter, er mwyn sicrhau safonau'r cyfieithwyr sy'n cynnig
gwasanaeth cyfieithu Cymraeg/Saesneg.
• Ystyried sefydlu prosiect peilot mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau er
mwyn datblygu cynllun cyfieithu cymunedol.
• Gwahodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatblygu Cynllun Gweithredu
Technoleg Iaith hirdymor i sicrhau y parheir i roi lle i'r Gymraeg yn y maes
hwn.
• Archwilio’r posibilrwydd o osod meddalwedd a rhyngweithiau Cymraeg ym
mhob gweithfan ym mhob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.
* Bydd y cyfrifoldeb dros waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cael ei drosglwyddo i Gomisiynydd y
Gymraeg neu’r Lywodraeth Cynulliad Cymru pan fydd y Bwrdd yn cael ei ddiddymu.
3
2. Y Cefndir
2.1 Y Gymraeg: Rhuglder a Defnydd
Yn ddiamau, y Gymraeg yw un o ieithoedd lleiafrifol mwyaf cadarn Ewrop. Mae ei
sefyllfa yn destun eiddigedd i grwpiau iaith eraill, gan fod ei dylanwad diwylliannol a'i
thraddodiadau yr un mor berthnasol heddiw a chan fod cenedlaethau newydd yn eu
dathlu. Mae'r ffaith bod yr iaith wedi goroesi ochr yn ochr ag un o'r ieithoedd mwyaf
dylanwadol yn y byd yn dyst i ymroddiad siaradwyr Cymraeg.
Dangosodd ganlyniadau Cyfrifiad 2001 fod 20.8% o boblogaeth Cymru yn gallu
siarad Cymraeg (582,400 o bobl). Roedd yn ganran uwch na'r un a nodwyd yng
Nghyfrifiad 1991 (18.7% a 508,100 o bobl). Dyma hefyd y cynnydd cyntaf o ran
canran yn nifer y siaradwyr Cymraeg i'w gofnodi erioed gan Gyfrifiad. Roedd y
cynnydd mwyaf ymysg pobl ifanc rhwng 5 a 15 oed.
Eto i gyd, dylid trin y ffigurau hyn yn ofalus. Ymddengys fod dros hanner o'r bobl
ifanc hyn rhwng 5 a 15 oed yn dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng
Saesneg. O'r herwydd cyfyng fydd eu hymwneud â'r iaith, ynghyd â lefel eu rhuglder
o'u cymharu â phlant sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Ychydig dros hanner (58%) o'r rheini a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg sy'n
eu cyfrif eu hunain yn siaradwyr rhugl. O blith y rheini sy'n dweud eu bod yn
siaradwyr rhugl, mae'r rhan fwyaf yn defnyddio'r iaith yn feunyddiol. Yr her a
wynebwn yw creu cyfleoedd i bawb sy'n siarad Cymraeg, pa mor rhugl bynnag
ydynt, ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar eu bywyd a'u hannog i wneud hynny.
Mae cynaliadwyedd yr iaith yn ei broydd Cymraeg traddodiadol yn destun cryn ofid.
Mae ymfudo wedi cael cryn effaith ar yr ardaloedd hyn. Mae llawer o bobl ifanc sy'n
siarad Cymraeg wedi gadael eu cymunedau i geisio gwaith mewn ardaloedd trefol,
ac mae pobl nad ydynt yn medru’r Gymraeg wedi mewnfudo i'r cymunedau hyn.
Gwnaeth proffil daearyddol y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2001 gadarnhau'r patrwm
hwn, gan fod canran y siaradwyr Cymraeg wedi lleihau mewn broydd Cymraeg
traddodiadol fel Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a
Sir Ddinbych.
Bydd ein strategaeth yn mynd i'r afael â'r heriau sylweddol hyn y mae'r Gymraeg yn
eu hwynebu.
Ceir rhagor o fanylion ynghylch proffil ystadegol y Gymraeg yn Atodiad A.
2.2 Mesur y Gymraeg a statws swyddogol yr iaith
Bydd Mesur y Gymraeg (Cymru) yn cadarnhau statws y Gymraeg fel iaith swyddogol
yng Nghymru. Dylai hyn fod o gymorth wrth gynyddu hyder siaradwyr Cymraeg sy'n
dymuno defnyddio'r iaith wrth ymwneud â'r sector cyhoeddus, a bydd hefyd yn cyfleu
neges glir i sefydliadau'r sector cyhoeddus o ran y statws hwnnw.
Bydd y Mesur hefyd yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg a fydd â'r pwer
cyffredinol i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac i weithio tuag at sicrhau
nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Bydd ystod y
4
gwasanaethau sydd ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru yn gwella o ganlyniad i’r
Mesur. Caiff hyn ei gyflawni drwy greu safonau a fydd yn rhoi dyletswyddau i
sefydliadau o ran:
• Darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.
• Ystyried effaith penderfyniadau polisi ar y Gymraeg.
• Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
• Hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang.
• Cadw cofnodion ynghylch cydymffurfio â safonau ac ynghylch cwynion.
Bydd gan y Comisiynydd hefyd bwerau sylweddol i orfodi cydymffurfiaeth â safonau.
Bydd y safonau hyn yn arwain at sefydlu hawliau a fydd yn golygu bod siaradwyr
Cymraeg yn gallu derbyn y gwasanaethau hynny yn y Gymraeg. Ceir rhagor o
fanylion ynghylch Mesur y Gymraeg a gwaith y Comisiynydd yn Atodiad B.
Un ochr yn unig o'r geiniog yw darparu gwell gwasanaethau Cymraeg. Ar yr un pryd,
mae'n rhaid i ni sicrhau bod rhagor o bobl yn manteisio ar y gwasanaethau hynny.
Ers cyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg ym 1993, dim ond ychydig o waith sydd wedi'i
wneud i hyrwyddo'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael. Gall hyn arwain at lefelau
isel o ymwybyddiaeth a gall olygu nad yw nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yn
manteisio ar y gwasanaethau. Yn ogystal, mae angen gwella ansawdd rhai
gwasanaethau Cymraeg. Un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer y rhan fwyaf o siaradwyr
Cymraeg yw gwasanaeth wyneb yn wyneb yn y Gymraeg, ond yn aml nid yw hyn ar
gael. Gall profiad gwael i'r defnyddiwr arwain at golli hyder yng ngallu'r sefydliad dan
sylw i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.
Yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg, gall hyn greu camargraff o ran y galw am
wasanaethau Cymraeg. Serch hynny, er 2007 mae ystod o gyrff cyhoeddus wedi
hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg, gan ddefnyddio ymgyrch Mae gen ti ddewis...
y Bwrdd. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o hyd at 50% yn y defnydd o rai
gwasanaethau. Mae angen i'r gwaith hwn gael ei ddatblygu a'i fabwysiadu gan ragor
o sefydliadau.
2.3 Addysg cyfrwng Cymraeg
Mae gan bob person ifanc yng Nghymru rhyw fath o afael ar y Gymraeg, yn sgil y
system addysg a'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Darparu addysg cyfrwng
Cymraeg sydd wedi ysgogi'r cynnydd mwyaf o ran nifer y bobl ifanc sy'n rhugl ac yn
hyderus wrth ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg. Rydym bellach mewn sefyllfa lle gall
mwy o bobl ifanc siarad yr iaith nag ers cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae'n sylfaen wych ar
gyfer y dyfodol.
Mae dyfodol yr iaith yn nwylo ein plant a'n pobl ifanc. Gwnaeth Strategaeth Addysg
Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2010 amlinellu'r rôl
allweddol y mae'r system addysg yn ei chwarae a sut yr ydym yn bwriadu
atgyfnerthu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
5
Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth yn pwysleisio pa mor
bwysig yw hi i roi rhagor o gyfleoedd i bobl o bob oedran ddysgu Cymraeg ar draws
pob sector addysg. Serch hynny, bydd ein strategaeth iaith yn cydnabod bod
penderfyniadau allweddol ynghylch y defnydd o iaith yn cael eu gwneud yn gynnar
iawn ym mywydau plant, ac y gall plant ddysgu ail iaith yn gymharol ddidrafferth yn
ystod eu blynyddoedd cynnar. Byddwn yn datblygu polisïau iaith a fydd yn ymdrin â'r
cyfnod pwysig hwn ym mywydau plant y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt
ynghyd â'r rheini sy'n ei dysgu fel ail iaith neu hyd yn oed drydedd iaith
Er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu, bydd angen i ni feddwl am ffyrdd mwy
effeithiol o sicrhau bod dinasyddion yn gwneud rhagor o ddefnydd ohoni yn eu
bywydau beunyddiol. Bydd ein strategaeth yn canolbwyntio ar yr angen i gefnogi a
hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc y tu allan i'r ystafell
ddosbarth a’r tu allan i amgylchedd yr ysgol, pa mor rhugl bynnag ydynt.
2.4 Cynyddu hyder a rhuglder
Mae rhuglder a hyder yn mynd law yn llaw. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Fwrdd
yr Iaith Gymraeg wedi dangos yn gwbl glir po fwyaf rhugl yw pobl yn y Gymraeg,
mwyaf tebygol ydynt o'i defnyddio. Awgryma hyn y byddai rhagor o fentrau i gynyddu
hyder a rhuglder, ynghyd â gwell cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, yn arwain at gynnydd
yn y defnydd cyffredinol o'r Gymraeg. Bydd ein strategaeth yn ceisio sicrhau cynifer
o gyfleoedd â phosibl i bobl siarad Cymraeg, gan y bydd hynny'n eu gwneud yn fwy
rhugl ac yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r iaith. Byddwn yn ceisio'r cyfleoedd hyn i
gynyddu hyder a rhuglder mewn sawl maes - ar gyfer pobl ifanc y tu allan i oriau
ysgol; ar gyfer rhieni mewn sefyllfaoedd cymdeithasol; ar gyfer pobl yn eu
gweithleoedd; ac wrth i wasanaethau gael eu darparu gan y sector cyhoeddus, y
sector preifat a'r trydydd sector. Ein nod yw y bydd hyn, yn ei dro, yn arwain yn
uniongyrchol at gynnydd yn y defnydd o'r iaith ymysg y siaradwyr hyn.
3. Y Gymraeg yn y Gymuned
Caiff y Gymraeg ei siarad ym mhob rhan o Gymru; mae ganddi draddodiadau
diwylliannol a llenyddol amrywiol sy'n parhau i gael eu dathlu a'u datblygu gan bobl
ifanc heddiw. Rydym yn ffodus fod gennym lu o wirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed
drwy sefydliadau cymunedol fel Merched y Wawr, Mudiad Ysgolion Meithrin, y
papurau bro, y Mentrau Iaith, eisteddfodau, yr Urdd, Clybiau Ffermwyr Ifanc, corau a
chlybiau diwylliannol er mwyn sicrhau sin gymdeithasol sy'n llawn bwrlwm ar gyfer y
Gymraeg.
Er mwyn i’n strategaeth lwyddo, bydd angen i'r holl sefydliadau hyn a sefydliadau
eraill, ynghyd â'r llywodraeth ac awdurdodau lleol, weithio mewn partneriaeth er
mwyn cefnogi, meithrin a datblygu'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw. Er mwyn
hwyluso'r dull partneriaeth hwn, bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn parhau i gydlynu
fforymau iaith lleol fel y gall y rheini sy'n derbyn grantiau rannu arferion da a threfnu
gweithgareddau ar y cyd. Drwy rannu arferion da, bydd y sefydliadau hyn yn gallu
gwella sgiliau’r sylfaen fawr o wirfoddolwyr, gan felly ddatblygu arweiniad cymunedol
cadarn.
6
Mae gennym enghreifftiau da o fentrau cynllunio ieithyddol lleol yng Nghymru. Mae
22 o Fentrau Iaith yn cydlynu ac yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn lleol. Credwn
fod y Mentrau yn bartneriaid pwysig mewn perthynas â gweithredu'n strategaeth. O'r
herwydd, mae angen iddynt meddu ar strwythur cadarn er mwyn rheoli a datblygu eu
gwaith ar lefel strategol a chenedlaethol. Rydym hefyd am weld y Mentrau ar draws
Cymru yn darparu gwasanaeth cyson a phroffesiynol. Byddwn yn parhau i gefnogi'r
Mentrau Iaith ynghyd â sefydliadau cymunedol eraill sy'n hyrwyddo cyfleoedd i
ddefnyddio'r iaith ar lefel gymunedol. Mae hyn yn cynnwys y 54 o bapurau bro sydd,
ar y cyd, yn cael eu darllen gan oddeutu 130,000 o bobl. Maent yn chwarae rhan
allweddol yn eu cymunedau drwy dynnu sylw at ddigwyddiadau a gweithgareddau
sydd o ddiddordeb i siaradwyr Cymraeg. Bydd angen i ni hefyd sicrhau bod y gwaith
y mae pob un o'r sefydliadau hyn yn ei wneud mor effeithiol â phosibl a bod y cyllid y
maent yn ei dderbyn yn cael ei bennu ar lefel briodol, i'r graddau y mae hynny'n
bosibl, er mwyn sicrhau effaith ym mhob rhan o Gymru.
3.1 Ardaloedd Hybu’r Gymraeg, Canolfannau Adnoddau Iaith a
Threfi a Dinasoedd Dwyieithog
Mae cymunedau gwledig yng Nghymru, lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg,
yn newid. Un o'r prif anawsterau y mae’r Gymru fodern yn ei wynebu yw'r newid
demograffig sy'n mynd rhagddo yn y wlad. Mae prosesau ymfudo, cyfleoedd gwaith
cyfyngedig a chyflenwad cyfyngedig o dai fforddiadwy wedi cael effaith sylweddol ar
broffil demograffig ac ieithyddol llawer o gymunedau ac mae'n rhaid i ni geisio
gwyrdroi'r tueddiad hwn er mwyn ceisio cynnal cymunedau Cymraeg cynaliadwy.
Mae'r Llywodraeth yn awyddus i geisio adeiladu ar weithgareddau sydd eisoes
yn bod, gan gynnwys Cynlluniau Gweithredu Iaith lleol Bwrdd yr Iaith Gymraeg
a gwaith y Mentrau Iaith, er mwyn datblygu Ardaloedd Hybu’r Gymraeg.
Bydd y rhain yn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol arbennig lle mai'r Gymraeg yw
prif iaith bywyd beunyddiol, neu lle’r oedd yn brif iaith tan yn gymharol ddiweddar,
ond lle mae bellach, oherwydd ffactorau economaidd-gymdeithasol, dan fygythiad, o
fewn teuluoedd ac yn y gymuned yn gyffredinol. Ein bwriad yw datblygu mentrau
cynllunio ieithyddol dwys a phenodol a fydd yn ysgogi camau gweithredu strategol,
gan wyrdroi'r newid ieithyddol. Drwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol,
sefydliadau'r trydydd sector ac asiantaethau lleol sy'n ymwneud ag adfywio
cymunedol ac economaidd, byddwn yn ceisio sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif
ffrydio fwyfwy yn eu gwaith, ar draws pob sector.
Bydd yr heriau penodol yn amrywio o ardal i ardal ond maent yn debygol o gynnwys
materion fel tai fforddiadwy; diffyg cyfleoedd gwaith; nifer isel o rieni'n trosglwyddo'r
Gymraeg i'w plant; statws isel yr iaith o fewn y gymuned; diffyg cyfleoedd i
ddefnyddio'r iaith, a mewnfudo ac allfudo. Ym mhob ardal byddai angen i'r holl
asiantaethau perthnasol gydweithio er mwyn cytuno sut i fynd i'r afael â'r
blaenoriaethau y maent wedi'u pennu, gan geisio ymdrin â'r heriau hyn. Un amcan
allweddol fydd cynyddu gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol cyfrwng
Cymraeg ar draws yr ardaloedd hyn. Mae'n rhaid i'r gwaith o wella seilwaith
cymdeithasol ac economaidd yr ardaloedd hyn hefyd fynd law yn llaw ag adnewyddu
ieithyddol, er mwyn helpu i sicrhau bod gwell cyfleoedd gwaith a rhagor o dai
fforddiadwy ar gael fel y gall pobl aros yn eu cymunedau.
7
Bydd Mesur y Gymraeg (Cymru) yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod
dyletswyddau ar awdurdodau lleol i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn fwy eang,
ynghyd â dyletswydd i baratoi strategaethau neu gynlluniau yn amlinellu sut y maent
yn bwriadu gwneud hynny. Gallai'r rhain gyfrannu at y gwaith a gaiff ei wneud ar
Ardaloedd Hybu’r Gymraeg.
Mae'n bosibl y bydd rhai Ardaloedd Hybu’r Gymraeg strategol yn croesi ffiniau
awdurdodau lleol a bydd gofyn cydweithio a rhannu diben cyffredin.
Gall llawer o'r sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg fod yn
rhan o'r cynllun hwn, a gellir blaenoriaethu cyllid sydd eisoes yn cael ei ddarparu er
mwyn helpu i weithredu’r cynllun. Bydd hi’n bwysig cysylltu’r gweithgareddau hyn â
rhaglenni Cymraeg i Oedolion APADGOS er mwyn annog a chynorthwyo pobl i
ddysgu’r iaith ac er mwyn iddynt fagu hyder o ran defnyddio’r iaith.
