Gweithrediadau

Dyma fy stori

Oddi ar Hedyn

enw: Dyma fy stori

cyfeiriad: http://purplefishie.wordpress.com/

disgrifiad: Dwi'n tynnu am y deugain oed ac wedi treulio yn agos at hanner fy mywyd yn sal. Athrawes ydwi o ran gyrfa, ond heb fedru gweithio ers dwy flynedd ar bymtheg oherwydd anabledd. Dwi'n un sydd a mhen yn y cymylau, am fwy o resymau nag un, yn dipyn o ddelfrydwr ond hefyd yn hynod o dal. Mae gen i fab 20 oed sy'n goblyn o gymeriad ac wedi bod yn ffrind da i'w fam drwy amseroedd digon anodd. Un peth sy'n iach amdanaf yw fy synnwyr digrifwch. Dwi'n gredwr mawr mewn hwyl a chwerthin. Mae chwaraeon o bob math wedi rhoi llawer o bleser i mi erioed a bum yn gymedrolwr ar fforwm y Denver Broncos am gyfnod. Dwi'n caru'r wlad hyfryd yma o'm cwmpas a does dim gwell ar ol bod yn styc am flynyddoedd na llond pen o awyr iach. Mae'n ffydd yn bwysig iawn imi hefyd, ond mi fyddai'n gresynnu ar brydiau gweld y modd mae rhai Cristnogion yn trin pobl eraill gyda'r fath amharch. Plant Duw yden ni gyd. Caru'n gilydd, nid barnu ac alltudio yw'r dystiolaeth orau bob amser.

awdur: Pysgodyn Piws

lleoliad:

ffrydiau:

cofnodion: http://purplefishie.wordpress.com/feed/

sylwadau: http://purplefishie.wordpress.com/comments/feed/