Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Trwydded gyhoeddus gyffredinol GNU fersiwn 2 (GPL yn Gymraeg)"

Oddi ar Hedyn

(GPL)
(Dim gwahaniaeth)

Diwygiad 15:01, 16 Tachwedd 2010

TRWYDDED GYHOEDDUS GYFFREDINOL GNU

Cyfieithiad answyddogol o Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol (TGG) GNU i'r Gymraeg yw hwn. Ni chyhoeddwyd mohono gan y Free Software Foundation, ac nid yw'n mynegi'n gyfreithiol termau dosbarthu meddalwedd sy'n defnyddio TGG GNU--testun Saesneg gwreiddiol TGG GNU yn unig a wna hynny. Serch hynny, gobeithiwn y bydd y cyfieithiad yma'n gymorth i siaradwyr Cymraeg ddeall a gwneud gwell defnydd o TGG GNU.

This is an unofficial translation of the GNU General Public License into Welsh. It was not published by the Free Software Foundation, and does not legally state the distribution terms for software that uses the GNU GPL--only the original English text of the GNU GPL does that. However, we hope that this translation will help Welsh speakers understand the GNU GPL better.

Fersiwn 2, Mehefin 1991

Hawlfraint (C) 1989, 1991 Free Software Foundation, Inc. 59 Temple Place, Suite 330, Boston, MA 02111-1307 USA

Mae gan bawb yr hawl i gopio a dosbarthu copiau gair am air o'r drwydded hon, ond nid oes hawl ei newid.

Rhagair

Mae trwyddedau ar gyfer y rhan fwyaf o feddalwedd wedi'u cynllunio i'ch amddifadu o'ch rhyddid i'w rhannu a'i newid. I'r gwrthwyneb mae Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU wedi'i bwriadu i warantu eich rhyddid i rannu a newid meddalwedd rhydd--i wneud yn siwr fod pob meddalwedd yn rhydd ar gyfer ei holl ddefnyddwyr. Mae'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol yn berthnasol i'r rhan fwyaf o feddalwedd y Free Software Foundation ac i unrhyw raglen mae ei hawduron yn ymrwymo i'w defnyddio. (Mae peth meddalwedd Free Software Foundation arall yn cael ei gynnwys o fewn y Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol Llyfrgelloedd yn lle hynny.) Mae modd ei gosod ar gyfer eich rhaglenni chi hefyd.

Pan ydym yn son am feddalwedd rhydd (free software), rydym yn son am ryddid nid pris. Mae ein Trwyddedau Cyhoeddus Cyffredinol wedi'u cynllunio i wneud yn siwr fod gennych y rhyddid i ddosbarthu copiau o feddalwedd rhydd (a chodi am y gwasanaeth hwn os dymunwch), eich bod yn derbyn y cod ffynhonnell neu bod modd i chi ei gael os dymunwch, bod modd i chi newid y feddalwedd neu ddefnyddio darnau ohoni ar gyfer rhaglenni rhydd newydd; a'ch bod yn gwybod bod bod modd i chi wneud y pethau hyn.

I ddiogleu eich hawliau, mae angen i ni osod cyfyngiadau sy'n atal unrhyw un rhag eich amddifadu o'r hawliau hyn neu ofyn i chi ildio'r hawliau. Mae'r cyfyngiadau'n trosi i rhai cyfrifoldebau penodol i chi os ydych yn dosbarthu copiau o'r feddalwedd, neu yn ei newid.

Er engrhaifft, os byddwch yn dosbarthu copiau o raglen, p'un ai am ddim neu am bris, rhaid i chi rhoi i'r derbynwyr yr holl hawliau sydd gennych chi. Rhaid i chi hefyd wneud yn siwr eu bod hwy hefyd yn derbyn neu yn medru cael y cod ffynhonnell. A rhaid i chi ddangos yr amodau hyn iddyn nhw wybod eu hawliau.

Rydym yn diogelu eich hawliau gyda dau gam: (1) hawlfreintio'r feddalwedd, a (2) cynnig y drwydded hon sy'n rhoi caniatad i chi gopio, dosbarthu a/neu addasu'r feddalwedd.