Wrth i gymunedau gwledig newid, mae newid demograffig hefyd yn mynd rhagddo o
fewn dinasoedd a threfi Cymru. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg mewn dinasoedd, yn
enwedig Caerdydd, wedi cynyddu'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Deillia hyn
yn bennaf o'r ffaith bod pobl ifanc yn mynychu sefydliadau addysg uwch ac yn
chwilio am waith. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i gydnabod y newid hwn drwy
ddatblygu prosiect i hyrwyddo Trefi a Dinasoedd Dwyieithog.
Mae angen model datblygu cymunedol o fath gwahanol mewn dinasoedd a threfi
mawr, fel Caerdydd, Abertawe, Bangor a Wrecsam, lle mae canran y siaradwyr
Cymraeg yn gymharol isel, o bosibl, ond lle mae nifer y siaradwyr yn sylweddol, a
hefyd, lle mae'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy amrywiol a niferus nag
ydynt mewn llawer o gymunedau gwledig. Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar y
gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan y Mentrau Iaith, yr awdurdodau lleol ac
eraill yn yr ardaloedd hyn.
Prif ddiben y cynllun hwn fydd cefnogi a gwella'r rhwydweithiau presennol ar gyfer
defnyddio'r Gymraeg; creu rhwydweithiau newydd; manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd
sy'n deillio o gyfryngau newydd a rhwydweithio cymdeithasol, a chynyddu'r
ymwybyddiaeth o'r rhwydweithiau hyn ymysg teuluoedd ac unigolion sy'n siarad
Cymraeg, â'r nod o gynyddu'r defnydd o'r iaith. Bydd yn targedu siaradwyr Cymraeg
a'r rheini sy'n dymuno dysgu Cymraeg o fewn y cyd-destun trefol. Bydd hefyd yn
ceisio darbwyllo rhieni sydd wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol i siarad Cymraeg â'u
plant ac yn annog plant a phobl ifanc mewn addysg cyfrwng Cymraeg i ddefnyddio'r
iaith yn y gymuned. Dylai'r cynllun hefyd greu proffil uchel i ddwyieithrwydd yn y trefi
a'r dinasoedd perthnasol. Mae llawer o'r sefydliadau a fydd yn rhan o'r cynllun yn
cael cyllid oddi wrth Fwrdd yr Iaith Gymraeg a gellir blaenoriaethu’r cyllid hwnnw er
mwyn helpu i weithredu’r cynllun.
Ar y cyd â'r gweithgareddau hyn byddwn yn archwilio’r posibilrwydd o
ddatblygu Canolfannau Adnoddau Iaith Rhanbarthol. Credwn y gallai’r prif
asiantaethau sy'n ceisio hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn llawer o
ardaloedd yng Nghymru elwa ar gael eu lleoli o dan yr un to. Gallai hyn annog yr
asiantaethau hyn i weithio mewn partneriaeth a’u cynorthwyo i wneud hynny, a
byddai hefyd yn annog unigolion a theuluoedd i wneud rhagor o ddefnydd o'r
gwasanaethau sydd ar gael. Mae rhai o'r gwasanaethau a allai gael eu darparu yn y
8
canolfannau hyn yn cynnwys gwybodaeth am weithgareddau ar ôl ysgol yn y
Gymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc; dosbarthiadau dydd a nos ar gyfer dysgwyr
Cymraeg; cymorth â llenwi ffurflenni yn y Gymraeg; gwybodaeth am adnoddau
addysg Cymraeg a gwybodaeth am weithgareddau cymdeithasol Cymraeg yn yr
ardal. Bydd yn rhaid i'r model hwn gael ei ystyried yn unol ag amgylchiadau a
blaenoriaethau lleol penodol. Mae’n amlwg na fydd yr un math o fodel yn addas i bob
ardal gan y bydd anghenion pob ardal yn amrywio. Gallai'r model hwn hefyd arwain
at arbedion ariannol yn yr hirdymor gan y gallai gwahanol sefydliadau rannu
adnoddau a lleihau gorbenion.
Bydd y Llywodraeth yn prif ffrydio'r iaith mewn cynlluniau datblygu cymunedol
a chynlluniau adfywio cymunedol yng Nghymru. Er enghraifft, bydd gofyn i
bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf brif ffrydio'r iaith yn eu rhaglenni gwaith yn
unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd yn 2007. Mae’r canllawiau hynny’n nodi y bydd
disgwyl i bob un o’r Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf gyfrannu, yn eu ffyrdd eu
hunain, at y nod o greu Cymru ddwyieithog. Rydym yn cydnabod y bydd maint
cyfraniad y Partneriaethau yn hyn o beth yn dibynnu ar yr amgylchiadau ieithyddol
yn yr ardal dan sylw. O ran Strategaethau Cymunedol, byddwn yn cyhoeddi
canllawiau er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol a’u partneriaid i hwyluso cynnydd
yn y defnydd o'r Gymraeg. Byddwn hefyd yn annog ein partneriaid grant i
gydweithio'n agos â phartneriaid eraill y Llywodraeth er mwyn hwyluso'r gwaith hwn.
Dyma nodau arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas â datblygu'r defnydd o'r
Gymraeg yn y gymuned:
• Creu Ardaloedd Hybu’r Gymraeg ar draws Cymru, mewn partneriaeth ag
awdurdodau lleol, y Mentrau Iaith a sefydliadau eraill.
• Datblygu prosiect Trefi a Dinasoedd Dwyieithog er mwyn hyrwyddo'r
defnydd o'r iaith mewn lleoliadau trefol.
• Archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu Canolfannau Adnoddau Iaith
Rhanbarthol lle byddai llawer o sefydliadau sy'n ceisio hyrwyddo a
hwyluso'r Gymraeg yn cael eu lleoli gyda'i gilydd.
• Parhau i gefnogi gwaith y Mentrau Iaith a sefydliadau cymunedol eraill.
• Gweld gwaith partneriaeth yn parhau i gael ei hwyluso drwy’r fforymau
iaith lleol.
C1: A oes gweithgareddau, ac eithrio'r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy er
mwyn datblygu'r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru?
C2: A ydych chi'n cytuno â'r nodau arfaethedig?
3.2 Trosglwyddo'r iaith
Mae trosglwyddo'r iaith o’r naill genhedlaeth i'r llall yn un o'r ddau faes pwysicaf ym
maes cynllunio ieithyddol - addysg yw'r llall. O'r herwydd, cynyddu'r defnydd o'r
Gymraeg o fewn teuluoedd yw un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth ar gyfer
diogelu dyfodol y Gymraeg.
9
Mae trosglwyddo'r iaith o fewn y teulu hefyd yn fater cymunedol, gan fod cyd-destun
cymdeithasol ehangach i'r defnydd o iaith. Mae hwn yn fater allweddol o fewn
cymunedau dwyieithog er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau'n iaith gymunedol
sy'n ffynnu. Nid yw'r Gymraeg yn debygol o ffynnu fel iaith gymunedol a
chymdeithasol os yw'n dibynnu ar y system addysg yn unig fel ffordd o alluogi
siaradwyr newydd i ddysgu'r iaith. Mae angen iddi fod yn iaith y cartref i gynifer o
blant â phosibl, ac yn ddiamau, mae dysgu'r iaith yn y modd hwn yn ffordd naturiol o
ddatblygu'n siaradwr Cymraeg rhugl.
Yn ôl Cyfrifiad 2001, mewn teuluoedd lle’r oedd y ddau riant yn siarad Cymraeg,
roedd 82% o blant 3-4 oed yn gallu siarad yr iaith, ond nid yw hyn ond yn cyfrif am
7% o'r grwp oedran hwn. Mewn teuluoedd lle’r oedd un rhiant yn siarad Cymraeg,
39% o'r plant hyn oedd yn gallu siarad yr iaith. Mae hyn yn creu her enfawr, ac
mae'n rhaid gwyrdroi dirywiad o ran y Gymraeg mewn teuluoedd er mwyn sicrhau
bod yr iaith yn goroesi ac yn ffynnu.
Gall ystod eang o ffactorau ddylanwadu ar benderfyniadau rhieni ynghylch
trosglwyddo iaith ac mae angen ystyried y rhain i gyd.
3.2.1 Y grwp oedran 0-5
Gwnaeth nifer o bobl a ymatebodd i'n hymarfer Dweud eich dweud alw am ddull
mwy cyfannol a chydgysylltiedig o weithredu gan asiantaethau allanol wrth iddynt
ddarparu ar gyfer plant, o'u geni hyd nes y byddant yn 5 oed. Mae'n fwriad gennym
ddatblygu Cynllun Cyflawni'r Gymraeg ar gyfer y grwp oedran 0-5 oed, a
fyddai'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr o'r sectorau iechyd ac addysg, Mudiad
Ysgolion Meithrin, darparwyr Cymraeg i Oedolion, S4C, y Mentrau Iaith ac
eraill.
Byddwn yn sefydlu gweithgor i ddatblygu cynllun a fyddai'n arwain at ymdrech fwy
pendant ac unedig rhwng gweithgareddau sydd wedi’u hanelu’n bennaf at
hyrwyddo'r Gymraeg. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys y prosiect Twf (gweler
isod), gwaith Mudiad Ysgolion Meithrin, y rheini sydd â chylch gwaith ehangach, fel
menter Dechrau'n Deg y Llywodraeth, ac ystod o wasanaethau a gynhelir gan
ddarparwyr y blynyddoedd cynnar. Mae gan wasanaeth S4C ar gyfer plant bach,
Cyw, hefyd ran bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau
cyn ysgol a lleoliadau meithrin ac mae angen ei gynnwys yn y dull partneriaeth yr
ydym am ei datblygu ar gyfer y grwp oedran hwn. Mae angen i ni sicrhau bod plant o
deuluoedd sy'n siarad Cymraeg yn parhau i wella eu sgiliau cyfathrebu. Mae’n bosibl
y bydd Cynllun Cyflawni'r Gymraeg ar gyfer y grwp oedran 0-5 yn cynnwys mentrau
fel cynlluniau mentora teuluoedd; cynnwys y teulu estynedig yn y broses o gaffael
iaith, megis y mentrau Cymraeg i deuluoedd sy’n cael eu cynnig eisoes yn y
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg; a hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth iaith ar
gyfer gweithwyr gofal cyn ysgol.
Y flaenoriaeth uchaf o fewn y grwp oedran 0-5 oed yw bod angen rhoi rhagor o
bwyslais ar gyfleoedd gofal plant ychwanegol, fel bod gofal plant cyfrwng Cymraeg
ar gael yn ddidrafferth i rieni o fewn cyrraedd hawdd i'w cartrefi neu eu gweithleoedd.
Mae darpariaeth o'r fath yn brin ar hyn o bryd. O'r herwydd, byddwn yn ceisio
ehangu’r cyfleoedd gofal plant sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan
10
gynnwys gwneud hynny drwy annog yr awdurdodau lleol i nodi a hysbysebu
darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan fynd ati ar yr un pryd i geisio dod o hyd i
ffyrdd i fodloni’r galw am ddarpariaeth o’r fath.
Mae angen annog rhieni plant ifanc iawn i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer
eu plant, ac mae angen iddynt fod yn ymwybodol o fanteision dwyieithrwydd. Mae
casgliad cynyddol o ymchwil academaidd yn dangos bod plant dwyieithog yn
perfformio'n well yn yr ysgol; yn gallu cyflawni ystod o dasgau yn well na phlant sy'n
siarad un iaith; yn meddu ar well sgiliau llythrennedd ac yn gallu dysgu ieithoedd
eraill yn haws. Mae ymchwil yn dangos hefyd fod siarad dwy iaith yn gallu gohirio
effeithiau heneiddio ar yr ymennydd.1
Ar yr un pryd, mae angen datblygu rhagor o adnoddau Cymraeg ar gyfer plant ifanc,
gan gynnwys llyfrau, comics, DVDs, gwefannau rhyngweithiol a rhaglenni teledu, er
mwyn cynorthwyo rhieni i ddysgu'r iaith i'w plant.
Drwy APADGOS, byddwn yn annog darparwyr Cymraeg i Oedolion i ddarparu
cyrsiau sydd wedi'u teilwra ar gyfer rhieni a darpar rieni nad ydynt yn hyderus
ynghylch eu sgiliau iaith, er mwyn gwella eu Cymraeg yn ddigon cyflym iddynt fedru
ei defnyddio gyda'u plant. Yn ogystal, mewn partneriaeth â Bwrdd yr Iaith Gymraeg,
canolfannau Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith ac eraill, byddwn yn ceisio
cynyddu hyder rhieni i ddefnyddio'r Gymraeg yn y cartref drwy greu cyfleoedd iddynt
ymarfer a mwynhau defnyddio'r iaith mewn digwyddiadau cymdeithasol anffurfiol.
Dyma weithgaredd a allai gael ei ddarparu yn y Canolfannau Adnoddau Iaith
Rhanbarthol ac fel rhan o'r prosiectau Trefi a Dinasoedd Dwyieithog a gynigir uchod.
3.2.2. Twf a Phrosiectau ar gyfer Teuluoedd
Dros y degawd diwethaf, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi buddsoddi cryn egni ac
arbenigedd ym maes trosglwyddo iaith. Ei brif fenter yw Twf, sef prosiect arloesol ac
eang ei gwmpas sy'n ceisio annog rhieni Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg â'u
plant. Mae ganddi rwydwaith o swyddogion maes ledled Cymru, sy'n cyfleu i rieni,
darpar rieni a'r cyhoedd fanteision siarad Cymraeg gartref, ynghyd â manteision
diwylliannol ac economaidd magu plant yn ddwyieithog.
Yn ogystal â Twf mae'r Bwrdd, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill allweddol,
wedi datblygu mentrau eraill sy'n targedu rhieni, gyda phwyslais penodol ym mhob
achos ar hwyluso eu defnydd o'r Gymraeg. Amrywia'r prosiectau hyn o sesiynau
ymwybyddiaeth iaith i gynlluniau sy'n ceisio cynyddu hyder rhieni i ddefnyddio'r
Gymraeg gyda'u plant ac o fewn y gymuned.
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i adeiladu ar waith Twf a'i brosiectau
cysylltiedig gyda theuluoedd fel rhan o Gynllun arfaethedig Cyflawni'r
Gymraeg ar gyfer y grwp oedran 0-5. Byddwn hefyd yn creu cysylltiadau cryfach
rhwng yr amcan hwn a meysydd polisi eraill y Llywodraeth, fel mater trawsbynciol
sy'n estyn dros feysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, a phlant. I’r perwyl
hwn, byddwn yn cydweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sefydliadau Addysg
Uwch ac Addysg Bellach, a’r GIG i ystyried sut y gellid gwneud materion yn
ymwneud â defnydd o'r Gymraeg o fewn y teulu yn rhan annatod o
hyfforddiant ac arferion gweithio gweithwyr iechyd proffesiynol, yn enwedig
1 Bialystok, 2001; Ricciardelli 1992; Kenner 2004; Cenoz a Valencia, 1994; Bialystok et al 2006
11
bydwragedd ac ymwelwyr iechyd, ynghyd â gweithwyr eraill sy’n gallu
dylanwadu ar ddatblygiad yn ystod y blynyddoedd cynnar. Bydd y Comisiynydd
yn gallu ystyried a ellid datblygu safonau’n ymwneud â’r Gymraeg er mwyn helpu i
sicrhau cyfraniad ehangach at y gwaith hwn.
Wrth fynd i'r afael â throsglwyddo’r iaith o fewn y teulu mae angen sicrhau gwell
dealltwriaeth o'r modd y gellir dylanwadu ar ymddygiad. Mae hwn yn fater cymhleth
ac anodd, fel y dengys adroddiad gwerthuso diweddar ar y prosiect Twf2 sy'n nodi
bod llawer iawn o ffactorau yn dylanwadu ar benderfyniadau rhieni i drosglwyddo'r
Gymraeg yn y cartref. Ymhlith y rhain y mae: rhuglder yn yr iaith, hunaniaeth, proffil
iaith y teulu, y teulu estynedig, gofal plant a phroffil yr iaith ar lefel gymunedol. Mae'r
Llywodraeth wedi ymrwymo i ddeall yn well y penderfyniadau a wneir gan rieni sy'n
siarad Cymraeg a byddwn, i’r perwyl hwn, yn chwilio am ffyrdd o wella a datblygu
gweithgareddau sy'n darbwyllo rhieni i drosglwyddo'r Gymraeg i'w plant. Mae hwn yn
faes lle mae tystiolaeth ymchwil yn brin. O'r herwydd, mae'n bwysig bod rhagor o
waith ymchwil yn cael ei wneud ym maes trosglwyddo iaith ar ôl i ganlyniadau
Cyfrifiad 2011 gael eu cyhoeddi.
Dyma nodau arfaethedig y Llywodraeth yn y maes hwn:
• Datblygu Cynllun Cyflawni'r Gymraeg ar gyfer y grwp oedran 0-5 oed ar y
cyd â phartneriaid sy'n rhan o'r sector.
• Annog yr awdurdodau lleol i nodi ac i hysbysebu rhagor o gyfleoedd gofal
plant cyfrwng Cymraeg, gyda’r nod o sicrhau bod y ddarpariaeth yn
bodloni'r galw.
