Gweithrediadau

Sut i greu isdeitlau ar fideo YouTube

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:21, 21 Hydref 2015 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
Pererin-youtube.jpg

Dyma sut i wneud isdeitlau ar YouTube.

Ewch i http://www.youtube.com/watch?v=rxNSgjS0pq0 am enghraifft a chliciwch ddant am dewisiadau.

Pam?

Plant, pobol di-Gymraeg, dysgwyr (unrhyw iaith), pobol tramor, byddar, karaoke, cerddoriaeth, darlithoedd, rhaglenni teledu, hwyl. Llawer o rhesymau.

Sut?

1. Lanlwythwch dy fideo di.

2. Creuwch ffeiliau gyda dy hoff golygydd testun, e.e.  Gedit ar Linux Ubuntu, Notepad neu TextPad ar Windows, TextMate ar Apple Mac. (Neu ti'n gallu defnyddio meddalwedd proffesiynol.)

Dyma'r ffeiliau dw i wedi defnyddio:

Cymraeg: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-cymraeg.sbv

Deutsch: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-deutsch.sbv

English: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-english.sbv

Y fformat yw: awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad Geiriau

awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad Geiriau

awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad [Disgrifiad mewn cromfachau sgwar]

...

Er enghraifft: 0:00:00.000,0:00:15.000 [Cychwyn]

0:00:15.000,0:00:24.000 Ble'r wyt ti'n myned fy 'ngeneth ffein gu

0:00:24.000,0:00:30.000 Myned i odro, o syr, mynte hi

...

Dw i wedi sgwennu 000 am milieiliad bob tro. Dw i wedi torri'r brawddegau am golwg.

Mae'n dweud "[Cychwyn]" am y 15 eiliad cyntaf.

3. Ewch i YouTube. Ewch i Edit (eich fideo) | Captions and Subtitles | Add New Captions or Transcript. Dilynwch y cyfarwyddiadau.

4. Weithiau dydy'r newidiadau yn digwydd yn syth am rhyw rheswm.

Help

Dw i'n chwilio am fwy o ieithoedd ar gyfer yr enghraifft yma. Wyt ti'n gallu helpu?

Diolch i Pererin am y cerddoriaeth a Annette Strauch am y cyfieithiad Almaeneg.