Hacio'r Iaith 2014: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Llinell 297: | Llinell 297: | ||
* Dw i'n gyrru o Gaerdydd i Fangor ar ddydd Gwener 14eg yn y bore. Mae croeso i unrhyw un ofyn am lifft. Ffoniwch 07891 927252 --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 16:49, 7 Chwefror 2014 (UTC) | * Dw i'n gyrru o Gaerdydd i Fangor ar ddydd Gwener 14eg yn y bore. Mae croeso i unrhyw un ofyn am lifft. Ffoniwch 07891 927252 --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 16:49, 7 Chwefror 2014 (UTC) | ||
* Dw i'n gyrru o Aberystwyth i Fangor brynhawn Gwener. Mae'n debyg y bydda i'n gadael toc ar ôl cinio. Lle i 2 siwr o fod. Anfonwch neges ar Twitter i @nwdls --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|sgwrs]]) 13:52, 10 Chwefror 2014 (UTC) | |||
=====Wedi'r digwyddiad===== | =====Wedi'r digwyddiad===== | ||
* Mae rhywun wedi gofyn os oes lifft o Fangor i Gaerdydd ar nos Sadwrn ar ôl y digwyddiad. Unrhyw un? --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 12:49, 10 Chwefror 2014 (UTC) | * Mae rhywun wedi gofyn os oes lifft o Fangor i Gaerdydd ar nos Sadwrn ar ôl y digwyddiad. Unrhyw un? --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 12:49, 10 Chwefror 2014 (UTC) | ||
* Mae gen i lifft o Fangor i Aberystwyth nos Sadwrn ar ôl y digwyddiad. Lle i 2 siwr o fod. Anfonwch neges ar Twitter i @nwdls --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|sgwrs]]) 13:52, 10 Chwefror 2014 (UTC) | |||
====Parcio==== | ====Parcio==== |
Fersiwn yn ôl 13:52, 10 Chwefror 2014
- Mae Hacio'r Iaith 2014 wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr ar y cyd gyda Chanolfan Bedwyr a Phroject TILT
Beth yw Hacio'r Iaith?
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.
Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2014, cofiwch gofrestru.
Sut i gyfrannu at y wici Hacio'r Iaith 2014
Er mwyn ysgrifennu ar dudalen wici Hacio'r Iaith 2014 rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o wici Hedyn.net.
Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.
Strwythyr y digwyddiad
Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.
Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.
Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.
Dyddiadau
Nos Wener, 14 Chwefror 2014
- 12.00 - 5.00yh Gofod cydweithio
- 7.30yh--> Swper Nos Wener
Dydd Sadwrn, 15 Chwefror 2014
- Amser: 9yb i tua 6:30yh Hacio'r Iaith 2014 (prif ddigwyddiad)
- 7yh--> y dafarn
Lleoliad
Y Ganolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor, Bangor.
Rhaglen y dydd
Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.
Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.
Yn ogystal â'r wici yma, mae croeso i chi adael eich syniad fel sylw ar y cofnod blog Hacio'r Iaith 2014 neu eu trydar nhw gyda #haciaith.
Cyngor am wneud sesiwn
- Cer i Beth yw'r fformat BarCamp? am ragor o fanylion am y fformat.
- Plis awgrymwch syniadau! Awgrymu yw'r unig ffordd i weld os oes diddordeb yn eich pwnc. Mae modd i chi rannu ar y tudalen wici yma (creu cyfrif), ar Twitter gyda'r hashnod #haciaith ac ar y datganiad ar blog Hacio'r Iaith.
- Mae pethau ymarferol yn hwyl.
- Dewch i ofyn. Dewch i ddysgu. Does dim rhaid i chi arbenigo yn y pwnc o gwbl i drefnu sesiwn!
- Os ydych chi am ddangos rhywbeth does dim rhaid i chi creu cyflwyniad PowerPoint/Google Drive. Fel arfer mae rhywbeth yn fyw gallu bod yn fwy diddorol na sioe sleidiau... Mae'n haws i'w baratoi hefyd!
- Neges arbennig i bobl o gwmnïau mawr a sefydliadau mawr... Henffych well! Croeso cynnes i Hacio'r Iaith. Plîs meddyliwch sut ydych chi'n gallu cymryd rhan. Dw i'n siŵr bod llwyth o adnoddau, cynnwys, syniadau, prosiectau agored gyda chi. Ie, CHI! Plîs meddyliwch tu hwnt i 'cyhoeddi-menter-gorfforaethol-newydd-mewn-sesiwn'. Cynnwys a chyfranogaeth yn hytrach na chyhoeddusrwydd. Diolch am ddarllen. :-)
Sesiynau 'Pendant'
Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y sesiwn yma.
Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi.
O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweithdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.
- Yr Haclediad
- Beth ydach chi'n feddwl o'r syniad hyn er mwyn gwasgu mwy o amser i sesiynau allan o'r diwrnod: cinio hanner awr am 12:00-12:30 haclediad 12:30-1:30 (gan fynd a'n bwyd mewn i'r Haclediad os di pobol isio? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:09, 19 Ionawr 2014 (UTC)
- Syniad i gael sesiwn i wella Blogiadur --Carlmorris (sgwrs) 19:14, 21 Tachwedd 2013 (UTC)
- Beth am ehangu hyn i fod yn sesiwn am wella traffig i gynnwys Cymraeg arlein? Galla i ddangos y prosiect newydd (sy'n adeiladu ar waith Umap Cymraeg) a sôn am sut mae'n gweithio. Bydd bron yn barod i lansio erbyn hynny. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:23, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
- Hapus i gyfrannu at drafodaeth am y Blogiadur, fel sesiwn ar ei ben ei hun neu'n rhan o rywbeth ehangach...:-) Aranjones
- Yn fy sylw gwreiddiol ar flog Carl, meddwl mwy am sesiwn ymarferol o wneud rhywbeth gwahanol gyda chynnwys y Blogiadur o'n i (gan ddychmygu byddai'n gymharol rhwydd gyda ategion WordPress/Yahoo pipes ayyb?), ac felly bod lle i hynny fel un sesiwn, ac yna trafodaeth (groan!) am hyrwyddo cynnwys ehangach + cyflwyniad ganddot ti Rhodri mewn sesiwn arall. Jyst syniad rili gan bod ni wastad yn brin o syniadau fel arfer am sesiynnau mwy ymarferol.--Rhyswynne (sgwrs) 16:10, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)
- Hapus i gyfrannu at drafodaeth am y Blogiadur, fel sesiwn ar ei ben ei hun neu'n rhan o rywbeth ehangach...:-) Aranjones
- Beth am ehangu hyn i fod yn sesiwn am wella traffig i gynnwys Cymraeg arlein? Galla i ddangos y prosiect newydd (sy'n adeiladu ar waith Umap Cymraeg) a sôn am sut mae'n gweithio. Bydd bron yn barod i lansio erbyn hynny. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:23, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
- Sesiwn ariannu prosiectau - manylion i ddilyn --Carlmorris (sgwrs) 16:14, 2 Rhagfyr 2013 (UTC)
- Hoffwn i gyfrannu at y sesiwn drwy sôn am wefan cyllido cymunedol newydd sydd gen i ar y gweill ar gyfer y Gwanwyn o'r enw Heliwm --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:23, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
- sesiwn Raspberry Pi
- Gallwn i fenthyg tua chwech Raspberry Pi o'r gwaith siwr y fod - tasai pobl moyn chwarae. Sa i wedi wneud dim byd gyda nhw eto!. --Leiafee (sgwrs) 21:22, 16 Ionawr 2014 (UTC)
- Leia, am gynnig! Gwych. Ie, dere gyda nhw os oes modd. Diolch o galon i ti! --Carlmorris (sgwrs) 12:49, 17 Ionawr 2014 (UTC)
- Gallwn i fenthyg tua chwech Raspberry Pi o'r gwaith siwr y fod - tasai pobl moyn chwarae. Sa i wedi wneud dim byd gyda nhw eto!. --Leiafee (sgwrs) 21:22, 16 Ionawr 2014 (UTC)
- Eiry Rees Thomas: Hoffwn i sgwrsio o fewn sesiwn am dair ap addysgol a doniol i blant 8-11, dwi wedi'u creu, ac sydd ar fîn cael eu cyhoeddu. Byddwn yn gwerthfawrogi adborth yn fawr. Gweler manylion ar wefan: www.ysbridion.co.uk.
Sesiynau Posib
Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.
