Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Teipio acenion Cymraeg"

Oddi ar Hedyn

(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Llywodraeth Cymru wedi [http://cymraeg.llyw.cymru/services/Technology/howto/teipio-acenion/?lang=cy cyhoeddi tudalen ar ei wefan] yn dangos sut i deip...')
(Dim gwahaniaeth)

Diwygiad 14:35, 20 Chwefror 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tudalen ar ei wefan yn dangos sut i deipio acenion Cymraeg. Dim ond wybodaeth ar gyfer Windows maent wedi darparu, a rhaid edrych ar y fidio i ganfod y ffordd haws. Isod mae gwybodaeth lawn ar gyfer amryw o wahanol systemau gweithredu a ddaw o sgwrs wreiddiol ar SaySomethinginWelsh.

Windows

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.


Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) AltGr + (y llafariad)
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) AltGr + `
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) AltGr + 6
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) AltGr + 2

Mae modd defnyddio Ctrl+Alt yn lle AltGr.

Mac OS

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.

Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) Option + (y llafariad)
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) Option + `
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) Option + 6
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) Option + U

Nodwch fod yr uchod yn union yr un cyfaniad ac yn Windows, ond bod enw gwahanol i'r allwedd i'r dde o'r bylchwr.

Linux

Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Saesneg (DU), gwasgwch y cyfuniadau yma cyn y llafariad.

Acen Teipiwch
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) Alt Gr + ;
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) Alt Gr + #
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) Alt Gr + '
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) Alt Gr + [

Android

iOS