• Adeiladu ar waith Twf ac ehangu prosiectau eraill cysylltiedig sy'n annog
trosglwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu.
• Ystyried cynnwys codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a manteision
trosglwyddo o fewn y teulu yn hyfforddiant ac arferion gweithio ystod o
weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phroffesiynau eraill cysylltiedig.
• Bod rhagor o waith ymchwil yn cael ei wneud ym maes trosglwyddo iaith o
fewn teuluoedd ar ôl i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 gael eu cyhoeddi.
• Annog darparwyr Cymraeg i Oedolion i ddarparu cyrsiau sydd wedi'u
teilwra'n arbennig ar gyfer rhieni.
Cwestiynau
C1: A oes gweithgareddau, ac eithrio'r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy er
mwyn annog trosglwyddo’r Gymraeg o fewn teuluoedd?
C2: A oes gennych ragor o awgrymiadau ynghylch y ffordd orau o ddylanwadu ar
y penderfyniadau a wneir gan rieni sy'n siarad Cymraeg ar adeg mor
allweddol yn natblygiad plentyn?
2 Adroddiad a luniwyd gan y Ganolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd, Prifysgol Bangor ar gyfer
Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Asesiad effaith yw'r adroddiad ymchwil hwn o'r prosiect TWF, ac mae'n
cynnig argymhellion ar gyfer datblygu'r prosiect. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil rhwng 2005 a 2008.
http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=http://www.byigwlb.
org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/20080516%20ad%20c%20twf%20-%20adroddiad%20terfynol.pdf
12
C3: A ydych chi'n cytuno â'r nodau arfaethedig?
4. Plant a Phobl Ifanc
Yn ystod y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol
yn nifer y bobl ifanc sy'n medru'r Gymraeg (o 14.9% o blant rhwng 3 a 14 mlwydd
oed ym 1971 i 37.2% yn 2001). Mae mwy o bobl yn siarad Cymraeg, o ran y ganran,
nag unrhyw iaith leiafrifol arall heblaw am y Gatalaneg. Ond mae angen bod yn
ofalus wrth ystyried y ffigurau hyn, a hynny oherwydd ei bod yn debygol bod dros
hanner y plant rhwng 5 a 15 mlwydd oed yn dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn
ysgolion cyfrwng Saesneg. Yn achos nifer o blant sy'n siarad Cymraeg ac sy'n dod o
gartrefi lle nad yw'r rhieni'n medru'r Gymraeg, yr ysgol yw un o'r ychydig leoedd lle
maent yn cael cyfle i siarad yr iaith.
Mae angen gwneud llawer i helpu'r grwp hwn i ddod yn fwy rhugl ac i ddefnyddio
mwy ar yr iaith y tu allan i amgylchedd yr ysgol. Dylai bod yn fwy rhugl, yn ogystal â
rhagor o gyfleoedd, arwain at fwy o ddefnydd o'r iaith.
Mae angen felly i ni roi ystod eang o gyfleoedd i'r grwp hwn ddefnyddio'r Gymraeg y
tu allan i'r ystafell ddosbarth, er mwyn iddo gysylltu'r iaith nid yn unig ag addysg, ond
hefyd gyda gweithgareddau hamdden a diwylliannol ac, yn anad dim, gyda phleser a
difyrrwch. Cafodd y safbwynt hwn ei ategu'n gryf yn yr ymateb i'r ymarfer Dweud eich
dweud, lle'r awgrymodd nifer o'r ymatebwyr y dylai’r grwp rhwng 9 a 13 mlwydd oed
fod yn grwp oedran pwysig ar gyfer ein strategaeth, gan mai yn yr oedran hwn y mae
llawer o blant yn gwneud penderfyniadau hirdymor ynghylch ble a phryd i
ddefnyddio'r Gymraeg.
4.1 Gwerth y Gymraeg
Mae dylanwadu ar y defnydd y mae person ifanc yn ei wneud o iaith leiafrifol yn fater
cymhleth, ac mae angen mynd ati mewn amryfal ffyrdd i'w gynorthwyo i wneud
dewisiadau cadarnhaol. Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar ddefnydd person ifanc
o'r Gymraeg, gan gynnwys pa mor rhugl a hyderus ydyw yn yr iaith. Ymhlith y
ffactorau eraill sy’n dylanwadu arno y mae ffasiwn, diwylliant pobl ifanc a phwysau
gan gyfoedion, agweddau yn y gymuned at yr iaith, a’r gwerth a roddir ar yr iaith fel
sgìl ar gyfer byd gwaith. Mae gan y cyfryngau byd-eang eu dylanwad hefyd. Mae
arwyddocâd y ffactorau hyn yn amrywio'n sylweddol, gan ddibynnu a yw'r person
ifanc wedi caffael yr iaith gartref, neu drwy'r system addysg.
Mae angen gwneud mwy i ddarbwyllo plant a phobl ifanc am werth defnyddio'u
Cymraeg, a hynny am fod yr iaith yn rhan o'u treftadaeth genedlaethol a hefyd am ei
bod yn sgìl hawdd ei marchnata y gallant ei defnyddio yn nes ymlaen yn eu
bywydau, wrth chwilio am waith. Mae gan ysgolion eu rhan i'w chwarae wrth gyfleu'r
neges hon, ond yn fynych, mae plant a phobl ifanc yn fwy tebyg o dalu sylw i
negeseuon o'r fath os ydynt yn cael eu trosglwyddo gan bobl o'r tu allan i'r
amgylchedd addysg ffurfiol, ac yn cael eu hatgyfnerthu mewn lleoliadau y mae pobl
ifanc yn mynd iddynt yn wirfoddol. Mewn rhai ardaloedd, mae ysgolion wedi
gwahodd gweithwyr ieuenctid i ddod i'r ysgol i drafod gwerth y Gymraeg ar lefel fwy
anffurfiol ac mae'r fenter hon wedi profi'n llwyddiannus mewn nifer o'r ysgolion lle
rhoddwyd cynnig arni. Bydd y Llywodraeth yn ceisio sicrhau, drwy waith
13
gweithwyr ieuenctid a gyflogir gan bartneriaid grant ac awdurdodau lleol, fod y
cynllun ymwybyddiaeth iaith hwn yn cael ei ehangu a’i gynnig ledled Cymru.
Bydd y Comisiynydd yn gallu ystyried a ddylai darparu gwasanaeth o'r fath fod yn
rhan o gynllun gweithredu pob awdurdod lleol i hyrwyddo'r Gymraeg, gan
adlewyrchu’r safonau cenedlaethol a’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn
Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Gwasanaeth
Ieuenctid.
Rydym o'r farn y dylai ymwybyddiaeth am werth y Gymraeg fod yn rhan
annatod o'r hyfforddiant a gynigir i weithwyr ieuenctid, pa un a ydynt yn cael
eu cyflogi gan awdurdodau lleol neu gan sefydliadau eraill. Byddwn yn mynd ati,
ar y cyd â'r rheini sy'n cynnig hyfforddiant i weithwyr ieuenctid o bob sector, i
ddatblygu'r gwaith hwn.
Mae llawer o siaradwyr Cymraeg ifanc yn ymfalchïo yn yr iaith ac yn awyddus i'w
defnyddio. Gwelir mwy o ddefnydd o'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc pan fyddant yn
cael cyfle i ystyried ac edrych ar eu hagweddau eu hunain at y defnydd y maent yn
ei wneud o'r iaith. Rhywbeth arall sydd wedi cael dylanwad yn hyn o beth hefyd yw
rhoi cyfle i bobl ifanc arwain prosiectau penodol sy'n eu gwneud yn enghraifft i eraill.
Mae prosiect Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cefnogi Arferion Iaith Pobl Ifanc, wedi
symbylu pobl ifanc i ddod yn fwy rhugl a hyderus eu Cymraeg ac i ddefnyddio mwy
arni drwy eu galluogi i arwain prosiectau sy'n meithrin defnydd ohoni mewn
cyd-destunau arloesol. Mae'r prosiect hwn yn anelu at gael disgyblion i ymwneud
mwy â'r Gymraeg mewn ysgolion, y tu allan i amgylchedd ffurfiol yr ystafell
ddosbarth. Un o'r elfennau hanfodol yw bod disgyblion hyn yn annog rhai iau i feddwl
am yr iaith ac i fod yn rhan o brosiectau arloesol megis rhedeg gorsaf radio yn yr
ysgol neu ysgol roc drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o'r gweithgarwch yn
digwydd mewn clybiau amser cinio, lle cynigir ystod o weithgareddau deniadol a
dyfeisgar, megis y grefft o goluro, gweithdai crefft, a grwpiau drama. Mae'r fenter
Cefnogi Arferion Iaith Pobl Ifanc wedi profi'n llwyddiant mewn nifer o ysgolion
yn y De a byddwn yn ystyried ei chyflwyno mewn ysgolion a lleoliadau
cymunedol eraill ledled Cymru.
4.2 Gweithgareddau ar gyfer Pobl Ifanc yn y Gymuned
Mae llawer o waith wedi'i wneud i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau
gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llu o sefydliadau wedi bod ynghlwm
wrth y gwaith hwn: mae rhai ohonynt, fel yr Urdd a'r Mentrau Iaith yn hoelio'u holl
sylw ar gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg; ac mae gan eraill, megis Clybiau Ffermwyr
Ifanc, clybiau chwaraeon, grwpiau drama, ac yn y blaen, gylch gwaith ehangach.
Mae angen i'r sefydliadau hyn barhau i fod yn arloesol ac yn greadigol, a gweithio
gyda'r Llywodraeth a phartneriaid eraill i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, fod eu
gweithgareddau'n arwain at fwy o ddefnydd o'r Gymraeg. Rhaid i ni barhau i
adeiladu ar y gweithgareddau hyn, drwy roi grantiau i gyrff gwirfoddol a thrwy brif
ffrydio'r Gymraeg yn well mewn gweithgareddau sy'n cael eu hyrwyddo gan y sector
cyhoeddus.
Mae'r Llywodraeth wedi datblygu Strategaeth Chwarae Genedlaethol, ac mae gan
Chwarae Cymru rôl o fewn y Strategaeth honno, a hynny fel asiantaeth sy'n
gweithredu mewn ffyrdd arloesol i ddatblygu chwarae, i ddarparu cyfleoedd i
14
chwarae, ac i hyfforddi'r gweithlu, sy'n ehangu. Er hynny, mae llawer eto i'w wneud i
sicrhau bod y sector dylanwadol hwn wir yn adlewyrchu'r dyheadau sydd yn ein
strategaeth ac yn cyfrannu'n llawn at wireddu'r amcanion sydd ynddi.
Rydym yn awyddus i weld ystod eang o asiantaethau'n trefnu gweithgareddau drwy
gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc o bob oedran. Mae llawer ohonynt eisoes yn
cynnig ffyrdd blaengar o weithio gyda phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg, er
enghraifft, menter 5x60 Chwaraeon Cymru3. Mae angen ehangu'r gwaith hwn ym
maes chwaraeon er mwyn sicrhau bod hyfforddiant ar y lefel leol a chenedlaethol yn
cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Mae angen darpariaeth benodol ar blant yn y grwp oedran 9-13, ac mae gofyn i'r
ddarpariaeth honno fod yn ddeniadol ac ar gael yn hwylus iddynt. Gallai'r
ddarpariaeth hon ganolbwyntio ar chwaraeon heblaw am y rhai traddodiadol, ar
weithgareddau celf a chrefft a cherddoriaeth, yn ogystal ag ar weithgareddau fel
llafnrolio a breg-ddawnsio drwy gyfrwng Gymraeg. Mae angen mynd ati ar y cyd â
gwasanaethau chwarae yr awdurdodau lleol, y Mentrau Iaith, yr Urdd a sefydliadau
eraill megis Campau'r Ddraig i benderfynu sut i ddarparu'r gweithgareddau hyn. Mae
angen gweithio gyda'r holl bartneriaid hyn i ddatblygu cynllun penodol, wedi'i
frandio a fydd yn cynnig ystod eang o weithgareddau ar gyfer plant 9-13
mlwydd oed.
Mae hefyd yn galonogol gweld dull tair haen o weithredu yn dod i'r amlwg yn y
gwasanaeth ieuenctid mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl
ifanc, lle mae sefydliadau'n anelu at gynllunio'r ddarpariaeth mewn modd mwy
cydgysylltiedig, ar sail yr egwyddor bod gan holl bobl ifanc Cymru rhyw fath o afael
ar y Gymraeg. Dyma'r dull a awgrymir yn Safonau Cenedlaethol Llywodraeth
Cynulliad Cymru ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru, ac mae'n annog
darparwyr i gynnig gwasanaethau mwy priodol, sydd wedi'u teilwra i ddiwallu
anghenion ieithyddol y nifer cynyddol o bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg. Mae hyn yn
cynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer pobl ifanc sydd â sgiliau sylfaenol yn y
Gymraeg; ar gyfer y rheini sy'n dysgu'r iaith; a'r rheini sy'n rhugl yn y Gymraeg.
Byddwn yn ystyried ehangu'r ffordd hon o weithio, a'i chyflwyno mewn meysydd
eraill.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr holl weithgarwch hwn, mae'n amheus a oes digon
wedi'i wneud o ran trafod gyda'r bobl ifanc eu hunain beth yn union sy'n apelio atynt
hwy. Mae angen astudiaeth, felly, i weld pa weithgareddau y mae pobl ifanc yn
teimlo yr hoffent ysgwyddo'r cyfrifoldeb drostynt yng nghyd-destun y
Gymraeg. Gall yr astudiaeth hon edrych ar chwarae, ar chwaraeon a hamdden,
ar gerddoriaeth a meysydd diwylliannol eraill, gan gynnwys rhwydweithio
electronig. Mae'r rhain yn cwmpasu'r rhan fwyaf o weithgareddau pobl ifanc y
tu allan i’r maes addysg ffurfiol.
Rydym am weld yr iaith yn cael ei marchnata'n well i bobl ifanc er mwyn ceisio codi
ymwybyddiaeth am yr iaith ar lefelau gwahanol. Mae angen comisiynu mentrau
3 http://www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk/getactiveinthecommunity/active-young-people/5x60
15
hefyd i wella ymwybyddiaeth pobl ifanc am werth sgiliau dwyieithog yn nes ymlaen
yn eu bywydau.
Dyma nodau'r Llywodraeth mewn perthynas â’r maes blaenoriaeth hwn:
• Datblygu mwy ar y fenter lle mae gweithwyr ieuenctid yr awdurdodau lleol
ynghyd â gweithwyr ieuenctid a gyflogir gan asiantaethau eraill yn codi
ymwybyddiaeth am y Gymraeg mewn ysgolion ac mewn lleoliadau yn y
gymuned.
• Cydweithio â phartneriaid er mwyn sicrhau bod ymwybyddiaeth iaith yn
dod yn rhan annatod o'r hyfforddiant a gynigir i weithwyr ieuenctid.
• Adeiladu ar brosiect Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cefnogi Arferion Gwaith Pobl
Ifanc, mewn ysgolion a lleoliadau yn y gymuned ledled Cymru.
• Bod cynllun gweithgareddau amrywiol, sydd wedi'i frandio, yn cael ei
ddatblygu yn benodol ar gyfer plant 9-13 mlwydd oed.
• Gweld rhagor o gyfleoedd, ac ystod ehangach ohonynt, yn cael eu cynnig i
blant a phobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg mewn darpariaeth chwarae,
mewn gweithgareddau ieuenctid ac mewn lleoliadau eraill y tu allan i
amgylchedd yr ysgol.
• Astudiaeth i sicrhau ein bod yn deall yn well y ffactorau sy'n dylanwadu ar
ddewis iaith plant a phobl ifanc, ac ystyried sut orau y gallwn greu
cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith a fydd yn ddeniadol iddynt.
• Bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn parhau, drwy roi grantiau, i gefnogi gwaith
yr Urdd, y Mentrau Iaith, y Clybiau Ffermwyr Ifanc a sefydliadau eraill sy'n
gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Cwestiynau
C1: A ydych chi'n cytuno â'r cynigion a nodir uchod?
C2: A oes unrhyw weithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy
er mwyn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o'r Gymraeg ymhlith plant a phobl
ifanc?
C3: A ydych chi'n cytuno â'r nodau arfaethedig?
5. Y Dinesydd: Cyflenwi Gwasanaethau
Ers cyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae'r modd y mae dinasyddion Cymraeg
eu hiaith yn cael gwasanaethau yn eu dewis iaith wedi'i weddnewid. Roedd Deddf
1993 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i lunio cynlluniau iaith Gymraeg a
fyddai'n amlinellu sut y byddent yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn
gyfartal, ac yn nodi sut y byddent yn mynd ati i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd
yn Gymraeg. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cymeradwyo dros 550 o gynlluniau
iaith Gymraeg statudol er 1993. Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw'r datblygiad hwn
wedi bod o fudd i'r iaith ac i siaradwyr Cymraeg fel ei gilydd. Cafodd y safbwynt hwn
ei ategu yn yr ymateb i'r ymarfer Dweud eich dweud, ond cafwyd rhybudd hefyd gan
nifer o'r ymatebwyr fod cynlluniau iaith, yn eu barn hwy, wedi rhedeg eu cwrs a'i bod
16
bellach yn bryd i ni wella'r ddeddfwriaeth sy'n sail i ddarparu gwasanaethau drwy
gyfrwng y Gymraeg.
