Gweithrediadau

Teipio acenion Cymraeg

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:40, 20 Chwefror 2016 gan Curon (Sgwrs | cyfraniadau)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tudalen ar ei wefan yn dangos sut i deipio acenion Cymraeg. Dim ond wybodaeth ar gyfer Windows maent wedi darparu, a rhaid edrych ar y fidio i ganfod y ffordd haws. Isod mae gwybodaeth lawn ar gyfer amryw o wahanol systemau gweithredu a ddaw o sgwrs wreiddiol ar SaySomethinginWelsh.

Windows

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.


Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) AltGr + (y llafariad)
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) AltGr + `
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) AltGr + 6
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) AltGr + 2

Mae modd defnyddio Ctrl+Alt yn lle AltGr.

Mac OS

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.

Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) Option + (y llafariad)
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) Option + `
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) Option + 6
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) Option + U

Nodwch fod yr uchod yn union yr un cyfaniad ac yn Windows, ond bod enw gwahanol ar yr allwedd i'r dde o'r bylchwr.

Linux

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Saesneg (DU), gwasgwch y cyfuniadau yma cyn y llafariad.

Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) Alt Gr + ;
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) Alt Gr + #
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) Alt Gr + '
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) Alt Gr + [

Android

iOS