Hefyd, ar gyfer diogelwch pob awdur a'n diogelwch ni, rydym eisiau gwneud yn siwr fod pawb yn deall nad oes gwarant ar gyfer y feddalwedd rydd hon. Os yw'r feddalwedd yn cael ei haddasu gan rywun a'i phasio ymlaen, rydym am i'w derbynwyr wybod nad y gwreiddiol sydd ganddynt, fel nad yw problemau sydd wedi'u cyflwyno gan eraill yn adlewyrchu ar enw da'r awduron gwreiddiol.

Yn olaf, mae unrhyw rhaglen rydd o dan fygythiad parhaus patentau meddalwedd. Rydym yn awyddus i osgoi'r perygl fod ailddosbarthwyr rhaglen rydd yn cymryd trwydded patent, gan wneud y rhaglen yn berchnogol. I rwystro hyn, rydym wedi'i gwneud hi'n glir y dylai unrhyw batent gael ei drwyddedu ar gyfer defnydd rhydd pawb neu beidio gael ei drwyddedu o gwbl.

Isod ceir yr union amodau ar gyfer copio, dosbarthu ac addasu.

TRWYDDED GYHOEDDUS GYFFREDINOL GNU

TELERAU AC AMODAU AR GYFER COPIO, DOSBARTHU AC ADDASU

0. Mae'r Drwydded hon yn berthnasol i unrhyw raglen neu waith arall sy'n cynnwys hysbysiad wedi'i osod gan y daliwr hawlfraint sy'n nodi bod modd ei ddosbarthu o dan amodau'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol hon. Mae'r "Rhaglen" , isod, yn cyfeirio at unrhyw raglen neu waith, ac mae "gwaith yn seiliedig ar y Rhaglen" yn golygu un ai y Rhaglen neu unrhyw waith deilliannol o dan gyfraith hawlfraint: hynny yw, gwaith yn cynnwys y rhaglen neu ran ohoni, un ai air am air neu gyda newidiadau a/neu gyfieithiad i iaith arall. (O hyn ymlaen, bydd cyfieithu yn cael ei gynnwys heb gyfyngiad o fewn y term "addasu" . Cyfeirir at bob daliwr trwydded fel "chi" .

Nid yw gweithgareddau ar wahan i gopio, dosbarthu ac addasu yn cael eu cynnwys yn y Drwydded hon; maen nhw tu allan iddi. Nid oes cyfyngiad ar y weithred o redeg y Rhaglen, ac mae allbwn y Rhaglen yn gynwysedig dim ond os yw cynnwys yr allbwn yn ffurfio gwaith sy'n seiliedig ar y Rhaglen (yn annibynnol o fod wedi cael ei wneud o redeg y Rhaglen). Mae p'un ai yw hyn yn wir yn dibynnu ar beth mae'r Rhaglen yn ei wneud.

1. Mae hawl i chi gopio a dosbarthu copiau gair am air o'r cod ffynhonnell fel i chi ei dderbyn, ar unrhyw gyfrwng, ar yr amod eich bod yn cyhoeddi yn eich copi yn amlwg ac yn addas hysbysiad hawlfraint a gwadiad gwarant; yn cadw pob hysbysiad sy'n cyfeirio at y Drwydded hon ac i absenoldeb unrhyw warant gyda'i gilydd yn gyfan; a rhoi i dderbynwyr eraill y Rhaglen gopi o'r Drwydded hon gyda'r Rhaglen.

Mae modd i chi godi tal am y weithred gorfforol o drosglwyddo copi, ac mae modd i chi, yn ol eich dewis, gynnig diogelwch gwarant yn gyfnewid am dal.

