Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sut i greu GIF animeiddiedig, ac i'w rannu"

Oddi ar Hedyn

Llinell 12: Llinell 12:
1. Yn gyntaf mae angen ffeindio fideo/ffilm a chreu fframau fel delweddau PNG.

<nowiki>
<nowiki>
avconv -i ffilm.mp4 -ss 00:4:35 -t 00:00:05 -f image2 allbwn%00d.png
avconv -i ffilm.mp4 -ss 00:4:35 -t 00:00:05 -f image2 allbwn%00d.png</nowiki>
</nowiki>

Yn yr enghraifft uchod mae ffilm o'r enw ffilm.mp4. Mae -ss yn rhoi'r amser dechrau ac mae -t yn rhoi faint o amser i recordio. Dw i wastad yn anghofio gwir ystyr -t ac yn rhoi'r amser gorffen (ac yn llwyddo i greu gormod o ddelweddau).

Llinell 21: Llinell 20:

3. Nawr mae angen creu'r GIF:
3. Nawr mae angen creu'r GIF:
<nowiki>
<nowiki>
mkdir ffolder
mkdir ffolder
mv *.png ffolder
mv *.png ffolder
cd ffolder && convert -delay 12 -loop 0 *.png edrych-at-fy-gif.gif
cd ffolder && convert -delay 12 -loop 0 *.png edrych-at-fy-gif.gif</nowiki>
</nowiki>

Mae -delay 12 yn newid yr arhosiad rhwng fframau. Mae nifer uwch yn arafu'r GIF. edrych-at-fy-gif.gif ydy'ch GIF newydd.

Diwygiad 01:03, 10 Ebrill 2014

Ceric.gif

GIMP yn unig (haws)

Os dych chi'n agor unrhyw ffeil GIF wedi'i animeiddio gyda GIMP rydych chi'n gallu gweld stwythur y ffeil, y fframau ayyb.

Canllaw GIMP go iawn cyn hir!

Llinell orchymyn (anoddach)

Dilynwch y gorchmynion isod ar unrhyw system Linux, e.e. Lubuntu, Ubuntu, Debian ayyb.

1. Yn gyntaf mae angen ffeindio fideo/ffilm a chreu fframau fel delweddau PNG.

avconv -i ffilm.mp4 -ss 00:4:35 -t 00:00:05 -f image2 allbwn%00d.png

Yn yr enghraifft uchod mae ffilm o'r enw ffilm.mp4. Mae -ss yn rhoi'r amser dechrau ac mae -t yn rhoi faint o amser i recordio. Dw i wastad yn anghofio gwir ystyr -t ac yn rhoi'r amser gorffen (ac yn llwyddo i greu gormod o ddelweddau).

2. Gall dileu delweddau o'r dechrau a'r diwedd.

3. Nawr mae angen creu'r GIF:

mkdir ffolder
mv *.png ffolder
cd ffolder && convert -delay 12 -loop 0 *.png edrych-at-fy-gif.gif

Mae -delay 12 yn newid yr arhosiad rhwng fframau. Mae nifer uwch yn arafu'r GIF. edrych-at-fy-gif.gif ydy'ch GIF newydd.

4. Ewch i GIMP neu unrhyw feddalwedd sy'n deall GIF wedi'i animeiddio (efallai PhotoShop). Agorwch y ffeil GIF. Mae pob ffram yn haen. Cer i Image | Mode | Indexed | Generate optimum palette. Ychwanegwch 'dithering' (effaith brith) os ydych chi eisiau.

5. Gall newid y maint ar GIMP hefyd.

(Dw i'n credu bod modd gwneud 4 a 5 gyda mogrify ar y llinell orchymyn.)

6. Mae eisiau edrych at faint y ffeil GIF nawr. Dw i wedi bod yn creu ffeiliau 10Mb sy'n rhy fawr am y we. Dw i'n trio cael 1.5Mb fel uchafswm felly fel arfer mae angen optimeiddio am faint. Gall dileu fframau neu leihau ansawdd/lliwiau/maint. Gall dileu fframau bob yn ail (cyngor: chwaraewch gyda'r ffenestr a dethol llwyth o ddelweddau gyda rhifau od) ac wedyn newid yr arhosiad. Dw i ddim yn siŵr am y dulliau gorau.