Hacio'r Iaith 2015: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
→Teithio: cynnig lifft adre i Gaerdydd |
|||
Llinell 225: | Llinell 225: | ||
=====Cyn y digwyddiad===== | =====Cyn y digwyddiad===== | ||
* [[:Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] yn cynnig lifft, gadael ganol Caerdydd pnawn Gwener rhwng 4:15 a 4:30pm. cysylltwch drwy e-bost: rhysw1 [malwen] gmail.com | * [[:Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] yn cynnig lifft, gadael ganol Caerdydd pnawn Gwener rhwng 4:15 a 4:30pm. cysylltwch drwy e-bost: rhysw1 [malwen] gmail.com Gadewch i mi wybod erbyn diwedd dydd Mercher plis. | ||
* [[:Defnyddiwr:Leiafee|Leiafee]] yn isio lifft, o Abertawe pnawn Gwener ar ôl 4:00. Unrhywun? cysylltwch drwy e-bost: leiafee [malwen] totalise.co.ukk | * [[:Defnyddiwr:Leiafee|Leiafee]] yn isio lifft, o Abertawe pnawn Gwener ar ôl 4:00. Unrhywun? cysylltwch drwy e-bost: leiafee [malwen] totalise.co.ukk | ||
* person 1 | |||
* person 2 | |||
=====Wedi'r digwyddiad===== | =====Wedi'r digwyddiad===== | ||
[[:Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] yn cynnig lifft, yn ol i Gaerdydd, yn fuan wedi diwedd y digwyddiad ar y dydd Sadwrn. | |||
* person 1 | * person 1 | ||
* person 2 | * person 2 |
Fersiwn yn ôl 22:24, 1 Mawrth 2015
Beth yw Hacio'r Iaith?
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.
Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2015, cofiwch gofrestru.
Cofrestru
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).
Cofrestrwch am Hacio'r Iaith 2015
Mae lle i nifer cyfyngedig o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.
Bydd angen i bawb trefnu eu llety eu hunain. Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cynnig prisiau arbennig i Hacio'r Iaith.
Sut i gyfrannu at y wici Hacio'r Iaith 2015
Er mwyn ysgrifennu ar dudalen wici Hacio'r Iaith 2015 rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o wici Hedyn.net.
Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.
Strwythur y digwyddiad
Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.
Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.
Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.
Dyddiadau
Dydd Gwener, 6 Mawrth 2015
- 9:30-16.00 Trwy Ddulliau Technoleg
- Amser i'w gadarnhau--> Swper Nos Wener
Dydd Sadwrn, 7 Mawrth 2015
- Amser: 09:00-tua 18:30 Hacio'r Iaith 2015 (prif ddigwyddiad)
- 19:00--> y dafarn
Lleoliad
Y Ganolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor, Bangor.
Cinio ganol dydd Sadwrn
Darperir cinio am ddim drwy haelioni Canolfan Bedwyr a'r Uned Technolegau Iaith i'r sawl fydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Rhaglen y dydd
Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.
Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.
Yn ogystal â'r wici yma, mae croeso i chi adael eich syniad fel sylw ar y cofnod blog Hacio'r Iaith 2015 neu eu trydar nhw gyda #haciaith.
Cyngor am wneud sesiwn
- Cer i Beth yw'r fformat BarCamp? am ragor o fanylion am y fformat.
- Plis awgrymwch syniadau! Awgrymu yw'r unig ffordd i weld os oes diddordeb yn eich pwnc. Mae modd i chi rannu ar y tudalen wici yma (creu cyfrif), ar Twitter gyda'r hashnod #haciaith ac ar y datganiad ar blog Hacio'r Iaith.
- Mae pethau ymarferol yn hwyl.
- Dewch i ofyn. Dewch i ddysgu. Does dim rhaid i chi arbenigo yn y pwnc o gwbl i drefnu sesiwn!
- Os ydych chi am ddangos rhywbeth does dim rhaid i chi creu cyflwyniad PowerPoint/Google Drive. Fel arfer mae rhywbeth yn fyw gallu bod yn fwy diddorol na sioe sleidiau... Mae'n haws i'w baratoi hefyd!
- Neges arbennig i bobl o gwmnïau mawr a sefydliadau mawr... Henffych well! Croeso cynnes i Hacio'r Iaith. Plîs meddyliwch sut ydych chi'n gallu cymryd rhan. Dw i'n siŵr bod llwyth o adnoddau, cynnwys, syniadau, prosiectau agored gyda chi. Ie, CHI! Plîs meddyliwch tu hwnt i 'cyhoeddi-menter-gorfforaethol-newydd-mewn-sesiwn'. Cynnwys a chyfranogaeth yn hytrach na chyhoeddusrwydd. Diolch am ddarllen. :-)
Sesiynau 'Pendant'
Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y sesiwn yma.
Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi.
O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweithdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.
Beth yw 'sentiment analysis' yn Gymraeg? Cyflwyniad i system Blurrt
- Cyflwyniad/gweithdy gan Owain Rhys Lewis
Megameth
- Mae'r sesiwn hon yn ymwneud â methiannau. Clywch am brosiectau digidol sydd wedi methu er mwyn sbarduno sgwrs, dysgu a gwelliannau! Bydd cyfle i rannu eich methiant digidol hefyd.
- Mae megameth gyda fi i'w rannu --Carlmorris (sgwrs) 20:05, 20 Chwefror 2015 (UTC)
Gêmeiddio dysgu a defnyddio'r Gymraeg
RPGs yn a dosbarth, gweithle a cartref fel ffordd o annog dysgu, newid ymddygiad a datblygu arferion da (neu cael gwared ar arferion drwg)
Gall unrhyw un gyfieithu meddalwedd
- Gweithdy gan Aled Powell
Sesiwn o sesiynau
- Cyfres o feicro-gyflwyniadau 7-10 munud. Aml-gyfranog
Golygathon Wicipedia
- Cyfrannwch at y wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd! Croeso i bawb gan gynnwys dechreuwyr.
- Bydden i'n gallu rhedeg un trwy'r dydd (splitio yn ddau sesiwn dan ofal sawl person - Rhys W
Sesiwn 7
Sesiwn 8
Sesiwn 9
Sesiwn 10
Sesiynau Posib
Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.
Sesiwn Golygu Wicipedia gydag API Cysill ar-lein Techiaith
- Dwi (Patrick robertson) yn cynnig gwneud sesiwn ar sut i ddefnyddio'n API newydd (gweler fama). Y syniad ydi addasu ein sgript enghreifftiol Gwirio Wicipedia fel bod modd mewnbynnu cywiriadau yn ôl i Wicipedia.
- Efallai gall y sesiwn yma fod yn sesiwn "Adnoddau'r Porth Technolegau Iaith" yn gyfan gwbwl, lle bydd modd i bobl ofyn cwestiynau ar yr adnoddau a hacio gyda nhw
Sesiwn am @DyddiadurKate
- Sesiwn am @DyddiadurKate gan Sara Huws - manylion i ddilyn. Gweld mwy am y Dyddiadur ar flog y prosiect.
Rhywun i wneud sesiwn ymarferol o glipiau Vine?
Rhywun i wneud gweithdy PhotoShop/GIMP?
#cymruddyfodoliaeth
Yr Haclediad?
Sesiwn a
Sesiwn b
Sesiwn c
Sesiwn ch
Trefnu'r Dydd
Byddwn yn defnyddio system open grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.
Rheol Dwy Droed
Mae mwy nag un peth yn digwydd ar yr un pryd ac mae sesiynau gwahanol yn apelio at bobl wahanol. Felly mae croeso i unrhyw un camu allan o unrhyw sesiwn cyn y diwedd. Dyma'r Rheol Dwy Droed.
Ystafelloedd
- Canolfan Rheolaeth, (digon mawr i 80 o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd. (Mae modd efallai cael 2 griw ar bennau gwahanol yr ystafell hefyd os oes rhaid.)
- Yr ystafell gyfarfod lawr llawr, (lle i tua 12 o bobl rownd bwrdd cynhadledd)
- 2 ystafell gyfarfod arall gyda lle i tua 30 o bobl yr un (neu 40 at a push)
- Ystafell cyfrifiaduron gyda 12 cyfrifiadur yno – modd cael cyfrineiriau ar y dydd os oes angen
- Ystafell y Coleg Cymraeg – linc fideo yno a chyfrifiadur gyda thaflunydd etc
- ystafell gyfarfod fechan yng Nghanolfan Bedwyr (lle i tua 8 rownd y bwrdd)
- cyntedd agored Canolfan Bedwyr i griw bach (tua 6-8) - mae yno soffa a stolion
Hyd Slotiau
50 munud - er mwyn rhoi 10 munud rhwng pob sesiwn er mwyn ail-ymgynnull, ail-drefnu sesiynau a dewis ystafelloedd.
Yr Amserlen Wag
Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Os ydych chi wedi am arwain sesiwn/gweithdy yna croeso i chi fachu slot o flaen llaw. Gallwn ni ail-drefnu fore Sadwrn.
