Sgwrs:Hafan
Oddi ar Hedyn
Cyfrifon
Rhaid i ti greu cyfrif i olygu. Wedi cael SPAMATTAK gan bots di-enw! Well i ni barhau gyda chyfrifon. Dw i'n hoffi hollol agored fel Wicipedia ond angen mwy o ddefnyddwyr. Efallai gwnaf i agor eto rhywbryd. --Carlmorris 17:09, 7 Rhagfyr 2010 (UTC)
DokuWiki
Dal yn symud i MediaWiki o DokuWiki. Ti'n gallu ffeindio'r hen wefan ar http://hedyn.net/hen/doku.php - ti'n gallu helpu os ti eisiau. Diolch! --Carlmorris 22:00, 15 Tachwedd 2010 (UTC)
- Gyda thudalennau eraill, defnyddia'r fformat
http://hedyn.net/hen/doku.php?id=Trwyddedau
- ayyb
- --Carlmorris 22:48, 15 Tachwedd 2010 (UTC)
- am dudalennau sgwrs
http://hedyn.net/hen/doku.php?id=talk:trwyddedau
- am dudalennau sgwrs
- --Carlmorris 15:05, 16 Tachwedd 2010 (UTC)
301
Newydd ychwanegu 301 i'r RSS, gobeithio mae'r hen gyfeiriad RSS a'r RSS newydd yn gweithio. --Carlmorris 22:37, 15 Tachwedd 2010 (UTC)
I'w wneud
- Hacio S4C
- Hacio'r Iaith, mis Ionawr 2010
- cofrestr o flogiau (gweler adran isod)
cofrestr o flogiau
diweddaru cofrestr o flogiau (gyda llaw Rhys dylen ni creu'r syniad massif - "blogiadur" go iawn gyda phob blog ar tudalen arbennig! Categoriau, templed am dudalen, popeth, dw i'n cyffro nawr. Sa' i'n licio'r enw Cyfeirlyfr. Beth am lliw ac enw arbennig fel Yellow Pages?) --Carlmorris 15:27, 16 Tachwedd 2010 (UTC)
- prawf! Fideobobdydd.com --Carlmorris 15:39, 16 Tachwedd 2010 (UTC)
- Liciwn i helpu gyda hwn, ond mae'n rhwybeth gallawn dipio i mewn iddo fel mae amser yn caniatau. Baswn i'n newid enw'r categoriau i fod yn benodol ar gyfer y cyfeirlyfr/rhestr blogiau (e.g. newid [[Technoleg]] i [[Blog technoleg]]) rhag ofn i rhywun rhoi Technoleg fel categori ar dudalen arall ar hedyn sydd a dim i'w wnedu a'r rhestr blogiau.
- Pethau faswn i'n ychwanegu at bod erthygl, unai fel cynnwys neu fel categori,
- enw perchenog y blog,
- ei genedl (gwryw, benywaidd, Wil Jil)
- dyddiad geni'r blog (blwyddyn)
- dyddiad cau'r
- meddalwedd sy'n cael ei ddefnyddio (Worpress, Blogger, Nireblog)
- lleoliad y blog (sir yng Nghymru, enw gwlad tu allan i Gymru)
- Blog 'ametur' neu broffesiynol
- Mwy i ddod. --Rhyswynne 09:37, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Pethau faswn i'n ychwanegu at bod erthygl, unai fel cynnwys neu fel categori,
- Diolch Rhys. Dw i'n gweld y gofrestr fel canllaw i flogiau/cynnwys sydd ar gael - "gweler hefyd". Syniadau eraill: rhywbeth am brojectau eraill gyda'r corpws/geiriau ac "archwiliad" o'r blogosphere Cymraeg. Beth wyt ti'n meddwl? Mae popeth yn dibynnu ar y pwrpas. Efallai dyn ni'n gallu colli rhai fel genedl, dyddiad cau (cysgu!) ar y tudalennau - mae categori yn well na cynnwys achos maen nhw yn opsiynol a maen nhw yn casglu blogiau gwahanol. e.e. ni'n gallu cael dolen i dudalen o bob blog WordPress, neu blogiau sydd wedi bod yn cysgu am mwy na blwyddyn. Dw i'n meddwl amdano fe fel Delicious am flogiau Cymraeg. Categoriau yma yw tagiau. Beth wyt ti'n meddwl? Gyda llaw efallai well i ni osgoi unrhyw dadleuol fel "amatur" ayyb achos mae'n creu/cadarnhau hierarchaeth. Beth yw'r "mwy i ddod"? --Carlmorris 10:43, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)