Defnyddiwr:Rhyswynne/casglu blogiau
Oddi ar Hedyn
Jyst dechrau ar hwn ydw i rwan, felly daliwch eich dŵr am y tro.
Prosiect casglu blogiau
Cefais i (Rhys) y syniad am hyn wrth gynorthwyo Honeycutt a Daniel Cunliffe wrth iddynt ymchwilio ar gyfer eu papur The Blogiadur—A community of Welsh language bloggers drwy ddynodi tri categori i bob blog ac i wirio os oedd yr awdur yn wrywaidd neu fenywaidd (os yn hysbys). Mae rhai blynyddoedd wedi mynd heibio ers i'r papur yna gael ei gasglu, a hyd yn oed ar y pryd, roedd sawl blog coll o'u rhestr (a oedd yn seiliedig ar fy mlogroll i),ac mae sawl blog newydd wedi ymddangos ers hynny. Hefyd, teimlas nad oedd tri categori yn ddigonol ar gyfre sawl blog. Mae meddalwedd wiki yn galluogi i fi roi blogiau mewn cymaint o gategoriau a phosib.
Pam gwneud hyn?
Er mwyn y plant! Na, o ddifri, gobeithio bydd o ddiddordeb i fwy na jyst fi. Ar hyn o bryd, dw i'n cynnwys y categoriau canlynol:
- Blog yn ôl blwyddyn sefydlu - i weld os oes patrwm
- Blog yn ôl cenedl - ceisio dangos mai nid jyst dynion/bechgyn sy'n creu blogiau
- Blog yn ôl lleoliad - Dau reswm 1. I ddangos cymaint o f;logiau Cymraeg sy tu allan i Gymru ac yn ail, o fewn CYmru, categoreiddio yn ol sir - efallai gwnaiff ysbydoli blog-gyrddau lleol?
- Blog yn ôl platfform cyhoeddi - Roedd arolwg Courtney a Daniel yn dangos mai Blogger oedd y fferfyn, ond dw i ddim yn meddwl bod hynny'n wir bellach
- Blog yn ol pwnc - yn y dechrauad, roedd pob blog yn rhoi dolen i'w gilydd ar eu blogrolls. d wi'n teimlol bod y blogfyd Cyraeg yn fwy ar chwal rwan, ac efallai nad yw pobl yn sylweddoli'r amrywiaeth sy'n bodoli
Mae'n ddyddiau cynnar, a dw i'n dal yn annsicr sut i drefnu y wybodaeth i gyd. Os oes diddordeb gyda chi, gallwch roi eich barn ar y dudalen sgwrs, neu danfon neges ataf ar Twitter (ar y dudalen sgwrs fyddai orau).
- newydd meddwl am bodlediadau! Dw i'n creu categoriau newydd sbon ar hyn o bryd. Gawn ni weld.
- e.e. Jazzfync a Gemau Fideo
- --Carlmorris 22:30, 4 Chwefror 2011 (UTC)