Hacio'r Iaith 2015: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Patrick (sgwrs | cyfraniadau) cynnig sesiwn newydd |
Leiafee (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 97: | Llinell 97: | ||
:* Mae megameth gyda fi i'w rannu --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 20:05, 20 Chwefror 2015 (UTC) | :* Mae megameth gyda fi i'w rannu --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 20:05, 20 Chwefror 2015 (UTC) | ||
===== | =====Gemeiddio dysgu a defnyddio'r Gymraeg===== | ||
RPGs yn a dosbarth, gweithle a cartref fel ffordd o annog dysgu, newid ymddygiad a datblygu arferion da (neu cael gwared ar arferion drwg) | |||
:Sesiwn gan Leia Fee | :Sesiwn gan Leia Fee | ||
Fersiwn yn ôl 15:59, 26 Chwefror 2015
- Mae Hacio'r Iaith 2015 wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr ar y cyd gyda Chanolfan Bedwyr a'r Uned Technolegau Iaith
Beth yw Hacio'r Iaith?
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.
Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2015, cofiwch gofrestru.
Cofrestru
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).
Cofrestrwch am Hacio'r Iaith 2015
Mae lle i nifer cyfyngedig o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.
Bydd angen i bawb trefnu eu llety eu hunain. Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cynnig prisiau arbennig i Hacio'r Iaith.
Sut i gyfrannu at y wici Hacio'r Iaith 2015
Er mwyn ysgrifennu ar dudalen wici Hacio'r Iaith 2015 rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o wici Hedyn.net.
Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.
Strwythyr y digwyddiad
Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.
Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.
Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.
Dyddiadau
Dydd Gwener, 6 Mawrth 2015
- 9:30-16.00 Trwy Ddulliau Technoleg
- Amser i'w gadarnhau--> Swper Nos Wener
Dydd Sadwrn, 7 Mawrth 2015
- Amser: 09:00-tua 18:30 Hacio'r Iaith 2015 (prif ddigwyddiad)
- 19:00--> y dafarn
Lleoliad
Y Ganolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor, Bangor.
Cinio ganol dydd Sadwrn
Darperir cinio am ddim drwy haelioni Canolfan Bedwyr a'r Uned Technolegau Iaith i'r sawl fydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Rhaglen y dydd
Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.
Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.
Yn ogystal â'r wici yma, mae croeso i chi adael eich syniad fel sylw ar y cofnod blog Hacio'r Iaith 2015 neu eu trydar nhw gyda #haciaith.
Cyngor am wneud sesiwn
- Cer i Beth yw'r fformat BarCamp? am ragor o fanylion am y fformat.
- Plis awgrymwch syniadau! Awgrymu yw'r unig ffordd i weld os oes diddordeb yn eich pwnc. Mae modd i chi rannu ar y tudalen wici yma (creu cyfrif), ar Twitter gyda'r hashnod #haciaith ac ar y datganiad ar blog Hacio'r Iaith.
- Mae pethau ymarferol yn hwyl.
- Dewch i ofyn. Dewch i ddysgu. Does dim rhaid i chi arbenigo yn y pwnc o gwbl i drefnu sesiwn!
- Os ydych chi am ddangos rhywbeth does dim rhaid i chi creu cyflwyniad PowerPoint/Google Drive. Fel arfer mae rhywbeth yn fyw gallu bod yn fwy diddorol na sioe sleidiau... Mae'n haws i'w baratoi hefyd!
- Neges arbennig i bobl o gwmnïau mawr a sefydliadau mawr... Henffych well! Croeso cynnes i Hacio'r Iaith. Plîs meddyliwch sut ydych chi'n gallu cymryd rhan. Dw i'n siŵr bod llwyth o adnoddau, cynnwys, syniadau, prosiectau agored gyda chi. Ie, CHI! Plîs meddyliwch tu hwnt i 'cyhoeddi-menter-gorfforaethol-newydd-mewn-sesiwn'. Cynnwys a chyfranogaeth yn hytrach na chyhoeddusrwydd. Diolch am ddarllen. :-)
Sesiynau 'Pendant'
Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y sesiwn yma.
Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi.
O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweithdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.
Beth yw 'sentiment analysis' yn Gymraeg? Cyflwyniad i system Blurrt
- Cyflwyniad/gweithdy gan Owain Rhys Lewis
Megameth
- Mae'r sesiwn hon yn ymwneud â methiannau. Clywch am brosiectau digidol sydd wedi methu er mwyn sbarduno sgwrs, dysgu a gwelliannau! Bydd cyfle i rannu eich methiant digidol hefyd.
- Mae megameth gyda fi i'w rannu --Carlmorris (sgwrs) 20:05, 20 Chwefror 2015 (UTC)
Gemeiddio dysgu a defnyddio'r Gymraeg
RPGs yn a dosbarth, gweithle a cartref fel ffordd o annog dysgu, newid ymddygiad a datblygu arferion da (neu cael gwared ar arferion drwg)
- Sesiwn gan Leia Fee
Gall unrhyw un gyfieithu meddalwedd
- Gweithdy gan Aled Powell
Sesiwn o sesiynau
- Cyfres o feicro-gyflwyniadau 7-10 munud. Aml-gyfranog
Golygathon Wicipedia
- Cyfrannwch at y wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd! Croeso i bawb gan gynnwys dechreuwyr.
- Bydden i'n gallu rhedeg un trwy'r dydd (splitio yn ddau sesiwn dan ofal sawl person - Rhys W
Sesiwn 7
Sesiwn 8
Sesiwn 9
Sesiwn 10
Sesiynau Posib
Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.
Sessiwn Golygu Wicipedia gydag API Cysill ar-lein Techiaith
- Dwi (Patrick robertson) yn cynnig gwneud sessiwn ar sut i ddefnyddio'n API newydd (gweler fama). Y syniad ydi addasu ein sgript enghreifftiol Gwirio Wicipedia fel bod modd mewnbynnu cywiriadau yn ôl i Wicipedia.
- Efallai gall y sesiwn yma fod yn sesiwn "Adnoddau'r Porth Technolegau Iaith" yn gyfan gwbwl, lle bydd modd i bobl ofyn cwestiynau ar yr adnoddau a hacio gyda nhw
Sesiwn am @DyddiadurKate
- Sesiwn am @DyddiadurKate gan Sara Huws - manylion i ddilyn. Gweld mwy am y Dyddiadur ar flog y prosiect.
Rhywun i wneud sesiwn ymarferol o glipiau Vine?
Rhywun i wneud gweithdy PhotoShop/GIMP?
#cymruddyfodoliaeth
Yr Haclediad?
Sesiwn a
Sesiwn b
Sesiwn c
Sesiwn ch
Trefnu'r Dydd
Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.
Rheol Dwy Droed
Mae mwy nag un peth yn digwydd ar yr un pryd ac mae sesiynau gwahanol yn apelio at bobl wahanol. Felly mae croeso i unrhyw un camu allan o unrhyw sesiwn cyn y diwedd. Dyma'r Rheol Dwy Droed.
Ystafelloedd
- Canolfan Rheolaeth, (digon mawr i 80 o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd. (Mae modd efallai cael 2 griw ar bennau gwahanol yr ystafell hefyd os oes rhaid.)
- Yr ystafell gyfarfod lawr llawr, (lle i tua 12 o bobl rownd bwrdd cynhadledd)
- 2 ystafell gyfarfod arall gyda lle i tua 30 o bobl yr un (neu 40 at a push)
- Ystafell cyfrifiaduron gyda 12 cyfrifiadur yno – modd cael cyfrineiriau ar y dydd os oes angen
- Ystafell y Coleg Cymraeg – linc fideo yno a chyfrifiadur gyda thaflunydd etc
- ystafell gyfarfod fechan yng Nghanolfan Bedwyr (lle i tua 8 rownd y bwrdd)
- cyntedd agored Canolfan Bedwyr i griw bach (tua 6-8) - mae yno soffa a stolion
Hyd Slotiau
50 munud - er mwyn rhoi 10 munud rhwng pob sesiwn er mwyn ail-ymgynnull, ail-drefnu sesiynau a dewis ystafelloedd.
