Sgwrs:Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012
Oddi ar Hedyn
Efallai rydyn ni'n gallu trio sgwrs yma yn hytrach na rhoi gormod ar y prif dudalen. --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Sesiynau bore - sgyrsiau neu syrjeri cyfryngau digidol?
Dwi wedi cynnig ein bod ni ddim yn cynnal sgyrsiau 'ffurfiol' gyda chynulleidfa yn y bore ond yn hytrach yn rhoi amser rhydd ar gyfer galluogi pobol i ddod i drafod blogio, offer, cyfryngau cymdeithasol ac ati. Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw un penodol i arwain ar unrhyw sgyrsiau eto felly efallai byddai'n well i ni gael rhywbeth slot cyson bob bore sydd ar gael ar gyfer drop-in.
Beth yw eich barn? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:54, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Hacio’r Iaith – sesiwn agored amlgyfrannol ar dechnoleg, y Gymraeg a phopeth yn y canol
Eisiau trafod fformat y sesiynau yma. Mae Hacio'r Iaith yn Aberystwyth yn anghynhadledd/BarCamp sydd yn wych. Bydd y peth yn Steddfod yn neis os ydyn ni'n gallu cynnig teimlad tebyg. Wrth gwrs mae angen addasu achos mae'r digwyddiad yn wahanol. Ond sut? Ydyn ni'n bwriadu gwneud sesiynau bach o fewn y sesiwn Hacio'r Iaith? e.e. 10 munud i siarad am dy flog neu prosiect neu ymchwil ayyb. Roedd y fformat yn dda yn 2011 (mewn pabell Prifysgol Aber).
Wicipediwch! – sesiwn ymarferol ar gyfrannu at y gwyddoniadur rhydd
Dw i wedi ail-darganfod Wicipedia, diolch i Rhys Wynne a'r Golygathon. Edrych ymlaen! --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Gwneud pr€$ digido£, y we Gymra€g ma$na¢ho£
Dw i'n meddwl bydd lot o ddiddordeb yn y sesiwn yma. --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
- ai sgwrs gyda chynulleidfa fydd hwn ti'n meddwl neu sgwrs rhwng pawb? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:51, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Haclediad – recordiad byw o’r podlediad sy’n trafod technoleg
Wastad yn hwyl! --Carlmorris (sgwrs) 01:21, 4 Gorffennaf 2012 (BST)