Gweithrediadau

Sut i ddechrau blog - canllaw i ddechreuwyr

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:17, 4 Ebrill 2011 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Mae'r ganllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal. Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog am rhywbeth arall ond rydyn ni'n rhoi pwyslais ar blog lleol yn y ganllaw yma.


Pam?

Mae'r ganllaw yn ddefnyddiol am y rhesymau bosib isod.

  • Rhannu newyddion
  • Rhannu lluniau a fideos
  • Hyrwyddo digwyddiadau
  • Helpu dy gymuned neu pentref ac ysgol
  • Codi arian am bethau, elusenau
  • Ymgyrchu
  • Papur bro ar-lein
  • Defnyddio'r iaith Gymraeg ar-lein


Beth ydw i angen?

Rwyt ti angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad i'r we
  • cyfeiriad e-bost

(Os wyt ti'n gallu darllen y tudalen yma ar y we ac os mae gen ti cyfeiriad e-bost, rwyt ti'n hollol iawn!)


Beth fydd nodweddion y blog?

Gwnawn ni defnyddio gwasanaeth ar-lein o'r enw WordPress. Mae'r peth am ddim. Ar y diwedd bydd gen ti gwefan gyda'r nodweddion isod. Does dim ots os ti ddim yn eu deall eto.

  • eitemau newyddion / cofnodion
  • gallu postio testun, lluniau, fideo, neu ychydig o'r tri
  • sylwadau gan darllenyddion os ti eisiau
  • cyfeiriad fel enwpentref.wordpress.com
  • rhyngwyneb yn Gymraeg
  • mwy nag un awdur os ti eisiau


Amser?

Bydd y broses yma yn gymryd tua 5 neu 10 munud.


Iawn, dw i'n barod. Canllaw plis!

1. Cer i http://cy.wordpress.com/ 2. Clicia "Sign Up Now!"

Wordpress-cymraeg-clic.jpg

3. Llenwa'r ffurflen gyda:

  • Cyfeiriad Blog (yr x yn x.wordpress.com, os mae'r ffurflen yn gynnig cyfeiriad fel "x.com is available, use it for your blog for $rhwybeth a year?", clicia "No thanks, I’ll use the free wordpress.com address." am y tro. Rwyt ti'n gallu cysylltu dy flog gyda chyfeiriad fel x.com yn y dyfodol - ond paid a phoeni ar hyn o bryd.)
  • Enw Defnyddiwr (defnyddia'r un enw a'r cyfeiriad os ti eisiau)
  • Cyfrinair
  • Cadarnhau (yr un cyfrinair eto)
  • E-mail address

Wordpress-ffurflen.jpg

4. Clicia "Sign Up"

5. Mae WordPress yn gynnig proffil personol. Rwyt ti'n gallu llenwi a chlicia "Cadw Proffil" neu gadael yn hollol wag.

6. Cer i dy e-bost. Dylet ti wedi derbyn e-bost gan WordPress i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Dilyna'r cyfarwyddiadau yn y neges e-bost. Paid ag anghofio dy ffolder am sbam, weithiau mae negeseuon yn mynd yna. (Dim lwc? Arosa am 5 neu 10 munud. Os dwyt ti ddim wedi derbyn yr e-bost, cei paned. Os dwyt ti dal ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i'r gwaelod y tudalen a newida'r cyfeiriad i gyfeiriad dy briod, plentyn neu ffrind.)

7. Rwyt ti wedi gorffen y pethau sylfaenol! Mae'r blog lleol yn fyw ar y we. Ond heb unrhyw eitemau... Gweler yr adran nesaf.


Postio dy eitem cyntaf

Opsiynau

Am y tudalen yma

Croeso i ti golygu'r tudalen yma gydag unrhyw pethau defnyddiol. Yn enwedig, bydd canllaw ar fideo yn dda!