Gweithdai Cyd-ddysgu
- Oes diddordeb i ddysgu mwy am Git? Dwi ffansi neud sgwrs ond isho gwbod os oes na ofyn Meigwilym (sgwrs) 09:17, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
- Dw i'n credu bod diddordeb ymhlith rhai o ein pobl yn sicr! --Carlmorris (sgwrs) 00:17, 11 Rhagfyr 2013 (UTC)
- Byddai diddordeb gen i yn hwn. Neu beth am i ti ail-gydio yn y syniad hwn oedd gennyt: [1]? --Hywelm (sgwrs) 22:50, 9 Ionawr 2014 (UTC)
- Beth am ymestyn hyn i drafod fwy o faes 'Version Control'? Git efallai gormod o naid o ddim byd i cael system? Sionwhughes (sgwrs) 10:57, 12 Ionawr 2014 (UTC)
- Gweithdy dechrau dy gwmni dy hun - rhannu profiadau, problemau, cyngor ymarferol i bobol sydd wedi ac ar fin dechrau cwmni --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
- Sesiwn Q & A - Oes gen tio gwestiwn i holi'r dorf? - 5 munud i bob cwestiwn ac ateb. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
- Gallwn wneud cyflwyniad/cynnal gweithdy ar siartio, gan edrych ar e.e. R, Google Drive, API Google, d3.js, nvd3.js. Fyddai diddordeb?--Hywelm (sgwrs) 23:13, 9 Ionawr 2014 (UTC)
- Gallwn i helpu gyda sessiwn ar 'rhaglenni i blant' os diddordeb - mae 'na pethau fel Scratch a (newydd!) Kodu ar gael yn Gymraeg. --Leiafee (sgwrs) 13:17, 29 Ionawr 2014 (UTC)
Gweithdai Cyd-greu
- Infograffig/map nofel Gymraeg (Gweler The Great Gatsby Chart, llun 9 a 10) Un Nos Ola Leuad?
- Rhywun am geisio creu ap i gyflwyno canlyniadau Cyfrifiad 2011 gan ddefnyddio API newydd y Swyddfa Ystadegol Gwladol? Gallwn gynghori ynghlylch data'r cyfrifiad ond mae creu ap y tu hwnt i'm galluoedd (ar hyn o bryd!) --Hywelm (sgwrs) 23:13, 9 Ionawr 2014 (UTC)
- Syniad i creu grwp i ysgrifennu'r ap yma? Cynnyrch cyffyrddadwy o Hacio'r iaith i efallai ddenu fwy o pobl i'r digwyddiad yn blynnyddoedd dilynol? Sionwhughes (sgwrs) 10:57, 12 Ionawr 2014 (UTC)
- Yn dilyn ymlaen o awgrymiadau Hywel uchod, falle gall rhywun feddwl am ddefnydd ar gyfer cynnwys rhestr API Cymraeg dwi wedi ei ddechrau?--Rhyswynne (sgwrs) 12:11, 10 Ionawr 2014 (UTC)
- Sesiwn arbrofol creu i-doc byr mewn awr. Penderfynu ar thema, saethu lot o fideos, llwytho, defnyddio Zeega neu wefan Weebly (neu unrhyw beth da chi'n meddwl fasa'n gweithio) i greu 'profiad' sy'n glynu'r fideos, testun a sain. Cyfle ymarferol i drin a thrafod tŵls dweud stori arlein. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:00, 19 Ionawr 2014 (UTC)
- Fydd sesiwn am podledu eleni? Mae podlediad newydd i ddysgwyr yn dechrau yn fuan - :Y Frân Wen - a hoffwn i cyfrannu ond 'sdim clem 'da fi ble i ddechrau! Hoffwn i wneud rhan bach ar Hacio'r Iaith! --Leiafee (sgwrs) 21:34, 16 Ionawr 2014 (UTC)
- Byddai hwnna'n sesiwn fasa gen i ddiddordeb ynddo fo, er dwi eisiau dysgu yn hytrach nac efo gwybodaeth. Beth am symud hwn i'r categori 'Gweithdy Cyd-greu' a creu un (byr iawn) mewn awr? Ydi hynny'n bosib? Pwy sydd efo profiad? Hacledwyr? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:00, 19 Ionawr 2014 (UTC)
OpenStreetMap a data Cymraeg
- Edrych ar OpenStreetMap.org a safon/amlygrwydd enwau Cymraeg.
- awgrymiad o deitl ar gyfer y sesiwn: 'Nid Yw Hon Ar Fap' --Carlmorris (sgwrs) 15:23, 17 Ionawr 2014 (UTC)
- A oes modd codi ymwybyddiaeth a chychwyn gweithgaredd o gywiro?
