Gweithrediadau

Sut i fewnosod fideo ar dy flog

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:52, 19 Hydref 2012 gan Rhyswynne (Sgwrs | cyfraniadau)
The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Mae modd mewnosod fideo (o wasanaeth fel YouTube neu Vimeo) i mewn i gofnod ar dy flog.

YouTube

Fideo YouTube ar Blogger

  1. Cer i dudalen y fideo ar YouTube.
  2. O dan y fideo mae botwm 'Share'. Dewisia 'embed' a chopio'r cod.
  3. Yn Blogger, dos i olygu'r cofnod ti am fewnosod y fideo ynddi, a newid y golygyd i HTML (clicia ar y botwm 'HTML' sy drws nesa i 'Compose' yn y gornel top chwith.
  4. Gluda'r cod YouTube yno a chlicia 'Preview' i weld os ydy popeth yn iawn cyn cadw'r newidiadau.

mwy...