Hacio'r Iaith - Ionawr 2011
Oddi ar Hedyn
Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr a'r pobol sy'n mynychu ar y cyd gyda Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth
Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen.
Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.
If you can't read Welsh then Google Translate can give you the rough gist of this page. And it is rough.
Manylion y digwyddiad
Beth?
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.
Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf a hamddenol.
Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Dyma esboniad da gan flogiwr o Ganada.
Eleni rydyn ni'n hepgor y pwyslais ar hacio neu raglennu, er bod croeso i unrhywun wneud sesiwn ar hynny, ac yn ceisio cael rhagor o weithdai neu diwtorialau ymarferol. Pwrpas hyn yw rhoi cyfle i ddysgu sgil newydd eich hun tra'n rhoi o'ch sgiliau chi i eraill. Ond dyw hyn ddim yn rheol - dim ond canllaw. Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio.
Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.
Y llynedd daeth dros 40 o bobol i drafod, dysgu a rhannu. Dyma rai lluniau, fideos (a mwy), recordiadau sain a blogiau er mwyn rhoi blas gwell i chi o beth i'w ddisgwyl. Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.
Pryd?
Dydd Sadwrn, 29 Ionawr 2011.
Amser: Tua 9yb i tua 7yh (mae hyn eto i'w benderfynu)
Ble?
Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
Dyma'r map Google
Adnoddau eraill cyfagos
- Mae caffi Canolfan Celfyddydau Aberystwyth o fewn 100 metr i'r adeilad.
- Mae bwyty a chaffi TaMed Da o fewn 100 metr i'r adeilad.
Sut allwch chi helpu?
Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn
Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:
- roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
- hyrwyddo'r digwyddiad trwy flogio, ffilmio, siarad amdano...mae hyn yn holl bwysig i gyrraedd at ystod eang o bobol.
- helpu gyda rhoi sylw i'r digwyddiad yn y wasg
- helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
- cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!
Noddwyr
- Gallwch chi hefyd helpu trwy roi nawdd i'r digwyddiad. Er nad yw arian yn allweddol i'r llwyddiant, mae cael ychdig arian i dalu am bethau fel cinio, argraffu, crysau-t, ac efallai gyfieithu yn help mawr. Cysylltwch â Rhodri, Carl, neu Rhys os oes diddordeb ganddoch chi mewn noddi un o'r elfennau hyn.
Rhaglen y dydd
Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond yn wahanol i Hacio'r Iaith 2010 bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.
Bydd gweddill y sesiynauyn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.
Rheolau BarCamp
Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):
- Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
- Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
- Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
- Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc.
- Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld.
- Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
- Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
- Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen.
- Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.
Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!
Trefnu'r Dydd
Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.
Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!
Y tro hwn rydyn ni eisiau trio rhoi rhai sesiynau yn y rhaglen cyn y diwrnod, neu o leiaf wybod bod nifer o sesiynau'n digwydd rhagblaen. Dwi wedi dechrau drwy roi'r Haclediad byw mewn am hanner dydd.
Dyma amserlen ddrafft. Oes unrhyw sylwadau am y slotiau? Ydi'r hyd yn iawn (or ran sesiynau, neu hyd y diwrnod)? Oes angen rhagor o doriadau? Gadwch wybod isod:
Amser | Y Stiwdio | Ystafell G38 | Yr Atriwm | Arall |
---|---|---|---|---|
09.00-10.00 | Coffi, croesawu, dechrau trefnu sesiynau | |||
10.00-11.00 | gwag | gwag | gwag | gwag |
11.00-12.00 | gwag | gwag | gwag | gwag |
12.00-13.00 | Haclediad (Byw) | |||
13.00-14.00 | cinio? | cinio? | cinio? | cinio? |
14.00-15.00 | Sesiwn X gyda Carl | gwag | gwag | gwag |
15.00-16.00 | gwag | gwag | gwag | gwag |
16.00-16.30 | Android Cymraeg? | gwag | gwag | gwag |
16.30-17.30 | gwag | gwag | gwag | gwag |
17.30-18.30 | gwag | gwag | gwag | gwag |
18.30-19.00 | Sesiwn gloi |
Sesiynau Pendant
Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y seiswn yma.
Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi. Gallwch nodi amser y slot ar y dydd.
O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, panel, ford gron, fideo, cyflwyniad byr. Does dim pwysau i lenwi awr, mae'n ddefnyddiol i glustnodi themâu ar gyfer slots a chael trafodaeth gyffredinol heb unrhyw un penodol yn arwain.
Haclediad Byw
Haclediad Byw - bydd criw yr haclediad yn recordio rhaglen, a'i ffrydio yn fyw.
Amlblatfform
Teledu amlblatfform Cymraeg - dwi eisiau cynnal panel (3-4 o bobol) ar ddyfodol teledu Cymraeg yng nghyd-destun y rhyngrwyd. --Rhodri.apdyfrig 22:54, 6 Ionawr 2011 (UTC)
- Hoffwn i ddod. Dw i wedi bod yn meddwl am amlblatfform yn diweddar. --Carlmorris 22:13, 10 Ionawr 2011 (UTC)
Blogio Dwyieithog
Mae Bryn wedi nodi draw ar Lanyrd ei fod eisiau sesiwn ar flogio dwyieithog. Dwi'n ei gopio draw ar y wiki er gwybodaeth.
- "Sesiwn ar y ffordd orau o flogio'n ddwyieithog, a beth yw'r manteision ac anfanteision o geisio cadw pawb yn hapus."
Sesiwn X
Dw i'n paratoi sesiwn yn bendant. Dw i wedi dechrau arolwg barn i ymchwilio galw am fy syniadau. Plîs, plîs, defnyddia dy bleidlais eleni. Diolch. --Carlmorris 17:11, 20 Ionawr 2011 (UTC)
Android Cymraeg
Hoffwn i ddysgu sut i gyfieithu meddalwedd Google Android - sesiwn ar feddalwedd ffon fallai? --Colinnosworthy 13:48, 6 Ionawr 2011 (UTC)
- Syniad da, dylen ni trefnu rhywbeth. Efallai sesiwn bach o gwmpas bwrdd. --Carlmorris 16:25, 7 Ionawr 2011 (UTC)
- Byddwn i'n awyddus i'ch helpu trefnu. Byddai rhaid imi ymchwilio mwy o'r technegau cyfieithu sy'n cael eu defnyddio gan Android yn gyntaf. O'n i'n siarad â Carl amdani yn y gorfennol. --Christopher Swift
- Gwych Chris, DM fi ar twitter i drafod yn bellach --Colinnosworthy 14:18, 12 Ionawr 2011 (UTC)
- Colin, wnes i danysgrifio iti ar Twitter ond byddai rhaid iti dansgrifio imi cyn imi allu anfon DM atat. Roedd Carl wedi sgwennu ataf y dylwn i drafod Android ar y wici yn lle e-bost ac wi'n cytuno efo fe. Mae un broblem fawr gyda ni, wi'n meddwl ein bod ni ddim yn gwybod sut mae proses cyfieithiad Android yn gweithio i fod yn onest. Wi wedi bod yn trio ymchwilio sut mae timau Google yn ei wneud e ond do'n i ddim yn gallu ffeindio mas lot o wybodaeth. Hoffwn i drafod y proses gyda rhywun ond ar hyn o bryd, sa i'n gwybod pwy. --Christopher Swift 17:16, 20 Ionawr 2011 (UTC)
Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn dod i sesiwn fel hyn, edrych mlaen yn fawr i weld beth sydd ar gael! [Sioned Edwards]
Hei pawb. Croeso i'r adran Sesiynau Pendant. Mae 4 o leiaf yn mwy na digon am sesiwn cynhyrchiol. Amcan y sesiwn: setio lan system ar y we a dechrau cyfieithu Android? IE/NA --Carlmorris 02:02, 21 Ionawr 2011 (UTC)
Chris, ar hyn o bryd, sgen i ddim llawer iawn i gyfrannu at y drafodaeth ar y dydd, felly na i geisio ymchwilio'n bellach dros y dyddiau nesaf. Na i danysgrifio i ti ar yr hen drydar nawr --Colinnosworthy 22:51, 23 Ionawr 2011 (UTC)
Sesiynau Posib
Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.
cyflwyniad
Blogio i pawb - Sesiwn ar blogio yn y Gymraeg ac yn Saesneg - Bryn Salisbury
rhywbeth ymarferol
Hoffwn i ddysgu rhywbeth ymarferol. Addysga fi! e.e.