- Pa iaith sy'n dangos fel 'default'? Caernarfon - Cymraeg, Aberystwyth - Saesneg.
- Oes rhwyun sy'n weithgar ar OSM all gyfrannu, neu gweithdy ymchwil fyddai hwn? Illtud (sgwrs) 12:58, 16 Ionawr 2014 (UTC)
- Baswn i efo diddordeb, ond dw i ddim yn gwybod llawer am sut mae'n gweithio.
- Bues i'n defnydido golygydd JOSM i ychwanegu/cywiro enwau llefydd Cymraeg - roedd yn hwylus iawn, mwy fel WYSIWYG na'r wefan ei hun sy'n erdych yn anodd, ond tra roedd enwau lleodd yn iawn, methais newid enwau sefydlaidau,e.e. Bangor University > Prifysgol Bangor.
- Byddai rhywbeth ymarferol lle dan ni'n cyfuno erthyglau Wiciepdia Cymraeg (wedi ei geo-tagio) fel haen dros fap OSM Cymraeg (ydy hwn yn gweithio i chi?).
- Petai ni'n cael arbennigwr draw, gallen ni hefyd fynd o gwmpas y maes parcio yn plotio marciau drwy defnyddio GPS ein ffonau - eto rhywbeth dwi erioed wedi ei wneud. Mae rhai pobl ar Wiki OSM yn nodi eu lleoliad - falle gellir cysylltu â nhw a'u gwahodd draw i'n rhoi ni ar ben ffordd?
- --Rhyswynne (sgwrs) 14:57, 16 Ionawr 2014 (UTC)
- Sesiwn ar DBpedia gyda Hywel
Mae'n hwyr glas arnom ni, ond dyw hi byth yn rhy hwyr! Gweler yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:41, 18 Ionawr 2014 (UTC)
- Mm. Dydw i ddim yn gwybod llawer am hyn fy hun, ond, rhag ofn bod diddordeb rwyf wedi gwneud cais i 'ofod enw' [?namespace] gael ei greu i'r Gymraeg yn barod i ni. --Hywelm (sgwrs) 00:25, 19 Ionawr 2014 (UTC)
- Diweddariad: mae'r gofod enw wedi ei greu: http://mappings.dbpedia.org/index.php/Mapping_cy Hywelm (sgwrs) 23:40, 5 Chwefror 2014 (UTC)
- Mm. Dydw i ddim yn gwybod llawer am hyn fy hun, ond, rhag ofn bod diddordeb rwyf wedi gwneud cais i 'ofod enw' [?namespace] gael ei greu i'r Gymraeg yn barod i ni. --Hywelm (sgwrs) 00:25, 19 Ionawr 2014 (UTC)
- Gweithdy ymarferol ar olygu lluniau ar GIMP neu PhotoShop
- Enw ar y sesiwn?: "GIMP MY TAID" - bwysig datblygu sgilz lluniau er mwyn creu ffatri memynnau Cymraeg --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:12, 19 Ionawr 2014 (UTC)
- Gwelaf i ti yna. --Carlmorris (sgwrs) 12:58, 10 Chwefror 2014 (UTC)
- Gweithdy ymarferol ar olygu fideo
All bobol gynnig mwy o weithdai ymarferol yma plis?
- mwy
Sesiynau Dangos a Dweud
Dangos a Deud - sesiwn awr i unrhywun ddweud wrth bawb am dy wefan/prosiect/robot/rhaglen - cyfyngiad amser o 5 munud i bob prosiect! (gyda phleidlais gudd ar y diwedd i roi gwobr fach?) --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
- Gweithdy Cyfryngau Cymdeithasol - teimlo byddai'n dda cael sesiwn rhannu profiadau ymarferol ac astudiaethau achos. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
- Fyddai'n ddiddorol cael rhywbeth am ffrinDiaith.org? Byddwn i'n hapus i'w wneud os oes diddordeb. Aranjones
- Meddai Biga John 'Dw i’n datblygu ap gêm geiriau ar gyfer iPad. Roedd syniad yn Saesneg yn wreiddiol, ond nawr yn Gymraeg hefyd.' --Carlmorris (sgwrs) 13:02, 10 Chwefror 2014 (UTC)
Trefnu'r Dydd
Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.
Rheol Dwy Droed
Mae mwy nag un peth yn digwydd ar yr un pryd ac mae sesiynau gwahanol yn apelio at bobl wahanol. Felly mae croeso i unrhyw un camu allan o unrhyw sesiwn cyn y diwedd. Dyma'r Rheol Dwy Droed.