Bydd Mesur y Gymraeg (Cymru) yn adeiladu ar lwyddiant cynlluniau iaith Gymraeg
er mwyn rhoi rhagor o eglurder a chysondeb i ddinasyddion o ran y gwasanaethau y
gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg. Drwy greu cyfres o safonau y gellir eu gorfodi,
y nod yw newid y pwyslais, gan hoelio sylw bellach nid ar baratoi cynlluniau ond ar
fynd ati i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg sy'n diwallu anghenion siaradwyr
Cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith.
5.1 Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae cryfhau gwasanaethau yn Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn
flaenoriaeth, gan fod yr iaith yn y cyd-destun hwn, i lawer o bobl, yn fwy na dim ond
mater o ddewis - mae'n fater o angen. Wrth gyfeirio at ddewis iaith, yr hyn a olygir yw
hawl unigolyn i ddewis iaith, ond yr hyn a olygir wrth angen o ran iaith yw bod iaith yn
cael ei hystyried yn rhan annatod o'r gofal a gynigir. Er enghraifft, mae pobl sy'n
dioddef o ddemensia neu bobl sydd wedi cael strôc yn colli ei hail iaith yn aml.
Er bod arweiniad gwerthfawr wedi'i roi yn hyn o beth ers ailsefydlu Tasglu'r Gymraeg
mewn gwasanaethau iechyd a chymdeithasol o dan gadeiryddiaeth y Dirprwy
Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, mae'n amlwg bod y ddarpariaeth o ran
gwasanaethau yn Gymraeg yn dal i fod yn dameidiog, ac yn rhy aml, mai dim ond
drwy hap a damwain y mae pobl yn cael gwasanaethau yn Gymraeg. Mae'r
Llywodraeth, felly, yn ailddatgan ei hymrwymiad i gyhoeddi Fframwaith
Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn anelu at sicrhau ein
bod yn mynd ati mewn ffordd fwy strategol i gryfhau gwasanaethau
dwyieithog. Bydd yn gwella profiad cleifion a defnyddwyr gwasanaethau sydd naill
ai'n dewis gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, neu y mae angen gwasanaethau
o'r fath arnynt.
Dyma nodau'r Llywodraeth mewn perthynas â’r maes blaenoriaeth hwn:
• Cyhoeddi Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a
fydd yn cryfhau gwasanaethau dwyieithog yn y sector.
5.2 Gwasanaethau Cyhoeddus Eraill
5.2.1. Llywodraeth Cynulliad Cymru
Bydd ein strategaeth yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn
benderfynol o weld y Gymraeg yn ffynnu. Mae sicrhau bod ‘y Gymraeg yn ffynnu’ yn
un o'r 19 o amcanion strategol allweddol sydd gan y Llywodraeth, ac mae hyn yn
tystio i’n hymrwymiad yn hyn o beth.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) hefyd yn tystio i'r ffaith ein bod yn ymrwymedig i
hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o'r Gymraeg, drwy sefydlu hawliau i siaradwyr
Cymraeg, drwy gadarnhau statws swyddogol yr iaith a thrwy roi mwy o eglurder a
chysondeb i siaradwyr Cymraeg o ran y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn
Gymraeg.
17
Mae ein hymrwymiad i'r iaith i'w weld hefyd yn ein cynnig i sefydlu Comisiynydd Iaith
cryf ac annibynnol, y bydd dyletswydd arno i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o'r
Gymraeg; i osod a gorfodi safonau'n ymwneud â'r Gymraeg; ac i ymchwilio i
achosion honedig o ymyrryd â rhyddid siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg
gyda’i gilydd.
O dan y Mesur, bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i argymhellion y
Comisiynydd mewn ystod eang o feysydd polisi.
At hynny, bydd polisïau'r Llywodraeth yn cael eu llywio gan adroddiadau
5-mlynedd ynghylch sefyllfa'r Gymraeg, i'w paratoi gan y Comisiynydd yn unol â
Mesur y Gymraeg (Cymru).
Bydd y Llywodraeth hefyd yn sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg o dan
gadeiryddiaeth y Gweinidog dros Dreftadaeth, sydd â'r cyfrifoldeb dros y Gymraeg ar
hyn o bryd. Bydd y Cyngor yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch eu
strategaeth, ac am y gwaith o baratoi cynllun gweithredu yn nodi sut y byddant yn
gweithredu’r cynigion sydd yn eu strategaeth. Y Gweindiogion fydd yn gyfrifol am
baratoi’r cynllun gweithredu hwnnw. Gallai’r Cyngor gynnwys cynrychiolwyr o blith y
sefydliadau sy'n hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o'r Gymraeg, ynghyd â
chynrychiolwyr sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
Bydd hefyd yn cynnwys rhanddeiliaid eraill.
Byddwn hefyd yn prif ffrydio'r iaith ymhellach i waith datblygu gwasanaethau a
datblygu polisi, gan sicrhau ar yr un pryd fod Gweinidogion a swyddogion yn ystyried
y cysylltiadau rhwng eu portffolios hwy a'r iaith. I'r perwyl hwn, o dan broses porth
polisi y Llywodraeth, mae gofyn asesu effaith polisïau a gwasanaethau newydd
ar y Gymraeg. Byddwn hefyd yn prif ffrydio'r iaith i'n gweithgareddau polisi
strategol ac yn sicrhau bod ein prif strategaethau economaidd-gymdeithasol,
megis Cynllun Gofodol Cymru a’r Cynllun Datblygu Gwledig, yn cyfrannu at y
nod o hyrwyddo mwy o ddefnydd o'r Gymraeg.
Byddwn yn sicrhau bod pob un o'n Cyfarwyddiaethau a phob Corff a Noddir gan
Lywodraeth y Cynulliad yn derbyn cyfrifoldeb am yr angen i hyrwyddo a hwyluso’r
defnydd o'r Gymraeg, a'u bod hefyd yn perchenogi'r angen hwnnw. Bydd
uwch-swyddog ym mhob Cyfarwyddiaeth ac ym mhob CNLC yn gyfrifol am
sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio yn unol â hynny. Yn ogystal â
chyhoeddi adroddiad ynghylch cydymffurfio â chynllun iaith Gymraeg y Llywodraeth,
byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol yn amlinellu'r cynnydd a fydd wedi'i
wneud o ran gwireddu'n strategaeth. Bydd pob un o Gyfarwyddiaethau Llywodraeth
Cynulliad Cymru hefyd yn paratoi cynllun gweithredu yn nodi amcanion allweddol er
mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r cynllun iaith. Bydd y cynlluniau hynny'n
deillio o'r cynllun gweithredu yng nghynllun iaith Gymraeg y Llywodraeth.
Bydd adrannau allweddol a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yn mynd ati,
ar y cyd â’r Gweinidogion, i ystyried yr hyn y gallent hwy ei wneud i gyfrannu at y
gwaith o hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o'r Gymraeg. Byddant yn edrych ar
weithgareddau ehangach eu cwmpas na'r rheini y maent yn ymgymryd â hwy ar hyn
o bryd, ac yn mynd ati, ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, i ddatblygu
syniadau newydd ac arloesol.
18
Bydd ein staff yn cael yr hyfforddiant a'r arweiniad y bydd eu hangen arnynt i'w helpu
i wireddu'r ymrwymiadau sydd yn ein strategaeth. Byddant hefyd yn cael hyfforddiant
ymwybyddiaeth er mwyn sicrhau eu bod yn deall yr iaith yn ei chyd-destun
ehangach.
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arwain drwy esiampl mewn perthynas â
defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle drwy sicrhau bod ei swyddfeydd yn
Llandudno ac yn Aberystwyth yn datblygu modelau arferion da a fydd yn gallu
llywio arferion ledled Llywodraeth Cynulliad Cymru maes o law.
Bydd ein strategaeth yn cydnabod bod newid sylweddol i’w weld yn y berthynas
ariannu rhwng y rheini sy'n comisiynu gwasanaethau a'r rheini sy'n eu darparu, pa
un a ydynt yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector. Mae'r newid
hwn, o fodel sy'n seiliedig ar grantiau i fodel comisiynu a chaffael, yn un a fydd i'w
weld yn fwy ac yn fwy aml, ac o’r herwydd, bydd goblygiadau o ran y disgwyliadau y
dylai fod gennym mewn perthynas â rhwymedigaethau ieithyddol. Byddwn, wrth
ddyfarnu grantiau a chontractau, yn cynnwys amodau, fel y bo'n briodol,
mewn perthynas â defnyddio'r Gymraeg. Wrth wneud hyn, byddwn yn dilyn yr
arweiniad yng nghanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar ddyfarnu grantiau,
Dyfarnu Grantiau, Benthyciadau a Nawdd, a'r egwyddorion a nodir yn ei
ganllawiau arfaethedig ar ddyfarnu contractau. Bydd canllawiau'r Bwrdd ar
ddyfarnu contractau yn cael eu hyrwyddo hefyd fel rhan o'n prosiect Caffael a
Chomisiynu 5 mlynedd Trawsnewid Caffael drwy Dalent Cynhenid. Byddwn yn
sicrhau hefyd fod Gwerth Cymru yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o gyflawni'n
strategaeth, yng nghyd-destun contractau, comisiynu a chaffael. Bydd y
Comisiynydd yn gallu cydweithio â Gwerth Cymru i godi ymwybyddiaeth ymhlith
rhwydweithiau caffael yng Nghymru am y canllawiau sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Dyma nodau arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas â’r maes hwn:
• Sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg.
• Cyflwyno, drwy gyfrwng Mesur y Gymraeg, safonau’n ymwneud â’r
Gymraeg.
• Sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
• Prif ffrydio'r Gymraeg ymhellach i waith y Llywodraeth ar ddatblygu polisi a
chyflenwi gwasanaethau.
• Prif ffrydio'r iaith i weithgareddau polisi strategol megis Cynllun Gofodol
Cymru a'r Cynllun Datblygu Gwledig.
• Bod uwch-swyddog ym mhob un o Gyfarwyddiaethau’r Llywodraeth ac ym
mhob Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yn gyfrifol am brif ffrydio'r
Gymraeg.
• Bod pob un o Gyfarwyddiaethau'r Llywodraeth yn paratoi adroddiad ar sut
y mae wedi gwireddu'n strategaeth ac yn esbonio sut y mae wedi
cydymffurfio â chynllun iaith Gymraeg y Llywodraeth.
• Bydd y Llywodraeth yn paratoi adroddiad blynyddol am y cynnydd y mae
wedi’i wneud wrth wireddu'i strategaeth.
19
• Wrth ddyfarnu grantiau a chontractau, byddwn yn cynnwys amodau, fel y
bo'n briodol, mewn perthynas â defnyddio'r Gymraeg. Wrth wneud hyn,
byddwn yn dilyn yr arweiniad yng nghanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar
ddyfarnu grantiau, Dyfarnu Grantiau, Benthyciadau a Nawdd, a'r
egwyddorion a nodir yn ei ganllawiau arfaethedig ar ddyfarnu contractau.
• Drwy Gwerth Cymru, byddwn yn ymgorffori ystyriaethau’n ymwneud â’r
Gymraeg i gontractau Llywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys ein
fframweithiau cydweithredu, gan wneud hynny mewn modd cymesur a lle
y bo’n berthnasol, a byddwn yn codi ymwybyddiaeth am ganllawiau Bwrdd
yr Iaith Gymraeg ymhlith rhwydweithiau caffael.
• Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i bob aelod o’i staff.
C1: A ydych chi'n cytuno â'r cynigion a nodir uchod?
C2: A oes unrhyw weithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy
er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio mwy ar y
Gymraeg?
C3: A ydych chi’n cytuno â'r nodau arfaethedig?
5.2.2 Llywodraeth Leol
Er mwyn i'n strategaeth lwyddo, ac er mwyn i'r Gymraeg ffynnu, mae'n hanfodol ein
bod yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, ac yn cydweithredu â hi. Yn
ogystal â darparu gwasanaethau ar gyfer dinasyddion, megis gwasanaethau ym
maes gofal cymdeithasol, mae gan awdurdodau lleol ran allweddol i'w chwarae yn y
broses cynllunio ieithyddol yng Nghymru. Mae eu gwaith yn hyn o beth yn cynnwys
addysg cyfrwng Cymraeg; darpariaeth chwarae; gwasanaethau ieuenctid;
gwasanaethau cymdeithasol; polisïau tai; datblygu ac adfywio cymunedol; polisïau
cynllunio a datblygu economaidd.
Bydd y safonau newydd a gynigir ym Mesur y Gymraeg yn gosod dyletswydd ar
awdurdodau lleol i hyrwyddo'r Gymraeg yn fwy eang.
Fodd bynnag, cyn i’r safonau hynny gael eu cyflwyno, bydd pob awdurdod lleol yng
Nghymru yn gallu gwneud cryn dipyn i helpu i wireddu'n strategaeth.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud ymrwymiad yng nghytundeb
Cymru'n Un i adolygu ac i ailgyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20 gyda
golwg ar ganiatáu i’r awdurdodau lleol ddefnyddio Asesiadau Effaith Iaith at
ddibenion cynllunio mewn ardaloedd sydd o dan bwysau oherwydd prinder tai.
Bydd hyn yn eu galluogi i ddefnyddio asesiadau effaith iaith i asesu goblygiadau
strategaethau cynllunio, polisïau cynllunio a cheisiadau cynllunio i les yr iaith.
Byddwn hefyd yn annog awdurdodau lleol i ystyried sut y gallant roi polisïau
cymdeithasol ac economaidd ar waith er mwyn cynnal cymunedau Cymraeg
eu hiaith.
Fel y crybwyllwyd eisoes, un o'r ffactorau allweddol sydd i gyfrif am ddirywiad yr iaith
yn y broydd Cymraeg yw'r diffyg cyfleoedd gwaith i bobl ifanc a'r ffaith eu bod, o'r
herwydd, yn symud i ardaloedd trefol. Byddwn yn ystyried sut orau i ymateb i’r
20
cysylltiadau rhwng yr economi leol, cyfleoedd gwaith, y farchnad dai leol,
prosesau ymfudo, a'u heffaith ar gynaliadwyedd yr iaith ar lefel leol, drwy
gydweithio â'r awdurdodau lleol ac ystod o bartïon eraill i gryfhau'r economi mewn
ardaloedd sydd wedi gweld dirywiad economaidd ac ieithyddol, a byddwn yn ceisio
sicrhau bod tai mwy fforddiadwy ar gael yn hawdd i bobl leol sydd am aros yn yr
ardaloedd hynny.
Mae gan yr awdurdodau lleol ran allweddol i'w chwarae yng ngwaith y Grwp
Trafod Iaith-Economi, sydd wedi gwneud ymchwil i amlygu'r berthynas rhwng
yr iaith a datblygu economaidd ac i weld i ba raddau y gall yr iaith fod o fudd i
ragolygon economaidd unigolion a busnesau. Byddwn yn parhau i gefnogi'r
gwaith hwn.
Drwy'r canllawiau Strategaethau Cymunedol a Chynllunio (Rhan 2): Cynllunio
Cymunedol Cydweithredol (2008), rydym wedi cymryd camau i sicrhau bod
strategaeth gymunedol pob awdurdod lleol yn ystyried anghenion siaradwyr
Cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith. Byddwn yn gweithio gyda'r
Comisiynydd Iaith, yr awdurdodau lleol, y byrddau gwasanaethau lleol ac eraill i
ddatblygu canllawiau pellach a fydd yn amlinellu sut y gall yr awdurdodau lleol fynd
ati i wireddu'n strategaeth, ynghyd â datblygu arferion da i lywio'r gwaith.
Byddwn yn gweithredu i brif ffrydio'r iaith i gynlluniau datblygu cymunedol a
chynlluniau adfywio cymunedol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn ei gwneud yn
ofynnol i bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf brif ffrydio'r iaith i'w rhaglenni gwaith,
yn unol â'n Canllawiau Cymunedau yn Gyntaf, a gyhoeddwyd yn 2007.
Rydym o'r farn y byddai modd gwneud mwy i sicrhau bod yr iaith yn fwy gweladwy.
Pan gyflwynwyd arwyddion ffyrdd dwyieithog yn ystod yr 1970au, gwnaed cryn dipyn
i godi statws y Gymraeg. Byddwn yn ystyried felly beth yn fwy y gellir ei wneud i
wneud yr iaith yn fwy gweladwy.
Dyma nodau arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas â’r maes hwn:
• Adolygu ac ailgyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20 gyda golwg ar
ganiatáu i’r awdurdodau lleol ddefnyddio Asesiadau Effaith Iaith at
ddibenion cynllunio mewn ardaloedd sydd o dan bwysau oherwydd prinder
tai.
• Ystyried beth yn fwy y gellir ei wneud i wneud yr iaith yn fwy gweladwy.
• Datblygu canllawiau pellach a rhannu'r arferion gorau ar sut y gall yr
awdurdodau lleol ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg a chymunedau
Cymraeg eu hiaith yn eu strategaethau cymunedol.
• Parhau i gefnogi’r Grwp Trafod Iaith-Economi.
• Prif ffrydio'r Gymraeg mewn cynlluniau datblygu cymunedol a chynlluniau
adfywio cymunedol ac mewn partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf.
