Gweithrediadau

Sut i greu GIF animeiddiedig, ac i'w rannu

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:10, 31 Ionawr 2017 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Canllaw haws (haws)

Ewch i https://makeagif.com/ a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Neu geisiwch http://gifmaker.me

Llinell orchymyn (anoddach ond pwerus)

Anghenion

Mae angen ImageMagick a avconv ar eich system. Mae hi'n hawdd i'w gosod nhw ar Linux neu systemau Apple. Ar Windows mae eisiau rhywbeth fel Cygwin yn gyntaf.

Proses i'w dilyn

Dilynwch y gorchmynion isod ar unrhyw system Linux, e.e. Lubuntu, Ubuntu, Debian ayyb.

1a. Yn gyntaf mae angen ffeindio fideo/ffilm.

1b. Creu fframau fel delweddau PNG.

avconv -i ffilm.mp4 -ss 00:4:35 -t 00:00:05 -f image2 allbwn%00d.png

Yn yr enghraifft uchod mae ffilm o'r enw ffilm.mp4. Mae -ss yn rhoi'r amser dechrau ac mae -t yn rhoi faint o amser i recordio. Dw i wastad yn anghofio gwir ystyr -t ac yn rhoi'r amser gorffen (ac yn llwyddo i greu gormod o ddelweddau). Rydym yn dechrau am 4 munud 35 eiliad ac yn parhau am 5 eiliad.

2. Gall dileu delweddau o'r dechrau a'r diwedd.

3. Nawr mae angen creu'r GIF:
mkdir ffolder
mv *.png ffolder
cd ffolder && convert -delay 12 -loop 0 *.png edrych-at-fy-gif.gif

Mae -delay 12 yn newid yr arhosiad rhwng fframau. Mae nifer uwch yn arafu'r GIF. edrych-at-fy-gif.gif ydy'ch GIF newydd.

4. Ewch i GIMP neu unrhyw feddalwedd sy'n deall GIF wedi'i animeiddio (efallai PhotoShop). Agorwch y ffeil GIF. Mae pob ffram yn haen. Cer i Image | Mode | Indexed | Generate optimum palette. Ychwanegwch 'dithering' (effaith brith) os ydych chi eisiau.

5. Gall newid y maint ar GIMP hefyd.

(Dw i'n credu bod modd gwneud 4 a 5 gyda mogrify ar y llinell orchymyn.)

6. Mae eisiau edrych at faint y ffeil GIF nawr. Dw i wedi bod yn creu ffeiliau 10Mb sy'n rhy fawr am y we. Dw i'n trio cael 1.5Mb fel uchafswm felly fel arfer mae angen optimeiddio am faint. Gall dileu fframau neu leihau ansawdd/lliwiau/maint. Gall dileu fframau bob yn ail (cyngor: chwaraewch gyda'r ffenestr a dethol llwyth o ddelweddau gyda rhifau od) ac wedyn newid yr arhosiad. Dw i ddim yn siŵr am y dulliau gorau.

Sut i rannu GIF

Twitter

Mae Twitter yn cymryd ffeiliau GIF hyd at faint penodol.

Facebook

Nid oes modd rhoi ffeil GIF animeiddiedig yn syth ar Facebook. Os ydych chi am bostio i linell amser Facebook mae angen ei roi ar giphy.com ac wedi ei rannu o'r fan yna.

Giphy

Mae nifer o ffeiliau GIF Cymraeg yma: http://giphy.com/channel/carlmorris

Bysellfwrdd Tenor

...