API Hedyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
Mae'r API yn darparu fformatau eraill megis XML a PHP brodorol ond peidiwch â dibynnu arnyn nhw yn yr hir dymor. | Mae'r API yn darparu fformatau eraill megis XML a PHP brodorol ond peidiwch â dibynnu arnyn nhw yn yr hir dymor. | ||
== Nodyn am gapasiti == | |||
Mae terfyn ar y nifer o geisiadau mae Hedyn yn gallu derbyn o fewn unrhyw gyfnod penodol felly byddwch yn gwrtais. Defnyddiwch storfa/cache os oes modd, yn hytrach na rhedeg yr un cais sawl gwaith. | |||
== Enghreifftiau == | == Enghreifftiau == |
Fersiwn yn ôl 16:19, 29 Ebrill 2016
Mae Hedyn yn darparu API i bobl sydd eisiau ysgrifennu côd i ddatblygu apiau ar sail cynnwys y wefan, gwneud chwiliadau, ayyb.
Enghraifft syml
Mae'r cyfeiriad isod yn gofyn i'r wasanaeth anfon cynnwys tudalen Hafan i chi fel JSON.
https://hedyn.net/api.php?action=query&titles=Hafan&prop=revisions&rvprop=content&format=json
Defnyddiwch unrhyw iaith gyfrifiadurol i wneud cais HTTP GET am y cyfeiriad (neu ymweld â'r cyfeiriad yn eich porwr), ac fe gewch chi dogfen JSON sy'n cynnwys cod wici ar gyfer y tudalen o'r enw "Hafan".
Diweddbwynt
Dyma'r diweddbwynt. Mae e fel tudalen hafan gwasanaeth gwe API Hedyn.
Fformat
format=json
Mae hynny yn dweud wrth yr API ein bod ni eisiau data mewn fformat JSON
Os ydych chi'n newid y maes 'format' i jsonfm fe gewch chi canlyniad HTML pert ar gyfer dadfygio.
Mae'r API yn darparu fformatau eraill megis XML a PHP brodorol ond peidiwch â dibynnu arnyn nhw yn yr hir dymor.
Nodyn am gapasiti
Mae terfyn ar y nifer o geisiadau mae Hedyn yn gallu derbyn o fewn unrhyw gyfnod penodol felly byddwch yn gwrtais. Defnyddiwch storfa/cache os oes modd, yn hytrach na rhedeg yr un cais sawl gwaith.
Enghreifftiau
Y Rhestr
Bydd y cyfeiriad yma yn dangos cyflwyniad y tudalen Categori:Blog_Cymraeg yn unig (heb y tudalennau sydd yn y categori): https://hedyn.net/api.php?action=query&titles=Categori:Blog_Cymraeg&prop=revisions&rvprop=content&format=json
Os ydych chi am wneud ceisiadau i'r Rhestr ei hun, byddwch chi eisiau gwneud cais i weld cynnwys Categori. Defnyddiwch: https://hedyn.net/api.php?action=query&list=categorymembers&cmtitle=Category:Blog_Cymraeg&cmlimit=1000&format=json
Wedyn gallech chi gael gafael ar union gyfeiriad y blog a manylion eraill yn yr un modd ag enghreifftiau eraill: https://hedyn.net/api.php?action=query&titles=Y_Twll&prop=revisions&rvprop=content&format=json