Gweithrediadau

Sut i greu GIF animeiddiedig, ac i'w rannu

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Canllaw haws (haws)

Ewch i https://makeagif.com/ a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Neu geisiwch http://gifmaker.me

Llinell orchymyn (anoddach ond pwerus)

Anghenion

Mae angen ImageMagick a ffmpeg ar eich system. Mae hi'n hawdd i'w gosod nhw ar Linux neu systemau Apple. Ar Windows mae eisiau rhywbeth fel Cygwin yn gyntaf.

Proses i'w dilyn

Dilynwch y gorchmynion isod ar unrhyw system Linux, e.e. Lubuntu, Ubuntu, Debian ayyb.

1. Yn gyntaf mae angen ffeindio fideo/ffilm.

2. Efallai bydd eisiau tynnu logo o'r cornel.

3. Creu fframau fel delweddau PNG.

ffmpeg -i ffilm.mp4 -ss 00:0:00 -t 00:00:05 -f image2 allbwn%04d.png

Yn yr enghraifft uchod mae ffilm o'r enw ffilm.mp4. Mae -ss yn rhoi'r amser dechrau ac mae -t yn rhoi faint o amser i recordio. Dw i wastad yn anghofio gwir ystyr -t ac yn rhoi'r amser gorffen (ac yn llwyddo i greu gormod o ddelweddau). Rydym yn dechrau am 4 munud 35 eiliad ac yn parhau am 5 eiliad.

4. Gall dileu delweddau o'r dechrau a'r diwedd.

5. Nawr mae angen creu'r GIF:
mkdir ffolder
mv *.png ffolder
cd ffolder && convert -delay 3 -loop 0 *.png edrych-at-fy-gif.gif

  • Mae -delay 3 yn newid yr arhosiad rhwng fframau. Mae nifer uwch yn arafu'r GIF.
  • Defnyddiwch -crop '696x537+139+1' +repage i docio.
  • edrych-at-fy-gif.gif ydy'ch GIF newydd.
  • Opsiynau eraill i'w trio: -framerate 60 -r 15 -vf scale=512:-1

6. Ewch i GIMP neu unrhyw feddalwedd sy'n deall GIF wedi'i animeiddio (efallai PhotoShop). Agorwch y ffeil GIF. Mae pob ffram yn haen. Cer i Image | Mode | Indexed | Generate optimum palette. Ychwanegwch 'dithering' (effaith brith) os ydych chi eisiau.

7. Gall newid y maint ar GIMP hefyd.

(Dw i'n credu bod modd gwneud 4 a 5 gyda mogrify ar y llinell orchymyn.)

6. Mae eisiau edrych at faint y ffeil GIF nawr. Dw i wedi bod yn creu ffeiliau 10Mb sy'n rhy fawr am y we. Dw i'n trio cael 1.5Mb fel uchafswm felly fel arfer mae angen optimeiddio am faint. Gall dileu fframau neu leihau ansawdd/lliwiau/maint. Gall dileu fframau bob yn ail (cyngor: chwaraewch gyda'r ffenestr a dethol llwyth o ddelweddau gyda rhifau od) ac wedyn newid yr arhosiad. Dw i ddim yn siŵr am y dulliau gorau.

Sut i rannu GIF

Twitter

Mae Twitter yn cymryd ffeiliau GIF hyd at faint penodol.

Facebook

Nid oes modd rhoi ffeil GIF animeiddiedig yn syth ar Facebook. Os ydych chi am bostio i linell amser Facebook mae angen ei roi ar giphy.com ac wedi ei rannu o'r fan yna.

Giphy

Mae nifer o ffeiliau GIF Cymraeg yma:

Bysellfwrdd Tenor

...

Newid GIF i MP4

Yn olaf, dyma sut i newid GIF i MP4.

ffmpeg -i eichanimeiddiad.gif -movflags faststart -pix_fmt yuv420p -vf "scale=trunc(iw/2)*2:trunc(ih/2)*2" allbwnfideo.mp4