Gweithredoedd

Hacio'r Iaith - Ionawr 2013: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Hedyn

Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod...
Ond mae cenhedlaeth newydd yn codi... i ennill y tir yn ol...D.I.
Llinell 126: Llinell 126:
* Y Ffrynt Ddigidol - Hoffwn sefydlu grŵp o wirfoddolwyr i gydweithio i greu technoleg Cymraeg i ymgyrchu yn erbyn Llywodraeth Cymru a Phrydain, y wasg wrth-Gymreig, y mewnlifiad, ayyb.  Byddai'n dda i gael gweithdy i drafod y math o ymgyrchu, sut fyddai'n gweithio a chael ei redeg.  Gyda casgliad da o raglennwyr, dylunwyr, profwyr, ysgrifennwyr cynnwys a phobl â syniadau radical, gallwn ddechrau gyd-weithio i greu gwefannau, gemau, aps ag offer 'hard-hitting' fydd yn cyd-fynd gyda ymgyrchoedd eraill yng Nghymru.  Bydd yn gyfle hefyd i gael diddordeb pobl ifanc a'u mentora i raglenni. --[[Defnyddiwr:maredudd|maredudd]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:maredudd|sgwrs]])
* Y Ffrynt Ddigidol - Hoffwn sefydlu grŵp o wirfoddolwyr i gydweithio i greu technoleg Cymraeg i ymgyrchu yn erbyn Llywodraeth Cymru a Phrydain, y wasg wrth-Gymreig, y mewnlifiad, ayyb.  Byddai'n dda i gael gweithdy i drafod y math o ymgyrchu, sut fyddai'n gweithio a chael ei redeg.  Gyda casgliad da o raglennwyr, dylunwyr, profwyr, ysgrifennwyr cynnwys a phobl â syniadau radical, gallwn ddechrau gyd-weithio i greu gwefannau, gemau, aps ag offer 'hard-hitting' fydd yn cyd-fynd gyda ymgyrchoedd eraill yng Nghymru.  Bydd yn gyfle hefyd i gael diddordeb pobl ifanc a'u mentora i raglenni. --[[Defnyddiwr:maredudd|maredudd]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:maredudd|sgwrs]])
::Licio'r syniad yma. Parthed ymgyrchu, sbel yn ol (dwy flynedd bron!) mewn Hacio'r Iaith Bach yn Nghaerydd trafodwyd y syniad (gor-gymhleth falle) [http://haciaith.com/2010/04/26/cwyno-yn-gyflym-am-wasanaeth-cymraeg-gan-sefydliadau-cyhoeddus-syniad-gwefan-gan-aluneurig o greu system gywnion am ddiffyg wasanaeth Cymraeg] wedi ei fodelu ar WhatDoTheyKnow - ddaeth dim ohono, ond credaf bod ''milage'' i'r peth. O ran ymateb i erthyglau gwrth-Gymraeg, dyma enghraifft o [http://ybydysawd.com/skdadl/ ymateb torfol i erthygl yn Golwg].
::Licio'r syniad yma. Parthed ymgyrchu, sbel yn ol (dwy flynedd bron!) mewn Hacio'r Iaith Bach yn Nghaerydd trafodwyd y syniad (gor-gymhleth falle) [http://haciaith.com/2010/04/26/cwyno-yn-gyflym-am-wasanaeth-cymraeg-gan-sefydliadau-cyhoeddus-syniad-gwefan-gan-aluneurig o greu system gywnion am ddiffyg wasanaeth Cymraeg] wedi ei fodelu ar WhatDoTheyKnow - ddaeth dim ohono, ond credaf bod ''milage'' i'r peth. O ran ymateb i erthyglau gwrth-Gymraeg, dyma enghraifft o [http://ybydysawd.com/skdadl/ ymateb torfol i erthygl yn Golwg].
:::Yes! Dyma pam y'm ganwyd - ar gyfer hyn! Mae wirioneddol angen grwp lobio cryf. Rho ar yr agenda hefyd: rhyddhau cynnwys ar drwydded rhydd ee holl stwff Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol, Archifdai sirol ... a phob corff arall sy'n derbyn nawdd gan ein Llywodraeth. I'r gad![[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Robin]]
:::Yes! Dyma pam y'm ganwyd - ar gyfer hyn! Mae wirioneddol angen grwp lobio cryf. Rho ar yr agenda hefyd: rhyddhau cynnwys ar drwydded rhydd ee holl stwff Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol, Archifdai sirol ... a phob corff arall sy'n derbyn nawdd gan ein Llywodraeth. I'r gad! Ond, wedi meddwl: onid Hacio'r Iaith ydy'r grwp gorau i wneud hyn? [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Robin]]
* Hacathon! - Adroddiad o'r [[http://hacathonwici.llgc.org.uk Hacathon]] a'r cefndir tu ôl iddo. [[Defnyddiwr:Illtud|Illtud Daniel]]
* Hacathon! - Adroddiad o'r [[http://hacathonwici.llgc.org.uk Hacathon]] a'r cefndir tu ôl iddo. [[Defnyddiwr:Illtud|Illtud Daniel]]