- rhywbeth am fideo gwell
- ScraperWiki, Google Refine, Fusion, ManyEyes, OpenHeatMap, Yahoo Pipes, SPARQL, Needlebase... (Hywel- hapus i wneud!)
- dylunio (Iestyn? Sioned?)
- rhywbeth hwyl gyda chod (Bryn?)
--Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)
Adeiladu Rhestr Todo ar y we - gyda HTML, CSS, PHP, MySQL/SQL ac ella tamaid o Javascript/jQuery. Ar gyfer pawb! Mwy o wybodaeth ar fy nhudalen i:Meigwilym 11:34, 24 Ionawr 2011 (UTC)
teledu
Trafodaeth am deledu a thechnoleg. (Elin HGJ fel cadeirydd?) --Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)
ymgyrchu/gweithredu
Trafodaeth am weithredaeth/hacktivism --Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)
- Wedi ychwanegu 'ymgyrchu' at y teitl gan taw dyna yw 'activism' yn Gymraeg. --Rhodri.apdyfrig 16:49, 15 Ionawr 2011 (UTC)
- Efallai trafodaeth am weithredaeth (unrhyw beth: hawliau/gwyrdd/gwleidyddiaeth/cyfiawnder cymdeithasol/ayyb). Beth yw'r amcanion: cyllideb, aelodau, dylanwad? Pa declynnau ydyn ni wedi defnyddio? Beth ydyn ni'n meddwl am safon ymgyrchu/democratiaeth yn Gymraeg ac yng Nghymru? Unrhyw gwersi o WikiLeaks? Angen WikiLeeks yng Nghymru? (Sori.) Sgwenna sylw os ti'n hoffi'r syniad. Sa' i di trefnu unrhyw beth ond bydd sgwrs yn ddiddorol. --Carlmorris 22:28, 10 Ionawr 2011 (UTC)
Ffotograffiaeth/Celf Ddigidol
Oes rhywun eisiau trafod technoleg, neu falle gwneud gweithdy ymarferol ar ffotograffiaeth ddigidol? Wel, os na gewch chi rhywun callach, nai helpu os gallai - Llinos L.
Byddai'n gret falle cael sgwrs am gelf digidol hefyd. --Rhodri.apdyfrig 16:49, 15 Ionawr 2011 (UTC)
Theatr a thechnoleg
Gan ein bod yn yr adran theatr, ffilm a theledu...--Rhodri.apdyfrig 15:24, 16 Ionawr 2011 (UTC)
- un am Matthew Jones? (gweler rhestr) --Carlmorris 02:08, 21 Ionawr 2011 (UTC)
Cerddoriaeth a thechnoleg
Be am sgwrs am ddosbarthu ar-lein yn y Gymraeg? Byddai'n dda clywed profiadau rhyddhau albyms Mr Huw, Y Gwrachod, ac eraill sydd wedi ceisio gwerthu/rhoi cerddoriaeth am ddim ar-lein. --Rhodri.apdyfrig 15:24, 16 Ionawr 2011 (UTC)
Ubuntu
Mae Chris a minnau yn aelodau gweithgar o'r Gymuned Ubuntu. Byddem yn hoffi siarad â cynrychiolwyr am beth yw Ubuntu, sut y gallwn gael y gair allan i bobl Cymraeg am beth yw Ubuntu, a sut i gael mwy o bobl a chwmnïau sy'n ymwneud â chyfrannu at Ubuntu, yn enwedig o ran Cyfieithiadau.
