Gweithrediadau

Sut i newid iaith eich blog i Gymraeg

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:56, 29 Ebrill 2016 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Gallwch newid dau wahanol osodiad iaith yn WordPress.com; iaith eich blog, a iaith y rhyngwyneb/Bwrdd Rheoli.

Iaith y blog

Iaith y blog ydy'r iaith y mae ymwelwyr yn ei weld. Mae gan bob blog ei osodiad iaith ei hunan, felly os oes gennych flogiau lluosog sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif, gall pob un gael gosodiad iaith gwahanol.

Gellir golygu'r gosodiad iaith o dan Gosodiadau > Cyffredinol (Settings > General) ar dashfwrdd y blog.

Wordpress-newid-iaith1.jpg

Iaith y rhyngwyneb / Bwrdd Rheoli

Dyma'r iaith a ddefnyddir gan eich elfennau Bwrdd Rheoli (neu rhyngwyneb defnyddiwr). Mae'n benodol i bob cyfrif WordPress.com. Nid yw'n newid o flog i flog.

Gellir golygu gosodiad iaith eich rhyngwyneb o dan Defnyddwyr > Personol (Users > Personal Settings) yn y dewislen chwith.

Wordpress-newid-iaith2.jpg

Dyw rhai o'r termau ddim yn Gymraeg?

Mae WordPress Cymraeg yn dibynnu ar y gymuned i gyfieithu a rhannu themâu, ategion a'r prif system WordPress i Gymraeg.

Os ydych chi wedi dewis thema neu nodwedd sydd ddim ar gael yn Gymraeg eto, byddwch chi'n gweld ambell i derm yn Saesneg.

Rydym yn gweithio arno fe!