Fersiwn yn ôl 05:56, 18 Ionawr 2013

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen. Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2013, cofiwch gofrestru.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Manylion y digwyddiad

Beth?

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf a hamddenol.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor agored. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Dyma esboniad da gan flogiwr o Ganada.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Pryd?

Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013

9:30 - 18:00

Ble?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru

Mae holl fanylion sut i gyrraedd y Llyfrgell ar gael ar y dudalen hon.

Cofrestru

Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb. Ond mae angen archebu lle i gael mynediad.

Eleni rydyn ni'n defnyddio'r system Eventbrite i reoli'r broses cofrestru.

http://haciaith.eventbrite.co.uk

Rhaglen y dydd

Rheolau BarCamp

Cer i Beth yw'r fformat BarCamp?

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Grid Agored i roi amserlen y sesiynau at ei gilydd.

I chi sydd ddim yn gyfarwydd, peidiwch pryderu, mae'n ffordd eithaf hwyl a syndod o drefnus ar gyfer rhannu amserlen.

Bydd darn o bapur mawr gyda grid o slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi fyny yn y cyntedd a gall pawb fachu nodyn post-it, ysgrifennu teitl eu sesiwn/gweithdy neu beth bynnag, a'i osod mewn slot gwag ar y grid.

Gall pobol drafod pa sesiynau sydd yn ffitio gyda'u gilydd orau er mwyn gwneud yn siwr nad oes gormod o wrthdaro. Bydd tua awr ar ddechrau'r dydd i gael paned, trafod sesiynau a llenwi'r amselen.

Ystafelloedd

Gellid gweld rhai o'r stafelloedd hyn fan hyn.

Y Drwm

Awditoriwm 90 set gyda sgrin anferth (LLUN: gallwch chi hefyd fod fel Huw Edwards!). Byddwch yn teimlo fel eich bod chi'n gwneud TED talk. Wn i ddim os yw hynny'n beth da neu ddim...

Stafell y Cyngor

Stafell crand y Llyfrgell gyda thaflunydd a golygfa wych. Seddi i 60.

Stafell y Llywydd

Stafell crand arall drws nesa i Stafell y Cyngor gyda seddi i 12 rownd bwrdd mawr

Stafell Addysg

Mae'r Ystafell Addysg yn stafell olau sydd yn dal tua 30 o bobol hefyd gyda holl adnoddau taflunio ac ati fuasech chi ei angen.

Dyma fanylion a lluniau'r stafelloedd hyn.

Stafell Erina Morris

Stafell fodern yn ymyl stafell darllen y gogledd, bwrdd hir a seddi i tua 12.

Hyd Slotiau

Bydd y rhan fwyaf o slotiau yn 20 munud o hyd, ond gallwch chi gymryd slot hirach os oes angen (e.e. ar gyfer gweithdy).

Mae cyflwyniadau yn gweithio'n well mewn ystafell fwy

Yr Amserlen Wag

Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Paratowch gyflwyniad, panel, gweithdy neu demo a byddwn yn rhoi slot iddo ar y diwrnod.


Amser Y Drwm (90) Stafell y Cyngor (60) Stafell Addysg (20) Stafell y Llywydd (12) Stafell Erina Morris (12)
09.30-10.00 Coffi, meddwl am sesiynau, dewis eich slot amser
10.00-11.00 Sesiwn 1(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
11.00-12.00 Sesiwn 2(a) Sesiwn 2(b) Sesiwn 2(c)
12.00-13.00 Yr Haclediad? Sesiwn 3(b) Sesiwn 3(c)
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Sesiwn 4(a) Sesiwn 4(b) Sesiwn 4(c)
15.00-16.00 Sesiwn 5(a) Sesiwn 5(b) Sesiwn 5(c)
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 Sesiwn 6(a) Sesiwn 6(b) Sesiwn 6(c)
17.30-18.00 Sesiwn gloi (a sesiwn glou, rhaid bod allan erbyn 6!)

Sesiynau 'Pendant'

  • Byrbrydau Wicipedia. Cyfres o gyflwyniadau byr gan wahanol Wicipedwyr am bynciau megis: Hyrwyddo erthygl, Wicipedia yn 'y byd go iawn', Delweddau, a sesiynnau cymorth cyflym Sut mae...?--Rhyswynne (sgwrs) 00:18, 9 Tachwedd 2012 (UTC)
Fydda i fy hun ddim yn gallu mynychu Hacior IAith eleni, ond mae o leiaf un cyfrannwr arall ar y Wicipedia am gynnal y sesiwn yma.--Rhyswynne (sgwrs) 11:12, 15 Ionawr 2013 (UTC)
  • Torfoli hanes y cyfryngau digidol Cymraeg! (aka: ymchwilydd diog! aka: na, dwi wir yn meddwl bod yr ymennydd collective yn well na jest un yn yr achos yma!) - dwi'n rhoi darlith awr ginio fis Chwefror ar daith y Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Un syniad ar hyn o bryd ydi casglu nifer o ddigwyddiadau, syniadau, cynnyrch, neu fomentau allweddol yn nhaith yr iaith ar y we. Bydda i'n rhoi syniad sydyn o fy rhai i ond yn ceisio harnesu'ch atgofion chi i gael darlun mwy cyflawn. Mwy o fanylion i ddod fel gall pobol feddwl mwy amdano o flaen llaw. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 17:23, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
    Addawol iawn! --Carlmorris (sgwrs) 21:39, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
    Hwn yn ddefnyddiol gan @dafyddt http://www.rhwyd.org/hanes/ --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 10:25, 21 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Dadansoddi IndigenousTweets.com - beth ydw i wedi ei wneud hyd yn hyn (a sut), a thrafodaeth. --Hywelm (sgwrs) 22:48, 7 Ionawr 2013 (UTC)
  • Sesiwn Ap Geiriaduron - ystadegau, profiadau a gweledigaeth gan Gruff, Dewi, Patrick a David o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr
  • Sesiwn DECHE (Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Iaith), Crochan Codio i blant a phrojectau newydd eraill gan Delyth, Tegau a Mared o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr (nid cystadleuaeth genod v hogia ydi hi, ond wrth gwrs, bydd sesiwn y genod yn well:)). Fasa ni'n cael cyflwyno'r sesiynau yn y Drwm yn ystod y bore, un ar ôl y llall ogydd?
  • 2 opsiwn gen i : 1) Mapio llenyddiaeth o Gymru mewn cyfieithiadau drwy'r byd - gweithio ar ddata gan Cyfnewidfa Len Cymru (http://waleslitexchange.org/cy/) yn Mercator / Prifysgol Aberystwyth sydd yn dangos pa lenyddiaeth Gymreig sydd wedi ei chyhoeddi mewn cyfieithiad ym mha wledydd. 2) Yn Awst 2012, cyhoeddodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y gyfrol gyntaf o ysgrifau electronig yn unig 'Ysgrifau ar Ffilm a'r Cyfryngau' http://www.colegcymraeg.ac.uk/flipbook/ysgrifau/ ar gael mewn sawl fformat - 5 mis wedi cyhoeddi eisiau gwybod am y data lawrlwytho i weld pa fformatau sydd fwyaf addas ar gyfer y defnyddwyr hyd yma. --Elinhgj (sgwrs) 14:46, 15 Ionawr 2013 (UTC)
  • Y Ffrynt Ddigidol - Hoffwn sefydlu grŵp o wirfoddolwyr i gydweithio i greu technoleg Cymraeg i ymgyrchu yn erbyn Llywodraeth Cymru a Phrydain, y wasg wrth-Gymreig, y mewnlifiad, ayyb. Byddai'n dda i gael gweithdy i drafod y math o ymgyrchu, sut fyddai'n gweithio a chael ei redeg. Gyda casgliad da o raglennwyr, dylunwyr, profwyr, ysgrifennwyr cynnwys a phobl â syniadau radical, gallwn ddechrau gyd-weithio i greu gwefannau, gemau, aps ag offer 'hard-hitting' fydd yn cyd-fynd gyda ymgyrchoedd eraill yng Nghymru. Bydd yn gyfle hefyd i gael diddordeb pobl ifanc a'u mentora i raglenni. --maredudd (sgwrs)
Licio'r syniad yma. Parthed ymgyrchu, sbel yn ol (dwy flynedd bron!) mewn Hacio'r Iaith Bach yn Nghaerydd trafodwyd y syniad (gor-gymhleth falle) o greu system gywnion am ddiffyg wasanaeth Cymraeg wedi ei fodelu ar WhatDoTheyKnow - ddaeth dim ohono, ond credaf bod milage i'r peth. O ran ymateb i erthyglau gwrth-Gymraeg, dyma enghraifft o ymateb torfol i erthygl yn Golwg.
Yes! Dyma pam y'm ganwyd - ar gyfer hyn! Mae wirioneddol angen grwp lobio cryf. Rho ar yr agenda hefyd: rhyddhau cynnwys ar drwydded rhydd ee holl stwff Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol, Archifdai sirol ... a phob corff arall sy'n derbyn nawdd gan ein Llywodraeth. I'r gad! Ond, wedi meddwl: onid Hacio'r Iaith ydy'r grwp gorau i wneud hyn? Robin

Sesiynau Posib

  • Cyflwyno prosiectau ar sail archif papurau newydd Llyfrgell Genedlaethol --Carlmorris (sgwrs) 21:43, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Gweithdy hacio/prosesu testun Cymraeg gyda chod: geiriaduron, treigladau, cymylau geiriau a mwy --Carlmorris (sgwrs) 21:43, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Haclediad byw - recordio sioe podlediad tech Cymraeg yn fyw o'r digwyddiad gyda chynulleidfa (gobeithio!)
  • Hei hei, byddai dychweliad y 'traddodiad' yma yn benigamp! --Carlmorris (sgwrs) 16:07, 4 Ionawr 2013 (UTC)
  • dotCYM - pam fethodd y fenter, sut fydd y Gymraeg ar golled o'r herwydd, beth yw'r gwersi ar gyfer menter debyg yn y dyfodol --maredudd (sgwrs) 16:00, 14 Ionawr 2013
  • Aps teledu - mae aps ffôn Cymraeg, e-lyfrau Cymraeg, y cam nesaf yw aps teledu Cymraeg. --maredudd (sgwrs) 16:00, 14 Ionawr 2013
  • Cwrs a Chymuned SaySomethingInWelsh - Mae dysgwyr 'SSIW' (Cwrs Cymraeg ar-lein) yn defnyddio'r Gymraeg yn y byd go iawn llawer cyflymach na dysgwyr o gwrsiau arall, fel rheol. Pam? Beth sy'n wahanol a beth sy'n nesa? (Ap, wefan newydd, a.y.b) --Leiafee (sgwrs) 19:01, 14 Ionawr 2013 (UTC)
  • Debyg bydd Aran Jones a finnau'n sôn rhywfaint am ddysgu ieithoedd eraill trwy method SSiW, a'r gwahanol gyrsiau SSi sy dan ddatblygiad ar y funud. Be ti'n meddwl sy'n well - un sesiwn mawr yn cynnwys dy thing di, Leia, neu ddau sesiwn gwahanol? Byddwn i'n hapus i helpu allan efo dy un di os ti isio gwneud un ar wahan. Kinetic (sgwrs) 13:22, 15 Ionawr 2013 (UTC)
  • Un sesiwn wi'n credu - bydd diddordeb i mwy o bobl na jest dysgwyr Cymraeg wedyn. --Leiafee (sgwrs) 22:50, 17 Ionawr 2013 (UTC)
  • Unrhyw un eisiau sesiwn am Git a Github? --Carlmorris (sgwrs) 15:39, 16 Ionawr 2013 (UTC)
  • Ia, byddai gen i ddiddordeb! Wedi defnyddio Git o'r blaen ond byth Github. Kinetic (sgwrs) 16:47, 16 Ionawr 2013 (UTC) Finnau hefyd --Hywelm (sgwrs) 00:28, 18 Ionawr 2013 (UTC)