C1: A ydych chi'n cytuno â'r cynigion a nodir uchod?
21
C2: A oes unrhyw weithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy
er mwyn sicrhau bod llywodraeth leol yn defnyddio mwy ar y Gymraeg?
C3: A ydych chi’n cytuno â'r nodau arfaethedig?
5.3 Y Llysoedd a’r Heddlu
Er nad yw cyfrifoldeb dros y llysoedd a’r heddlu yng Nghymru wedi'i ddatganoli,
mae'n bwysig cofio bod y sector cyfiawnder wedi bod yn gyfrwng i godi statws y
Gymraeg. Mae llawer wedi’i gyflawni hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran
sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu manteisio ar y gwasanaethau y mae eu
hangen arnynt drwy gyfrwng y Gymraeg. Er hynny, mae dal angen gwella mwy ar y
ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector, a byddwn yn cefnogi'r gwaith y mae
angen ei wneud i sicrhau bod hynny’n digwydd.
Byddwn hefyd yn ystyried y posibiliadau o ran cyflwyno rheithgorau dwyieithog yng
Nghymru, yn dilyn y penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar i
beidio â gwneud hynny.
5.4 Y Sector Preifat
Mae'r sector preifat yn un o elfennau allweddol y strategaeth hon, gan fod y rhan
fwyaf o bobl yn dod i gysylltiad â'r sector hwn yn amlach nag unrhyw sector arall.
Felly, mae'n bwysig sicrhau bod y defnydd o'r Gymraeg gan fusnesau preifat yn cael
ei hyrwyddo a'i hwyluso gymaint ag y bod modd, a hynny ar sail wirfoddol.
Cafwyd tystiolaeth mewn ymchwil a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn
2005 fod arloesi ym maes yr iaith yn gallu talu ar ei ganfed. Dangoswyd bod 80% o
bobl yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi’r defnydd o'r Gymraeg gan y sector preifat. At
hynny, dangosodd ymchwil a wnaed gan Lais Defnyddwyr Cymru fod 73% o'r
ymatebwyr yn fwy tebygol o brynu eto oddi wrth fusnes, neu o argymell y busnes
hwnnw i eraill, os oedd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg. Mae arloesi ac ymateb yn
gyflym i anghenion cyfnewidiol cwsmeriaid yn un o nodweddion y sector preifat. Er
enghraifft, mae wedi ymateb i newidiadau yn arferion defnyddwyr drwy gynnig rhagor
o wasanaethau ar-lein, ac mae hefyd yn ymateb i bryderon yn ymwneud â'r
amgylchedd. Yn yr un modd, mae agweddau mwy a mwy cefnogol i’r iaith i’w gweld
yn y sector.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i anghenion y sector drwy ddatblygu ystod
eang o offer ac adnoddau. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y niferoedd sy'n
manteisio ar y cymorth a gynigir gan y Bwrdd ac at gynnydd hefyd yn nifer y
busnesau sy'n cynnig gwasanaethau yn Gymraeg. Ers i'r Bwrdd lansio'i thempled
polisi iaith Gymraeg gwirfoddol yn 2008, mae dros 350 o fusnesau yn y sector preifat
wedi dewis mabwysiadu polisi iaith Gymraeg. Mae’n bwysig bod rhaglenni Cymraeg i
Oedolion yn gwneud cyfraniad o ran cynnig hyfforddiant realistig ac effeithiol i wella
sgiliau Cymraeg yn y gweithle, a hynny er mwyn cefnogi polisïau busnesau mewn
perthynas â’r iaith Gymraeg.
Mae cyrff sy'n cynrychioli'r sector busnes wedi dweud eu bod yn cefnogi'r angen i
gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg, gan ddweud yn gwbl glir hefyd y byddai'n well
22
ganddynt weld hyn yn digwydd yn wirfoddol. Rydym yn cytuno â'r safbwynt hwn. Yn
y dyfodol, rydym am weld rhagor o bolisïau iaith Gymraeg gwirfoddol yn y
sector preifat a chynnydd yn y gwasanaethau wyneb yn wyneb a fydd ar gael
drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddem yn annog busnesau i fod yn rhagweithiol
wrth ddatblygu’r defnydd o'r Gymraeg a byddwn yn gofyn i Fwrdd yr Iaith
Gymraeg ystyried a fyddai modd cyflwyno cynllun nod siarter i gydnabod yr
hyn y mae busnesau'n llwyddo i'w gyflawni yn y maes. Bydd y Comisiynydd yn
gallu cydweithio â'r sector i gyflawni'r amcanion hyn a sicrhau bod unrhyw gwmnïau
sydd o fewn cwmpas y Mesur yn cydymffurfio ag unrhyw safonau a osodir arnynt.
Mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn un o elfennau allweddol y gwaith sy'n cael ei
wneud i greu brand Cymreig ac i feithrin naws unigryw am le ym maes twristiaeth
yng Nghymru, a byddwn, drwy Croeso Cymru, yn parhau i hyrwyddo'n cynllun
Croeso Cynnes Cymreig.
Mae'r sector preifat yn hollbwysig i waith y Grwp Trafod Iaith-Economi a grybwyllir
uchod. Byddwn yn parhau i gefnogi gwaith y grwp. Gallai’r sector busnes gael ei
gynrychioli hefyd ar Gyngor Partneriaeth arfaethedig y Gymraeg.
Dyma nodau a thargedau'r Llywodraeth mewn perthynas â’r maes blaenoriaeth hwn:
• Bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dechrau gweithio i sicrhau y bydd gan
1,500 o fusnesau bolisïau gwirfoddol ynghylch y Gymraeg erbyn mis
Mawrth 2015.
• Bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystyried a fyddai modd cyflwyno cynllun
nod siarter i gydnabod yr hyn y mae busnesau'n llwyddo i'w gyflawni o ran
defnyddio'r Gymraeg.
• Bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cydweithio â'r sector preifat i ddatblygu
syniadau ar gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg yn y sector.
• Parhau i hyrwyddo'n cynllun Croeso Cynnes Cymreig, sy'n hyrwyddo’r
defnydd o'r Gymraeg er mwyn helpu i greu cynnyrch twristiaeth penodol
Gymreig.
• Hyrwyddo dysgu Cymraeg yn y gweithle mewn modd pwrpasol, sydd
wedi’i deilwra, er mwyn atgyfnerthu sgiliau iaith.
• Parhau i gefnogi gwaith y Grwp Trafod Iaith-Economi.
• Gwahodd cynrychiolwyr o’r sector preifat i fod yn aelodau o Gyngor
Partneriaeth y Gymraeg.
Cwestiynau
C1: A ydych chi'n cytuno â'r cynigion a nodir uchod?
C2: A oes unrhyw weithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy
er mwyn sicrhau bod y sector preifat yn defnyddio mwy ar y Gymraeg?
C3: A ydych chi'n cytuno â'r nodau a'r targedau arfaethedig?
23
5.5 Y Trydydd Sector
Bydd y trydydd sector yn un o elfennau eraill hanfodol ein strategaeth. Mae'r
sefydliadau sydd yn y sector hwn yn cyffwrdd â bywydau llawer iawn o bobl yng
Nghymru, er enghraifft, drwy gynnig gofal a chefnogaeth, drwy weithio gyda
chymunedau a thrwy ddenu pobl i gymryd rhan mewn ystod eang o ddigwyddiadau a
gweithgareddau. Mae'n bwysig, felly, i ni sicrhau bod y defnydd o'r Gymraeg gan
sefydliadau'r trydydd sector yn cael ei hyrwyddo a'i hwyluso i'r eithaf.
Mae'r trydydd sector yn un mawr ac amrywiol. Mae ganddo tua 30,000 o sefydliadau
sy'n gweithredu yng Nghymru, a'r rheini'n amrywio o elusennau rhyngwladol ac
elusennau sy'n gweithio ledled y DU i grwpiau gwirfoddol lleol. Yn ein barn ni, yr hyn
y dylid rhoi blaenoriaeth iddo yw cydweithio gyda sefydliadau sy'n darparu
gwasanaethau gofal, lles ac iechyd, a chyda mentrau datblygu cymunedol a
sefydliadau sy'n gweithio ar lefel y gymuned mewn cysylltiad agos â'r cyhoedd, gan
gynnwys plant a phobl ifanc. Dylid rhoi blaenoriaeth hefyd i gydweithio â sefydliadau
yn y trydydd sector sy'n gweithio ar raddfa fawr.
Er y bydd nifer o'r sefydliadau hyn yn dod o fewn cymhwysedd Mesur y Gymraeg,
barn y Llywodraeth yw mai ar sail wirfoddol y dylid annog y rhan fwyaf o'r sector i
gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Er 1993, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dwyn
perswâd ar nifer o sefydliadau yn y trydydd sector i ddarparu gwasanaethau yn
Gymraeg. Hyd yma, mae 76 o sefydliadau wedi paratoi cynlluniau iaith Gymraeg
gwirfoddol. Rydym am weld rhagor o gynlluniau iaith Gymraeg yn y trydydd sector
ac, yn y pen draw, ei annog i gydymffurfio'n wirfoddol â safonau sy'n ymwneud â'r
Gymraeg.
Rydym yn cydnabod hefyd y gwaith gwerthfawr sydd wedi'i wneud gan y cynllun
Estyn Llaw. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi rhoi grantiau gwerth £629,000 i'r
cynllun hwn er 2002/03. Mae wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau
dwyieithog, wedi hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith siaradwyr Cymraeg, wedi helpu'r
Bwrdd i sicrhau cynnydd yn y gwasanaethau Cymraeg a gynigir i'r cyhoedd, ac wedi
darparu cyrsiau ymwybyddiaeth iaith i staff y trydydd sector. Rydym am wneud yn
siwr, drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, fod digon o adnoddau ar gael i sicrhau bod y
gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo. Rydym hefyd am annog cyrff mantell ar y lefel
genedlaethol a lleol, gan gynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r
cynghorau gwirfoddol sirol, i roi cefnogaeth effeithiol i'r sector. Unwaith eto, os ydym
am weld defnydd ehangach o’r Gymraeg yn y Trydydd Sector, bydd yn rhaid wrth
gymorth a hyfforddiant wedi’i dargedu drwy raglenni Cymraeg i Oedolion er mwyn
ennyn hyder a gwella sgiliau.
Aethom ati, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010, i lansio'n Compact gyda'r
Trydydd Sector, a ddatblygwyd ar y cyd â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, CGGC, a
dosbarthwyr arian y Loteri. Bydd angen i'r bartneriaeth honno gydweithio gyda
sefydliadau yn y trydydd sector i gryfhau'r gefnogaeth y mae'r sector yn ei rhoi yng
nghyd-destun defnyddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol. I'r perwyl hwn, mae Grwp
Cyswllt Cenedlaethol y Compact wedi'i sefydlu er mwyn helpu i fwrw ymlaen â'r
gwaith.
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gallu hyrwyddo’r defnydd o'r Gymraeg gan y
trydydd sector ac oddi mewn iddo, a sicrhau bod unrhyw gyrff sy'n dod o dan gylch
24
gwaith Mesur y Gymraeg yn cydymffurfio ag unrhyw safonau a osodir arnynt.
Byddwn hefyd yn annog CGGC i roi arweiniad clir ac i ddatblygu agenda'r Gymraeg
yn y sector. Byddai hefyd yn fuddiol i’r trydydd sector gael ei gynrychioli ar Gyngor
Partneriaeth arfaethedig y Gymraeg. Gallai'r cynrychiolwyr hyn gynnwys rhai o
aelodau Grwp Cyswllt Cenedlaethol y Compact a Chyngor Partneriaeth y Trydydd
Sector.
Dyma nodau a thargedau'r Llywodraeth mewn perthynas â’r maes blaenoriaeth hwn:
• Parhau i gefnogi gwaith Estyn Llaw.
• Annog CGGC i roi arweiniad clir ac i ddatblygu agenda'r Gymraeg yn y
sector.
• Sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaed yng Nghompact y Trydydd Sector
yn cael eu gwireddu.
• Gwahodd cynrychiolwyr o’r trydydd sector i fod yn aelodau o Gyngor
Partneriaeth y Gymraeg.
Cwestiynau:
C1: A ydych chi'n cytuno â'r cynigion a nodir uchod?
C2: A oes unrhyw weithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy
er mwyn sicrhau bod y trydydd sector yn defnyddio mwy ar y Gymraeg?
C3: A ydych chi'n cytuno â'r nodau arfaethedig?
5.6 Y Gymraeg yn y Gweithle
Y gweithle yw un o’r meysydd allweddol sy’n pennu pa iaith y mae pobl yn ei
defnyddio. Fel unigolion, rydym yn treulio cyfran sylweddol o’n hamser yn y gwaith.
Roedd nifer sylweddol o'r rheini a ymatebodd i ymarfer Dweud eich dweud y
Llywodraeth yn cytuno bod y gweithle'n faes allweddol o ran ennyn hyder ymhlith
siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith mewn agweddau eraill ar eu bywydau.
Ein nod yw cynnig rhagor o gyfleoedd i'r rheini sy’n medru'r Gymraeg ei defnyddio yn
y gwaith - yn eu hymwneud â'i gilydd, gyda'u cwsmeriaid a chyda'u cyflogwyr. Wrth
wneud hyn, byddwn yn adeiladu ar arferion da sydd eisoes yn bod. Bydd cynnal
arferion dwyieithog sydd eisoes wedi ennill eu plwyf ac sy’n rhan annatod o
weithgareddau yn y gweithle o ddydd i ddydd hefyd yn un o elfennau allweddol ein
Strategaeth ar gyfer yr iaith. Os yw gweithleoedd yn gweithredu drwy gyfrwng y
Gymraeg, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol, byddwn yn parchu eu dewis iaith.
Mae’r maes gwaith hwn yn gryn her. Mae gweithleoedd yn amrywio, ac felly hefyd
gefndir ieithyddol y staff sy'n gweithio mewn lleoliadau ledled Cymru. Mae nifer o
ffactorau gwahanol i gyfrif am hyn: arferion sydd wedi hen ennill eu plwyf lle ffefrir
defnydd o’r Saesneg, materion yn gysylltiedig â gallu yn y Gymraeg, rhesymau
sefydliadol megis y ffaith nad oes digon o fàs critigol i gefnogi defnydd o’r iaith, a’r
graddau y mae diwylliant y sefydliad yn hwyluso neu’n hyrwyddo’r defnydd o’r
Gymraeg.
25
Rydym, drwy’n strategaeth, yn bwriadu sicrhau bod rhagor o gyfleoedd i’r rheini sydd
eisoes yn rhugl eu Cymraeg fedru defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i
ddydd. Rydym hefyd am weld y staff hynny sydd am wella’u sgiliau yn y Gymraeg
(gan gynnwys y rheini sydd heb arfer eu sgiliau ers tro) yn cael cefnogaeth ac
anogaeth drwy, er enghraifft, y rhaglen Cymraeg i Oedolion, mewn ffordd sy’n
gydnaws â’r amcanion ac ymrwymiadau eraill sydd ganddynt yng nghyd-destun byd
gwaith.
Byddwn yn mynd ati mewn dwy ffordd: bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi
arweiniad strategol gan hoelio’i sylw ar feithrin gallu; a bydd Comisiynydd y Gymraeg
yn gallu pennu safonau gweithredol er mwyn creu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.
Yng nghyd-destun meithrin gallu, mae angen i ni sicrhau bod llwybr cydlynol drwy
faes addysg a hyfforddiant i’r gweithle. Mae darparu addysg cyfrwng Cymraeg o’r
blynyddoedd cynnar wedi bod yn ffordd hynod lwyddiannus o feithrin sgiliau
disgyblion ledled Cymru yn y Gymraeg. Er hynny, mae angen i ni barhau i fynd ati i
ddangos bod sgiliau yn y Gymraeg yn berthnasol i unigolion yn y gwaith, a rhaid i ni
sicrhau bod disgyblion a’u rhieni yn cael negeseuon ystyrlon a chyson ynghylch
gwerth y sgiliau hyn.
Mae’n werth dweud unwaith yn rhagor bod cysylltiad agos rhwng gallu ieithyddol a
phatrymau defnydd iaith. Rydym yn cydnabod, felly, bod dull strategol o weithredu yn
hanfodol bwysig yng nghyd-destun darparu cyfleoedd hyfforddi yn y gweithle drwy
gyfrwng y rhaglen Cymraeg i Oedolion. Mae hyfforddiant galwedigaethol drwy
gyfrwng y Gymraeg yn agwedd hollbwysig ar ein Strategaeth ehangach ar gyfer
Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys meysydd megis darparu
hyfforddiant iaith ar gyfer pobl o wahanol allu, a chyrsiau sydd wedi’u teilwra i fynd i’r
afael ag anghenion penodol megis drafftio dogfennau ffurfiol yn Gymraeg. Ochr yn
ochr â hyfforddiant o’r fath, mae angen i ni nodi’r arferion gorau o ran modelau
mentora. Mae hyfforddiant yn ymwneud hefyd ag agweddau ar y gweithle dwyieithog
neu gyfrwng Cymraeg, megis cadeirio cyfarfodydd dwyieithog, a hyfforddiant
ymwybyddiaeth iaith. Mae angen clustnodi llwybrau dilyniant clir, gan wneud hynny
ar sail yr arferion gorau, er mwyn cynorthwyo gweithleoedd i asesu ac i adolygu eu
hanghenion hyfforddiant ac i wneud y gorau o offer TGCh a phecynnau rhyngwyneb
a meddalwedd Cymraeg.
