Gweithrediadau

Beth yw'r fformat BarCamp?

Oddi ar Hedyn

Er bod y digwyddiad Hacio'r Iaith yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):

  • Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
  • Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
  • Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
  • Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc.
  • Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld.
  • Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
  • Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
  • Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen.
  • Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.

Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!