Gweithrediadau

Tech/iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2016

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Bydd llwythi o ddigwyddiadau am dechnoleg, gwe, meddalwedd, cyfryngau, ac ati yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2016 yn Y Fenni.

Rydyn ni'n ceisio casglu amserlen ar y dudalen hon. Plîs ychwanegwch unrhyw ddigwyddiadau gyda theitl, manylion a lleoliad. (Mae'n rhaid gofyn am gyfrif yn gyntaf.)

Mae sôn am drefnu diodydd Hacio'r Iaith ar y maes gyda chroeso i bawb. (Ni fydd stondin Hacio'r Iaith ar y maes yn Eisteddfod Genedlaeth 2016.)

Defnyddiwch #haciaith os ydych chi eisiau trafod stwff technolegol a'r iaith.

Stondinau

Yr Awr Gymraeg / Awr Cymru

Stondin 237 drwy'r wythnos

dydd Gwener 29ain

dydd Sadwrn 30ain

dydd Sul 31ain

dydd Llun 1af

Llyfr academaidd rhyngweithiol Cymraeg

11yb Stondin Prifysgol De Cymru

Prifysgol De_Cymru a'r Coleg Cymraeg yn lansio llyfr academaidd rhyngweithiol Cymraeg ar iTunesU

Rhagor: https://twitter.com/melinwynt/status/756129786930442240

Y Chwyldro Digidol a'r Gymraeg

2yp - 5yp Stondin Prifysgol Bangor

Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr

Y Gymraeg ar lwyfannau digidol

Dr Cynog Prys gyda Shân Pritchard a Natalie Jones yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil PhD a noddir gan Cwmni Da ac S4C, dan raglen KESS Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd

Generation Beth? (cyfres deledu S4C)

Trafodaeth dan gadeiryddiaeth Dr Cynog Prys gyda Phil Stead o Cwmni Da a Shân Pritchard ar yr arolwg o agweddau pobl ifanc ar draws Ewrop

Y Dyfodol Digidol

Sesiwn gan Delyth Prys, Dr Tegau Andrews a Gruffudd Prys o’r Uned Technolegau Iaith yn dathlu’r adnoddau terminolegol diweddaraf, cyfres e-lyfrau DECHE, ac yn cyflwyno Macsen, prototeip o’r cynorthwyydd digidol Cymraeg cyntaf, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru

Gwin neu ddiod ysgafn i orffen y prynhawn

dydd Mawrth 2il

Bancio yn Gymraeg

2yp Uned y Gymdeithas

Sesiwn gyda

  • Meryl Davies (Llywydd Merched y Wawr)
  • Siân Howys (Cymdeithas yr Iaith)
  • Rob Hughes (Cwmni Lles)

ac eraill

Rhagor: http://cymdeithas.cymru/steddfod

Ap Treiglo

Trwy'r dydd.

Arddangos Ap Treiglo newydd gan Ganolfan Peniarth.

Pabell Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

dydd Mercher 3ydd

Diodydd Hacio’r Iaith

Dydd Mercher 3ydd mis Awst 2016

Dewch i'r byrddau bwyd.

2pm ymlaen

Rhagor: https://haciaith.com/2016/07/25/diodydd-hacior-iaith-steddfod2016/

dydd Iau 4ydd

Geiriadur Prifysgol Cymru yn yr Eisteddfod

Bydd Andrew Hawke yn rhoi cyflwyniad i ap y Geiriadur ddydd Iau am 11:00 ym Mhabell Prifysgol Cymru / Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (M34-M38, rhwng Cylch yr Orsedd a Theatr y Maes) ac yn sôn am rai o'r geiriau newydd sydd ar gael bellach yn y Geiriadur: hen eiriau fel oerwynt ac oferbeth a geiriau diweddar fel jetsetiwr, lobïwr, noethwibiwr . . . ac ap (ffôn), wrth gwrs.

Croeso i chi alw heibio yn ystod y dydd pan fydd staff y Geiriadur yn hapus i ddangos yr ap ac i drafod eu gwaith. Ariannwyd yr ap drwy Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Llywodraeth Cymru.

S4C - Sianel Pwy?

2yp Pabell y Cymdeithasau 1

Sesiwn gyda:

  • Huw Jones (Cadeirydd S4C)
  • Jamie Bevan (Cymdeithas yr Iaith)
  • Siân Powell (Coleg Cymraeg, Caerdydd)

Rhagor: http://cymdeithas.cymru/steddfod

dydd Gwener 5ed

dydd Sadwrn 6ed