2. Mae modd i chi newid eich copi neu gopiau o'r rhaglen neu unrhyw rhan ohoni, gan felly greu gwaith yn seiliedig ar y Rhaglen, a chopio a dosbarthu yr addasiadau neu'r gwaith o dan amodau Adran 1 uchod, ar yr amod eich bod hefyd yn bodloni pob un o'r amodau hyn:

a) Rhaid i chi achosi i'r ffeiliau sydd wedi'u haddasu gario hysbysiadau amlwg yn datgan eich bod wedi newid y ffeiliau a dyddiad unrhyw newid.

b) Rhaid i chi achosi i unrhyw waith rydych yn ei ddosbarthu neu ei gyhoeddi, sydd yn gyfangwbl neu yn rhannol yn deillio o'r Rhaglen neu unrhyw ran ohoni, gael ei thrwyddedu fel cyfanwaith heb unrhyw gost i bob trydydd parti dan delerau'r Drwydded hon.

c) Os yw'r rhaglen sydd wedi'i haddasu fel arfer yn darllen gorchmynion yn rhyngweithiol pan gaiff ei rhedeg, rhaid i chi achosi iddi, pan fydd yn cychwyn rhedeg ar gyfer defnydd rhyngweithiol o'r fath yn y ffordd fwyaf cyffredin, argraffu neu arddangos datganiad yn cynnwys hysbysiad hawlfraint addas a hysbysiad nad oes yna warant (neu fel arall, yn dweud eich bod chi yn rhoi gwarant) ac y gall defnyddwyr ailddosbarthu'r rhaglen dan yr amodau hyn, ac yn dweud wrth y defnyddiwr sut i edrych ar gopi o'r Drwydded hon. (Eithriad: os yw'r Rhaglen ei hun yn rhyngweithiol ond nad yw fel arfer yn argraffu datganiad o'r fath, nid oes raid i'ch gwaith sy'n seiliedig ar y Rhaglen argraffu datganiad.) Mae'r gofynion hyn wedi'u gosod ar y gwaith sydd wedi'i addasu fel cyfanwaith. Os ceir rhannau y mae modd eu hadnabod o'r gwaith hwnnw sydd heb ddeillio o'r Rhaglen, a bod modd yn rhesymol eu hystyried fel gweithiau annibynnol ac ar wahan ynddynt eu hunain, yna nid yw'r Drwydded hon, a'i thelerau, yn berthnasol i'r adrannau hynny pan fyddwch yn eu dosbarthu fel gweithiau ar wahan. Ond pan fyddwch yn dosbarthu'r un rhannau fel rhan o gyfanwaith sy'n waith seiliedig ar y Rhaglen, rhaid i ddosbarthiad y cyfanwaith fod ar delerau'r Drwydded hon, y mae ei chaniatad i drwyddedigion eraill yn estyn i'r cyfanwaith i gyd, ac felly i bob un rhan ohoni heb wneud cyfrif o bwy wnaeth ei ysgrifennu.

Felly, nid bwriad yr adran hon yw hawlio hawliau na herio eich hawliau i waith sydd wedi'i ysgrifennu yn gyfangwbl gennych chi; yn hytrach, y bwriad yw gweithredu'r hawl i reoli dosbarthiad gweithiau deilliannol neu gyfunol sy'n seiliedig ar y Rhaglen.

Yn ychwanegol, nid yw cydgrynhoi gwaith arall nad yw wedi'i seilio ar y Rhaglen gyda'r Rhaglen (neu gyda gwaith sydd wedi'i seilio ar y Rhalgen) ar gyfrol o gyfrwng storio neu ddosbarthu yn dod a'r gwaith arall o fewn cwmpas y Drwydded hon.

3. Gallwch gopio a dosbarthu'r Rhaglen (neu waith wedi'i seilio arni, dan Adran 2) mewn cod gwrthrych neu ffurf weithredadwy dan delerau Adrannau 1 a 2 uchod ond i chi hefyd wneud un o'r canlynol:

a) Rhoi gyda hi y cod ffynhonnell darllenadwy i beiriant cyfatebol cyflawn, sydd yn gorfod cael ei ddosbarthu dan delerau Adrannau 1 a 2 uchod ar gyfrwng sydd yn gyffredin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgyfnewid meddalwedd; neu,

