Hacio'r Iaith 2016
Oddi ar Hedyn
Mwy yn fuan
- Mae Hacio'r Iaith 2016 wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr ar y cyd gyda (enw)
Beth yw Hacio'r Iaith?
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.
Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2016, bydd modd cofrestru ddolen yn fan hyn yn fuan.
Sut i gyfrannu at y wici Hacio'r Iaith 2016
Er mwyn ysgrifennu ar dudalen wici Hacio'r Iaith 2016 rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o wici Hedyn.net.
Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.
Strwythyr y digwyddiad
Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.
Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.
Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.
Dyddiadau
Nos Wener, 15 Ebrill 2016 Pryd o gyri (amser a lleoliad i'w gadarnhau)
Dydd Sadwrn, 16 Ebrill 2016
- Amser: 09:00- tua 18:00 Hacio'r Iaith 2016 (prif ddigwyddiad)
- 19:00--> y dafarn
Lleoliad
Adeilad Haydn Ellis, Heol Maindy, Cathays, Caerdydd
Rhaglen y dydd
Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.
Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.
Yn ogystal â'r wici yma, mae croeso i chi adael eich syniad fel sylw ar y cofnod blog Hacio'r Iaith 2016 neu eu trydar nhw gyda #haciaith.
Cyngor am wneud sesiwn
- Cer i Beth yw'r fformat BarCamp? am ragor o fanylion am y fformat.
- Plis awgrymwch syniadau! Awgrymu yw'r unig ffordd i weld os oes diddordeb yn eich pwnc. Mae modd i chi rannu ar y tudalen wici yma (creu cyfrif), ar Twitter gyda'r hashnod #haciaith ac ar y datganiad ar blog Hacio'r Iaith.
- Mae pethau ymarferol yn hwyl.
- Dewch i ofyn. Dewch i ddysgu. Does dim rhaid i chi arbenigo yn y pwnc o gwbl i drefnu sesiwn!
- Os ydych chi am ddangos rhywbeth does dim rhaid i chi creu cyflwyniad PowerPoint/Google Drive. Fel arfer mae rhywbeth yn fyw gallu bod yn fwy diddorol na sioe sleidiau... Mae'n haws i'w baratoi hefyd!
- Neges arbennig i bobl o gwmnïau mawr a sefydliadau mawr... Henffych well! Croeso cynnes i Hacio'r Iaith. Plîs meddyliwch sut ydych chi'n gallu cymryd rhan. Dw i'n siŵr bod llwyth o adnoddau, cynnwys, syniadau, prosiectau agored gyda chi. Ie, CHI! Plîs meddyliwch tu hwnt i 'cyhoeddi-menter-gorfforaethol-newydd-mewn-sesiwn'. Cynnwys a chyfranogaeth yn hytrach na chyhoeddusrwydd. Diolch am ddarllen. :-)
Sesiynau 'Pendant'
Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y sesiwn yma.
Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi.
O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweithdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.
- Syniad am sesiwn pendant 1
- Syniad am sesiwn pendant 2
- mwy
Sesiynau Posib
Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.
- Chwarae gyda geiriau: Mae cronfa dermau BydTermCymru ar gael i'w ail-ddefnyddio o dan drwydded Creative Commons ac Open Data Commons. Dwi ddim yn siwr am yr ochr dechnegol, ond falle od bod defnyddio'r gynnwys ar gyfer gemau i ieithgwn, e.e. dyfalyu'r acronym, ne falle bod mod hidlo'r cynnwys fesu maes ar gyfer creu categori o erthyglau Wicipedia, e.e. Deddfau. --Rhyswynne (sgwrs) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
- Adnoddau/technegau dysgu/addysgu gyda TG: Falle gyda ffocws ar Cymraeg i Oeodlion, neu fyd addysg yn ehangach. e.e. Memrise v Dualingo (o safbywnt dysgwyr/addysgwyr).--Rhyswynne (sgwrs) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
- Wicipedia Cymraeg - Beth ydyw, beth ddylai fod, beth all fod?: Yn ddelfrydol gyda teitl mwy bachog. Ar ffurf panel? --Rhyswynne (sgwrs) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
- Teitl syniad am sesiwn:
- mwy
Gweithdai Cyd-ddysgu
- mwy
Gweithdai Cyd-greu
- mwy
Trefnu'r Dydd
Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.
