Gweithrediadau

Hacio'r Iaith - Pa fath o nawdd

Oddi ar Hedyn

Am ba fath o nawdd rydyn ni'n chwilio ar gyfer Hacio'r Iaith?

Gan nad yw Hacio'r Iaith yn ddigwyddiad sy'n codi tâl ar fynychwyr, mae'n rhedeg ar egni, amser ac ewyllys da pobol yn unig. Ond mae chydig bach o arian yn helpu i wneud pethau i fynd yn llyfnach, gan fwyaf drwy roi bwyd a diod ym moliau'r pobol hynny sy'n cymryd rhan.

Rydyn ni'n edrych am nawdd o tua £100-£200 yr un gan unigolion, cwmniau neu sefydliadau er mwyn i ni allu gwneud profiad Hacio'r Iaith yn un hyd yn oed mwy pleserus nag y mae o'n barod.

Beth gewch chi ganddon ni?

Yn gyfnewid cewch chi logo ar ein poster a deunyddiau yn ystod y digwyddiad, a thomen o gariad gan yr Hacwyr am helpu'r digwyddiad i lwyddo. Bydd hyd yn oed yn well os gallwch chi ddod i gyfrannu.

Bydd unrhyw arian sy'n dod mewn yn mynd ar fwyd, dylunio, deunydd marchnata, ac efallai rhywbeth fel crysau-t os ydan ni'n llwyddo i cael celc go lew gan rywun! Os mae rhywun eisiau cyfieithydd yna byddwn ni'n sicr angen arian i dalu am hynny.

Cysylltu

Cysylltwch â Rhodri os oes diddordeb ganddoch chi mewn helpu ni.