Yr Amserlen Wag
Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Os ydych chi wedi am arwain sesiwn/gweithdy yna croeso i chi fachu slot o flaen llaw. Gallwn ni ail-drefnu fore Sadwrn.
Amser | A | B | C | Ch |
---|---|---|---|---|
09.00-9.30 | Coffi, cofrestru, dechrau trefnu sesiynau | |||
09.30-10.20 | Sesiwn 1(a) | Sesiwn 1(b) | Sesiwn 1(c) | Sesiwn 1(ch) |
10.30-11.20 | Sesiwn 2(a) | Sesiwn 2(b) | Sesiwn 2(c) | Sesiwn 2(ch) |
11.30-12.15 | ? | |||
12.15-13.00 | Cinio | |||
13.00-13.50 | Sesiwn 3(a) | Sesiwn 3(b) | Sesiwn 3(c) | Sesiwn 3(ch) |
14.00-14.50 | Sesiwn 4(a) | Sesiwn 4(b) | Sesiwn 4(c) | Sesiwn 4(ch) |
15.00-15.30 | Toriad | |||
15.30-16.20 | Sesiwn 5(a) | Sesiwn 5(b) | Sesiwn 5(c) | Sesiwn 5(ch) |
16.30-17.20 | Sesiwn 6(a) | Sesiwn 6(b) | Sesiwn 6(c) | Sesiwn 6(ch) |
17.30-18.30 | Sesiwn gloi |
Trefnwyr
Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Carl Morris neu Rhys Wynne.
Trwy Ddulliau Technoleg ar ddydd Gwener
Mae'r Uned Technolegau Iaith (Techiaith) yn cynnal cynhadledd y diwrnod cyn Hacio'r Iaith ar y 6ed dan y teitl Trwy Ddulliau Technoleg. Mae’r gynhadledd rhyngwladol hwn yn lansio Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru a'n cynnwys siaradwyr gwadd o Dde Affrica, yr Alban, Iwerddon, Catalonia a Gwlad y Basg.
Mae angen cofrestru am y diwyddiad Trwy Ddulliau Technoleg ar wahan i Hacio'r Iaith 2015.
Trwy Ddulliau Technoleg: rhagor o fanylion
Trwy Ddulliau Technoleg: amserlen
Trwy Ddulliau Technoleg: cofrestru
Swper Nos Wener
Manylion cyn hir!
Teithio a Llety
Llety
Mae angen archebu llety ar wahan i'ch tocyn ar gyfer y digwyddiad.
Y Ganolfan Rheolaeth
Mwy yn fuan!
Llefydd eraill ym Mangor
Wrth gwrs mae rhagor o lefydd i aros ym Mangor a'r cylch - gan gynnwys llety rhatach.
Teithio
Cyn y digwyddiad
- Rhyswynne yn cynnig lifft, gadael ganol Caerdydd pnawn Gwener rhwng 4:15 a 4:30pm. cysylltwch drwy e-bost: rhysw1 [malwen] gmail.com
- person 2
Wedi'r digwyddiad
- person 1
- person 2
Parcio
Mi ddylai digon o le parcio fod ar gael ym maes parcio'r Ganolfan Rheolaeth ar ddydd Sadwrn (y fynedfa nesaf i'r chwith ar ôl y Ganolfan Rheolaeth wrth ddod o gyfeiriad Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg).
Sut allwch chi helpu?
manylion yn fuan
Gwirfoddoli
Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawb sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.
Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:
- roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
- cofnodi a chyfathrebu sesiynau drwy flogio byw (gallwch ddefnyddio haciaith.com i wneud hynny)
- helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
- cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!
Noddwyr - Diolch yn fawr!
- Diolch i Ganolfan Bedwyr
- Diolch i Broject TILT
- Diolch i SbellCheck am noddi unwaith eto trwy roi gwaith dylunio i Hacio'r Iaith
Tagiau
#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddiwch o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.