b) Rhoi gyda hi gynnig ysgrifenedig, sy'n ddilys am o leiaf dair blynedd, i roi i unrhyw drydydd parti, am dal sydd ddim mwy na'ch cost am y weithred gorfforol o ddosbarthu cod, i'w dosbarthu dan delerau Adrannau 1 a 2 uchod ar gyfrwng sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgyfnewid meddalwedd; neu,

c) Rhoi gyda hi y wybodaeth y gwnaethoch chi ei derbyn ynghylch y cynnig i ddosbarthu cod ffynhonnell cyfatebol. (Dim ond ar gyfer dosbarthiad anfasnachol y mae'r dewis arall hwn yn cael ei ganiatau a dim ond os gwnaethoch chi dderbyn y rhaglen mewn cod gwrthrych neu ffurf weithredadwy gyda chynnig o'r fath, yn unol ag Isadran b uchod.)

Mae'r cod ffynhonnell ar gyfer gwaith yn golygu ffurf ddewisol y gwaith ar gyfer ei addasu. Ar gyfer gwaith gweithredadwy, ystyr cod ffynhonnell cyflawn yw'r cyfan o'r cod ffynhonnell ar gyfer pob modiwl y mae'n eu cynnwys, a hefyd unrhyw ffeiliau diffinio rhyngwyneb cysylltiedig, a hefyd y sgriptiau a ddefnyddiwyd i reoli creu a gosod y gwaith gweithredadwy. Fodd bynnag, fel eithriad arbennig, nid oes raid i'r cod ffynhonnell sy'n cael ei ddosbarthu gynnwys unrhyw beth sy'n cael ei ddosbarthu fel arfer (naill ai ar ffurf ffynhonnell neu ddeuaidd) gyda phrif gydrannau (crynhoydd, cnewyllyn, ac ati) y system weithredu y mae'r gwaith gweithredadwy yn rhedeg arno, on bai fod y gydran honno ei hun yn dod gyda'r gwaith gweithredadwy.

Os yw'r gwaith gweithredadwy neu god gwrthrych yn cael ei ddosbarthu drwy gynnig mynediad at gopi o le dynodedig, yna mae cynnig mynediad cyfatebol i gopio'r cod ffynhonnell o'r un lle yn cyfrif fel dosbarthu'r cod ffynhonnell, er nad yw trydydd partion yn cael eu gorfodi i gopio'r ffynhonnell ynghyd a'r cod gwrthrych.

4. Nid oes hawl i chi gopio, addasu, isdrwyddedu na dosbarthu'r Rhaglen ac eithrio fel sy'n cael ei ddarparu mewn cymaint eiriau dan y Drwydded hon. Mae unrhyw ymgais fel arall i gopio, addasu, isdrwyddedu neu ddosbarthu'r Rhaglen yn ddi-rym, a bydd yn awtomatig yn terfynu eich hawliau dan y Drwydded hon. Fodd bynnag, ni fydd partion sydd wedi derbyn copiau, neu hawliau, oddi wrthych dan y Drwydded hon yn cael eu trwyddedau wedi'u terfynu cyn belled a bo'r partion hynny yn parhau i gydymffurfio'n llawn.

5. Nid oes raid i chi dderbyn y Drwydded hon, gan nad ydych wedi'i llofnodi. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth arall yn rhoi hawl i chi addasu neu ddosbarthu'r Rhaglen na'r gweithiau sy'n deillio ohoni. Mae'r gweithredoedd hyn yn cael eu gwahardd gan y ddeddf os nad ydych yn derbyn y Drwydded hon. Felly, drwy addasu neu ddosbarthu'r Rhaglen (neu unrhyw waith sy'n seiliedig ar y Rhaglen), rydych yn dangos eich bod yn derbyn y Drwydded hon i wneud hynny, a'i holl delerau ac amodau ar gyfer copio, dosbarthu neu addasu'r Rhaglen neu weithiau sy'n seiliedig arni.

