Gweithrediadau

Sut i ddechrau gorsaf radio ar y we

Oddi ar Hedyn

Gorsaf radio?

Mae'n hawdd i ddechrau gorsaf radio ar y we. Rydyn ni'n siarad am ddarlledu byw yn hytrach na phodlediad (sydd yn recordiad fel arfer).

Mae sawl ffordd i'w wneud. Gwnawn ni ddechrau gyda ustream.tv achos mae'r gwasanaeth am ddim ac mae rhaid ddechrau rhywle. Rwyt ti'n gallu dechrau heddiw os wyt ti eisiau. Dyma sut.

Pa fath o orsaf? Unrhyw beth. Siarad. Cerddoriaeth. Ychydig o'r ddau.


Profiad cyntaf

Gwnaf brawf cyn darlledu er mwyn cadarnhau bod dy offer yn gweithio ac i sicrhau'r ansawdd sain gorau. Bydd dy wrandawyr yn cwyno os fydd y sain ddim yn dda. Dyma sut.

Mae angen:

  • cyfrifiadur ar y we
  • meicroffon gyda plwg 3.5mm - neu os wyt ti ar gliniadur (laptop) maen nhw gyda meicroffon mewnol dyddiau yma
  • cyfrifiadur arall ar y we
  • ffrind (i redeg y cyfrifiadur arall) - opsiynol
  1. Gosod un cyfrifiadur rhywle. Dyma'r cyfrifiadur ti'n defnyddio i ddarlledu.
  2. Plygia'r meicroffon mewn i'r 'mic' neu 'line in'. Paid a defnyddio'r soced clustffonau.
  3. Gosod y cyfrifiadur arall rhywle arall. Dyma'r cyfrifiadur ti'n defnyddio i wrando. Dylai fe fod mewn ystafell ar wahan er mwyn i ti profi'r hud o RADIO BYW. Hefyd dwyt ti ddim eisiau ymyrryd gyda'r un sy'n darlledu. Os oes gyda ti seinyddion, gwych.
  4. Cer i http://ustream.tv
  5. Cer i Sign Up, llenwa'r ffurflen gyda manylion personol (paid a phoeni am enw dy orsaf neu rhaglen eto)
  6. Cer i Create Channel
  7. Llenwa'r ffurflen gyda manylion dy orsaf/sioe/rhaglen/sianel (os wyt ti'n wneud sioe Cymraeg rhoi Cymraeg yn y tagiau er mwyn helpu chwilio)
  8. Jump to channel | Go to channel | Dewisa enw dy sianel
  9. Clicia 'Go Live!'
  10. Canllaw: Ustream-canllaw.jpg
  11. Clicia 'Broadcast'
  12. Dweud neu canu rhywbeth...
  13. Dyma sut mae darlledu yn edrych. Mae'r camera yn fyw ond mae'n bosib troi'r peth bant.
  14. Darlledu: Ustream-canllaw-darlledu.jpg
  15. Mae cyfeiriad fel ustream.tv/channel/enw-dy-sianel-yma
  16. Anfona'r cyfeiriad i'r cyfrifiadur yn y stafell arall (trwy ebost neu rhywbeth)
  17. Yn y stafell arall mae modd gwrando - jyst clicia'r cyfeiriad. Gwych!
  18. Dylet ti chwarae gyda'r gosodiadau er mwyn gwella'r sain. Efallai mae angen newid y lefel. Ar hyn o bryd mae'r ansawdd yn llai na'r uchafswm bosib. Pam? Achos mae ansawdd gwell yn cymryd mwy o ddata i'w drosglwyddo. Os oes gen ti cysylltiad araf mae angen lleihau'r ansawdd. Ond dw i wastad yn ddechrau ar yr ansawdd gorau. Cer i http://speedtest.net a checia dy gyflymder lanlwytho (upload).