Bydd gen ni gliniaduron yn arddangos Ubuntu, a hefyd yr rhyngwyneb gwe a ddefnyddir yn cyfieithu Ubuntu. Bydd gen Chris a finnau Gyriant USB a CD's gyda Ubuntu os mae rhywyn eisiau ni rhoi Ubuntu ar ei system nhw. --Markgajones 20:01, 23 Ionawr 2011 (UTC)
- Bydda i'n dod a CD a gyriannu USB. --Christopher Swift 20:26, 23 Ionawr 2011 (UTC)
Cofrestru
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).
Mae lle i dros 50 o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.
Gallwch chi hefyd gorestru trwy ddefnyddio'r gwasanaethau canlynol:
Pwy Sy'n Dod?
- Carl Morris blog Twitter (diddordebau: cod agored, WordPress, cynnwys Cymraeg)
- Rhodri ap Dyfrig blog Twitter (diddordebau: fideo amlblatfform, blogio, diwylliant ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol!)
- Sioned Edwards Gwefan Twitter (diddordebau: y Gymraeg arlein, rhwydweithiau cymdeithasol, creu cynnwys, rhannu feiral, natur 'ar hap' y we)
- Maldwyn Pate Twitter
- Bryn Salisbury blog Twitter
- Iwan Davies Twitter
- Hywel Jones Twitter (diddordebau: crafu data, cyflwyno data (mapio/siartio ayb), data agored)
- Elin Wyn Twitter
- Colin Nosworthy Twitter (diddordebau: cyfieithu meddalwedd ffon, gwaith PR arlein)
- Owain Schiavone Golwg360
- Telsa Gwynne gwefan iawn, fe wna i gyfrif Twitter.. cyn hir.. (diddordebau: sut mae pobl yn defnyddio'r iaith ar-lein, cod agored)
- Gwydion Lyn Twitter
- Gareth Morlais BBC Cymru Twitter
- Christopher Swift blog bach Twitter Wi'n mynd i yrru o Gastell-nedd os oes rhywun sy'n angen lifft. (diddorebau: côd agored, Linux, sut mae pobl yn defnyddio'r iaith ar-lein, Android)
- Matthew Jones Twitter (diddordebau: Defnydd o 'Social Media' yn y theatr)
- Menna Machreth Twitter (diddordebau: creu cynnwys, ymgyrchu)
- Sara Weale gwefan Twitter
- David John Evans Twitter
- Mark Jones Twitter
- Rhys Llwyd gwefan Twitter Facebook Tumblr
- Nia Brodrick Twitter
- Aled Wyn Twitter Facebook Tumblr (diddordebau: cynnwys Cymraeg ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol)
- Steffan Harries Lanyrd
- Elis Glynne Gwefan Twitter
- Iestyn Lloyd Gwefan Twitter
- Mei Gwilym Sicr yn dod! (ond dim hacieithwyr bychan). Diddordeb ym mhopeth sy'n ymwneud â'r we.
- Owain Hughes BT Cymru Twitter
- Llinos Lanini [1] Twitter (diddordebau: ffotograffiaeth, trydar dwyiaethog, trio deallt
- Emrys Wyn Evans Amrwd.com Podcast Jazz Ffync a Gemau Fideo Twitter
- Sion Maredudd Owen Podcast Jazz Ffync a Gemau Fideo Twitter
Methu Dod
Os nad ydych yn gallu dod, tynnwch eich enw o'r rhestr mynychwyr a rhowch eich enw yma fel ein bod yn gwybod.
