Gweithrediadau

Sut i fewnosod fideo ar dy flog

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:12, 19 Ebrill 2016 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Mae modd mewnosod fideo (o wasanaeth fel YouTube neu Vimeo) i mewn i gofnod ar dy flog.

YouTube

Fideo YouTube ar Blogger

  1. Cer i dudalen y fideo ar YouTube.
  2. O dan y fideo mae botwm 'Share'. Dewisia 'embed' a chopio'r cod.
  3. Yn Blogger, dos i olygu'r cofnod ti am fewnosod y fideo ynddi, a newid y golygydd i HTML (drwy glicio ar y botwm 'HTML' sy drws nesa i 'Compose' yn y gornel top chwith).
  4. Gluda'r cod YouTube yno a chlicia 'Preview' i weld os ydy popeth yn iawn cyn cadw'r newidiadau.

Fideo YouTube ar WordPress

Bellach mae'r broses o fewnosod fideo YouTube ar wefan WordPress (neu WordPress.com) yn gyflym iawn.

Gludiwch y ddolen (URL) mewn i'ch cofnod blog - a dyna ni!