Gweithrediadau

Termau blogio i ddechreuwyr

Oddi ar Hedyn

(Ailgyfeiriad oddi wrth Canllawiau Blogio)

Termau

Blog == web log, sef cyfres o gofnodion mewn trefn amser.

Mae 'blog' yn golygu popeth ac mae 'cofnod' ('post' yn Saesneg) yn golygu un eitem/erthygl.


Pynciau, cyfryngau a fformatau

Mae lot o bobl yn meddwl am destun gwleidyddol pan maen nhw yn ystyried blogiau.

Ond rwyt ti'n gallu trafod unrhyw pwnc ar blog trwy unrhyw gyfrwng. Mae gymaint o gyfryngau fel

  • Testun
  • Fideo
  • Dolenni
  • Lluniau
  • Delweddau eraill fel siartiau, gwyb-graffig, llinelliad
  • Awdio (ar rywbeth fel Soundcloud)
  • Sleidiau (ar rywbeth fel Slideshare)

Ac wrth gwrs mae unrhyw cymysgiad o'r rhestr uchod yn bosib.

O fewn y cyfryngau uchos mae sawl fformat, e.e. mewn fideo rwyt ti'n gallu wneud cyfweliad, sgwrs, dogfennu cyfarfod, unigolyn 'syth i gamera', recordio digwyddiad, clipiau o archif, rhywbeth graffig ayyb.

Cofnod cyntaf

Paid â bod yn rhy ffyslyd am dy gofnod cyntaf. Jyst gwnaf rywbeth! Dweud 'helo, dy fy nghofnod cyntaf. Dw i'n dysgu...' neu beth bynnag. Bydd yn onest. Clicia Cyhoeddi a cher i weld dy gofnod blog ar y we. Rwyt ti'n barod am yr ail gofnod. Mae gwastad rhywbeth i'w ddysgu hyd yn oed ymhlith pobl sydd wedi blogio am flynyddoedd.


Dw i'n wneud blog lleol. Pa mor lleol?

Does dim rheolau, gall fod ar lefel

  • Stryd
  • Pentref
  • Cwm/dyffryn/llan
  • Tref
  • Maestref o ddinas
  • Dinas gyfan

Does dim rhaid i ti dilyn patrwm dy bapur bro. Ond wrth gwrs os wyt ti'n gweithio ar bapur bro byddai fersiwn ar y we yn wych.

Metadata: teitlau, tagiau a chategoriau

Mae'r teitl yn bwysig achos dyma beth mae pobl yn gweld ar chwilio Google, darllenyddion RSS (fel Google Reader), Facebook ayyb cyn unrhyw beth arall. Paid â bod yn rhy glyfar yn y teitl. Mae blogiau yn wahanol i bapurau newydd ar bapur achos mae pob erthygl yn bodoli ar wahan. Does dim rheolau ond mae canllawiau.

Tagiau a chategoriau yn labeli i roi drefn ar dy gofnodion.

Mae tagiau yn debyg i'r dudalen mynegai mewn llyfr. Mae lot ohonyn nhw. Cannoedd weithiau.

Mae categoriau yn debyg i'r dudalen cynnwg mewn llyfr. Mae nifer cyfyngedig o gategori, fel arfer rhwng tua 5 a 15.

Tyfu'r cymuned

Dyma syniadau os wyt ti eisiau hyrwyddo'r blog.

  • Ceisio apelio at gymaint o ddarllenwyr a darpar gyfranwyr a phosib (cynnwys newyddion, hanes, chwaraeon, digwyddiadau)
  • postia dolen uniongyrchol i'r cofnod (yn hytrach na'r blog i gyd) ar Twitter a Facebook
  • ebostia pobl gyda'r dolen (ond bydd yn ofalus)
  • gofynna pobl eraill i gyfrannu achos mae mwy o gyfrannwyr yn ehangi'r cymuned o gwmpas y blog

(mwy i ddod)


Creu/darganfod cynnwys

(i ddod)

Gweler hefyd

Y Rhestr o flogiau Cymraeg

Sut i ddechrau blog lleol - canllaw i ddechreuwyr