- Anwen Roberts S4C Facebook Twitter Twitter
- Jeremy Evas (Bwrdd yr Iaith Gymraeg) [2] Facebook [3] Twitter [4]. Efallai y bydd y ddogfen hon o ddiddordeb i rai sy'n mynychu (ymgynghoriad ar dechnoleg iaith i sefydliadau cyhoeddus): [5]
- Diolch am rannu'r ddogfen Jer. --Rhodri.apdyfrig 11:42, 21 Ionawr 2011 (UTC)
- Diddorol Jeremy, unrhyw siawns y gallwch chi anfon y ddogfen hon ymlaen at reolwyr Bws Caerdydd? Maen nhw i fod i fod wrthi'n creu gwefan ddwyieithog, mae'r un presennol yn uniaith Saesneg [6]. Maen nhw'n dadlau mai cynnwys statig yn unig fydd ar gael yn y Gymraeg ar y wefan newydd (sydd 6 mis yn hwyr) achos dyna beth sydd yn ymarferol bosib. --Colinnosworthy 23:34, 23 Ionawr 2011 (UTC)
- Anwen James Twitter
- Rhys Wynne Twitter Blog 98.9% yn sicr na fyddai'n gallu dod. Flwyddyn nesaf gobeithio.
Trefnwyr
Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).
Gwirfoddolwyr
- Ysgrifennu datganiad i'r wasg
- dw i wedi creu datganiad ond angen mwy o suddog, help? diolch --Carlmorris 17:06, 4 Ionawr 2011 (UTC)
- Poster --- Iestyn Lloyd?
Dwi wedi creu tri poster ar gyfer Haciaith 2011 Rhydd i chi eu defnyddio
Gareth, diolch am gyfrannu'r posteri, nawr mae gyda ni pedwar. Dim problem. Braf i weld creadigrwydd yn yr iaith arlein. --Carlmorris 21:56, 10 Ionawr 2011 (UTC)
- Paratoi ystafelloedd (pryd?) --- ?
- Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru - pwy sydd am wirfoddoli? --- Allai helpu i gofrestru yn y bore, dim probs --Llefenni 17:08, 17 Ionawr 2011 (UTC)
- Rhys Llwyd yn cynnig bod yng ngofal ffrydio'r digwyddiad yn fyw ar y we os nad ydy Gwion Llwyd yn gallu dod eleni.
Mae Aneurin Brown o Goleg y Drindod Dewi Sant wedi cynnig helpu gyda'r ffilmio ar y dydd
Mae Rhys Jenkins hefyd o Goleg y Drindod Dewi Sant wedi cynnig helpu ar y dydd hefyd.
Rhestr tasgau
__
Technegol
Angenrheidiol
- Wifi (dim problem gyda hyn - roedd y cyswllt di-wifr llynedd yn gret. --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC))
- Taflunydd (dim problem gyda hyn - gallwn fenthyg offer yr adran --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC)
- Mae technegydd yr adran wedi cynnig i ni ddefnyddio rhai o pico projectors Samsung yr adran. Handi ar gyfer sesiynau bach anffurfiol efallai?
- Ffotograffydd
- PA Bach gyda meics (yr adran am ddarparu hyn --Rhodri.apdyfrig 15:49, 5 Ionawr 2011 (UTC))
Dymunol
- Fideo (dwi wedi archebu camera HD i recordio un ystafell --Rhodri.apdyfrig 15:52, 5 Ionawr 2011 (UTC))
- Rhywun i ffilmio sesiynau cyfan? Unrhywun eisiau gwirfoddoli i reoli camera?
- Rhywun i ffilmio eitemau byr/cyfweliadau o amgylch y digwyddiad? [Cafodd Bryn a finne hwyl go dda ar hwn llynedd - hapus i'w wneud eto - Sioned]
- Oes angen camera fideo yn yr ail ystafell?
- Beth am ffrydio byw?
- Oes unrhyw wirfoddolwyr i dorri fideo o'r sesiynau ar ôl y digweyddiad?
- Oes rhywun eisiau gwneud sting bach ar gyfer rhoi ar y fideos?
- Sain
- Gallwn fenthyg offer yr adran ond yn sicr byddai'n fanteisiol cael cymorth technegol i'w fonitro
- Cyfieithu ar y pryd? - os oes rhywun yn dod sydd yn ddi-Gymraeg yna dylent nodi hyn a gallwn drio cael nawdd ar gyfer cyfieithydd
Gweddill
- Cinio
- Te/Coffi
- Gosod byrddau a chadeiriau
- Rhywbeth gyda'r hwyr?