Amser | A | B | C | Ch |
---|---|---|---|---|
09.00-9.40 | Coffi, cofrestru, dechrau trefnu sesiynau | |||
09.40-10.30 | Sesiwn 1(a) | Sesiwn 1(b) | Sesiwn 1(c) | Sesiwn 1(ch) |
10.30-11.20 | Sesiwn 2(a) | Sesiwn 2(b) | Sesiwn 2(c) | Sesiwn 2(ch) |
11.20-12.10 | Sesiwn 3(a) | Sesiwn 3(b) | Sesiwn 3(c) | Sesiwn 3(ch) |
12.10-13.00 | Sesiwn 4(a) | Sesiwn 4(b) | Sesiwn 4(c) | Sesiwn 4(ch) |
13.00-13.50 | Cinio | |||
13.50-14.40 | Sesiwn 5(a) | Sesiwn 5(b) | Sesiwn 5(c) | Sesiwn 5(ch) |
14.40-15.30 | Sesiwn 6(a) | Sesiwn 6(b) | Sesiwn 6(c) | Sesiwn 6(ch) |
15.30-15.40 | Toriad am goffi | |||
15.40-16.30 | Sesiwn 7(a) | Sesiwn 7(b) | Sesiwn 7(c) | Sesiwn 7(ch) |
16.30-17.00 | Sesiwn gloi |
Trefnwyr
Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Carl Morris neu Rhys Wynne.
Trwy Ddulliau Technoleg ar ddydd Gwener
Mae'r Uned Technolegau Iaith (Techiaith) yn cynnal cynhadledd y diwrnod cyn Hacio'r Iaith ar y 6ed dan y teitl Trwy Ddulliau Technoleg. Mae’r gynhadledd rhyngwladol hwn yn lansio Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru a'n cynnwys siaradwyr gwadd o Dde Affrica, yr Alban, Iwerddon, Catalonia a Gwlad y Basg.
Mae angen cofrestru am y diwyddiad Trwy Ddulliau Technoleg ar wahan i Hacio'r Iaith 2015.
Trwy Ddulliau Technoleg: rhagor o fanylion
Trwy Ddulliau Technoleg: amserlen
Trwy Ddulliau Technoleg: cofrestru
Swper Nos Wener
Bydd y cogydd preswyl yn darparu cyri yn y Ganolfan Rheolaeth am 6:30YH am £8.50 y pen.
Teithio a Llety
Teithio
Cyn y digwyddiad
- Rhyswynne yn cynnig lifft, gadael ganol Caerdydd pnawn Gwener rhwng 4:15 a 4:30pm. cysylltwch drwy e-bost: rhysw1 [malwen] gmail.com Gadewch i mi wybod erbyn diwedd dydd Mercher plis.
- Leiafee yn isio lifft, o Abertawe pnawn Gwener ar ôl 4:00. Unrhywun? cysylltwch drwy e-bost: leiafee [malwen] totalise.co.ukk
- person 1
- person 2
Wedi'r digwyddiad
Rhyswynne yn cynnig lifft, yn ol i Gaerdydd, yn fuan wedi diwedd y digwyddiad ar y dydd Sadwrn.
- person 1
- person 2
Parcio
Mi ddylai digon o le parcio fod ar gael ym maes parcio'r Ganolfan Rheolaeth ar ddydd Sadwrn (y fynedfa nesaf i'r chwith ar ôl y Ganolfan Rheolaeth wrth ddod o gyfeiriad Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg).
Fel arall bydd prif faes parcio Prifysgol Bangor (ychydig bach lawr yr heol) ar gael am ddim ar ôl 5YH nos Wener.
Llety
Mae angen archebu llety ar wahan i'ch tocyn ar gyfer y digwyddiad.
Y Ganolfan Rheolaeth
Ffoniwch 01248 365900 i wneud ymholiadau neu archebu llety yn y Ganolfan Rheolaeth. Dwedwch y geiriau hudol Hacio'r Iaith am ostyngiad.
Llefydd eraill ym Mangor
Wrth gwrs mae rhagor o lefydd i aros ym Mangor a'r cylch.
- Gwesty Eryl Môr (wrth y pier) yn cynnig llety weddol rhad
Sut allwch chi helpu?
manylion yn fuan
Gwirfoddoli
Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawb sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.
Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:
- roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
- cofnodi a chyfathrebu sesiynau drwy flogio byw (gallwch ddefnyddio haciaith.com i wneud hynny)
- helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
- cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!
Noddwyr - Diolch yn fawr!
- Diolch i Mei Gwilym am noddi'r bwyd.
- Diolch i Iestyn Lloyd am waith dylunio i Hacio'r Iaith
Tagiau
#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddiwch o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.
Digwyddiad Facebook
Gwahoddwch eich ffrindiau trwy'r digwyddiad Facebook.