6. Bob tro rydych yn ailddosbarthu'r Rhaglen (neu unrhyw waith sy'n seiliedig ar y Rhaglen), mae'r derbyniwr yn awtomatig yn derbyn trwydded oddi wrth y trwyddedwr gwreiddiol i gopio, dosbarthu neu addasu'r Rhaglen yn unol a'r telerau ac amodau hynny. Nid oes hawl gennych osod unrhyw gyfyngiadau pellach ar weithrediad derbynwyr o'r hawliau sy'n cael ei rhoi ynddi. Nid ydych yn gyfrifol am orfodi trydydd partion i gydymffurfio a'r Drwydded hon.

7. 7. Os yw amodau yn cael eu gosod arnoch, o ganlyniad i ddyfarniad llys neu honiad o dorri patent neu am unrhyw reswm arall (heb fod yn gyfyngedig i faterion patent), p'un ai gan orchymyn llys, cytundeb neu rywbeth arall, sy'n croesddweud amodau'r Drwydded hon, nid ydynt yn eich esgusodi rhag amodau'r Drwydded hon. Os na allwch ddosbarthu fel ag i fodloni ar yr un pryd eich rhwymedigaethau dan y Drwydded hon ac unrhyw rwymedigaethau perthnasol eraill, yna o ganlyniad i hyn ni chewch ddosbarthu'r Rhaglen o gwbl. Er enghraifft, pe na bai trwydded patent yn caniatau i'r Rhaglen gael ei hailddosbarthu yn rhydd rhag breindal gan bawb sy'n derbyn copiau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwyddoch chi, yna'r unig ffordd y gallech ei bodloni hi a'r Drwydded hon fyddai i ymatal yn llwyr rhag dosbarthu'r Rhaglen.

Os yw unrhyw ran o'r adran hon yn cael ei hystyried i fod yn annilys neu'n amhosibl ei gweithredu dan unrhyw amgylchiad arbennig, bwriedir gweddill yr adran i fod yn berthnasol a bwriedir yr adran yn gyfan i fod yn berhnasol dan amgylchiadau eraill.

Nid pwrpas yr adran hon yw gwneud i chi dorri unrhyw hawlio patentau neu hawliau eiddo eraill neu ymladd dilysrwydd unrhyw hawlio o'r fath; unig bwrpas yr adran hon yw diogelu cyfanrwydd y system ddosbarthu meddalwedd rhydd, sy'n cael ei weithredu gan arferion trwyddedu cyhoeddus. Mae llawer o bobl wedi gwneud cyfraniadau hael i'r dewis eang o feddalwedd sy'n cael ei dosbarthu drwy'r system honno ac sy'n dibynnu ar gysondeb gweithrediad y system honno; mater i'r awdur/rhoddwr yw penderfynu a yw ef/hi yn barod i ddosbarthu meddalwedd drwy unrhyw systemau eraill ac ni all y sawl sy'n drwyddedig orfodi'r dewis hwnnw.

Bwriad yr adran hon yw ei gwneud hi'n hollol eglur beth y credir ei fod yn ganlyniad gweddill y Drwydded hon. 8. Os yw dosbarthiad a/neu ddefnydd y Rhaglen hon yn cael ei gyfyngu mewn rhai gwledydd naill ai gan batentau neu ryngwynebau wedi'u hawlfreintio, gall deiliad yr hawlfraint gwreiddiol sy'n gosod y Rhaglen dan y Drwydded hon ychwanegu cyfyngiad dosbarthu daearyddol yn cau allan y gwledydd hynny, fel bod dosbarthu yn cael ei ganiatau yn unig o fewn neu rhwng gwledydd nad ydynt wedi cael eu cau allan fel hyn. Mewn achos o'r fath, mae'r Drwydded hon yn ymgorffori'r cyfyngiad fel petai wedi'i ysgrifennu yng nghorff y Drwydded hon.