Hyrwyddo
Tagiau
#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.
Trafodaeth wedi ei symud i'r dudalen drafodaeth.
Pwy sy'n blogio?
- Haciaith: blog Hacio'r Iaith 30fed mis Medi 2010
- Randomly Evil: cofnod Hacio'r Iaith gan BrynS
- Haciaith: Hacio’r Iaith 2011: ydych chi am ddod? sut allwch chi helpu?
Sylw yn y Wasg
- mae Click On Wales wedi gofyn fi i sgwennu erthygl am y digwyddiad (bydd e'n ddwyieithog) --Carlmorris 18:31, 18 Ionawr 2011 (UTC)
- mae Colinnosworthy yn dosbarthu'r datganiad y wasg (diolch Colin!) --Carlmorris 18:58, 18 Ionawr 2011 (UTC)
- ydw i? Heb wneud dim byd eto! --Colinnosworthy 23:37, 23 Ionawr 2011 (UTC)
Ble i aros?
Gwesty/hostel
- Llynedd, dyma fi'n aros yn Bodalwyn. Ddim y rhataf yn Aber falle, ond G&B arbennig, brecwast hyfryd, gwraig y lle'n siarad Cymraeg a hyd yn oed top tapiau 'Oer'/'Poeth' yn y stafell molchi. --Rhyswynne 09:02, 11 Ionawr 2011 (UTC)
Cynnig llety
(oes lle yn sied eich gardd?)
Swper Nos Wener
Roedd sawl un yn aros dros nos yn Aberystwyth y llynedd felly aethon ni allan am gyri. Roedd yn ddechrau gwych i'r diwrnod canlynol. Felly pam lai gwneuyd yr un peth eto. Hacio'r Cyri.
Bydd bwrdd wedi ei archebu ym Mwyty Shilam (ger yr orsaf) am 7.30pm. Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle.
- Bryn Salisbury - Hwre! Cyri! :D
- Rhodri ap Dyfrig - Saag Aloo a Handi Special i fi plis.
- Iwan Davies - Cwrw dryd plis!
- Sioned Edwards - Phaal efo extra chilli sprinkles plis.
- Telsa Gwynne
Teithio
Yn gyrru?
Allwch chi gynnig lifft i rywun arall o'ch ardal chi? Gadwch wybod yma.
- Menna yn mynd o Gaernarfon i Aberystwyth Dydd Gwener, Ionawr 28ain.
- Colin yn mynd o Landrindod i Aberystwyth Dydd Gwener, Ionawr 28ain.--Colinnosworthy 15:30, 12 Ionawr 2011 (UTC)
- hoffwn i ymuno Colin plîs, hapus i gyfrannu i'r cyllid tanwydd. Diolch! --Carlmorris 04:45, 24 Ionawr 2011 (UTC)
- sori Carl, rwy'n mynd lan o Landrindod bore dydd Gwener nawr, mae'n flin da fi, be am gofyn i Christopher Swift?--Colinnosworthy 11:23, 24 Ionawr 2011 (UTC)
- Wi'n gallu d'helpu di os yt ti'n moyn. Teimla yn rhydd i sgwennu ataf (trafod @ gmail dot com). --Christopher Swift 12:36, 24 Ionawr 2011 (UTC)
- Wi'n mynd o Gastell-nedd i Aberystwyth Dydd Gwener, Ionawr 28ain.--Christopher Swift 18:27, 23 Ionawr 2011 (UTC)
Angen lifft?
Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...
Parcio
Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Dyma fap gyda manylion y maes parcio.
I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.
Ar antur / random
Dw i wedi dechrau arolwg barn i ymchwilio galw am fy syniadau. Plîs, plîs, defnyddia dy bleidlais eleni. Diolch. --Carlmorris 01:50, 20 Ionawr 2011 (UTC)
English translation
Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.