Sut i ddechrau blog - canllaw i ddechreuwyr
Oddi ar Hedyn
Mae'r canllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal drwy ddefnyddio gwasanaeth am ddim o'r enw WordPress.com. Rydyn ni'n rhoi pwyslais ar flogiau lleol yn y canllaw yma.
Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog neu wefan am unrhyw bwnc arall. Does dim gwahaniaeth o ran meddalwedd nag egwyddorion.
Mae systemau eraill yn bodoli hefyd, ond dw i'n licio WordPress - mae lot o bobol o Gymru a llawer iawn o gwmpas y byd yn cytuno!
Pam?
Gall blog fod yn ddefnyddiol am y rhesymau posib isod.
- Rhannu newyddion
- Rhannu lluniau a fideos
- Hyrwyddo digwyddiadau
- Helpu dy gymuned neu pentref ac ysgol
- Codi arian am bethau, elusenau
- Ymgyrchu
- Papur bro ar-lein (defnyddiol i gyn-drigolion gadw mewn cysylltiad)
- Defnyddio'r iaith Gymraeg ar-lein
Beth ydw i ei angen?
Rwyt ti angen:
- cyfrifiadur
- cysylltiad i'r we
- cyfeiriad e-bost
(Os wyt ti'n gallu darllen y dudalen yma ar y we ac os oes gen ti gyfeiriad e-bost, rwyt ti'n hollol iawn!)
Beth fydd nodweddion y blog?
Gwnawn ni ddefnyddio gwasanaeth ar-lein o'r enw WordPress. Mae'r peth am ddim. Ar y diwedd, bydd gen ti wefan gyda'r nodweddion isod. Does dim ots os nad wyt ti'n eu deall eto.
- eitemau newyddion / cofnodion
- gallu postio testun, lluniau, fideo, ffeiliau sain neu cyfuniad o'r pedwar
- sylwadau gan darllenwyr os ti eisiau
- URL (cyfeiriad gwefan) fel enwpentref.wordpress.com
- rhyngwyneb yn Gymraeg
- mwy nag un awdur os ti eisiau
Amser?
Bydd y broses yma yn cymryd tua 5 neu 10 munud.
Iawn, dw i'n barod. Canllaw plis!
1. Cer i http://cy.wordpress.com/
2. Clicia "Sign Up Now!"
3. Llenwa'r ffurflen gyda:
- Cyfeiriad Blog (yr x yn x.wordpress.com, os mae'r ffurflen yn cynnig cyfeiriad fel "x.com is available, use it for your blog for $rhwybeth a year?", clicia "No thanks, I’ll use the free wordpress.com address." am y tro. Rwyt ti'n gallu cysylltu dy flog gyda chyfeiriad fel x.com yn y dyfodol - ond paid a phoeni ar hyn o bryd.)
- Enw Defnyddiwr (defnyddia'r un enw a'r cyfeiriad os ti eisiau)
- Cyfrinair
- Cadarnhau (yr un cyfrinair eto)
- E-mail address
4. Clicia "Sign Up"
5. Mae WordPress yn cynnig ffurflen arall gyda phroffil personol. Rwyt ti'n gallu llenwi a chlicia "Cadw Proffil"...
...neu gadael y proffil yn hollol wag am y tro.
6. Cer i dy e-bost. Dylet ti fod wedi derbyn e-bost gan WordPress i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Dilyna'r cyfarwyddiadau yn y neges e-bost. Paid ag anghofio dy ffolder sbam, weithiau mae negeseuon yn mynd yna. (Dim lwc? Arhosa am 5 neu 10 munud. Os dwyt ti ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i wneud paned. Os dwyt ti dal ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i waelod y dudalen a newidia'r cyfeiriad i gyfeiriad dy briod, plentyn neu ffrind.)
7. Rwyt ti wedi gorffen y pethau sylfaenol! Mae'r blog lleol yn fyw ar y we - cer i'r cyfeiriad. Does dim ond un cofnod arno fe ar hyn o bryd ("Hello world!"), sef cofnod awtomatig... Gweler yr adran nesaf am dy gofnod cyntaf go iawn.
Nesaf
Mae cofnod blog yn eitem o newyddion, barn, gwybodaeth neu beth bynnag.
Sut i bostio dy gofnod blog cyntaf
Opsiynau
Enw parth
Mae modd cofrestru a mapio enw parth fel eichenw.cymru - os ydych chi eisiau defnyddio cyfeiriad gwe 'brandiedig' yn hytrach nag eichenw.wordpress.com
Mae cwmnïau fel http://www.enwau.cymru yn cynnig cofrestru enw parth .cymru.
Dylech chi ystyried prynu'r fersiwn .wales hefyd er mwyn amddiffyn eich brand.
Wedyn bydd angen i chi osod 'Domain Mapping' ar WordPress am ffi ar gyfer lletya, diogelwch, ayyb (nid 'Site Redirect', mae hynny yn rhywbeth gwahanol).
Thema
Thema ayyb... yn fuan
Dolenni perthnasol
- Canllawiau Blogio
- Fideo: canllaw cyflym
- Sut i newid yr iaith dy flog i Gymraeg
- Sut i ddilyn blogiau gyda RSS
- Sut i ychwanegu lluniau i dy flog lleol (yn fuan)
- Y Rhestr - blogiau lleol am ysbrydoliaeth
- Y Rhestr - blogiau yn Gymraeg (llawer)
Am y dudalen yma
Croeso i ti olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol. Yn enwedig, bydd canllaw ar fideo yn dda!
Os wyt ti eisiau helpu, cer i gyfieithu WordPress.com i Gymraeg: http://translate.wordpress.com/projects/wpcom/cy/default