Ystafelloedd
- Canolfan Rheolaeth, (digon mawr i 80 o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd. (Mae modd efallai cael 2 griw ar bennau gwahanol yr ystafell hefyd os oes rhaid.)
- Yr ystafell gyfarfod lawr llawr, (lle i tua 12 o bobl rownd bwrdd cynhadledd)
- 2 ystafell gyfarfod arall gyda lle i tua 30 o bobl yr un (neu 40 at a push)
- Ystafell cyfrifiaduron gyda 12 cyfrifiadur yno – modd cael cyfrineiriau ar y dydd os oes angen
- Ystafell y Coleg Cymraeg – linc fideo yno a chyfrifiadur gyda thaflunydd etc
- ystafell gyfarfod fechan yng Nghanolfan Bedwyr (lle i tua 8 rownd y bwrdd)
- cyntedd agored Canolfan Bedwyr i griw bach (tua 6-8) - mae yno soffa a stolion
Hyd Slotiau
50 munud - er mwyn rhoi 10 munud rhwng pob sesiwn er mwyn ail-ymgynnull, ail-drefnu sesiynau a dewis ystafelloedd.
Yr Amserlen Wag
Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Paratowch gyflwyniad, panel, gweithdy neu demo a byddwn yn rhoi slot iddo ar y diwrnod. Bydd pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer un sesiwn ar y cyd sef yr Haclediad byw.
Amser | A | B | C | Ch |
---|---|---|---|---|
09.00-9.30 | Coffi, cofrestru, dechrau trefnu sesiynau | |||
09.30-10.20 | Sesiwn 1(a) | Sesiwn 1(b) | Sesiwn 1(c) | Sesiwn 1(ch) |
10.30-11.20 | Sesiwn 2(a) | Sesiwn 2(b) | Sesiwn 2(c) | Sesiwn 2(ch) |
11.30-12.15 | Yr Haclediad | |||
12.15-13.00 | Cinio | |||
13.00-13.50 | Sesiwn 3(a) | Sesiwn 3(b) | Sesiwn 3(c) | Sesiwn 3(ch) |
14.00-14.50 | Sesiwn 4(a) | Sesiwn 4(b) | Sesiwn 4(c) | Sesiwn 4(ch) |
15.00-15.30 | Toriad | |||
15.30-16.20 | Sesiwn 5(a) | Sesiwn 5(b) | Sesiwn 5(c) | Sesiwn 5(ch) |
16.30-17.20 | Sesiwn 6(a) | Sesiwn 6(b) | Sesiwn 6(c) | Sesiwn 6(ch) |
17.30-18.30 | Sesiwn gloi |
Cofrestru
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).
Hacio'r Iaith 2014: Cofrestrwch
Mae lle i nifer cyfyngedig o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.
Bydd angen i bawb trefnu eu llety eu hunain. Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cynnig prisiau arbennig i Hacio'r Iaith.
Cinio ganol dydd Sadwrn
Darperir cinio am ddim drwy haelioni Canolfan Bedwyr a'r project TILT i'r sawl fydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Trefnwyr
Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Carl Morris neu Rhys Wynne.
Gofod cydweithio ar ddydd Gwener
Mae'r prif digwyddiad Hacio'r Iaith yn digwydd ar y dydd Sadwrn. Ond os ydych chi'n cyrraedd ar y dydd Gwener mae ystafelloedd ar gael yn y Ganolfan Rheolaeth i gynnal sesiynau 'ymylol'/ychwanegol neu gyfarfodydd gyda phobl eraill.
Mae lle i greadigrwydd yma. Dyma ambell i syniad:
- Angen siaradwyr Cymraeg am brosiect ymchwil? Bydd rhai ar gael ar y dydd Gwener.
- Paratoi eich sesiwn ar ddydd Gwener ar gyfer Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn
- Cyfarfod pobl diddorol newydd o feysydd gwahanol (nid jyst technoleg)
- Tyrd â dyfais a chlustffonau i chwarae gemau - pam ddim?
- Sesiwn ymarferol, 'hacathon' bach, sesiwn diweddaru Wicipedia...
- ...
- ...
Pwy sydd am fod yno?