Er mwyn sicrhau gwerth am arian, gellir annog gweithleoedd i gydweithio i ddarparu
hyfforddiant drwy ganolfannau Cymraeg i Oedolion. Byddwn hefyd yn cydweithio â
chanolfannau Cymraeg i Oedolion i ddatblygu cyrsiau a chymwysterau a fydd wedi’u
teilwra’n arbennig ar gyfer y gweithle.
O ran creu rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, byddwn yn
cymryd camau penodol i ysgogi newid, gan gydnabod ar yr un pryd y gwaith
gwerthfawr sy’n cael ei wneud, a’r arferion da sydd i’w gweld eisoes. Mae Bwrdd yr
Iaith Gymraeg wedi paratoi canllawiau ar ddatblygu defnydd o'r Gymraeg yn y
gweithle, Hyrwyddo a Hwyluso Gweithleoedd Dwyieithog. Mae Llywodraeth
Cynulliad Cymru o’r farn bod canllawiau’r Bwrdd yn un o’r dulliau y dylid ei
ddefnyddio i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol i ddiwylliant ac arferion y gweithle.
At hynny, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi rhoi cymorth ac arweiniad i nifer o
26
sefydliadau yn y sector cyhoeddus ddatblygu prosiectau arloesol i gynyddu’r defnydd
o’r Gymraeg fel iaith fewnol yn y gwaith.
Mae’r prosiectau hyn wedi arwain at well dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu
gweithleoedd, ac wedi esgor hefyd ar nifer o atebion creadigol. Byddwn yn sicrhau
bod canfyddiadau a chanlyniadau ymarferol y prosiectau hyn yn cael eu hystyried
wrth i ni fwrw ymlaen â cham nesaf y gwaith hwn.
At hynny, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru), bydd safonau gweithredu, a ategir gan
godau ymarfer, yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar y sefydliadau
hynny sydd o fewn cymhwysedd y Mesur i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y
gweithle.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod ganddi gyfrifoldeb yn hyn o
beth. Rydym yn ymrwymedig i wireddu’r potensial ieithyddol sydd yn ein holl
swyddfeydd, ac i nodi cyfleoedd priodol i ehangu neu i efelychu ym mhob un o’n
swyddfeydd yr arferion a gaiff eu mabwysiadu yn ein swyddfeydd yn Llandudno ac
yn Aberystwyth.
Dyma nodau a thargedau'r Llywodraeth mewn perthynas â’r maes blaenoriaeth hwn:
• Sefydlu Gweithgor Rhanddeiliaid i lunio fframwaith strategol er mwyn
gweithredu’r ymrwymiadau sydd yn yr adran hon.
• Hyrwyddo datblygiad rhaglenni Cymraeg i Oedolion a fydd yn cael eu
targedu at weithleoedd er mwyn cynnig cymorth i bobl ddefnyddio’r iaith ac
er mwyn iddynt fagu hyder ynddi.
• Paratoi canllawiau ar gyfer darparwyr hyfforddiant ar ddatblygu eu
rhaglenni mewn modd a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion ieithyddol
penodol gweithleoedd.
• Hyrwyddo sefyllfa lle bo’r Gymraeg yn cael ei chydnabod yn sgìl yn y
gweithle a datblygu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn y gweithle.
• Erbyn 2016, rhoi cynlluniau gweithredu y Gymraeg yn y Gweithle ar waith
ar draws ein holl swyddfeydd, gan wneud hynny ar sail yr arferion gorau a
gaiff eu datblygu yn ein swyddeydd yn Llandudno ac yn Aberystwyth.
• Bydd y Comisiynydd yn gallu datblygu safonau ynghylch y defnydd o’r
Gymraeg yn fewnol gan sefydliadau sydd o fewn cymhwysedd Mesur y
Gymraeg.
• Bydd y Comisiynydd yn gallu cefnogi’r gwaith o greu gweithleoedd
dwyieithog drwy ddarparu canllawiau a sefydlu ffyrdd o rannu arferion da
ar draws gweithleoedd yng Nghymru.
Mae targedau eraill sy'n ymwneud ag addysg bellach ac uwch a datblygu gweithlu
dwyieithog, yn cael eu hamlinellu yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y
Llywodraeth.
Cwestiynau
27
C1: A oes unrhyw weithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy
er mwyn datblygu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle?
C2: A ydych chi’n cytuno â'r nodau a'r targedau arfaethedig?
6. Cryfhau'r Seilwaith
Cred y Llywodraeth fod angen seilwaith cryf ar yr iaith a fydd yn adlewyrchu ei statws
fel iaith swyddogol Cymru a hefyd yn helpu'r rheini sydd am ddefnyddio'r iaith i'w
defnyddio. At ddibenion y ddogfen hon, mae'r term seilwaith yn cynnwys terminoleg,
cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, technoleg iaith a data ac ymchwil. Mae gan yr holl
wahanol ffurfiau ar y cyfryngau ran bwysig i'w chwarae yn cefnogi seilwaith yr iaith.
Mae’r gallu i fanteisio ar lyfrau, radio a theledu Cymraeg o safon uchel yn ogystal â
deunydd ar-lein yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu.
6.1 Darllen, Gwylio a Gwrando
Er mwyn i unrhyw iaith fod yn iaith fyw sy'n ffynnu rhaid iddi fod yn fwy nag iaith lafar
yn unig. Mae darllen, ysgrifennu, gwylio a gwrando ar yr holl gyfryngau yn yr iaith
honno yn hollbwysig i'w ffyniant.
Mae ymchwil wedi dangos bod cysylltiad rhwng y graddau y mae plant yn darllen
Cymraeg a'u gafael ar yr iaith. Felly, os ydym am annog mwy o siaradwyr Cymraeg i
ddefnyddio'r iaith a sicrhau eu bod yn hyderus i wneud hynny, bydd eu helpu i ddod
yn fwy llythrennog a chyfarwydd â’r Gymraeg ysgrifenedig yn bwysig. Er mwyn
gwireddu'r nod hwn, bydd annog siaradwyr Cymraeg, plant a phobl ifanc yn
arbennig, i ddarllen amrywiaeth eang o ddeunyddiau Cymraeg, yn llyfrau, yn
gylchgronau, yn bapurau bro ac yn wefannau, yn bwysig.
Mae'n bwysig cofio hefyd am arwyddocâd economaidd y diwydiant cyhoeddi ac
argraffu Cymraeg. Er eu bod yn fychan o ran eu maint o'u cymharu â nifer o
gyhoeddwyr Saesneg eu hiaith, mae llawer o'r cwmnïau wedi'u lleoli mewn
ardaloedd gwledig lle bo llawer o ddefnydd yn cael ei wneud o'r Gymraeg yn y
gymuned. Mae rhwydwaith o siopau llyfrau annibynnol yn cefnogi'r diwydiant ledled
Cymru ac yn adnodd cymunedol pwysig i siaradwyr Cymraeg.
Mae'r Llywodraeth yn cefnogi cyhoeddiadau Cymraeg mewn dwy ffordd yn bennaf:
mae deunyddiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gyfer addysg yn derbyn cymorth
drwy APADGOS tra bo llyfrau, cylchgronau, gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg
360 a deunyddiau eraill, gan gynnwys CD-Roms, yn derbyn cymorth drwy'r grant
cyhoeddi sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Yn y blynyddoedd diwethaf gwelwyd mwy o gymorth yn cael ei gynnig drwy'r grant
cyhoeddi, gan gynnwys cymorth i gyflogi golygyddion mewn saith o'r prif gwmnïau
cyhoeddi, arian i gomisiynu awduron a mwy o adnoddau ar gyfer marchnata. O
ganlyniad, bu cynnydd sylweddol yn nifer y llyfrau Cymraeg o ran eu hystod a'u
gwerthiant.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd wedi gweithio gydag APADGOS i gyhoeddi
deunyddiau i ddarllenwyr llai hyderus. Mae'r rhaglen Stori Sydyn, a ddechreuodd yn
2005, yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i feithrin sgiliau darllen a magu hyder
28
oedolion sy'n ddarllenwyr anfoddog. Mae’r rhaglen hon yn cael ei hehangu, a bydd
yn cynnwys datblygu “cymunedau darllen” ledled Cymru.
Rydym, drwy Gyngor Llyfrau Cymru, am gynnal a datblygu'r cymorth golygyddol sy'n
cael ei roi i gwmnïau cyhoeddi, parhau i roi cymorth i awduron a hefyd i ddatblygu
gwaith graffeg, ffotograffiaeth a dylunio o safon sy'n arbennig o bwysig mewn llyfrau
ffeithiol i oedolion a phobl ifanc.
Mae llawer o wefannau a blogiau Cymraeg eisoes yn bod, gan gynnwys gwefan
newyddion Golwg 360 sy'n derbyn cymorth gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae
marchnata ar-lein wedi'i ddatblygu hefyd drwy werthu i siopau ac unigolion drwy
wefan Cyngor Llyfrau Cymru sef www.gwales.com. Drwy ddefnyddio cyfryngau
electronig a digidol, fodd bynnag, mae posibilrwydd cyrraedd mwy o ddarllenwyr.
Byddwn yn edrych ar y posibiliadau o ran sut y gall cyhoeddwyr deunyddiau
Cymraeg elwa ar y dechnoleg e-lyfrau. Byddwn hefyd yn ystyried y
posibiliadau o ran datblygu adnoddau ychwanegol ym maes cyfryngau digidol
rhyngweithiol yn y Gymraeg gan roi sylw arbennig i anghenion plant a phobl
ifanc.
Mae gan Gymru hanes hir a nodedig o ddarlledu yn Gymraeg o'r rhaglen radio
gyntaf gan y BBC ym 1935 i'r rhaglen deledu gyntaf ym 1953 a sefydlu'r sianel
deledu Gymraeg S4C ym 1982. Bu darlledu yn elfen hollbwysig wrth sicrhau bod y
Gymraeg yn parhau i ffynnu. Er nad yw darlledu yn fater sydd wedi'i ddatganoli, mae
Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gorau glas i sicrhau bod y
gwasanaethau hyn yn parhau i ddatblygu a gwella, yn enwedig yn sgil datganiadau
diweddar ynghylch dyfodol S4C.
Mae ystod a safon rhaglenni Cymraeg ar S4C a Radio Cymru yn gymorth i sefydlu'r
Gymraeg yn iaith fodern ac yn rhan o fywyd bob dydd yng Nghymru. Mae'r
darlledwyr hefyd yn helpu i greu mwy o ymwybyddiaeth ynghylch yr iaith ymhlith y
bobl hynny sy'n gallu siarad Cymraeg a'r bobl hynny na allant ei siarad. Derbynnir
bod gwasanaethau S4C ar gyfer plant, gan gynnwys Cyw a Stwnsh yn gwneud
cyfraniad pwysig tuag at y dasg o normaleiddio'r iaith i blant o bob oed.
Mae potensial i'r adnoddau darlledu hyn gael eu defnyddio mewn ffordd fwy penodol
wrth gynllunio ieithyddol. Rydym eisoes wedi sôn am rôl S4C fel partner yng
Nghynllun Cyflawni’r Gymraeg ar gyfer y grwp oedran 0-5. Byddwn yn edrych ar
ffyrdd eraill o gydweithio â'r darlledwyr er mwyn sicrhau y gallant gyfrannu at
gyflawni canlyniadau'n strategaeth.
Mae potensial i wasanaeth ar-lein S4C i ddysgwyr chwarae rhan bwysig i'r
rheini na allant siarad Cymraeg o ran dod yn fwy cyfarwydd â'r iaith, datblygu
eu sgiliau ieithyddol neu ddod yn rhugl. Credwn y gall hyn gael ei ddatblygu
ymhellach ar y cyd â’r sector Cymraeg i Oedolion a thrwy fynd ati, yn benodol,
i ddarparu rhagor o raglenni ac adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn
addysg statudol (5-16).
Mae S4C a BBC Cymru ill dau yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau
megis yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac eraill sy'n gweithio yn y gymuned i
hybu'r Gymraeg. Er enghraifft, mae BBC Radio Cymru a'r Mentrau Iaith yn cynnal
29
cystadleuaeth “Brwydr y Bandiau” bob blwyddyn; cystadleuaeth a fu'n boblogaidd
iawn ymysg pobl ifanc ac a fu'n gyfrwng pwysig i feithrin talent gerddorol yn
Gymraeg. Mae angen cynnal y partneriaethau hyn a'u datblygu yn y dyfodol.
Ers ei sefydlu, mae S4C a'r cwmnïau cynhyrchu sy'n cyflenwi rhaglenni ar ei chyfer,
wedi chwarae rôl ganolog yn y gwaith o hyfforddi a datblygu gweithwyr ym maes
darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn partneriaeth â sefydliadau megis Cyfle a
Skillset Cymru mae cannoedd o bobl wedi dysgu sgiliau darlledu technegol drwy
gyfrwng y Gymraeg. Mewn cyfnod o newid mawr yn y diwydiant darlledu ar draws y
byd mae angen parhau â'r gwaith hwn er mwyn sicrhau bod darlledu cyfrwng
Cymraeg yn cael ei gynnal yn y dyfodol.
Mae gan Gymru sin cerddoriaeth Gymraeg lewyrchus. Mae rôl bwysig i S4C a Radio
Cymru yn hybu amrywiaeth eang o dalent gerddorol. Mae hefyd yn galonogol gweld
mwy o gwmnïau recordio yn defnyddio technoleg newydd megis iTunes Store i roi eu
cynhyrchion ar y farchnad.
Yn ogystal â gwaith S4C a'r BBC byddwn yn ystyried y posibilrwydd o
gynyddu nifer y rhaglenni Cymraeg ar orsafoedd radio masnachol ledled
Cymru.
Dylai cyflwyno safonau yn ymwneud â’r Gymraeg sy'n ymdrin â gweithgareddau
marchnata cyrff sy'n perthyn i'r sector cyhoeddus arwain at gynyddu nifer yr
hysbysebion Cymraeg sy'n ymddangos ar S4C, gan leihau yn ei dro nifer yr
hysbysebion Saesneg sy'n ymddangos ar y sianel a allai arwain at danseilio statws
yr iaith.
Dyma nodau arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas â darllen, gwylio a gwrando
yn Gymraeg:
• Edrych ar botensial llyfrau electronig yn y Gymraeg.
• Ystyried datblygu adnoddau ychwanegol ym maes cyfryngau digidol
rhyngweithiol yn Gymraeg, gan ganolbwyntio ar anghenion pobl ifanc.
• Parhau i roi cymorth i gyhoeddiadau Cymraeg a chynlluniau i hybu darllen;
parhau i roi cymorth i wella ansawdd ac ehangu ystod y deunydd sydd ar
gael; a sicrhau cynnydd yn nifer y llyfrau Cymraeg sy'n cael eu gwerthu.
• Gwneud gwaith ymchwil yn ystod 2011-12, drwy Gyngor Llyfrau Cymru, ar
ddarllen a phrynu llyfrau Cymraeg a chymharu'r canlyniadau â'r ymchwil a
wnaed yn ystod 2003-06.
• Cefnogi’r gwaith o gomisiynu llyfrau Cymraeg a deunyddiau eraill sy'n
hybu datblygu llythrennedd ymhlith dysgwyr ifanc ac oedolion.
• Rhoi cymorth i ddatblygu darllediadau Cymraeg ar bob platfform a
chydweithio â darlledwyr i sicrhau y gall eu cynnwys gyfrannu at roi'n
strategaeth ar waith.
• Archwilio ar y cyd ag S4C a'r sector Cymraeg i Oedolion y posibilrwydd o
ddatblygu adnoddau i ddysgwyr Cymraeg.
30
• Ystyried y posibilrwydd o gynyddu nifer y rhaglenni Cymraeg ar orsafoedd
radio masnachol ledled Cymru.
Cwestiynau
C1: A oes unrhyw weithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy
er mwyn datblygu darllen, gwylio a gwrando yn Gymraeg?
C2: A ydych chi’n cytuno â’r nodau arfaethedig?
6.2 Terminoleg
Mae'n bwysig sicrhau bod ffynhonnell safonol o derminoleg yn bodoli a'i bod wedi'i
chymeradwyo a'i derbyn gan y rheini sy'n defnyddio termau yn rhan o'u bywyd
cyhoeddus, ym myd y gyfraith, yn y byd addysg ac mewn amryw feysydd arbenigol.
Dros gyfnod o flynyddoedd, cafodd llawer o waith safoni ei wneud gan nifer o
sefydliadau gan gynnwys Pwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol
Cymru, Canolfan Bedwyr (sydd wedi sefydlu Porth Termau Cenedlaethol Cymru),
Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru (sy'n rhannu termau
Llywodraeth y Cynulliad ar-lein drwy TermCymru) a Bwrdd yr Iaith Gymraeg (sy'n
cyhoeddi ei dermau ar-lein drwy ei Gronfa Genedlaethol o Dermau).
