Gweithrediadau

Tudalen blaen y we Gymraeg

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:57, 29 Ebrill 2016 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Blogio

Mae hi'n eithaf syml cael blog Cymraeg erbyn hyn, a hynny heb orfod talu ceiniog. Y ddau feddalwedd mwyaf poblogaidd ydi wordpress.com a Blogger, ond mae dewis eang o systemau i siwtio pob math o flogiwr.

Er mwyn cael Wordpress.com yn Gymraeg cliciwch yma, a dilynwch y cyfarwyddiadau i ddechrau blog. Dylai'r dyddiadau a thipyn o'r rhyngwyneb fod yn Gymraeg, ond os na chewch hyn, gallwch fynd i'r dewisiadau a newid y iaith i'r Gymraeg.

Mae Wordpress.org yn fersiwn o Wordpress sydd yn rhaid ei lletya ar eich gweinydd eich hun. Hynny yw, rhaid i chi dalu am y gweinydd a gosod y system eich hun. Mae sawl mantais i hyn, y pennaf un eich bod yn gallu addasu eich blog fel ag y mynnwch a chael rheolaeth lwyr dros ei edrychiad. Mae ffeil iaith Gymraeg ar gael ar gyfer fersiwn 2.7 o Wordpress.org. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i'w weithredu ar wefan meddal.com. Mae Wordpress wedi symud ymlaen i fersiwn 2.8 erbyn hyn ond dylai'r pecyn roi peth os nad holl ryngwyneb y blog yn y Gymraeg. Fodd bynnag, cofiwch wneud copi wrth gefn o'r blog a'r grinfa ddata cyn ceisio gwneud unrhyw newidiadau!

Mae NireBlog hefyd yn cynnig system flogio cyfan gwbl Gymraeg, ac am ddim, er bod angen diweddaru'r cyfieithiad mewn mannau.

Blogger

Mae'n bosibl cael y rhan fwyaf o'ch blog Blogger yn Gymraeg (neu o leia ddim mewn iaith arall) gyda thipyn o olygu ar y côd HTML sydd yn eich patrymlun, ond nid yw rhyngwyneb mewnol y gwasanaeth blogio poblogaidd arall hwn ar gael yn y Gymraeg eto.

Blogwyr Cymraeg

Mae yna gryn dipyn o flogiau yn cael eu hysgrifennu yn y Gymraeg ac mae'n debyg taw'r ffordd orau o gael blas ar y rhain ydi trwy ddechrau gyda'r Blogiadur. Trwy ymweld â'r blogiau hyn gallwch edrych ar flog restr y blogiau, a dilyn trywyddau dolenni i ddarganfod rhagor.

I ddarllen blogiau Cymraeg BBC Cymru, gan gynnwys blog gwleidyddol Vaughan Roderick, blog Cylchgrawn, Hywel Gwynfryn, C2 ac Ar y Marc, cliciwch yma.

Beth sy'n gwneud blog da? Cyngor Vaughan Roderick...

Twitter

Mae llawer o ddefnydd o'r Gymraeg ar y llwyfan mân-flogio Twitter erbyn hyn, ac er nad oes posib cael rhyngwynebau Cymraeg mae'n bosib dod o hyd i bobol sy'n trydar yn Gymraeg un ai drwy ddefnyddio chwilotwr Twitter neu trwy edrych am 'restrau Twitter' o ddefnyddwyr sy'n defnyddio Cymraeg, fel hon er enghraifft y rhestr Trydar yn Gymraeg.

Gallwch hefyd fynd i'r wefan Umap Cymraeg - http://cy.umap.eu sy'n casglu cynnwys Cymraeg sy'n cael ei gyhoeddi ar Twitter. Mae'n dangos pob neges Twitter sydd yn yr iaith Gymraeg, dangos beth yw pynciau llosg y dydd a'r straeon newyddion a'r dolenni mwyaf poblogaidd ymysg siaradwyr Cymraeg.

Negesfyrddau Cymraeg

Mae negesfyrddau neu fforymau yn llefydd i drafod pynciau llosg. Mae strwythur y negesfyrddau yn golygu ei bod yn haws dilyn trafodaeth ddwys ymysg llawer o bobol arnynt nac ar rwydwaith gymdeithasol neu flog. Fel arfer maent yn arbenigo ar feysydd penodol, ond yn y Gymraeg maent yn tueddu i fod yn fwy eang eu golygon.

Mae maes-e.com yn parhau i fod y brif wefan drafod Gymraeg gyda miloedd o aelodau, ond mae llawer i negesfwrdd fach wedi ymddangos a diflannu yn ei sgil.

I chi sydd â'r awen mae negesfwrdd Y Seiat ar cynghanedd.com yn un sydd wedi bod yn mynd ers amser, ac yn parhau i fod yn fywiog.

Mae gan wefan Say Something in Welsh negesfwrdd ar gyfer dysgwyr Cymraeg ac mae adran Gymraeg i'w gael ar negesfwrdd ForumWales. Hefyd i ddysgwyr, mae negesfwrdd BBC Cymru.

Wicipedia

Mae'r Wicipedia sef y gwyddoniadur rhydd, a'r fersiwn Gymraeg o Wikipedia, yn cynnwys dros 25,000 o erthyglau Cymraeg erbyn hyn ar bob pwnc dan haul. Gallwch chi ddarllen yr wybodaeth neu ychwanegu eich erthyglau eich hun.

Ceir hefyd ystod fawr o wybodaeth wedi ei guradu ar wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Mae LibraryThing (gwefan rhannu llyfrgelloedd personol) a PledgeBank(gwefan addewidion) hefyd wedi cael peth o'u rhyngwyneb wedi ei gyfieithu.

Gwasanaethau Newyddion Ar-lein

Ceir gwasanaeth newyddion Cymraeg ar-lein gan:

BBC Cymru Golwg360 Daily Post Cylchgrawn Barn am faterion cyfoes a diwylliannol.

Papurau Bro

Ceir erthyglau o bapurau bro ar wefannau Lleol BBC Cymru. Mae rhai papurau bro yn cyhoeddi erthgylau ar eu gwefannau eu hunain, gallwch chwilio amdanyn nhw gan ddefnyddio peiriannau chwilio.

Fideo Ar-lein

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth iPlayer y BBC yn y Gymraeg.

Mae llawer iawn o fideos Cymraeg i'w cael ar wasanaethau fideo fel YouTube a Vimeo. Y ffordd orau i ddod o hyd iddyn nhw yw defnyddio chwilotwr y gwefannau. Gallwch dal weld dros 500 o fideos Cymraeg ar y Grŵp YouTube Sianel Amgen Cymru, er nad oes gweithgaredd wedi bod yno ers cyn Tachwedd 2008.

Peiriannau Chwilio

Gallwch Gwglo yn y Gymraeg yma ond hyd yma does dim chwilotwr arall ar gael yn y Gymraeg.

Addasiad o erthygl gan Rhodri ap Dyfrig i BBC Cymru, gyda chaniatad