Gweithrediadau

Sut i greu isdeitlau ar fideo YouTube

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:30, 21 Hydref 2015 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
Pererin-youtube.jpg

Dyma sut i wneud isdeitlau ar YouTube.

Ewch i http://www.youtube.com/watch?v=rxNSgjS0pq0 am enghraifft a chliciwch ddant am

Pam?

  • pobol sydd ddim yn hyderus yn Gymraeg
  • dysgwyr iaith (unrhyw iaith), e.e. mae isdeitlau Cymraeg yn helpu dysgwyr sydd eisiau gwrando a darllen
  • plant
  • pobl tramor a'r rhai sydd ddim yn deall iaith ayyb
  • pobl byddar
  • karaoke
  • cerddoriaeth
  • darlithoedd
  • rhaglenni teledu
  • hwyl
  • llawer o rhesymau

Sut?

Lanlwythwch

Yn gyntaf, lanlwythwch eich fideo chi. Gallech chi ychwanegu isdeitlau i'ch fideo unrhyw bryd.

Creuwch yr isdeitlau

Creuwch ffeiliau gyda'ch hoff golygydd testun, e.e. Gedit ar Linux Ubuntu, Notepad neu TextPad ar Windows, TextMate ar Apple Mac. (Neu rydych chi'n gallu defnyddio meddalwedd isdeitlo.)

Dyma'r ffeiliau dw i wedi defnyddio:

Cymraeg: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-cymraeg.sbv

Deutsch: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-deutsch.sbv

English: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-english.sbv

Y fformat yw:

awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad
Geiriau

awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad
Geiriau

awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad
[Disgrifiad mewn cromfachau sgwar]

...

Er enghraifft:

0:00:00.000,0:00:15.000
[Cychwyn]

0:00:15.000,0:00:24.000
Ble'r wyt ti'n myned
fy 'ngeneth ffein gu

0:00:24.000,0:00:30.000
Myned i odro, o syr,
mynte hi

...

Yn yr enghraifft uchod mae'n dweud "[Cychwyn]" am y 15 eiliad cyntaf.

Dw i wedi torri'r brawddegau er mwyn iddynt edrych yn well.

Dw i wedi sgwennu 000 am milieiliad bob tro ond mae hi'n bosib amseru pethau o fewn eiliadau.

Ychwanegwch yr isdeitlau

Ewch i YouTube. Ewch i Edit (eich fideo) | Captions and Subtitles | Add New Captions or Transcript. Dilynwch y cyfarwyddiadau.

Nodyn bach

Weithiau dydy'r newidiadau yn digwydd yn syth am ryw reswm.

Help

Dw i'n chwilio am ragor o ieithoedd ar gyfer yr enghraifft yma. Ydych chi'n gallu helpu?

Diolch i Pererin am y cerddoriaeth a Annette Strauch am y cyfieithiad Almaeneg.