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ymddiddori llawer mewn terminoleg ac, yn
ddiweddar, aeth ati mewn partneriaeth â chyrff allweddol eraill i ddrafftio cynigion ar
gyfer Corff Safoni Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg, er mwyn cydlynu'r gwaith a
wneir gan y sefydliadau sydd ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu a safoni terminoleg
ac enwau lleoedd Cymraeg. Nod y Corff fyddai lleihau dyblygu gwaith, annog
cydweithio a symud ymlaen â'r gwaith o safoni terminoleg er mwyn sefydlu un gronfa
o dermau awdurdodol sydd o fewn cyrraedd hawdd.
Mae'r Llywodraeth yn cytuno y dylid sefydlu Corff Safoni Cenedlaethol ar gyfer
y Gymraeg a bydd yn gwahodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i fynd â'r cynnig
rhagddo. Bydd y Corff yn codi statws y Gymraeg, ac yn helpu i sicrhau bod
terminoleg wedi'i safoni yn cael ei darparu ar gyfer pobl sydd am ddefnyddio'r
Gymraeg yn eu gwaith a'u bywyd bob dydd. Caiff y meysydd terminolegol i'w safoni
eu blaenoriaethu yn unol ag anghenion defnyddwyr y Gymraeg.
Mae’n bosibl y bydd y Corff hwn, ynghyd â sefydliadau eraill, hefyd yn archwilio'r
posibilrwydd o ddatblygu geiriadur Cymraeg-Saesneg ar-lein. Byddai nid yn unig yn
ddefnyddiol fel adnodd ar ffurf geiriadur ond hefyd yn hwyluso'r ffordd tuag at
ddatblygu meddalwedd adnabod llais drwy'r Gymraeg.
Dyma nod arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas â therminoleg:
• sefydlu Corff Safoni Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg ynghyd â phwyllgor
llywio i gytuno ar raglen waith ar gyfer y Corff.
Cwestiynau
31
C1: A oes gweithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy er
mwyn datblygu terminoleg Gymraeg?
C2: A ydych chi’n cytuno â'r nod arfaethedig?
32
6.3 Cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
Rhaid bodloni'r galw am gyfieithwyr proffesiynol a chyfieithwyr proffesiynol ar y pryd
sy'n gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn diwallu'r angen am ddogfennau
dwyieithog a chyfieithu ar y pryd mewn digwyddiadau a chyfarfodydd. Bwrdd yr Iaith
Gymraeg sy'n ariannu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a gweithia er mwyn cynnal a
datblygu safonau proffesiynol yn y maes ac i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i
ymuno â'r proffesiwn.
Mae'r Gymdeithas wedi cymryd camau breision i ddatblygu'r diwydiant yn y
blynyddoedd diwethaf ac rydym yn cydnabod bod angen parhau â'r gwaith hwn.
Gallai strwythur achredu a rheoleiddio cadarn fod o fudd i’r diwydiant a
byddwn yn gofyn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg edrych ar y posibilrwydd o
fabwysiadu nod siarter i gadarnhau achrediad a dynodi safon warantedig o
gyfieithu.
Yn ogystal â hynny, mae angen datblygu ymhellach yr hyfforddiant sydd ar gael i
gyfieithwyr. Gallai hyn gael ei ddarparu gan sefydliadau addysg uwch ac addysg
bellach a gallai gynnwys hyfforddiant mewn golygu, prawfddarllen, cyfieithu ar y pryd
a drafftio’n ddwyieithog.
Rhaid i ni sicrhau hefyd fod y proffesiwn cyfieithu yn gwneud y defnydd gorau posibl
o'r offer TGCh sydd ar gael er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a chysondeb. Bydd cael
cyrff cyhoeddus i gydweithio er mwyn rhannu adnoddau megis cofau cyfieithu yn
hollbwysig er mwyn osgoi dyblygu gwaith ac, i'r perwyl hwnnw, byddwn yn gofyn i
Fwrdd yr Iaith Gymraeg edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu cronfa ddata
genedlaethol o gofau cyfieithu.
Soniodd nifer o'r rhai a ymatebodd i'r ymarferiad Dweud eich dweud am yr
anawsterau y mae grwpiau cymunedol a gwirfoddol bychan yn eu hwynebu wrth
sicrhau gwasanaethau cyfieithu, a hynny o ran eu gallu i dalu am y gwasanaethau
hynny yn bennaf. Byddwn felly yn ystyried sefydlu prosiect peilot i asesu
effeithiolrwydd datblygu gwasanaeth cyfieithu cymunedol; prosiect y byddai
angen iddo gael ei ariannu gan bartneriaeth o wahanol sefydliadau. Byddwn
hefyd yn gwahodd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i ystyried a fyddai'n briodol,
neu'n bosibl, i'w haelodau gynnig gwasanaethau pro bono i grwpiau
cymunedol ac achosion da.
Yn aml, pan fydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd yn cael eu darparu mewn
cyfarfodydd a digwyddiadau, bydd llawer o siaradwyr Cymraeg yn parhau i
ddefnyddio'r Saesneg. Bydd annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith o
dan yr amgylchiadau hyn yn bwysig.
Byddwn yn parhau i gynnal y Llinell Gyswllt sy'n cael ei gweithredu ar hyn o bryd gan
Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac sy'n cynnig cyfieithu darnau byr o destun am ddim.
Rydym am leihau'r graddau y mae sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad
Cymru, yn gorfod ysgwyddo'r gost a defnyddio adnoddau cyfieithu er mwyn cyfieithu
i'r Saesneg ddogfennau sy'n cael eu cyflwyno iddynt yn Gymraeg. Wrth i fwy a mwy
o sefydliadau ac unigolion ddefnyddio’r iaith, fe ddaw'n bwysicach i gyrff cyhoeddus
sicrhau bod ganddynt staff sy'n gallu delio â dogfennau sy'n cael eu cyflwyno yn
33
Gymraeg, yn hytrach na'u bod yn gorfod cael eu cyfieithu i'r Saesneg at ddibenion
mewnol yn unig.
Dyma nodau arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas â chyfieithu:
• Gofyn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno
strwythur achredu a rheoleiddio, gan gynnwys nod siarter, er mwyn
sicrhau safon y cyfieithwyr sy'n cynnig gwasanaeth cyfieithu
Cymraeg/Saesneg.
• Ystyried sefydlu cynllun peilot mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau er
mwyn datblygu cynlluniau cyfieithu cymunedol.
• Drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, parhau i roi cymorth i Gymdeithas
Cyfieithwyr Cymru.
• Ystyried datblygu cyfleoedd hyfforddi, gan gynnwys hyfforddiant mewn
drafftio'n ddwyieithog, golygu a phrawfddarllen.
Cwestiynau
C1: A oes gweithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy er
mwyn datblygu gwasanaethau cyfieithu Cymraeg?
C2: A ydych chi’n cytuno â'r nodau arfaethedig?
C3: Sut mae cynyddu'r defnydd sy'n cael ei wneud o gyfleusterau cyfieithu ar y
pryd?
6.4 Technoleg Iaith
Mewn cyfnod cymharol fyr, mae technoleg gwybodaeth wedi dylanwadu ar ein
bywydau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Er mwyn cynyddu'r defnydd a wneir
o'r Gymraeg, mae'n rhaid bod ei siaradwyr yn medru defnyddio'r iaith mewn cynifer o
gyd-destunau ag y bo modd, gan gynnwys cyd-destunau technolegol cynyddol
bwysig. Mae'n rhaid bod gennym gynllun gweithredu hirdymor yn ei le er mwyn
sicrhau nad yw'r iaith yn cael ei gadael ar ôl gan y dechnoleg newydd.
Yn rhan o'i Strategaeth TGCh ar gyfer y Gymraeg mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi
gweithio gyda phartneriaid i greu meddalwedd a rhyngwynebau cyfrwng Cymraeg
sy'n cael eu darparu am ddim i ddefnyddwyr. Mae wedi meithrin partneriaeth
gynhyrchiol gyda Microsoft er mwyn creu pecynnau rhyngwyneb Cymraeg am ddim

Mae John yn awgrymu systemau cod agored yn hytrach na meddalwedd Microsoft. Unrhyw un? --Carlmorris 10:53, 29 Ionawr 2011 (UTC)

ac wedi cynnal prosiectau allgymorth i'w hybu; darparu cyllid grant, ar y cyd â
Llywodraeth Cynulliad Cymru, i roi cymorth tuag at gyfieithu fersiwn o OpenOffice i'r
Gymraeg; darparu grantiau i wella pecyn gwirio sillafu a gramadeg Cysgliad sydd ar
gael ar blatfform PC ac Apple Mac; ac wedi rhoi cyllid i gefnogi datblygu technoleg
elfennol synthesis llais ac adnabod llais. Mae hefyd wedi cyhoeddi ei ddogfen
Canllawiau a Safonau Meddalwedd Dwyieithog4, cynllun achredu cysylltiedig a
chanllawiau dwyieithrwydd ar gyfer gosodiadau Gwe2.0. Mae’r rhain i gyd yn nodi
4 http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/3962.pdf
34
arferion da ar gyfer datblygwyr meddalwedd a gwefannau yn seiliedig ar yr ymchwil
rhyngwladol diweddaraf.5
Mae pobl weithiau yn amharod i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau
anghyfarwydd ac mae'r Bwrdd wedi creu Canolfan Rheoli Iaith sydd ar gael yn rhad
ac am ddim i helpu pobl i ddefnyddio technoleg cyfrwng Cymraeg mewn cartrefi a
gweithleoedd dwyieithog. Mae hefyd yn rhoi gwersi tiwtorial ar sut i ddefnyddio
acenion yn y Gymraeg a sut i drosi'n hawdd rhwng rhyngwynebau Cymraeg a
Saesneg ar yr un peiriant. Disgwylir datblygiadau pellach hefyd yn y maes hwn.
Mae gwaith pwysig wedi’i wneud hefyd gan Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, ym
maes datblygu offer TGCh cyfrwng Cymraeg. Mae'n amlwg bod gennym sylfeini
cadarn i sicrhau bod lle o hyd i'r Gymraeg ym maes TGCh.
Yn ogystal â hynny, mae grwpiau o wirfoddolwyr wedi gweithio i ddarparu
rhyngwynebau Cymraeg a chynnwys ar gyfer gwefannau poblogaidd megis
Facebook a Wikipedia. Mae hefyd nifer o flogiau a fforymau ar-lein lle bo'r Gymraeg
yn gyfrwng cyfathrebu.
Mae nifer cynyddol o sefydliadau, cyrff cyhoeddus sydd â chynlluniau iaith Gymraeg
gweithredol yn arbennig, yn darparu gwasanaethau ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym am weld y gwaith o hyrwyddo adnoddau TGCh Cymraeg yn parhau, yn
ogystal ag ymestyn yr ystod o feddalwedd ac adnoddau Cymraeg sydd ar gael i
siaradwyr Cymraeg.
Dylid parhau i hyrwyddo meddalwedd a rhyngwynebau cyfrwng Cymraeg sydd
ar gael eisoes. Yn arbennig, mae angen i ni weld a ellid gosod pecynnau
meddalwedd a rhyngwyneb cyfrwng Cymraeg ym mhob gweithfan mewn
ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru, gan gynnig dewis iaith.
Yn yr un modd, byddwn yn ystyried defnydd o’r Gymraeg yng nghyswllt yr
Amgylcheddau Rhith-ddysgu a ddefnyddir mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Byddwn yn ystyried y posibilrwydd o ddarparu’n ddi-dâl i ddefnyddwyr yr holl
feddalwedd cyfrwng Cymraeg a ddatblygir gan ddefnyddio arian cyhoeddus, a bod yr
holl gydrannau a ddefnyddir i ddatblygu'r feddalwedd yn cael eu eu rhyddhau ar
fformat safonol rhyngwladol fel y gallant gael eu defnyddio gan eraill er lles y
Gymraeg.
5 Cynllun Achredu ar gyfer y Ddogfen Safonau: http://www.byigwlb.
org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoe
ddiadau/20090831+dg+d+bilingual+software+accreditation+scheme+f2+excel+97.xls
Goblygiadau gwe2.0 ar gyfer gwefannau dwyieithog: http://www.byigwlb.
org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoe
ddiadau/20090812+ad+d+gwe2.0+a+dwyieithrwydd+-+web2.0+and+bilingualism+f1.ppt
Canolfan Rheoli Iaith: http://www.byigwlb.
org.uk/cymraeg/defnyddio/Pages/SutmaedefnyddiorGymraegarfynghyfrifiadur.aspx
35
Byddwn yn gwahodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatblygu Cynllun Gweithredu
Technoleg hirdymor a fydd yn edrych ar anghenion technoleg cyfrwng
Cymraeg o bob math. Ymhlith pethau eraill, byddai’r cynllun gweithredu yn
ystyried materion megis darparu gwasanaethau ar-lein yn Gymraeg;
meddalwedd a rhyngwynebau Cymraeg a safleoedd rhwydweithio
cymdeithasol a gwebost Cymraeg, a'r ffordd orau o fynd ati i harneisio sianeli
Gwe2.0 ar gyfer dyfodol yr iaith.
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithredu mwy o'i systemau yn unol â
dogfen Bwrdd yr Iaith Gymraeg Canllawiau a Safonau Meddalwedd Dwyieithog.
Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw systemau meddalwedd y byddwn yn eu
comisiynu yn y dyfodol yn cydymffurfio â'r safonau hynny, fel y bo'n briodol. Byddwn
hefyd yn annog ac yn cynorthwyo ein staff Cymraeg eu hiaith i ddefnyddio
cynhyrchion meddalwedd Cymraeg.
Dyma nodau arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas â thechnoleg iaith:
• Gwahodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatblygu Cynllun Gweithredu
Technoleg Iaith hirdymor i sicrhau y parheir i roi lle i'r Gymraeg yn y maes
hwn.
• Archwilio'r posibilrwydd o roi meddalwedd a rhyngwynebau Cymraeg ym
mhob gweithfan ym mhob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.
• Gweithredu mwy o'n systemau yn unol â dogfen Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Canllawiau a Safonau Meddalwedd Dwyieithog.
• Cefnogi datblygu ymhellach feddalwedd a rhyngwynebau Cymraeg a
hynny'n ddi-dâl.
Cwestiynau
C1: A oes gweithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy er
mwyn datblygu technoleg iaith cyfrwng Cymraeg?
C2: A ydych chi’n cytuno â'r nodau arfaethedig?
6.5 Ymchwil a data
Mae angen sail tystiolaeth fanwl a chyfoes yn deillio o ddata a gasglwyd yn rheolaidd
o astudiaethau meintiol ac ansoddol er mwyn galluogi ymarferwyr i wneud
penderfyniadau polisi cytbwys. Mae angen i ni hefyd fesur effaith y prosiectau a'r
gweithgareddau rydym yn eu hariannu.
Mae'r Llywodraeth wedi cydnabod pwysigrwydd cael sail tystiolaeth gadarn drwy
gefnogi’r gwaith ymchwil a wneir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ynghyd â’i waith
casglu data. Er 2003, mae'r Bwrdd wedi cynnal ymchwil fanwl ar y defnydd a wneir o
iaith gan gynnwys Arolygon Defnydd Iaith 2004-06; prosiect i asesu'r defnydd a
wneir o iaith ymhlith rhwydweithiau cymdeithasol o bobl ifanc mewn 12 ardal ar
draws Cymru; a phrosiect i ymchwilio i'r modd y caiff iaith ei throsglwyddo mewn
teuluoedd dwyieithog. Drwy asesu canfyddiadau'r prosiectau hyn, ochr yn ochr â
dadansoddiad manwl o ganlyniadau Cyfrifiad 2001, mae gennym fwy o ddata ar yr
36
iaith a'i defnydd nag erioed o'r blaen. Mae'r gwaith wedi rhoi darlun cliriach i ni o'r
patrymau defnydd iaith ar draws Cymru ynghyd â darlun manylach o niferoedd
siaradwyr Cymraeg a'u dosbarthiad.
Mae'r holl bolisïau a'r prosiectau a drafodir yn y ddogfen hon wedi'u cynnwys gyda’r
nod o sicrhau canlyniad dymunol penodol: cynyddu'r defnydd a wneir o'r Gymraeg.
Gan hynny, er mwyn profi pa mor effeithiol yw'r gwaith hwn, mae angen data
sylfaenol ynghylch defnydd iaith a phroses o gasglu data yn rheolaidd er mwyn ein
galluogi ni i fonitro cynnydd yn erbyn y canlyniad dymunol.
Bydd Mesur y Gymraeg yn gosod dyletswydd ar Gomisiynydd y Gymraeg i lunio
adroddiad bob pum mlynedd ar gyflwr yr iaith. Gyda hyn mewn golwg, cred y
Llywodraeth y bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg y pwerau i wneud gwaith ymchwil
ac i gasglu a dadansoddi data. Byddwn yn parhau i roi cymorth tuag at y gwaith sy’n
cael ei wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gomisiynu ysgoloriaethau PhD mewn
cynllunio ieithyddol cymhwysol, gan roi blaenoriaeth i waith ymchwil a fydd yn ategu'r
meysydd polisi a nodir yn y strategaeth hon.
