Gweithrediadau

Teipio acenion Cymraeg

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:48, 20 Chwefror 2016 gan Curon (Sgwrs | cyfraniadau)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tudalen ar ei wefan yn dangos sut i deipio acenion Cymraeg. Dim ond wybodaeth ar gyfer Windows maent wedi darparu, a rhaid edrych ar y fidio i ganfod y ffordd haws. Isod mae gwybodaeth lawn ar gyfer amryw o wahanol systemau gweithredu a ddaw o sgwrs wreiddiol ar SaySomethinginWelsh.

Windows

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.


Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) AltGr + (y llafariad)
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) AltGr + `
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) AltGr + 6
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) AltGr + 2

Mae modd defnyddio Ctrl+Alt yn lle AltGr.

Mac OS

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.

Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý)
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ)
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) Option + (y llafariad)
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ)

Linux

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Saesneg (DU), gwasgwch y cyfuniadau yma cyn y llafariad.

Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) Alt Gr + ;
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) Alt Gr + #
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) Alt Gr + '
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) Alt Gr + [

Android

iOS