Gweithrediadau

Tech/iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2014

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:27, 30 Gorffennaf 2014 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Bydd llwyth o ddigwyddiadau am dechnoleg, gwe, meddalwedd, memes yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2014 yn Llanelli.

Rydym yn ceisio casglu amserlen ar y dudalen hon. Plîs ychwanegwch unrhyw ddigwyddiadau gyda theitl, manylion a lleoliad.

Defnyddiwch #haciaith os ydych chi eisiau trafod stwff technolegol a'r iaith. Ni fydd 'stondin' Hacio'r Iaith ar y maes yn Eisteddfod Genedlaeth 2014 fel y cyfryw ond bydd lot ohonom ni o'r cymuned o gwmpas.

dydd Gwener 1

...

dydd Sadwrn 2

...

dydd Sul 3

Unrhyw un am sesh Hacio'r Iaith yn y dafarn am 2 awr? (Hyblyg o ran dyddiad)

Bydda'i o gwmpas ar ddyddiau Sul/Llun/Maw, siwr o fod, ac yn hapus i gyfrannu i sesh! Illtud (sgwrs) 15:08, 18 Mehefin 2014 (BST)

dydd Llun 4

BBC Cymru Fyw
12 hanner dydd
Pabell BBC Radio Cymru Ewch i 'glywed am wasanaeth ar-lein unigryw newydd BBC Cymru yn Gymraeg'

Hawliau yn yr oes ddigidol: democratiaeth a chreadigrwydd
3:30YH
Pabell y Cymdeithasau 2
Sut mae llywodraethau a chwmnïau yn bygwth preifatrwydd yr unigolyn a sut mae ymgyrchwyr yn ceisio ei amddiffyn? Beth yw perthnasedd hawlfraint i’r Gymraeg? Yn y cyd-destun yma, beth yw dyfodol S4C? Oes angen darparydd newydd o gynnwys digidol yn Gymraeg yn ogystal?
Radio Cymru > Teledu Cymraeg > *llenwch y bwlch*
Gwestai:
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones (Cadeirydd)
Jim Killock (ORG - Grŵp Hawliau Agored)
Robin Owain (Wikimedia)
Sian Gale (BECTU)
Carl Morris (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)

Sesiwn Technolegau Iaith
4:00YH Stondin Prifysgol Bangor
Trosolwg o waith y flwyddyn, gan gynnwys braich robotig yn ymateb i orchmynion llafar Cymraeg, ap Paldaruo, sy'n ffordd o dorfoli casglu corpws llafar (rhan o'n project GALLU), lansio ein ap dysgu Cymraeg (project TILT)

dydd Mawrth 5

...

dydd Mercher 6

Unrhyw un am sesh Hacio'r Iaith yn y dafarn am 2 awr? (Hyblyg o ran dyddiad)

Ti'n galw dwy awr yn sesh wyt ti? ;) Cyfrifa fi mewn, ys dywedir. Kinetic (sgwrs) 07:09, 14 Gorffennaf 2014 (BST)

dydd Iau 7

Llwyfan ar gyfer y Gymraeg ledled y byd - yr iaith mewn oes ddigidol
12.00 - 13.00
Trefnwyd gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pabell y Cymdeithasau 1

- Rhodri Glyn Thomas AC - Y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros Ieithoedd Swyddogol yn y Cynulliad
- Rhodri ap Dyfrig – Arbenigwr mewn Cyfranogiad Digidol
- Geraint Wyn Parry – Prif Weithredwr, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- Huw Marshall – Rheolwr Digidol, S4C
- Gareth Morlais – Pennaeth yr Uned Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru
Bydd y panel o arbenigwyr yn trafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol. Prif fyrdwn y drafodaeth fydd edrych ar sut y bydd newidiadau yn y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth yn effeithio ar ieithoedd fel y Gymraeg, a sut y gall ieithoedd o’r fath addasu i ddatblygiadau technolegol.

dydd Gwener 8

Brecwast Ffrwti 9YB - 11YB The York Palace, 51 Stryd Stepney, Llanelli Croeso i bawb i fwyta brecwast a chreu delweddau #dyddgwen

dydd Sadwrn 9

...

I'w hychwanegu

Nid yw'r dyddiadur uchod yn gyflawn. Mae croeso i chi ychwanegu digwyddiadau. Os oes rhagor o fanylion am ddigwyddiadau gan y sefydliadau isod byddai fe'n wych i weld nhw.

  • Canolfan Bedwyr?
  • Maes D?
  • S4C
  • BBC
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg?
  • prifysgolion
  • eraill?