- Rhodri ap Dyfrig
- Rhys Wynne (cyrraedd tua 2pm)
- Carlmorris
- (Aled Powell, elle)
- Hywel Jones
- [rho dy enw yma]
Swper Nos Wener
Ychwanegwch eich enwau isod os ydych chi am ddod i Eastern Origin am fwyd ar y nos Wener 13eg o Chwefror am 7:30YH. Bydd croeso cynnes i bawb. Byddai angen i mi archebu bwrdd yna felly mae angen niferoedd. Dw i'n gosod dyddiad cau o fore 11eg o Chwefror. Efallai byddai modd archebu ar wahan wedyn ond dw i ddim eisiau addo. (Mae llefydd eraill i fwyta wrth gwrs ond rydym ni ar y rhestr isod am fynd i Eastern Origin!) Diolch - Carl Morris
- Carl Morris
- Sioned Mills
- Iestyn Lloyd
- Bryn Salisbury
- (Aled Powell, elle)
- Paddy Daley
- Hywel Jones
- Rhys Wynne
- Eiry Rees Thomas
- Colin Thomas
- Rhys Jones
- Aled Eurig
- Biga John
Teithio a Llety
Llety
Mae angen archebu llety ar wahan i'ch tocyn ar gyfer y digwyddiad.
Y Ganolfan Rheolaeth
Rydym ni wedi cael y prisiau isod ar gyfer llety moethus 4 seren yn y Ganolfan Rheolaeth.
Mae'n ostyngiad arbennig ar gyfer archebu fel grŵp:
- Ystafell sengl: £62.00 Gwely a Brecwast
- Ystafell ddwbl i un: £62.00 Gwely a Brecwast
- Ystafell ddwbl i ddau: £72.00 Gwely a Brecwast
Mae ystafelloedd eraill heb ostyngiad hefyd:
- Ystafell foethus/twin i un: £80.00 Gwely a Brecwast
- Ystafell foethus/twin i ddau: £90.00 Gwely a Brecwast
Mae'r prisiau yn ddilys ar nos Wener 14eg a nos Sadwrn 15fed o fis Chwefror 2014 neu un o'r dyddiadau hyn. Ffoniwch y Ganolfan ar 01248 365912 i'w archebu. Dwedwch 'Hacio'r Iaith' dros y ffôn. Rhagor o fanylion am yr ystafelloedd ar wefan y Ganolfan Rheolaeth.
Llefydd eraill ym Mangor
Wrth gwrs mae rhagor o lefydd i aros ym Mangor a'r cylch - gan gynnwys llety rhatach.
Teithio
Cyn y digwyddiad
- Dw i'n gyrru o Gaerdydd i Fangor ar ddydd Gwener 14eg yn y bore. Mae croeso i unrhyw un ofyn am lifft. Ffoniwch 07891 927252 --Carlmorris (sgwrs) 16:49, 7 Chwefror 2014 (UTC)
- Dw i'n gyrru o Aberystwyth i Fangor brynhawn Gwener. Mae'n debyg y bydda i'n gadael toc ar ôl cinio. Lle i 2 siwr o fod. Anfonwch neges ar Twitter i @nwdls --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 13:52, 10 Chwefror 2014 (UTC)
Wedi'r digwyddiad
- Mae rhywun wedi gofyn os oes lifft o Fangor i Gaerdydd ar nos Sadwrn ar ôl y digwyddiad. Unrhyw un? --Carlmorris (sgwrs) 12:49, 10 Chwefror 2014 (UTC)
- Mae gen i lifft o Fangor i Aberystwyth nos Sadwrn ar ôl y digwyddiad. Lle i 2 siwr o fod. Anfonwch neges ar Twitter i @nwdls --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 13:52, 10 Chwefror 2014 (UTC)
Parcio
Mi ddylai digon o le parcio fod ar gael ym maes parcio'r Ganolfan Rheolaeth ar ddydd Sadwrn (y fynedfa nesaf i'r chwith ar ôl y Ganolfan Rheolaeth wrth ddod o gyfeiriad Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg).
Sut allwch chi helpu?
manylion yn fuan
Gwirfoddoli
Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawb sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.
Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:
- roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
- cofnodi a chyfathrebu sesiynau drwy flogio byw (gallwch ddefnyddio haciaith.com i wneud hynny)
- helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
- cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!
Noddwyr - Diolch yn fawr!
- Diolch i Ganolfan Bedwyr
- Diolch i Broject TILT
- Diolch i SbellCheck??? am noddi unwaith eto trwy roi gwaith dylunio i Hacio'r Iaith???
Tagiau
#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddiwch o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.
English translation
Here's a mega rough machine translation of this page into English.