Gweithrediadau

API Hedyn

Oddi ar Hedyn

Mae Hedyn yn darparu API i bobl sydd eisiau ysgrifennu côd i ddatblygu apiau ar sail cynnwys y wefan, gwneud chwiliadau, ayyb - gan gynnwys Y Rhestr.

Enghraifft syml

Mae'r cyfeiriad isod yn gofyn i'r wasanaeth anfon cynnwys tudalen Hafan i chi fel JSON.

https://hedyn.net/api.php?action=query&titles=Hafan&prop=revisions&rvprop=content&format=json

Defnyddiwch unrhyw iaith gyfrifiadurol i wneud cais HTTP GET am y cyfeiriad (neu ymweld â'r cyfeiriad yn eich porwr), ac fe gewch chi dogfen JSON sy'n cynnwys cod wici ar gyfer y tudalen o'r enw "Hafan".

Diweddbwynt

https://hedyn.net/api.php

Dyma'r diweddbwynt. Mae e fel tudalen hafan gwasanaeth gwe API Hedyn.

Fformat

format=json Mae hynny yn dweud wrth yr API ein bod ni eisiau data mewn fformat JSON

Os ydych chi'n newid y maes 'format' i jsonfm fe gewch chi canlyniad HTML pert ar gyfer dadfygio.

Mae'r API yn darparu fformatau eraill megis XML a PHP brodorol ond peidiwch â dibynnu arnyn nhw yn yr hir dymor.

Nodyn am gapasiti

Mae terfyn ar y nifer o geisiadau mae Hedyn yn gallu derbyn o fewn unrhyw gyfnod penodol felly byddwch yn gwrtais. Defnyddiwch storfa/cache os oes modd, yn hytrach na rhedeg yr un cais sawl gwaith.

Nodyn am iaith

Os fyddai hi'n well gyda chi ddarllen Cymraeg yn hytrach na Saesneg mewn rhai o'r canlyniadau byddai croeso i chi gyfrannu at brosiect cyfieithu MediaWiki.

Byddwch chi'n helpu unrhyw wefan Gymraeg sy'n seiliedig ar MediaWiki gan gynnwys Wicipedia ac ati.

Enghreifftiau

Y Rhestr

Bydd y cyfeiriad yma yn dangos cyflwyniad y tudalen Categori:Blog_Cymraeg yn unig (heb y tudalennau sydd yn y categori): https://hedyn.net/api.php?action=query&titles=Categori:Blog_Cymraeg&prop=revisions&rvprop=content&format=json

Os ydych chi am wneud ceisiadau i'r Rhestr ei hun, byddwch chi eisiau gwneud cais i weld cynnwys Categori. Defnyddiwch: https://hedyn.net/api.php?action=query&list=categorymembers&cmtitle=Category:Blog_Cymraeg&cmlimit=1000&format=json

Wedyn gallech chi gael gafael ar union gyfeiriad y blog a manylion eraill yn yr un modd ag enghreifftiau eraill: https://hedyn.net/api.php?action=query&titles=Y_Twll&prop=revisions&rvprop=content&format=json