Rheol Dwy Droed
Mae mwy nag un peth yn digwydd ar yr un pryd ac mae sesiynau gwahanol yn apelio at bobl wahanol. Felly mae croeso i unrhyw un camu allan o unrhyw sesiwn cyn y diwedd. Dyma'r Rheol Dwy Droed.
Ystafelloedd
- Neuadd X (digon mawr i X o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd.
- Ystafell gyfarfod X (lle i tua XX o bobl rownd bwrdd cynhadledd)
Hyd Slotiau
50 munud - er mwyn rhoi 10 munud rhwng pob sesiwn er mwyn ail-ymgynnull, ail-drefnu sesiynau a dewis ystafelloedd.
Yr Amserlen Wag
Dyma'r esiampl o amserlen wag ar gyfer y diwrnod, gall amserodd y slotiau a niferoedd yr ystafelloedd newid.
Amser | A | B | C | Ch |
---|---|---|---|---|
09.00-9.30 | Coffi, cofrestru, dechrau trefnu sesiynau | |||
09.30-10.20 | Sesiwn 1(a) | Sesiwn 1(b) | Sesiwn 1(c) | Sesiwn 1(ch) |
10.30-11.20 | Sesiwn 2(a) Dangos a Dweud (I) | Sesiwn 2(b) | Sesiwn 2(c) | Sesiwn 2(ch) |
11.30-12.15 | Yr Haclediad | |||
12.15-13.00 | Cinio | |||
13.00-13.50 | Sesiwn 3(a) | Sesiwn 3(b) Sesiwn (Cyd-)Ariannu Prosiectau | Sesiwn 3(c) | Sesiwn 3(ch) |
14.00-14.50 | Sesiwn 4(a) Dangos a Dweud (II) | Sesiwn 4(b) | Sesiwn 4(c) | Sesiwn 4(ch) |
15.00-15.30 | Toriad | |||
15.30-16.20 | Sesiwn 5(a) | Sesiwn 5(b) | Sesiwn 5(c) GIMP my Taid: gweithdy addasu delweddau | Sesiwn 5(ch) |
16.30-17.20 | Sesiwn 6(a) | Sesiwn 6(b) | Sesiwn 6(c) | Sesiwn 6(ch) |
17.30-18.30 | Sesiwn gloi |
Cofrestru
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).
manylion i ddilyn
Mae lle i nifer cyfyngedig o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.
Bydd angen i bawb trefnu eu llety eu hunain.
Cinio ganol dydd Sadwrn
manylion i ddilyn
Trefnwyr
Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Carl Morris neu Rhys Wynne.
Swper Nos Wener
Mae'n draddodiad erbyn hyn bod mynychwyr sydd eisoes wedi cyrraedd y dref neu ddinas lle cynhelir Hacio'r Iaith yn cwrdd am gyri y nos Wener gynt. Byddwn yn cyhoeddi enw'r bwyty (efallai hoffech amgrymu un) yma, ac yn gofyn i bobl nodi eu bod am ddod fel y gallwn archebu bwrdd/byrddau digonol.
Teithio a Llety
Llety
Mae angen archebu llety ar wahan i'ch tocyn ar gyfer y digwyddiad.
= Llefydd i aros yng Nghaerdydd
Teithio
Cyn y digwyddiad
Wedi'r digwyddiad
Parcio
Sut allwch chi helpu?
manylion yn fuan
Gwirfoddoli
Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawb sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.
Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:
- roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
- cofnodi a chyfathrebu sesiynau drwy flogio byw (gallwch ddefnyddio haciaith.com i wneud hynny)
- helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
- cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!
Noddwyr - Diolch yn fawr!
Tagiau
#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddiwch o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.
English translation
Here's a mega rough machine translation of this page into English.