Gweithrediadau

Hacio'r Iaith Ionawr 2012 - Trefnu cyhoeddusrwydd a'r wasg

Oddi ar Hedyn

Erthyglau i'r wasg/wefannau eraill?

Oes rhywun awydd sgwennu cofnod ar gyfer rhai cyhoeddiadau arlein a phrint yn sôn am y digwyddiad?

Dyma restr fach o lefydd gallen ni drio cyhoeddi rhywbeth gyda gogwydd bersonol ar y digwyddiad:

  • Blog Golwg360
  • Golwg (darn barn?)
  • Barn
  • WalesHome
  • IWA
  • Planet - wedi gofyn --Carlmorris 00:09, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)
  • Guardian CiF (?)
  • Culture Colony (dwi di cynnig sgwennu rhwybeth --Rhodri.apdyfrig 14:36, 1 Rhagfyr 2011 (UTC))
  • Huffington Post?
  • Global Voices?
  • Syniadau eraill?

Cyhoeddiadau lle byddai datganiad i'r wasg yn well?

  • Y Cymro
  • Western Mail
    (paid â boddran gyda WM, gwastraff o amser. Tro diwethaf gwnaethon nhw cyhoeddi erthygl am y digwyddiad gyda theitl 'Gog-le', cofio? --Carlmorris 00:09, 2 Rhagfyr 2011 (UTC))
  • Daily Post
  • Newyddion Teledu / Radio
  • Golygyddion technoleg y wasg Brydeinig?
  • Arall? Lleol/Rhanbarthol?

Oes angen gwneud rhestr hefyd o bobol a sefydliadau eraill fyddai'n dda i adael iddyn nhw wybod bod ni'n bodoli, a bod y fath weithgarwch yn bodoli yng Nghymru ac yn y Gymraeg?

Cytuno. Dw i ddim yn meddwl bydd nifer o hacwyr ar y diwrnod yn broblem. Ond bydd mwy o ymwybyddiaeth yn dda. Mewn newyddion 'Saesneg', gofynna am y polisi o ran erthyglau Cymraeg achos mae rhai yn fodlon cyhoeddi erthyglau Cymraeg/dwyieithog (e.e.). Paid anghofio sôn am sgyrsiau Hacio'r Iaith ar haciaith.com --Carlmorris 00:00, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)

Os da chi ffansi sgwennu rhywbeth i'n helpu ni i rannu gwybodaeth am y digwyddiad (a drwy estyniad ein holl weithgareddau!), yna rhowch eich enw drws nesa i'r cyhoeddiad a chysylltwch â nhw i ofyn.

Datganiad i'r wasg

Oes rhywun yn gwirfoddoli i sgwennu ambell ddatganiad i ni?

  • un cyn dolig - rhagrybuddiad am y digwyddiad - rhagflas o'r cynnwys - syniadaeth
  • un dechrau Ionawr - nifer wedi cofrestru efallai - mwy o wybodaeth - barn unigolyn sydd wedi bod llynedd
  • un yr wythnos cyn - manylion llawnach -

Beth am roi dolenni i luniau gally wasg ddefnyddio?

  • [dolen i lun o'r digwyddiad]

Pwy sy'n blogio? / Sylw yn y Wasg

Rhowch gofnod o bob blog sy'n sôn am y digwyddiad yn y rhestr hon: