Fideo: digwyddiadau byw
Oddi ar Hedyn
(Ailgyfeiriad o Fideo: canllaw cyflym i ddechreuwyr)
Sut ydw i'n cynhyrchu fideo o safon? Dyma canllaw cyflym i ddechreuwyr sy'n canolbwyntio ar ddigwyddiadau byw.
Fel beth?
- Eisteddfod
- pethau yn y gymuned
- gigs
- barnau/ymgyrchu
- areithiau
- priodasau
- cyfweliad neu sgwrs am rywbeth
- digwyddiadau eraill
Beth ydw i ei angen?
Mae angen:
- cyfrifiadur
- cysylltiad i'r we
- cyfeiriad e-bost
- camera rhad fel Flip neu ffôn gyda chamera
Cyn gadael
- Mae llawer o bobl yn gadael y tŷ gyda chamera bob dydd. Pam lai?
- Paid ag anghofio dy wefrwr ac i'w defnyddio cyn i chi adael. (Neu batris os angen.)
Caniatâd
Mae'r caniatâd y bobl yn y fideo yn bwysig.
Dylech chi sôn am eich bwriad o gyhoeddi ar-lein hefyd.
Ambell waith mae'n iawn heb ofyn, e.e. os ydych chi wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus gyda'r wasg a chyfryngau eraill.
Os fydd plant yn y fideo mae'n bwysig iawn sicrhau caniatâd o'r rhieni.
Athroniaeth
- Mae fideo ryff yn gallu bod yn fwy atyniadol na fideo slic gan gwmni proffesiynol.
- Mae digon o le ar y we am eich fideo hyd yn oed fideos mewn niche am bwnc arbennig. Eisiau gwneud fideo am gadw pysgod neu eich hoff cerddoriaeth Almaeneg o'r 70au? Wel pam lai?
Syniadau / fformatau
- Saethu wyneb. Gyda llais yn y cefndir (bydd sain eich llais yn eitha cryf).
- Cyfweliad rhwng unigolyn a chi (sefyll neu eistedd)
- Os mae pobol yn y fideo yn eistedd mae'r canlyniad yn wahanol. (Gwell ar gyfer siarad weithiau.)
enghreifftiau ar eu ffordd
- Mae fideos byrion yn weithio yn dda ar-lein. Os mae tri pherson yn annerch digwyddiad, gwnewch dri fideo ar wahan yn hytrach nag un hirfaeth.
- Fel arfer dylech chi greu dau fideo ar wahan os ydych angen gwneud fideo dwyieithog.
angen mwy yma
Y delwedd
- Tirwedd pob tro (neu bron bob tro)
- Byddwch yn ymwybodol o'r haul. Fel arfer rydych chi eisiau haul ar wynebau yn hytrach na'r cefndir. Does dim rheolau - dim ond canllawiau. Ond os ydych chi'n cael yr haul yn y cefndir mae'n edrych fel silwét neu tystion di-enw mewn rhaglen difrifol iawn fel Crimestoppers.
- Peidiwch â chwyddo os oes modd camu'n agosach. Bydd y llun yn well heb y defnydd o chwyddo.
- Os ydych chi'n saethu rhywbeth cyflym mae'n neis 'golygu ar y pryd'. Recordiwch a stopiwch mewn amser. Felly fydd ddim rhaid i chi olygu pethau mas hwyrach. Cyflym!
Y sain
- Byddwch yn ymwybodol o seiniau eraill, yn enwedig gyda chyfweliad neu sgwrs manwl.
- Mae'n anodd trwsio pethau hwyrach! Felly byddwch yn hyderus, mewn torf ewch i'r blaen os bosib.
- Weithiau mae rhaid i chi sefyll ar bwys y seinydd am ansawdd awdio gwell.
Sut i greu cyfrif ar YouTube
- Ewch i http://www.youtube.com/create_account?next=%2F
- Llenwch y ffurflen. Dylet ti meddwl am dy enw achos ti'n methu ei newid.
- Dilynwch y gorchmynion.
(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)
Lanlwytho i YouTube
- Byddwch yn gyflym. Mae'n neis cael y fideo cyn gynted a phosib. Bydd mwy o ddiddordeb syth ar ôl y digwyddiad. Yr un diwrnod os bosib.
- Teitl, disgrifiad, tagiau. Pwysig os ydych chi eisiau gwylwyr. Un tag da yw 'cymraeg' os mae'r fideo yn Gymraeg. Syniad da.
- Cadwch sylwadau ar agor a'r opsiwn mewnosod plis! Mae pobol eisiau rhannu eich fideo a chael sgyrsiau o gwmpas dy fideo.
(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)
Enghreifftiau o fideos
Ewch i'r cyfrif Twitter @fideobobdyd am ysbrydoliaeth.
Dolenni perthnasol
- Sut i ychwanegu lluniau i dy flog lleol
- Sut i fewnosod fideo ar dy flog lleol
- Sut i newid yr iaith dy flog i Gymraeg
- Sut i ddilyn blogiau gyda RSS
- Awgrymiadau a syniadau ar gyfer dy flog lleol
- Y Rhestr - blogiau lleol am ysbrydoliaeth
- Y Rhestr - blogiau yn Gymraeg (llawer)
Am y dudalen yma
Croeso i chi olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol.