Gweithredoedd

Blas o stwff gan Gwilym Deudraeth

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:55, 30 Ionawr 2011 gan Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Dw i'n trefnu y sesiwn Chydig ar Gof a Chadw yn Hacio'r Iaith 2011.

Dw i ddim yn gyfarwydd iawn ar farddoniaeth ond englynion yw'r tapas barddoniaeth Cymraeg dw i'n cymryd. Neu dim sum.

Dw i newydd sganio llyfr llawn o englynion gan Gwilym Deudraeth dros fy amser cinio yn Llyfrgell Canolog Caerdydd. Roedd rhaid i mi archebu'r llyfr o'r archif o flaen llaw wythnos yma. Dw i ddim wedi cael digon o amser i'w OCRo ond dyma ddelweddau o rhai o'r englynion.

Dof i'r sesiwn gyda'r llyfr llawn a mwy o ddewisiadau, Chydig ar Gof a Chadw yw'r teitl y llyfr hefyd. Rydyn ni i gyd yn berchen ar y cerddi achos mae Gwilym newydd cyrraedd yn y parth cyhoeddus (ar y diwrnod cyntaf mis Ionawr 2011). Dyw'r boi ddim yn enwog iawn. Syniad tu ôl y sesiwn yw creu addasiadau (lluniau, cerddoriaeth, fideo a mwy) a mwy o bresenoldeb Gwilym Deudraeth ar y we fel arbrawf. Byddan ni archwilio'r cyfleoedd (creadigol, busnes, addysg a mwy) gyda chynnwys Cymraeg yn y parth cyhoeddus a gobeithio dysgu pethau am fideo, awdio, prosesu delweddau gyda PhotoShop neu GIMP ayyb.

--Carlmorris 15:31, 27 Ionawr 2011 (UTC)


Map

Map o'i fywyd, teithiodd e ddim o gwmpas llawer!


enghraifft o fideo

Ghandi gan Gwilym Deudraeth a Gareth Morlais


mwy o addasiadau

http://haciaith.com/2011/01/29/chydig-ar-gof-a-chadw-addasiadau-barddoniaeth-gwilym-deudraeth/