Hacathon! Paurau Newydd Hanesyddol - Dydd Gwener 18 Ionawr

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido bron i filwn o dudalenni o bapurau newydd hanesyddol Cymru, i'w lawnsio ym mis Mawrth 2013. Dyma gyfle i gael chwarae gyda'r data a'r delweddau o'r prosiect cyn iddo gael ei lawnsio i'r cyhoedd, gyda mynediad uniongyrchol i'r wefan beta a'r API sy'n sylfaen iddi.

Mae'r Hacathon ar agor i bobl creadigol o bob math yn ogystal â datblygwyr, a daw â phobl gyda syniadau ynghyd â phobl gyda'r sgiliau i'w gweithredu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar http://hacathonwiki.llgc.org.uk.

Bydd detholiad o gynnyrch yr Hacathon yn cael ei arddangos yn lawnsiad y wefan yng Nghaerdydd ar y 13eg o Fawrth, 2013. Yn ogystal, bydd gwobrau ar gyfer y datblygiadau gora.

Cofrestrwch yma i sicrhau lle yn y digwyddiad: http://hacathon.eventbrite.co.uk/

Bydd prosiectau'n debygol o gael eu cyfklwyno yn Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn felly dewch ddiwrnod yn gynnar i ymnuno yn yr hwyl creadigol.

Sut allwch chi helpu?

Gwirfoddoli

Noddwyr - Diolch yn fawr!

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, trydariad, tweet, llun, fideo am y digwyddiad er mwyn i bawb dilyn y drafodaethau.

Cyhoeddusrwydd a'r Wasg

Swper Nos Wener

Fel yn y blynyddoedd cynt, byddwn yn cymryd bwrdd mwy fyth ym mwyty Indiaidd Shilam am 7:30pm (drws nesaf i'r orsaf trên yn Aberystwyth) - WEDI FFONIO NHW RWAN A CHAEL BWRDD --Elinhgj (sgwrs) 14:39, 15 Ionawr 2013 (UTC). Bydd peint wedyn a chwilio am gig yn rhywle.

Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle:

  1. Rhodri ap Dyfrig
  2. Huw Meredydd Roberts
  3. Elin Dawes
  4. Sioned Clwyd
  5. Carl Morris
  6. Elin Haf Gruffydd Jones
  7. Maredudd ap Gwyndaf
  8. Christopher Griffiths
  9. Leia Fee
  10. Iestyn Lloyd
  11. Phil Stead
  12. Nerys Lewis
  13. Fiona Pitts
  14. Llyr Ab Alwyn
  15. Gafyn Lloyd
  16. Ivan Baines
  17. Nici Beech
  18. Illtud Daniel
  19. Paddy Daley
  20. Hywel Jones
  21. Euros ap Hywel
  22. Gareth Morlais

Trefniadau mewn llaw ar gyfer y swper - rhowch eich enw yma os ydach chi eisiau lle ( a tynnwch o ffwrdd os nad ydach yn dod plis) --Elinhgj (sgwrs) 15:57, 17 Ionawr 2013 (UTC)

Ble i aros?

Mae Bodalwyn yn neis iawn a mae pobl yna'n siarad Cymraeg. Oedd nifer o bobl Hacio'r Iaith yn aros yn y lle tro diwetha. --Leiafee (sgwrs) 19:20, 14 Ionawr 2013 (UTC)

Wnes i aros yn Maes y Môr tro diwetha, ac wedi bwcio eto eleni. Sylfaenol (dim brecwast, dim derbynfa, gorfod ffonio am y goriadau) ond ystafelloedd neis. Ces i stafell anferthol efo cawod am tua £25. Perchennog Cymraeg. Kinetic (sgwrs) 14:36, 15 Ionawr 2013 (UTC)

Teithio

English translation and other languages

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.

Anyone is welcome to attend Hacio'r Iaith. The focus of our community and events is use of technology by Welsh speakers, through the Welsh language and also for Welsh learners. We may be able to provide simultaneous translation into other languages for those who request it in advance.

In Welsh, 'yr iaith' means 'the language' and 'Hacio’r Iaith' means 'hack the language'.