Gweithredoedd

API Hedyn

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:35, 29 Ebrill 2016 gan Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Mae Hedyn yn darparu API i bobl sydd eisiau ysgrifennu côd i ddatblygu apiau ar sail cynnwys y wefan, gwneud chwiliadau, ayyb.

Enghraifft syml

Mae'r cyfeiriad isod yn gofyn i'r wasanaeth anfon cynnwys tudalen Hafan i chi fel JSON.

https://hedyn.net/api.php?action=query&titles=Hafan&prop=revisions&rvprop=content&format=json

Defnyddiwch unrhyw iaith gyfrifiadurol i wneud cais HTTP GET am y cyfeiriad (neu ymweld â'r cyfeiriad yn eich porwr), ac fe gewch chi dogfen JSON sy'n cynnwys cod wici ar gyfer y tudalen o'r enw "Hafan".

Diweddbwynt

https://hedyn.net/api.php

Dyma'r diweddbwynt. Mae e fel tudalen hafan gwasanaeth gwe API Hedyn.

Fformat

format=json Mae hynny yn dweud wrth yr API ein bod ni eisiau data mewn fformat JSON

Os ydych chi'n newid y maes 'format' i jsonfm fe gewch chi canlyniad HTML pert ar gyfer dadfygio.

Mae'r API yn darparu fformatau eraill megis XML a PHP brodorol ond peidiwch â dibynnu arnyn nhw yn yr hir dymor.