Gweithredoedd

Sut i ddechrau blog - canllaw i ddechreuwyr

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:10, 14 Tachwedd 2014 gan Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)

Mae'r canllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal drwy ddefnyddio gwasanaeth am ddim o'r enw WordPress.com. Rydyn ni'n rhoi pwyslais ar flogiau lleol yn y canllaw yma.

Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog neu wefan am unrhyw bwnc arall. Does dim gwahaniaeth o ran meddalwedd nag egwyddorion.

Mae systemau eraill yn bodoli hefyd, ond dw i'n licio WordPress - mae lot o bobol o Gymru a llawer iawn o gwmpas y byd yn cytuno!


Pam?

Sgrînlun o BaeColwyn.com - blog lleol da iawn am dref Bae Colwyn

Gall blog fod yn ddefnyddiol am y rhesymau posib isod.

  • Rhannu newyddion
  • Rhannu lluniau a fideos
  • Hyrwyddo digwyddiadau
  • Helpu dy gymuned neu pentref ac ysgol
  • Codi arian am bethau, elusenau
  • Ymgyrchu
  • Papur bro ar-lein (defnyddiol i gyn-drigolion gadw mewn cysylltiad)
  • Defnyddio'r iaith Gymraeg ar-lein

Beth ydw i ei angen?

Rwyt ti angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad i'r we
  • cyfeiriad e-bost

(Os wyt ti'n gallu darllen y dudalen yma ar y we ac os oes gen ti gyfeiriad e-bost, rwyt ti'n hollol iawn!)


Beth fydd nodweddion y blog?

Gwnawn ni ddefnyddio gwasanaeth ar-lein o'r enw WordPress. Mae'r peth am ddim. Ar y diwedd, bydd gen ti wefan gyda'r nodweddion isod. Does dim ots os nad wyt ti'n eu deall eto.

  • eitemau newyddion / cofnodion
  • gallu postio testun, lluniau, fideo, ffeiliau sain neu cyfuniad o'r pedwar
  • sylwadau gan darllenwyr os ti eisiau
  • URL (cyfeiriad gwefan) fel enwpentref.wordpress.com
  • rhyngwyneb yn Gymraeg
  • mwy nag un awdur os ti eisiau


Amser?

Bydd y broses yma yn cymryd tua 5 neu 10 munud.


Iawn, dw i'n barod. Canllaw plis!

1. Cer i http://cy.wordpress.com/

2. Clicia "Sign Up Now!"

3. Llenwa'r ffurflen gyda:

  • Cyfeiriad Blog (yr x yn x.wordpress.com, os mae'r ffurflen yn cynnig cyfeiriad fel "x.com is available, use it for your blog for $rhwybeth a year?", clicia "No thanks, I’ll use the free wordpress.com address." am y tro. Rwyt ti'n gallu cysylltu dy flog gyda chyfeiriad fel x.com yn y dyfodol - ond paid a phoeni ar hyn o bryd.)
  • Enw Defnyddiwr (defnyddia'r un enw a'r cyfeiriad os ti eisiau)
  • Cyfrinair
  • Cadarnhau (yr un cyfrinair eto)
  • E-mail address

4. Clicia "Sign Up"

5. Mae WordPress yn cynnig ffurflen arall gyda phroffil personol. Rwyt ti'n gallu llenwi a chlicia "Cadw Proffil"...

...neu gadael y proffil yn hollol wag am y tro.

6. Cer i dy e-bost. Dylet ti fod wedi derbyn e-bost gan WordPress i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Dilyna'r cyfarwyddiadau yn y neges e-bost. Paid ag anghofio dy ffolder sbam, weithiau mae negeseuon yn mynd yna. (Dim lwc? Arhosa am 5 neu 10 munud. Os dwyt ti ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i wneud paned. Os dwyt ti dal ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i waelod y dudalen a newidia'r cyfeiriad i gyfeiriad dy briod, plentyn neu ffrind.)

7. Rwyt ti wedi gorffen y pethau sylfaenol! Mae'r blog lleol yn fyw ar y we - cer i'r cyfeiriad. Does dim ond un cofnod arno fe ar hyn o bryd ("Hello world!"), sef cofnod awtomatig... Gweler yr adran nesaf am dy gofnod cyntaf go iawn.


Nesaf

Mae cofnod blog yn eitem o newyddion, barn, gwybodaeth neu beth bynnag.

Sut i bostio dy gofnod blog cyntaf


Opsiynau

Thema ayyb... yn fuan

Dolenni perthnasol

Am y dudalen yma

Croeso i ti olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol. Yn enwedig, bydd canllaw ar fideo yn dda!

Os wyt ti eisiau helpu, cer i gyfieithu WordPress.com i Gymraeg: http://translate.wordpress.com/projects/wpcom/cy/default