9. Efallai y bydd y Free Software Foundation yn cyhoeddi fersiynau wedi'u hadolygu a/neu rhai newydd o'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol o dro i dro. Bydd fersiynau newydd o'r fath yn debyg o ran ysbryd i'r fersiwn presennol, ond efallai y byddant yn wahanol yn y manylion er mwyn delio gyda phroblemau neu bryderon newydd. Rhoddir rhif fersiwn gwahanol i bob fersiwn. Os yw'r Rhaglen yn pennu rhif fersiwn o'r Drwydded hon sy'n berthnasol iddi ac "unrhyw fersiwn diweddarach" , mae gennych y dewis o ddilyn telerau ac amodau naill ai'r fersiwn hwnnw neu unrhyw fersiwn diweddarach a gyhoeddir gan y Free Software Foundation. Os nad yw'r Rhaglen yn pennu rhif fersiwn o'r Drwydded hon, gallwch ddewis unrhyw fersiwn a gyhoeddwyd erioed gan y Free Software Foundation.

10. Os dymunwch ymgorffori rhannau o'r Rhaglen i mewn i raglenni rhydd eraill y mae amodau eu dosbarthu yn wahanol, ysgrifennwch at yr awdur i ofyn caniatad. Ar gyfer meddalwedd sydd wedi'i hawlfreintio gan y Free Software Foundation, ysgrifennwch at y Free Software Foundation; rydym ni weithiau yn gwneud eithriadau ar gyfer hyn. Bydd ein penderfyniad yn cael ei arwain gan y ddau nod o ddiogelu statws rhydd pob un o ddeilliannau ein meddalwedd rhydd ac o hybu rhannu ac ailddefnyddio meddalwedd yn gyffredinol.

DIM GWARANT

11. GAN FOD Y RHAGLEN YN CAEL EI THRWYDDEDU YN RHAD AC AM DDIM, NID OES GWARANT AR GYFER Y RHAGLEN, I'R GRADDAU Y MAE'R GYFRAITH BERTHNASOL YN CANIATAU. AC EITHRIO LLE CEIR DATGANIAD YSGRIFENEDIG FEL ARALL MAE DALWYR YR HAWLFRAINT A/NEU BARTION ERAILL YN DARPARU'R RHAGLEN "FEL Y MAE" HEB WARANT O UNRHYW FATH, NAILL AI WEDI'I FYNEGI NEU YMHLYG, GAN GYNNWYS, OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I WARANTAU OBLYGEDIG YNGHYLCH MARSIANDWYAETH A FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. MAE'R HOLL RISG YNGHYLCH ANSAWDD A PHERFFORMIAD Y RHAGLEN YN PERTHYN I CHI. PETAI'R RHAGLEN YN PROFI I FOD YN DDIFFYGIOL, CHI SY'N YSGWYDDO COST YR HOLL WASANAETHU, TRWSIO NEU GYWIRO ANGENRHEIDIOL.

12. NI FYDD DALWYR YR HAWLFRAINT, NEU UNRHYW BARTI ARALL A FYDD EFALLAI YN ADDASU A/NEU AILDDOSBARTHU'R RHAGLEN FEL SY'N CAEL EI GANIATAU UCHOD, DAN UNRYW AMGYLCHIADAU ONI BAI BOD HYNNY'N ORFODOL DAN GYFRAITH BERTHNASOL NEU WEDI'I GYTUNO YN YSGRIFENEDIG, YN ATEBOL I CHI AM IAWNDAL, GAN GYNNWYS UNRHYW IAWNDAL CYFFREDINOL, ARBENNIG, ATODOL NEU GANLYNIADOL YN CODI O DDEFNYDDIO NEU ANALLU I DDEFNYDDIO'R RHAGLEN (GAN GYNNWYS OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I GOLLI DATA NEU DDATA YN CAEL EI WNEUD YN WALLUS NEU GOLLEDION A DDIODDEFIR GENNYCH CHI NEU DRYDYDD PARTION NEU FETHIANT Y RHAGLEN I WEITHREDU GYDAG UNRHYW RAGLENNI ERAILL), HYD YN OED OS YW DALIWR O'R FATH NEU BARTI ARALL WEDI CAEL EI GYNGHORI O BOSIBILRWYDD IAWNDAL O'R FATH.

