Gweithredoedd

Hacio'r Iaith - Ionawr 2011

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:52, 5 Ionawr 2011 gan Rhodri.apdyfrig (sgwrs | cyfraniadau)

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr a'r pobol sy'n mynychu ar y cyd gyda Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Manylion y digwyddiad

Beth?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.

Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.

Mae esboniad That Canadian Girl yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.

Eleni rydyn ni'n hepgor y pwyslais ar hacio neu raglennu, er bod croeso i chi wneud hynny, ac yn ceisio cael rhagor o weithdai neu diwtorialau ymarferol. Cyfle i ddysgu sgil newydd eich hun tra'n rhoi o'ch sgiliau chi i eraill. Ond dyw hyn ddim yn rheol - dim ond canllaw. Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Y llynedd daeth dros 40 o bobol i drafod, dysgu a rhannu. Dyma rai lluniau, fideos (a mwy), recordiadau sain a blogiau er mwyn rhoi blas gwell i chi o beth i'w ddisgwyl. Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Pryd?

Dydd Sadwrn, 29 Ionawr 2011.

Amser: Tua 9yb i tua 7yh (mae hyn eto i'w benderfynu)

Ble?

Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyma'r Google Fap

Adnoddau eraill cyfagos

Sut allwch chi helpu?

Mae eisiau i ni ddechrau rhestr 'to do' yma gan nodi yr elfennau o'r diwrnod sydd angen eu gweithredu cyn iddo ddigwydd.

Ychwanegwch dasg, yna nodwch wrth ei ymyl os ydych chi wedi ei gymryd mlaen gan roi eich enw. Nodwch pan rydych chi wedi ei gyflawni.


* 


Noddwyr

__

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond yn wahanol i Hacio'r Iaith 2010 bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynauyn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.

Rheolau BarCamp

Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):

  • Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
  • Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
  • Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
  • Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc.
  • Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld.
  • Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
  • Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
  • Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen.
  • Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.

Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Hwn oedd yr amserlen ddrafft:

____


Sesiynau arfaethedig

Pynciau yr hoffwn i gyflwyno amdanynt

Dyma lle gallwch chi sgwennu am ba bwnc rydych chi am ei gyflwyno ar y dydd. Gall fod yn gyflwyniad syml am wefan da chi wedi bod yn gweithio arni, yn sesiwn banel, yn drafodaeth agored, yn rant, neu beth bynnag hoffwch chi.

Hoffwn i ddysgu rhywbeth ymarferol. Addysga fi! e.e.

  • rhywbeth am fideo gwell
  • ScraperWiki ayyb (Hywel?)
  • dylunio (Iestyn? Sioned?)
  • rhywbeth hwyl gyda chod (Bryn?)

--Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)

Trafodaeth am deledu a thechnoleg. (Elin HGJ fel cadeirydd?) --Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)

Trafodaeth am weithredaeth/hacktivism --Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)

Pobol

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Mae lle i dros 50 o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.


Methu Dod

Os nad ydych yn gallu dod, tynnwch eich enw o'r rhestr mynychwyr a rhowch eich enw yma fel ein bod yn gwybod.

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Gwirfoddolwyr

  • Ysgrifennu datganiad i'r wasg
  • Poster --- Iestyn Lloyd?
  • Paratoi ystafelloedd (pryd?) --- ?
  • Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru - pwy sydd am wirfoddoli? --- ?

Mae Aneurin Brown o Goleg y Drindod Dewi Sant wedi cynnig helpu gyda'r ffilmio ar y dydd

Mae Rhys Jenkins hefyd o Goleg y Drindod Dewi Sant wedi cynnig helpu ar y dydd hefyd.

Rhestr tasgau

__


Technegol

Angenrheidiol

  • Wifi (dim problem gyda hyn - roedd y cyswllt di-wifr llynedd yn gret. --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC))
  • Taflunydd (dim problem gyda hyn - gallwn fenthyg offer yr adran --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC)
    • Mae technegydd yr adran wedi cynnig i ni ddefnyddio rhai o pico projectors Samsung yr adran. Handi ar gyfer sesiynau bach anffurfiol efallai?
  • Ffotograffydd
  • PA Bach gyda meics (yr adran am ddarparu hyn --Rhodri.apdyfrig 15:49, 5 Ionawr 2011 (UTC))

Dymunol

  • Fideo (dwi wedi archebu camera HD i recordio un ystafell --Rhodri.apdyfrig 15:52, 5 Ionawr 2011 (UTC))
    • Rhywun i ffilmio sesiynau cyfan? Unrhywun eisiau gwirfoddoli i reoli camera?
    • Rhywun i ffilmio eitemau byr/cyfweliadau o amgylch y digwyddiad?
    • Oes angen camera fideo yn yr ail ystafell?
    • Beth am ffrydio byw?
    • Oes unrhyw wirfoddolwyr i dorri fideo o'r sesiynau ar ôl y digweyddiad?
    • Oes rhywun eisiau gwneud sting bach ar gyfer rhoi ar y fideos?
  • Sain
    • Gallwn fenthyg offer yr adran ond yn sicr byddai'n fanteisiol cael cymorth technegol i'w fonitro
  • Cyfieithu ar y pryd? - os oes rhywun yn dod sydd yn ddi-Gymraeg yna dylent nodi hyn a gallwn drio cael nawdd ar gyfer cyfieithydd

Gweddill

   * Cinio
   * Te/Coffi
   * Gosod byrddau a chadeiriau
   * Croesawu
   * Trefnu parti gyda'r hwyr

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.

Trafodaeth wedi ei symud i'r dudalen drafodaeth.


Pwy sy'n blogio?


Sylw yn y Wasg

Ble i aros?

Gwesty/hostel

(yn ddelfrydol gyda pherchnogion sy'n siarad Cymraeg)

 * awgrymwa le...
 * Oes 'na le lle bydd nifer yn aros nos Wener?

Cynnig llety

(oes lle yn sied eich gardd?)

Swper Nos Wener

Roedd sawl un yn aros dros nos yn Aberystwyth y llynedd felly aethon ni allan am gyri. Roedd yn ddechrau gwych i'r diwrnod canlynol. Felly pam lai gwneuyd yr un peth eto. Hacio'r Cyri.

Bydd bwrdd wedi ei archebu ym Mwyty Shilam (ger yr orsaf) am 7.30pm. Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle.

Teithio

Yn gyrru?

Allwch chi gynnig lifft i rywun arall o'ch ardal chi? Gadwch wybod yma.

Angen lifft?

Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...

Parcio

Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Dyma fap gyda manylion y maes parcio.

I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.

English translation

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.