Gweithrediadau

Sut i newid iaith eich blog i Gymraeg

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:09, 18 Hydref 2012 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Gallwch newid dau wahanol osodiad iaith yn WordPress.com; iaith eich blog, a iaith y rhyngwyneb.

Iaith y blog

Iaith y blog ydy'r iaith y byddwch yn ysgrifennu eich blog ynddo. Mae gan bob blog ei osodiad iaith ei hunan, felly os oes gennych flogiau lluosog sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif, gall pob un gael gosodiad iaith gwahanol.

Gellir golygu'r gosodiad iaith o dan Gosodiadau > Cyffredinol (Settings > General) ar dashfwrdd y blog.

Wordpress-newid-iaith1.jpg

Iaith y rhyngwyneb

Dyma'r iaith a ddefnyddir gan eich elfennau dangosfwrdd (neu rhyngwyneb defnyddiwr). Mae'n benodol i bob cyfrif WordPress.com. Nid yw'n newid o flog i flog.

Gellir golygu gosodiad iaith eich rhyngwyneb o dan Defnyddwyr > Personol (Users > Personal Settings) yn y dewislen chwith.

Wordpress-newid-iaith2.jpg

Dyw rhai o'r termau ddim yn Gymraeg?

Mae WordPress Cymraeg yn dibynnu ar y gymuned i gyfieith a rhannu themau a'r prif meddalwedd WordPress yn Gymraeg. Chwarae teg iddyn nhw achos maen nhw yn agored i gyfraniadau. Dyma pam rwyt ti'n gallu gweld termau Saesneg - weithiau. Rydyn ni'n gweithio arno fe!