Rydym yn cydnabod bod angen cynnal arolygon rheolaidd ar ddefnydd iaith a
fydd yn adeiladu ar y data a gafwyd o'r Cyfrifiad ar allu ieithyddol. Bydd
Comisiynydd y Gymraeg yn gallu comisiynu arolwg o'r fath bob pum mlynedd,
gyda'r un nesaf i ddechrau yn 2013, er mwyn atgyfnerthu'r data a gafwyd o
Gyfrifiad 2011. Dylid comisiynu'n rheolaidd hefyd arolygon o agweddau er mwyn
monitro agweddau tuag at y Gymraeg a'i defnydd.
Byddwn yn edrych hefyd ar yr angen i gynnwys ystyriaethau'n ymwneud â'r
Gymraeg wrth i ni ddatblygu ein prosiectau ymchwil a data ein hunain.
Dyma nodau arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas ag ymchwil a data:
• Bod Comisiynydd y Gymraeg yn gallu:
o Llunio adroddiad bob pum mlynedd ar gyflwr yr iaith.
o Cynnal arolygon defnydd iaith yn rheolaidd.
o Ymchwilio i effeithiolrwydd gweithgareddau a phrosiectau yr ymgymerir
â hwy er mwyn cefnogi’r iaith, gan gynnwys y rheini yr ymgymerir â
hwy gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu a ariennir ganddi.
• Cynnwys ystyriaethau yn ymwneud â'r Gymraeg wrth i ni ddatblygu ein
prosiectau ymchwil a data ein hunain.
• Bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn parhau i gomisiynu ysgoloriaethau PhD
mewn cynllunio ieithyddol cymhwysol.
Cwestiynau
C1: A oes gweithgareddau, ac eithrio’r rhai uchod, y dylid ymgymryd â hwy?
C2: A ydych chi’n cytuno â'r nodau arfaethedig?
37
6.6 Hyrwyddo gwerth y Gymraeg
Elfen a fydd yn hanfodol wrth roi'n strategaeth ar waith fydd codi ymwybyddiaeth
ynghylch gwerth y Gymraeg. I lawer o sefydliadau a fydd yn ymwneud â'r prosiectau
a'r mentrau a ddisgrifir yn y ddogfen hon, mae hyn yn rhan annatod o'u raison d'être.
Ond mae gan weithgareddau marchnata a hysbysebu ran bwysig i'w chwarae hefyd
wrth hyrwyddo gwerth y Gymraeg.
Mae rhai o weithgareddau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnwys ymgyrchoedd megis
Cymraeg Kids Soak it Up sy'n tynnu sylw at fanteision siarad Cymraeg â phlant ac
addysg ddwyieithog, y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref sy'n helpu disgyblion a'u rhieni i
ddod o hyd i adnoddau Cymraeg i'w helpu gyda'u gwaith cartref; Mae gen ti ddewis,
sy'n annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg; ac Iaith
Gwaith, sef cynllun sy'n galluogi busnesau a sefydliadau eraill i archebu
bathodynnau am ddim i'w defnyddio gan staff i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg.
Credwn y gall y gweithgareddau hyn helpu i gynyddu'r defnydd a wneir o'r Gymraeg;
dwyn llawer o'r gweithgareddau, y prosiectau a'r mentrau sydd yn y ddogfen hon at
sylw'r cyhoedd ac annog pobl i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt hwy
a'u teuluoedd i fwynhau'r iaith a'i defnyddio.
Mae pobl ifanc yn grwp targed allweddol mewn perthynas â hyrwyddo gwerth y
Gymraeg. Mewn mannau eraill yn y ddogfen hon cyfeiriwn at yr angen i ddeall yn
well y dewis y mae pobl ifanc yn ei wneud wrth benderfynu pa iaith i'w defnyddio.
Mae angen i hyn ddigwydd ochr yn ochr â gwella'r gwaith o hyrwyddo manteision y
Gymraeg fel sgìl wrth ddod o hyd i waith yn y dyfodol.
Dyma nod arfaethedig y Llywodraeth mewn perthynas â marchnata:
• Sefydlu gweithgor i ystyried gweithgareddau sydd eisoes yn y bod yn y
maes hwn ac at y dyfodol.
Cwestiynau
C1: A ydych chi'n cytuno bod gan farchnata, cyfathrebu a hysbysebu rôl i'w
chwarae?
C2: A ydych chi’n cytuno â'r nodau arfaethedig?
Casgliad
Mae'r ddogfen hon yn dangos bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo'n
llwyr i weld y Gymraeg yn ffynnu mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru. Ni fydd y
dasg yn un hawdd. Mae'r iaith yn wynebu llawer o heriau, y newidiadau demograffig
sy'n digwydd yn y cadarnleoedd gwledig yn anad dim. Mae ffactorau economaidd a
phrinder tai fforddiadwy yn cael effaith andwyol ar yr iaith hefyd. Mae'r ddogfen hon
yn amlinellu ein cynigion i fynd i'r afael â'r heriau hyn mewn modd holistaidd. Ni all y
Gymraeg oroesi heb swyddi a chartrefi ar gyfer pobl ifanc yn eu cymunedau. Bydd y
llywodraeth yn cymryd y rhan arweiniol wrth gyflawni’r gwaith hwn ond er mwyn iddo
lwyddo, rhaid cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau
38
gwahanol, o’r awdurdodau lleol i'r Mentrau Iaith ac o'r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth
y Cynulliad i gyrff gwirfoddol sy'n gweithio ar lawr gwlad. Yn yr hinsawdd ariannol
sydd ohoni mae'n rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cyflawni'r
canlyniadau sydd i’w hamlinellu yn Strategaeth y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg.
39
Atodiad A
Proffil Ystadegol o'r Iaith Gymraeg
Ceir rhagor o ddata am siaradwyr Cymraeg a'r defnydd a wneir o'r iaith yn y mapiau
a'r tablau canlynol.
Pwyntiau Allweddol o'r Data
• Dangosai Cyfrifiad 2001 fod 20.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad
Cymraeg (582,400 o bobl). Roedd hyn yn gynnydd o'i gymharu â
Chyfrifiad 1991 (18.7% a 508,100 o bobl).
• Bu cynnydd yn nifer y rheini rhwng 5 a 15 oed a fedrai'r Gymraeg, sef o
25.9% i 40.8%, yn bennaf oherwydd y cynnydd yn nifer y plant a oedd yn
ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu'n dysgu Cymraeg yn
rhan o'r cwricwlwm mewn ysgolion eraill.
• Yn 2001, roedd 17.9% o blant ysgolion cynradd yn cael eu haddysgu
mewn dosbarthiadau â'r Gymraeg yn brif gyfrwng addysgu ynddynt
(cynnydd o 16% ym 1991).
• Erbyn 2010, roedd y ganran wedi cynyddu eto i 21.1%.
• Datgelwyd hefyd o ganlyniad i Gyfrifiad 2001 mai dim ond 7% o blant tair
oed oedd yn byw mewn teuluoedd lle'r oedd pawb yn medru'r Gymraeg.
• Mae'r prosesau mudo wedi effeithio'n ddirfawr ar y broydd Cymraeg
traddodiadol gyda llawer o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn symud i
ardaloedd trefol i weithio a phobl nad ydynt yn medru'r Gymraeg yn symud
i mewn i'r ardaloedd hynny. Cadarnhawyd y patrwm hwn gan broffil
daearyddol y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2001 gyda gostyngiad yng
nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd traddodiadol megis
Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych.
• Bu gostyngiad yn nifer y cymunedau lle'r oedd dros 70% o'r boblogaeth yn
medru'r Gymraeg i 54 yng Nghyfrifiad 2001 o'i gymharu â 92 ym 1991.
Dadleuwyd ers tro bod angen dwysedd o siaradwyr ar y lefel honno er
mwyn i'r Gymraeg fod yn iaith bob dydd yn y cymunedau hynny.
• Mewn arolwg a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg6, dywedodd
dros 80% o'r rheini a ymatebodd eu bod yn gweld yr iaith yn 'rhywbeth i
fod yn falch ohono' a dywedodd bron 75% eu bod yn gweld yr iaith 'yn
rhywbeth sy'n perthyn i bawb yng Nghymru'.
• Nododd Arolygon Defnydd Iaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2004-06 fod 58%
o siaradwyr Cymraeg (317,000 o bobl) yn eu hystyried eu hunain yn rhugl.
• Nodwyd hefyd fod 87% o'r siaradwyr Cymraeg rhugl hyn (276,000 o bobl)
yn siarad yr iaith bob dydd. Ein her yw adeiladu ar hyn a mynd i'r afael â'r
bygythiadau sy'n wynebu'r iaith.
6 Beaufort Research’s Wales Omnibus Survey, November 2008. Fe'i cyhoeddwyd ar wefan
http://www.byig-wlb.org.uk/
40
41
42
43
44
Atodiad B
Mesur y Gymraeg
Ym mis Mawrth 2010, cyflwynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Mesur y Gymraeg
(Cymru) er mwyn:
• Cynnig mwy o eglurder a chysondeb ar gyfer siaradwyr Cymraeg o ran y
gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg.
• Sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg a chadarnhau statws swyddogol yr
iaith.
• Lleihau’r gofynion gweinyddol sydd ar y rheini sydd â dyletswyddau drwy
symud tuag at ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg
ac ar anghenion siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith yn
hytrach nag ar lunio cynlluniau iaith.
• Datblygu trefn orfodi fwy effeithiol mewn perthynas ag unrhyw
ddyletswyddau a bennir.
Dymuniad y Llywodraeth, drwy'r Mesur, yw adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd
gan Ddeddf 1993 ac atgyfnerthu'r gwaith da a wnaed gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
mewn perthynas â chynlluniau iaith Gymraeg.
Mae'r Mesur hefyd yn cadarnhau statws swyddogol yr iaith. Dylai hyn feithrin hyder
siaradwyr Cymraeg sydd am ddefnyddio'r iaith wrth ymwneud â'r sector cyhoeddus,
gan anfon neges glir ar yr un pryd i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector
preifat a’r trydydd sector ynghylch y statws hwnnw.
Bydd y Mesur yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg gan roi pwer cyffredinol i
hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y
Gymraeg a'r Saesneg. Unwaith y penodir y Comisiynydd bydd yn camu i mewn i
esgidiau'r Bwrdd - a chaiff y Bwrdd ei ddiddymu.
Bydd y Mesur yn sefydlu rhaglen dreigl er mwyn cyflwyno system o safonau yn
ymwneud â'r Gymraeg yn lle'r cynlluniau iaith. Ni fydd cynllun iaith sefydliad mewn
grym mwyach pan ddaw'r ddyletswydd i gydymffurfio â'r safonau yn weithredol. Hyd
nes y daw'r safonau i rym, fodd bynnag, bydd yn ofynnol i sefydliadau barhau i
gydymffurfio â'u cynlluniau iaith.
Bydd y Mesur yn creu:
• Safonau cyflenwi gwasanaethau er mwyn gosod dyletswyddau ar
sefydliadau i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
• Safonau llunio polisi i osod dyletswyddau ar sefydliadau i ystyried effaith
eu penderfyniadau polisi ar yr iaith er mwyn creu mwy o gyfleoedd i'r
cyhoedd ddefnyddio'r Gymraeg.
• Safonau gweithredu i osod dyletswyddau ar sefydliadau i hyrwyddo a
hwyluso defnyddio'r Gymraeg wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau a'u
45
busnes. Bydd hyn yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar
sefydliadau ynghylch defnyddio'r Gymraeg yn eu gweithle.
• Safonau hybu i osod dyletswyddau ar Lywodraeth Cynulliad Cymru,
awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol i hyrwyddo a
hwyluso gwneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg.
• Safonau cadw cofnodion i osod dyletswyddau ar sefydliadau i gadw
cofnodion yn nodi i ba raddau y maent yn cydymffurfio â'r safonau eraill - a
chofnodion o'r cwynion ynghylch cydymffurfiaeth.
Bydd y safonau hyn, drwy osod dyletswyddau ar sefydliadau, yn arwain at sefydlu
hawliau i siaradwyr Cymraeg dderbyn y gwasanaethau hynny.
Bydd y Comisiynydd hefyd yn gallu ei gwneud hi'n ofynnol i sefydliadau baratoi
cynlluniau neu strategaethau yn nodi sut y bwriadant gydymffurfio â safonau.
Yn amodol ar gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, bydd y Mesur arfaethedig hefyd
yn galluogi i safonau gael eu gosod ar Weinidogion y Goron - ac i'r safonau hynny
gael eu gorfodi. Bydd hyn yn welliant ar Ddeddf 1993 lle na ellir ei gwneud hi'n
ofynnol i gyrff y Goron lunio cynlluniau (er hynny fe allant wirfoddoli i fynd ati i'w
paratoi).
Yn ogystal â hynny, bydd y Mesur yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar
ystod ehangach o sefydliadau na Deddf 1993, gan gynnwys darparwyr
gwasanaethau ffôn, gweithredwyr bysiau a threnau, cyflenwyr nwy a thrydan - a
phobl sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb neu drefniadau a
wnaed gydag awdurdod cyhoeddus (ond drwy safonau cyflenwi gwasanaethau a
safonau cadw cofnodion yn unig mewn perthynas â’r holl rai uchod). Bydd gosod
dyletswyddau ar y sefydliadau hyn, sy'n rhan o fywyd bob dydd yng Nghymru, yn
gwneud llawer i gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r
iaith a chynyddu ei statws.
Yn ogystal â hynny, gall safonau sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau, llunio
polisïau, gweithredu a chadw cofnodion fod yn berthnasol i sefydliadau sy'n derbyn
mwy na £400,000 o arian cyhoeddus.
Nid oes angen, fodd bynnag, i ddyletswyddau gael eu gosod ar bob sefydliad a ddaw
o fewn cymhwysedd y Mesur. Er enghraifft, gallai sefydliad sy'n derbyn dros
£400,000 o arian cyhoeddus y flwyddyn fod o fewn y cymhwysedd ond gellid delio â'r
sefydliad hwnnw drwy sicrhau bod amodau ieithyddol priodol yn cael eu cysylltu â’r
cynnig am gyllid yn hytrach na'i wneud yn destun safonau yn ymwneud â'r Gymraeg.
Y Comisiynydd fydd â'r cyfrifoldeb pennaf am orfodi sefydliadau i gydymffurfio â'r
safonau. I'r perwyl hwn, bydd yr opsiynau gorfodi sydd ar gael i'r Comisiynydd yn
cynnwys ei gwneud hi'n ofynnol i'r sefydliad gymryd camau neu baratoi cynllun
gweithredu i atal neu unioni methiant i gydymffurfio; rhoi cyhoeddusrwydd i unrhyw
fethiant i gydymffurfio (neu ei gwneud yn ofynnol bod y sefydliad dan sylw yn
gwneud hynny), neu osod cosb sifil ar y sefydliad (hyd at £5,000 ar hyn o bryd er y
gall y swm hwn gael ei gynyddu drwy orchymyn).
46
Mae'r drefn orfodi hon yn gadarnach ac yn fwy hyblyg na'r hyn sydd ar gael i Fwrdd
yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd. Yn ogystal â'r uchod, fodd bynnag, bydd y
Comisiynydd yn gallu cynnig cyngor a gwneud argymhellion i sefydliad - neu
ymrwymo i gytundeb setlo â sefydliad (lle bydd y sefydliad yn ymrwymo i atal neu
unioni methiant i gydymffurfio â safonau heb yr angen i'w orfodi'n ffurfiol).
Yn ogystal â'r Comisiynydd, bydd Tribiwnlys y Gymraeg yn cael ei sefydlu i ddelio ag
apelau yn erbyn gosod safonau - a'u gorfodi. Bydd y Tribiwnlys hefyd yn gallu delio
ag apelau gan unigolion mewn perthynas â phenderfyniadau’r Comisiynydd ynghylch
cwynion sy’n ymwneud â methu â chydymffurfio â safonau yn ymwneud â’r
Gymraeg.
Bydd y Comisiynydd hefyd yn gallu cyhoeddi codau ymarfer er mwyn rhoi canllawiau
ymarferol ar weithredu yn unol â'r safonau. Yn wahanol i'r cyngor a gynigir gan y
Bwrdd ar hyn o bryd o dan adran 3 o Ddeddf 1993, sef cyngor na ellir ei orfodi, bydd
y Comisiynydd yn gallu ystyried i ba raddau y mae sefydliad wedi cydymffurfio â
chod penodol er mwyn ei helpu i benderfynu a yw'r sefydliad wedi cydymffurfio â'r
safon berthnasol ai peidio.
Bwriad y safonau newydd, ynghyd â phwerau gorfodi'r Comisiynydd, yw gwella
ansawdd gwasanaethau Cymraeg (y disgwylir iddynt, mewn nifer o achosion, gael
eu darparu eisoes o dan Ddeddf 1993), canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau yn
hytrach nag ar lunio cynlluniau iaith, rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg ac ymestyn y
cyfrifoldeb am hybu defnyddio'r Gymraeg i ragor o sefydliadau.
Bydd yn hanfodol sicrhau, fodd bynnag, bod Cynlluniau Iaith Gymraeg yn parhau i
fod mewn grym yn ystod y cyfnod trosiannol tra bydd y safonau yn cael eu datblygu
o dan y Mesur arfaethedig ynghylch y Gymraeg (Cymru) a bod eu cryfderau yn cael
eu hadlewyrchu yn y system safonau newydd.
47