DIWEDD Y TELERAU A'R AMODAU

Sut i Gymhwyso'r Telerau hyn i'ch Rhaglenni Newydd

Os ydych yn datblygu rhaglen newydd, a'ch bod am iddi fod mor ddefnyddiol ag y mae modd i'r cyhoedd, y ffordd orau i gyflawni hyn yw i'w gwneud yn feddalwedd rhydd y gall pawb ei hailddosbarthu a'i newid dan y telerau hyn.

I wneud hyn, atodwch yr hysbysiadau canlynol i'r rhaglen. Y ffordd fwyaf diogel yw eu hatodi i ddechrau pob ffeil ffynhonnell i gyfleu'r ffaith fod gwarant wedi'i chau allan yn y ffordd fwyaf effeithiol; a dylai pob ffeil gael o leiaf un llinell "hawlfraint" a phwyntydd at y man lle ceir yr hysbysiad llawn.

<un llinell i roi enw'r rhaglen a syniad byr o'r hyn mae'n gwneud.> Hawlfraint (C) <blwyddyn> <enw'r awdur>

Mae'r rhaglen hon yn feddalwedd rhydd; gallwch ei hailddosbarthu a/neu ei haddasu dan delerau Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU fel y'i cyhoeddwyd gan y Free Software Foundation; naill ai fersiwn 2 y Drwydded, neu (yn ol eich dewis) unrhyw fersiwn diweddarach.

Mae'r rhaglen hon yn cael ei dosbarthu yn y gobaith y bydd yn ddefnyddiol, ond HEB UNRHYW WARANT; heb hyd yn oed y warant oblygedig o FARSIANDWYAETH neu FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. Gweler Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU am ragor o fanylion.

Dylech fod wedi derbyn copi o Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU ynghyd a'r rhaglen hon; os na, ysgrifennwch at y

Free Software Foundation, Inc., 59 Temple Place, Suite 330, Boston MA 02111-1307 USAHefyd dylech gynnwys gwybodaeth am sut i gysylltu a chi drwy gyfrwng y post electronig a phapur.

Os yw'r rhaglen yn rhyngweithiol, gwnewch iddi allbynnu hysbysiad byr fel hyn pan fydd yn dechrau mewn modd rhyngweithiol:

Gnomovision fersiwn 69, Hawlfraint (C) blwyddyn enw'r awdur. Mae Gnomovision yn dod HEB UNRHYW WARANT O GWBL; am fanylion teipiwch 'dangoswch w'. Meddalwedd rhydd yw hwn, ac mae croeso i chi ei ailddosbarthu dan amodau arbennig; teipiwch 'dangoswch c' am fanylion.

Dylai'r gorchmynion damcaniaethol 'dangoswch w' a 'dangoswch c' ddangos y rhannau priodol o'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol. Wrth gwrs, gall y gorchmynion rhydych chi'n eu defnyddio fod wedi'u galw'n rhywbeth arall ar wahan i 'dangoswch w' a 'dangoswch c'; gallent hyd yn oed fod yn cliciadau llygoden neu eitemau ar ddewislen--beth bynnag sy'n addas i'ch rhaglen.

Dylech hefyd gael eich cyflogwr (os ydych chi'n gweithio fel rhaglennydd) neu eich ysgol, os oes un, i lofnodi "gwadiad hawlfraint" ar gyfer y rhaglen, os oes angen. Dyma sampl; newidiwch yr enwau:

Mae Yoyodyne, Inc. drwy hyn yn gwadu pob buddiant hawlfraint yn y rhaglen 'Gnomovision' (sy'n mwytho crynhowyr) a ysgrifennwyd gan James Hacker. <llofnod Ty Coon>, 1 Ebrill 1989 Ty Coon, Llywydd Llygredd

Nid yw'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol hon yn caniatau i'ch rhaglen gael ei hymgorffori mewn rhaglenni perchnogol. Os mai llyfrgell isreolwaith yw eich rhaglen, efallai y byddwch yn ystyried ei bod hi'n fwy defnyddiol cysylltu cymwyseddau perchnogol gyda'r llyfrgell. Os mai dyma'r hyn rydych am ei wneud, defnyddiwch Drwydded Gyhoeddus Gyfredinol Llyfrgelloedd GNU yn lle'r Drwydded hon.